Sunday, December 30, 2007

Llywodraeth Doriaidd yn 2010?

Pol piniwn arall yn awgrymu mai'r Toriaid fydd yn ennill yr etholiad nesaf. Yn ol rhai mae'n gyffredin i'r brif wrthblaid fod ar y blaen rhwng etholiadau, ond bod y blaid sy'n llywodraethu yn ad ennill pleidleisiau erbyn yr etholiad.

Nid felly mae pethau'n gweithio yn ol Andy Cooke. Yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd ydi bod y Toriaid yn gwneud yn well pan y daw yn etholiad go iawn.

Os ydi ei ddamcaniaeth yn gywir, yna y Toriaid fydd yn llywodraethu Prydain ar ol 2010.

Ydi hyn yn beth da?

Wel nid ydi hanes diweddar Cymru yn awgrymu hynny. Roedd y cyfnod diwethaf o lywodraethau Toriaidd (1979 - 1997) yn dipyn o drychineb i Gymru. Difa'r farchnad mewn glo er mwyn gwneud elw i gyfeillion Dennis Thatcher yn y byd olew, cau pob pwll glo a rhoi'r wlad i Glingon o'r enw Mr Spock ei rheoli yn ei ffordd ddihafal ei hun. Ei weithred gwleidyddol mwyaf cofiadwy oedd anfon £100,000,000 o arian oedd i fod i'w ddefnyddio ar wasanaethau cyhoeddus Nghymru yn ol i'r trysorlys er mwyn i'r rheini gael ei roi at achosion da megis prynu chwaneg o daflegrau.



Mr Spock yn ceisio meimio Hen Wlad Fy Nhadau.

Serch hynny, yr un fantais i'r sefyllfa ydi bod llywodraeth Doriaidd yn gallu esgor ar ddatblygiadau cadarnhaol trwy ddamwain. Oni bai am ddeunaw mlynedd o Mr Spock a'i debyg ni fyddai Cymru wedi ennill Cynulliad yn 1997. Byddai llywodraeth Doriaidd yn ei gwneud yn fwy tebygol y byddai Cymru'n pleidleisio Ia yn 2011 ac felly yn ei gwneud yn amhosibl i'r Toriaid wneud unrhyw niwed arwyddocaol i ni eto.

3 comments:

Hogyn o Rachub said...

Ew, diddorol, a dw i'n cytuno. Roeddwn i wedi meddwl yr un peth fy hun, ond byddai'n ddiddorol iawn i weld sut y byddai llywodraeth Doriaidd yn Llundain yn effeithio ar etholiad Cynulliad 2011.

O'm rhan i, o ystyried bod pobl yn gyffredinol yn hoffi rhoi cic yn din i'r llywodraeth yn Llundain, pa blaid bynnag ydyw, ac mae 'na gyfle y gallai 2011 felly weld atal yn cynnydd diweddar y Toriaid yng Nghymru mewn etholiadau Cynulliad. Wedi'r cyfan, fe gaeth y Blaid Lafur uffern o sioc yn 1999, ac roedden nhw'n gymharol poblogaidd bryd hynny!

Felly, yn fy marn i, byddai Llywodraeth Doriaidd yn Llundain yn ddrwg i'r Ceidwadwyr yng Nghymru yn 2011, y broblem ydi pa effaith y byddai'n ei gael ar y Blaid Lafur. Mae dau ddewis.

Yn gyntaf, byddai'r Cymry am roi cic i llywodraeth Lundain drwy pleidleisio i Lafur; neu yn ail, byddai Plaid Cymru yn manteisio a hwythau'n cystadlu yn erbyn dwy lywodraeth, a Llafur wedi bod mewn grym yng Nghaerdydd ers 12 mlynedd.

Ew, diddorol iawn a dweud y gwir.

hafod said...

Pe bai na etholiad fory, bydda na Senedd grog mwy na thebyg. Ty ar y tywod ydi Toriaid Cameron - fawr ddim sylwedd. Wedi deud hynny, mae Brown efo'r potensial i elyniaethu mwy fyth ar y Saeson ac mae o hefyd yn colli gafael ar yr Alban.
Os bydd na lywodraeth Geidwadol yn San Steffan mae rachub yn iawn - unai Llafur Cymru fydd yn elwa neu Plaid. Be sy'n debyg iawn o ddigwydd ydi "Cymreigio" Llafur - h.y. cryfhau'r datganolwyr sydd am weld mwy o rym i Gymru.
Pwy a wyr, efallai welwn i rhyw fath o re-alignment gwleidyddol yn digwydd bryd hynny?

Rhydian said...

www.plaidcymrubont.blogspot.com newydd gael ei lawnsio, gyda erthygl gan Dafydd Wigley, Mi fuaswn i'n gwerthfawrogi cael fy ychwanegu i dy links