Thursday, October 23, 2008

Pam bod Karl Francis yn ystyried yr iaith Gymraeg yn neo ffasgaidd?


'Dydi'r cyfaill Karl Francis ddim yn or hoff o ddwyieithrwydd. A dweud y gwir ymddengys bod Karl yn ystyried y ffasiwn beth yn neo ffasgaidd.

'Rwan 'dydi o ddim yn anisgwyl iawn clywed Karl yn defnyddio'r math yma o iaith. Roeddwn i yn fyfyriwr prifysgol yn Aberystwyth ar gychwyn cyfnod Mrs Thatcher, ac roedd yna lawer o fyfyrwyr (di Gymraeg bron yn ddi eithriad) gyda daliadau gwleidyddol y gellid eu cynrychioli fel rhai adain Chwith eithafol. Petawn yn llai caredig byddwn yn cynrychioli'r daliadau fel rhai adain Chwith idiotaidd. Fascist, neu Nazi oedd hoff eiriau'r bobl hyn, a byddant yn eu defnyddio fel ansoddeiriau i ddisgrifio eu gwrthwynebwyr a'u safwbyntiau.

Felly roedd Thatcher yn ffasgydd, a'r Blaid Geidwadol yn ei chyfanrwydd wrth gwrs. I aml i un byddai cenedlaetholwyr Cymreig, yr SDP neu'r Rhyddfrydwyr a hyd yn oed y rhan fwyaf o'r Blaid Lafur hefyd yn ffasgwyr. Roedd bron i bawb arall yn ffasgwyr. Fel rheol ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth o gwbl tros y cyhuddiad rhyfedd, ond os byddai angen cyflwyno tystiolaeth byddai'r rhesymu pob amser yr un peth. Roedd y grwp, plaid neu unigolyn a ddisgrifid fel ffasgwyr gyda rhyw gred neu ddaliad oedd yn gyffredin gyda'r ffasgwyr. Roedd hyn yn cynnwys bron i bawb wrth gwrs. Felly ceir rhesymeg fel hyn - Mae X eisiau i'r trenau redeg ar amser, roedd y ffasgwyr yn rhai mawr am gael y trefau i redeg ar amser, ergo mae X yn ffasgydd.

Ar un olwg mae'r ffordd yma o edrych ar y Byd yn ogleisiol o ddi niwed, ond mae ochr anymunol iawn iddo. Roedd y cyfeillion ar eithafion gwleidyddiaeth y Chwith wedi dadlau eu ffordd i dir gwleidyddol oedd yn afresymegol ac oedd i raddau helaeth yn gwbl amhosibl i'w amddiffyn. Felly yn lle dadlau roedd rhaid pardduo - a dyna oedd pwrpas y termau Nazi a Fascist. Trosiadau am ddrygioni ydynt mewn gwirionedd - ffordd ddiog o gyhuddo pobl o ddrygioni di bendraw ydi defnyddio'r math yma o dermau yn y bon.

Nid y Chwith yn unig sy'n gwneud hyn wrth gwrs. Mae'r ffordd yma o edrych ar bethau yn gyffredin mewn gwleidyddiaeth, ac hefyd mewn crefydd. Mae'r Dde yn America yn defnyddio'r term 'terfysgwr' i ddisgrifio Obama ar hyn o bryd - Un American oedd y term ym mhumpdegau'r ganrif ddiwethaf. Roedd Communist yn derm tebyg. Arferai Felix Aubel floeddio Comiwnistaidd am pob math o bethau hynod o anghomiwnyddol cyn iddo aeddfedu a challio.

Am y rhan fwyaf o'i fywyd gwelai Ian Paisley'r gwrthdarro sifil yng Ngogledd Iwerddon yng nghyd destun gwleidyddiaeth Ewropiaidd yr ail ganrif ar bymtheg, gan resymu bod yr Eglwys Babyddol yn ceisio difa Protestaniaith oherwydd bod mai eglwys y Diafol oedd yr Eglwys Babyddol. Yn y gorffennol arweiniodd y feddylfryd yma at ddi berfeddu, llosgi a dienyddio pobl ym mhob ffordd y gellir meddwl amdani oherwydd man anghytundebau crefyddol neu wyddonol.

Daw hyn a ni'n ol at Karl. Mae genhedlaeth yn hyn na fi ac roedd yn ifanc yn y chwe degau - cyfnod lle'r oedd llawer iawn o'r bobl aeth i golegau yn coleddu daliadau asgell Chwith eithafol. Tyfodd y rhan fwyaf o bobl allan o'r daliadau hynny - ac mae'n debyg i fwyafrif ohonynt bleidleisio i Thatcher yn yr 80au. Arhosodd Karl yn ei unfan. Mae ei ddaliadau wedi aros yn union lle'r oeddynt bryd hynny. Adeiladodd yrfa ffilmio tebyg i un Ken Loach - gwneuthurwr ffilmiau o Loegr sydd a daliadau gwleidyddol tebyg i rai Karl. Mae Karl wedi bod yn gyfrifol am rhai ffilmiau da, ond mae Ken Loach wedi bod yn gyfrifol am rhai o'r ffilmiau gwleidyddol gorau yn yr iaith Saesneg.

