Wednesday, October 08, 2008

A allai'r argyfwng ariannol gostio Glenrothes i'r SNP?

Fel y gwyddoch mae'n debyg cynhelir is etholiad Glenrothes yn yr Alban ar Dachwedd 6 - dau ddiwrnod ar ol etholiad arlywyddol America.

Y canfyddiad cyffredinol hyd yma oedd y byddai'r SNP yn cymryd y sedd oddi wrth Lafur heb fawr o drafferth gan eu bod wedi ennill yn Glasgow East ym mis Gorffennaf - talcen anoddach o lawer.

Serch hynny mae pethau yn edrych ychydig yn well i Lafur erbyn hyn. Mae'r ddau bol piniwn diweddaraf - un Populus ac YouGov yn dangos bod y Toriaid a Llafur wedi cynyddu eu pleidlais ar draul y Democratiaid Rhyddfrydol. (Populus: Tori 45% Llaf 30% Rh D 15%, You Gov: Tori 45%, Llaf 31%, Rh D 15%). Roedd Llafur yn y dauddegau canol i hwyr hyd yn ddiweddar.

Polau 'cenedlaethol' (hy rhai tros y Deyrnas Unedig) ydi'r rhain felly mae'n anodd dod i gasgliadau ynglyn a'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru a'r Alban, ond mae ambell i awgrym ar gael.

O graffu ar fanylion y pol YouGov mae'n awgrymu bod Llafur yn perfformio yn llawer gwell yn yr Alban nag oeddent rai misoedd yn ol - a'u bod wedi symud o 28% yn Ebrill i 43% yn nyddiau cyntaf y mis hwn. Ar y llaw arall mae 'others' (hy SNP yn bennaf) wedi cwympo o 38% i 29%.

Mae'n rhaid pwysleisio y dylid cymryd gofal efo ymarferiad tebyg i hwn - is set o ddata a geir - is set o lai na 200 o bobl - cyfanswm sy'n llawer rhy isel i fod yn ystadegol ddibynadwy. Ond, mae'n awgrymu bod symudiad ar droed, a bydd yn ddiddorol gweld perfeddion y polau eraill tros yr wythnosau nesaf.

Mae'n hawdd egluro hyn wrth gwrs - cynhadledd anisgwyl o lwyddiannus Llafur fyddai un rheswm - ond nid yr un pwysicaf, sefyllfa'r economi ydi hwnnw.

Mae llywodraeth yr Alban yn gwbl ddiymadferth yn wyneb y grymoedd economaidd anferth sydd ar waith ar hyn o bryd. Nid eu bai nhw ydi hynny wrth gwrs - nid oes ganddynt y pwerau i wneud unrhyw beth.

Yn sgil hynny mae'r sylw i gyd wedi ei hoelio ar Brown a Darling yn Llundain - maent yn ymddangos fel petaent yn gwneud eu gorau, ac maent yn cael cefnogaeth Ty'r Cyffredin yn ei gyfanrwydd bron a bod.

Mae'r ffocws gwleidyddol ymhell, bell oddi wrth llywodraeth Salmond yn Hollyrood, ac am y tro cyntaf ers cael ei ethol mae rhywbeth bron yn ymylol am Salmond. Petae is etholiad fory yn hytrach na mewn mis byddai'r SNP yn colli yn fy marn i. Ond mae mis yn gyfnod maith mewn gwleidyddiaeth, ac mae'r cyfnod yn un cythryblys. Gallai pethau newid yn llwyr erbyn Tachwedd 6.

3 comments:

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Sylwadau digon treiddgar, ond dwi'n dal i gredu fod mwyafrif o bobl wedi laru ar Llafur ac yn ei beio nhw (y llywodraeth) i rhaddau (yn gam neu'n gymwys) am peth o'r sefyllfa argyfyngus yma ym Mhrydain ac felly yr SNP eith a hi.
Os bydd y canlyniad yn America yn mynd o Blaid Obama pan fydd y cyfri wedi gorffen ar Dachwedd 5ed a'i neges o am newid, yn seicolegol fydd y pleidleiswyr yma hefyd yn bwrw eu pleidlais hwy am newid hefyd?

Cai Larsen said...

Gobeithio dy fod yn iawn Gwilym - fe fydd gennym well syniad pan fydd manylion rhai o'r polau diweddar yn cael eu rhyddhau.

Mi fydd yna bol neu ddau ar gyfer yr is etholiad mae'n siwr - ond mae'r rheiny'n gwbl ddiwerth fel y dangosodd Glasgow East.

Dewi Harries said...

Mae pobl Fife yn eithriadol o 'styfnig hefyd. Mae'n rhaid i'r SNP wneud y gwaith..