Tuesday, March 29, 2005

Yr Argyfwng Hir

Erthygl diddorol yma

Mae'n ddiddorol (ac yn ddychrynllyd weithiau) dychmygu beth y byddai hyn oll yn ei olygu i Gymru'n benodol. Gallai rhai pethau cadarnhaol ddeillio'n ddi amau - adfywiad y diwydiant glo, defnydd helaethach o gryfderau Cymru parthed ynni amgen - ynni wedi ei seilio ar wynt, dwr a'r llanw.

Ond byddai patrwm lled barhaol o gostau ynni yn codi yn barhaus - yn arbennig felly petrol yn cael effaith sylweddol ar wead llawer o gymunedau gwledig. Ychydig o drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael mewn llawer o lefydd bellach - byddai llai petae pris tanwydd yn sylweddol ddrytach. Byddai trafnidiaeth breifat yn llawer iawn llai fforddadwy. Byddai'r newidiadau sydd wedi digwydd yn natur y Gymru Gymraeg tros y deg mlynedd ar hugain diwethaf yn cryfhau. Os ydi'r iaith Gymraeg yn cyflym droi'n iaith drefol ar hyn o bryd, byddai'r tueddiad hwnnw'n sicr o gyflymu.

Os ydi'r Rolling Stone yn gywir - hon fydd un o'n problemau lleiaf!

2 comments:

Rhys Wynne said...

Ti'n iawn, mae'n ddiddorol a dychrynllyd ar yr un pryd. Dwi wedi bod yn meddwl am hyn fy hun yn ddiweddar. Mae obligiadau prinder/diwedd olew yn ddiddiwedd.

Yn amlwg bydd ein gall ei diethio boed hynny ar gyfer gwaith neu hamddden yn cael ei gyfyngu, ond efallai gelli'r dod dros hynny drwy ail-gyflwyno ceffyl a chart fel modd trefnidiaeth - dwi o ddifri am hyn.

Peth llawer mwy brawychus fyddai bod heb drydan. Hyd yn oed gyda chynydd sylweddol mewn cynyrh ynni drwy ddulliau amgen, byddai rhaid cwtogi ein 'consumption' yn sylweddol.

Sut mae cael y neges drosodd i bobl bod hyn yn scenario sydd am ddigwydd ( dwi'n bersonol yn sicr y gwnaiff)?
I'w wneud yn llai poenus byddai'n ddoeth gwneud addasiadau i'n patrymau byw rwan, ond yn anffodus bydd rhaid i ni gyrraedd y pwynt critical cyn i bobl newid eu ffordd o fyw.

Cai Larsen said...

Rhywbeth arall a allai ddigwydd ydi bod teithio preifat yn mynd yn rhywbeth i'r cyfoethog yn unig.