Ni lwyddodd Karl i wneud y gorau o'i dalent, a'r prif reswm am hynny ydi bod ei wleidyddiaeth plentynaidd wedi cyfyngu ar ei ganfas. Mae gan Ken Loach yr athrylith i gynhyrchu cyfres hir o ffilmiau gwych ar themau cyfyng - does gan Karl ddim. Felly mae'n cyrraedd at flynyddoedd olaf ei yrfa, mae'n cymharu ei hun gyda Ken Loach ac mae'n siomedig, ac mae eisiau rhywbeth i'w feio - ac mae'n rhaid i'r rhywbeth hwnnw fod yn allanol. 'Does yna ddim byd mwy allanol i rhywun fel Karl na'r iaith Gymraeg, ac felly'r iaith honno sy'n cael y bai. Mae'n dod yn naturiol iddo ddisgrifio gwrthrych ei gasineb gan ddefnyddio geirfa plentynaidd ei draddodiad gwleidyddol.

Am dipyn o hwyl beth am droi rhesymeg Karl i'w gyfeiriad ef ei hun?

Nid oedd y Ffasgwyr yn hoff o ieithoedd lleiafrifol (ystyrier agwedd Franco at y Gatalaneg ac iaith y Basg), 'dydi Karl ddim yn hoffi ieithoedd lleiafrifol, felly mae Karl yn Ffasgydd. Roedd y Ffasgwyr yn ffrindiau efo'r Natsiaid, felly mae'n deg cynrychioli Karl fel swyddog yn yr Hitler Youth.

Dyna 'dwi'n ei wneud isod.



Yr actor Dafydd Hywel sy'n sefyll o flaen Karl - er nad ydi hynny'n amlwg oherwydd diffyg sgiliau Photoshop blogmenai. Mae'n cael ei gynrychioli fel prif grafwr yr uned bach yma o'r Hitler Youth sy'n derbyn canmoliaeth y main man. Y rheswm pam bod hwnnw yn cael eu drin mor anheg ydi oherwydd iddo ddadlau achos Karl ar Radio Cymru ddoe gan wneud y sylw idiotaidd bod sylwadau Karl yn OK oherwydd nad oedd 90% o'r hyn a ddywedodd yn ei gyfweliad ar Radio 3 yn ddadleuol.

Mae'r syniad bod gan Dafydd Hywel a Karl Francis gydymdeimlad gyda Natsiaeth yn amlwg yn chwerthinllyd. Ond dydi o ddim mymryn mwy chwerthinllyd na defnyddio'r dermenoleg a gysylltir a gwleidyddiaeth Ewrop rhwng y rhyfeloedd byd er mwyn cysylltu pobl, cysyniadau ac hyd yn oed ieithoedd nad ydi'r Chwith eithafol, plentynaidd yn eu hoffi, gyda gwersylloedd llofryddiaeth, erledigaeth a hil laddiad.

23 comments:

Nwdls said...

Diolch am hyn blogMenai. Sgwennais i ar wefan Radio 3 on gyhoeddwyd mohono.

Siom oedd clywed am hyn, a siom fwy yw clywed fod Dafydd Hywel wedi ochri gyda Karl, lle nad oedd posib ochri gyda fo.

Roedd yn swnio fel gwr oedd yn despret braidd, a thrist yw hynny. Tristwch mwy yw ei fod yn parhau y myth o rhyw fath o masonic lodge Cymraeg sy'n dewis o'u plith eu hunain yn unig.

Jest anghywir yw dweud fod y Gymraeg yn lladd y diwylliant iaith Saesneg, pan fo llawer mwy o ffilmiau wedi eu cynhyrchu ers 1997 yn y Saesneg nac yn y Gymraeg. Celwydd yw dweud fel arall, a grawnwin sur am taw S4C yw'r unig ddarlledwr sy'n fodlon ei ariannu bellach.

Cai Larsen said...

Cweit Nwdls - fedrwn i ddim ei roi'n well fy hun.

Nic said...

Roedd ffilm Francis Milwr Bychan yn un o'r enghreifftiau cyntaf o "ddiwylliant i oedolion" i mi ddod ar ei draws wrth ddysgu Cymraeg yn y 90au, felly roedd yn drist iawn cael gwrando ar ei rant di-aeddfed ddoe. Drueni bod rhywun sy wedi wneud sawl ffilm gwerthchweil am y bwlch diwylliannol rhwng Cymru Gymraeg a gweddill y Deyrnas Unedig wedi dod mor chwerw am y peth yn ei henoed.

Anonymous said...

Fel y dywedodd Ozi Osmond:

"Pan gafodd S4C ei sefydlu ac yn cynnig gwaith comisiwn roedd ar flaen y gwt yn edrych am waith."

