Wednesday, August 27, 2008

Fotiwch i'r Toriaid er mwyn cael bod yn denau ac yn ddel

Hmm - ymddengys bod rhywbeth o'r enw Andrew Lansley sy'n rhywbeth i'w wneud efo rhywbeth o'r enw'r Blaid Geidwadol o'r farn nad oes esgys tros fod yn dew. A dweud y gwir mae o'r farn (os dwi'n deall ei safbwynt yn iawn) y dylid gorfodi pobl dew i gymryd mwy o ymarfer a bwyta'n gallach.

Diddorol iawn - os caiff ei blaid ei hethol mewn deunaw mis gallaf ddisgwyl dictat gan Andrew yn dweud wrthyf faint ydwyf i fod i'w fwyta a pham mor aml yr ydwyf i fod i loncian i fyny Lon Las Menai.

Efallai y bydd hefyd eisiau dweud wrthyf pam mor aml y dyliwn gymryd gwydriaid o win, pam mor aml y caf fynd allan am ffag (hy byth), pam mor aml mae'n briodol i mi gael cyfathrach rywiol a pham mor aml y bydd gwr bonheddig yn ymweld a'r toiled yn ddyddiol.

Andrew - ffyc off, meindia dy fusnes a cheisia ddod o hyd i rhywbeth gwell i wneud efo dy amser na bysnesu ym mywydau pobl sy'n gwahanol i ti yn normal. Dim ond nytar o'r radd eithaf fyddai eisiau dweud wrth bobl eraill faint maent yn cael pwyso.

2 comments:

Anonymous said...

Mae o'n iawn!

Anonymous said...

A thithau'n bennaeth ysgol 'rwy'n synnu nad oes cyfeiriad at ran fwyaf gwirion / dieflig o'r cynllun yn dy bodt.

Mae'r Ceidwadwyr am annog "positive peer pressure" er mwyn sicrhau bod plant tenau yn cynorthwyo plant tew i golli pwysau! Swnio'n debyg i fwlio hen ffasiwn imi, ond os oedd o'n gweithio yn Eton erstalwm, pwy ydw i i godi amheuon?