Copi o neges rwyf newydd ei phostio ar maes e yn dilyn cymeradwyo'r ddogfen Ad-drefnu Ysgolion Cynradd y Sir er Lles Addysg Holl Blant Gwynedd ddydd Iau diwethaf.
'Dwi wedi osgoi cymryd rhan yn y drafodaeth yma hyd yn hyn oherwydd fy mod yn broffesiynol gysylltiedig a'r datblygiadau. Serch hynny efallai ei bod yn bryd i mi ddweud gair neu ddau.
I ddechrau, fodd bynnag, dyliwn ddatgan buddiant - 'dwi'n bennaeth mewn ysgol gynradd yng Ngwynedd fydd yn cael ei ffederaleiddio tuag at ddiwedd y broses - os yn wir y bydd y broses yn cyrraedd ei therfyn.
O ddarllen neges Lleucu, mae'n un anarferol yn y ffaith bod ei hawdur yn deall y cynllun yn iawn. At ei gilydd dydi pobl ddim - gan gynnwys rhai sydd wedi dadlau'n groch o'i blaid ac yn ei erbyn ar y cyfryngau. Mae hyn yn rhyfedd braidd gan fod y ddogfen yn ei hanfod yn un syml iawn.
Un neu ddau o bwyntiau cyffredinol i ddechrau:
(1) Dydi hi ddim yn bosibl i pob ysgol yng Ngwynedd (nag yn yr un sir arall) aros ar agor am byth. Mae Cyngor Gwynedd yn gywir pan maent yn dweud bod llai o lawer o blant mewn ysgolion a bod y ffaith bod cymaint o'r ysgolion bellach yn syrthio i'r 'rhwyd diogelu' nes peri straen gwirioneddol oddi mewn i'r gyfundrefn cyllido ysgolion. Mae yna ysgol yng Ngwynedd ar hyn o bryd gyda phedwar o blant, un athrawes a thua dwsin o lywodraethwyr.
(2) Mae'r hyn sydd yn digwydd yng Ngwynedd yn mynd rhagddo mewn cyd destun ehangach. Mae ysgolion yn cau ar hyd a lled Cymru - mewn ardaloedd trefol yn ogystal a rhai gwledig. Yn rhai o gymoedd y De mae'r newidiadau demograffig ar eu mwyaf ysgytwol. Mae'n digwydd hefyd yn rhai o ardaloedd cyfoethocaf Cymru. Fis diwethaf clywodd rhieni Sandy Lane Infants ym Mynwy bod eu hysgol yn cau a bod eu plant am orfod symud i St Mary's Junior.
(3) Byddai peidio a newid y ddarpariaeth a gwrthod ymateb i ganfyddiadau ESTYN a'r Comisiwn Archwilio yn ol pob tebyg yn arwain at golli rheolaeth ar y sector gynradd, a gadael yr holl ddarpariaeth ar drugaredd biwrocratiaid yn Cathays Park.
Felly a derbyn bod rhywfaint o newid yn anochel, y ddau gwestiwn sy'n codi ydi Faint o newid? a Sut fath o newid?
Yn bersonol, byddwn wedi gobeithio y byddai'r Cyngor yn minimeiddio'r cau ac yn ceisio bod mor gost effeithlon a phosibl wrth wneud hynny. Wedi'r cwbl mae'r sector addysg yn bwysig o safbwynt cymdeithasol, ieithyddol ac economaidd. Ysgolion hefyd ydi unig fuddsoddiad y Cyngor mewn llawer o'i chymunedau gwledig. Ceir buddsoddiad anferth mewn trefi, a buddsoddiad aneffeithiol iawn o safbwynt ariannol yn aml. Mae'r colledion a wneir yng Nghanolfan Denis Arfon yng Nghaernarfon a Phwll Nofio Bangor yn ddigon a chodi gwallt dyn.
Yn anffodus mae'r cynllun a gafodd ei fabwysiadu ddydd Iau yn dod yn agos at facsimeiddio'r cau, ac yn gwneud hynny mewn ffordd a allai fod yn hynod o aneffeithiol o safbwynt ariannol.
Gan osgoi mynd i mewn i ffigyrau gormod dyma ar ei symlaf sut y bydd y cynllun yn gweithio.
Cau 29 ysgol.
Agor 8.
