Thursday, June 21, 2007

Llongyfarchiadau i Anne Bill ar ei M.B.E

Da iawn gweld bod teyrngarwch yn dal yn fyw ac yn iach mewn oes o siniciaeth. Da gweld bod y Goron yn dal i wobreuo ei gweision ffyddlonaf, er nad ydi hynny pob amser yn boblogaidd. Felly llongyfarchiadau gwresog i Anne Bill ar ei M.B.E.

I'r ychydig nad ydynt yn gyfarwydd a chymwynasau arwrwraig yma efallai y dyliwn egluro ei bod yn un o arweinwyr yr Upper-Ardoyne Residents Association, y mudiad oedd yn gyfrifol am bicedu ysgol Babyddol genethod yr Holy Cross yn yr Ardoyne yn 2001.

Yn ogystal a rhegi, sgrechian sarhad a lluchio cerrig at genod bach a'u mamau oedd yn ceisio gwneud eu ffordd i'r ysgol roedd Anne a'i chyfeillion yn taflu balwns yn llawn o biso atynt, taflu bom neu ddau, stwffio lluniau pornograffaidd i wynebau'r genod bach, ac yn gwneud sylwadau am offeiriaid yn sodomeiddio plant bach na fyddai yn gyfreithlon i'w hail adrodd ar fforwm agored fel hwn.

Da iawn Mr Blair, da iawn Mrs Windsor, da iawn Anne.

Mae'n debyg y byddai'n ormod i ddisgwyl i'r stori bach yma wneud i'r Cymry 'da' hynny sydd wedi derbyn medalau'r ymerodraeth amau gwerth eu lwmp o efydd.

Un neu ddau o luniau i gofio'r dyddiau da:




















2 comments:

Rhys Wynne said...

Mae hynna'n uffernol. dwi fel arfer ddim yn cymeryd sylwo o'r pobl sy'n derbyn yr anrhydeddau yma (ok, dwi'n diawlio Cymry am eu derbyn tiyn bach), ond sut yn y byd all y llywodraeth a'r sefydliad gyfiawnhau hyn?

Anonymous said...

Hello, i bеlіeνe thаt i nοticeԁ yοu visіted my
site thus і cаmе to retuгn the desirе?
.I'm attempting to to find issues to enhance my web site!I assume its ok to use a few of your concepts!!
Here is my web-site :: berjuang.com