Rhagrithiwr uffar!

Anonymous said...

Nid wyf wedi clywed geiriau Dafydd Hywel......ond mae e'n Gymro i'r carn. Wyt ti'n siwr dy fod wedi bod yn deg gydag e'?

Cai Larsen said...

Wel - roedd DH ar Radio Cymru y bore yn amddiffyn ei fet.

Ei ddadl oedd bod 90% o'r hyn a ddywedodd KF yn rhjywbeth y gallai pawb gytuno a fo - ac roedd yn lled feio'r wasg am adrodd ar ei sylwadau gorffwyll yn hytrach nag am y stwff nad oedd yn ddadleol.

Mae'r ddadl yma yn un cwbl idiotaidd.

Anonymous said...

Wel, dwi ddim yn meddwl dy fod ti'n gywir i ymosod ar DH fel hyn! Fel y dywedais i, mae e'n Gymro da.

Anonymous said...

At this time it looks like Movable Type is the preferred blogging
platform out there right now. (from what I've read) Is that what you are using on your blog?
Here is my weblog : black friday 2012 deals

Anonymous said...

Because you have purсhаsed sρeedу 1000 increase as in devicе ѕecuгitу.
ѕupported endpoints to monthly Officiаl Cert Guіde
My site :: conference calling

Anonymous said...

Ϲonference сallings ωork likе аnу trаnscгіpt the gеogгaрhіcаl еithеr make
all sρlendіd and leading edge features аnd specs.
6. Тωеnty fοuг hour syѕtеm аcсеss in wіll as-nеedеd
As а calleг, have all the people plаce
vоice meѕsаgeѕ. address lοоkups of
the hosts for LΑΝ 2, and 172.15.192.0/29
Feel free to visit my blog post ... conference calling

Anonymous said...



Feel free to surf to my ρage :: payday loan online
Look at my blog ; payday loan,

Anonymous said...



Μy web blog - payday loans
Have a look at my web site - payday loan online

Anonymous said...

You have made some really good points there.
I looked on the net for additional information about the issue and found most
individuals will go along with your views on this website.


hardwood floor

Feel free to visit my web site ... engineered hardwood flooring
Also see my website > installing hardwood floors

Anonymous said...

Very good site you have here but I was curious about
if you knew of any user discussion forums that cover the
same topics discussed here? I'd really like to be a part of online community where I can get comments from other knowledgeable people that share the same interest. If you have any suggestions, please let me know. Thanks a lot!

Look at my homepage :: nail fungus treatment

Anonymous said...

I am not sure where you are getting your information,
but good topic. I needs to spend some time learning more
or understanding more. Thanks for fantastic info I was looking for this info
for my mission.

Also visit my website :: toenail fungus treatment

Anonymous said...

Thanks for any other informative web site. Where else could
I get that kind of info written in such a perfect manner?
I have a challenge that I'm simply now running on, and I have been on the glance out for such information.
engineered hardwood floors

Anonymous said...

Ahaa, its good dialogue regarding this piece of
writing here at this website, I have read all that, so at this time me also commenting at
this place.

my blog nail fungus zetaclear

Anonymous said...

What's Happening i am new to this, I stumbled upon this I have found It positively helpful and it has helped me out loads. I am hoping to give a contribution & help other users like its aided me. Great job.

My webpage home cleaning services

Anonymous said...

I do not leave a great deal of comments, but after reading through a great deal of remarks on this page "Pam bod Karl Francis yn ystyried yr iaith Gymraeg yn neo ffasgaidd?".
I do have a couple of questions for you if it's okay. Could it be simply me or does it look like a few of the remarks come across like they are coming from brain dead folks? :-P And, if you are writing at other social sites, I'd like to follow anything new you have to post.

Could you make a list of every one of all your social community sites like your twitter feed,
Facebook page or linkedin profile?

My web site; http://www.maidbrigade.com
my webpage > maid

Anonymous said...

At this time I am going to do my breakfast, afterward having my breakfast coming again
to read more news.

Also visit my blog: office cleaning services

Anonymous said...

immediate Payday Loan For Caulkers: A New hand
truck Is Made easygoingimmediate payment Faxfree hard currency immediate payment Is space check out For
amber AndIs My Payday Loan current The Fizzy Cola nursing bottle
Kings: home000 On 'Olympic flashlight Contrive manager' To Guide Flame through and throughVs cash go
on - gentle To Get immediate payment For AppliancesYour waiting Is Over Get degraded Payday Advances By Shopping

my web-site: piggy-loans.com

Anonymous said...

I like what you guys tend to be up too. This sort of clever work and coverage!
Keep up the excellent works guys I've added you guys to blogroll.

Visit my blog post hair regrowt

Anonymous said...

Wow, that's what I was seeking for, what a information! present here at this website, thanks admin of this web site.

Also visit my web site: buy zetaclear