Gwario tros i ddwy draean o'r arian a arbedir trwy gau i greu haenen newydd o benaethiaid nad ydynt yn dysgu i reoli dwy, tair neu bedair safle oddi mewn i ysgol ffederal, neu i reoli ysgolion ardal. Nid yw'r cynllun yn manylu ar beth fydd yn digwydd i'r draean arall mwy nag i nodi y bydd yn cael ei wario yn rhywle yn y gyfundrefn addysg.
Rwan, mae problemau gwirioneddol yn codi o hyn, nodaf y rhai amlycaf:
(1) Does yna ddim lle o gwbl i dybio bod yr haenen newydd reolaethol am fod yn ddefnydd effeithiol o adnoddau. I'r gwrthwyneb, mae'r dystiolaeth sydd ar gael (sydd yn brin rhaid cyfaddef) yn awgrymu bod uno ysgolion yn erbyn eu hewyllys yn gyrru safonau addysgol i lawr. Mae swydd ddisgrifiadau'r swyddi newydd arfaethiedig yn wirioneddol broblematig. Ymddengys bod disgwyl i ddeiliaid y swyddi newydd 'arwain yn gymunedol a ieithyddol'. Dydi hyn ddim yn rhan o swydd pennaeth yn ol diffiniad statudol y swydd honno. Mewn geiriau eraill bydd deiliaid y swyddi newydd yn cael eu talu am gyflawni tasgau nad oes unrhyw ffordd o'u gorfodi i'w cyflawni.
(2) Er mwyn talu am yr haenen hon (ac mae'n rhyfeddol o ddrud - yn ddrytach na Chanolfan Denis Arfon a Phwll Nofio Bangor efo'i gilydd) ni fydd llawer o adnoddau i'w dosbarthu i ysgolion mawr trefol, lle mae gwariant y pen y plentyn yn isel. Er enghraifft yn Ysgol yr Hendre - ysgol fwyaf y sir o ddigon mae'r cynllun hwn fel mae'n sefyll yn gwarantu cynnydd o £60 y plentyn y flwyddyn. Piso dryw yn y mor ydi hyn - digon i gyflogi un gweinyddes - ar y gorau. Neu i edrych arno mewn ffordd arall mae'n bosibl dadlau mai cau fydd Ysgol Llanystumdwy er mwyn cyflogi gweinyddes ychwanegol yn yr Hendre.
(3) Nid ydi'r cynllun mewn gwirionedd yn delio efo'r gwahaniaeth mewn gwariant y pen - ond bydd yn ei guddio. O osod cyllid ysgol fechan iawn mewn cyfundrefn ffederal yna mae'r gwariant yn ymddangos yn is gan bod nifer y plant yn y tair neu bedair ysgol yn cael ei rannu efo cyfanswm cyllid y dair neu bedair ysgol. Ond, os ydi'r safle fechan yno o hyd mae'r gwariant y plentyn ar y safle honno yr un mor uchel ag erioed - ond gyda dau wahaniaeth - nid oes rhaid cyhoeddi'r ffigwr a bydd y faich o gynnal yr ysgol yn cael ei drosglwyddo oddi wrth y gyfundrefn yn ei chyfanrwydd i ddwy neu dair uned arall yr ysgol ffederal.
Rwan, 'dwi'n digwydd adnabod y swyddogion a'r cynghorwyr sy'n bennaf gyfrifol am y cynllun - ac mae gen i brin barch at y rhan fwyaf ohonynt. Mae'n fater o ofid i mi bod cymaint o wawd a sen wedi ei daflu i'w cyfeiriad. Mae arweinydd y cyngor yn wr boneddigaidd a didwyll sydd wedi dangos cryn ddewrder wrth 'werthu'r' cynllun arbennig yma. Er gwaethaf hynny mae gen i ofn bod y cynllun hwn yn sylfaenol wallus. Mae'n cau llawer mwy o ysgolion na sydd rhaid ac yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n hynod o aneffeithiol yn gyllidol.
Byddai cau llai o lawer o ysgolion a dosbarthu'r arian fydd yn deillio o'r cau hwnnw i gyllidebau ysgolion er mwyn creu swyddi i athrawesau a gweinyddesau yn hytrach nag i greu haenen reolaethol NHSaidd yn ddefnydd llawer callach o adnoddau prin.
No comments:
Post a Comment