Mi es i gyda rhai o fy nghyd chwaraewyr yng Nghlwb Sboncen Caernarfon i weld gem Cymru - Iwerddon ddydd Sadwrn yn Nulyn (er bod y gem yng Nghaerdydd wrth gwrs). 'Doeddwn i heb wneud hyn ers rhai blynyddoedd, ac fe'm rhyfeddwyd gan y nifer o Gymru oedd wedi cael yr un syniad. Roedd o'n brofiad gwirioneddol ryfedd bod yn McDaids (tafarn rwyf wedi ei mynychu ers blynyddoedd) am hanner dydd fore Sadwrn a sylwi bod pob un o'r cwsmeriaid oedd yno yn siarad Cymraeg. Roedd o'n beth rhyfedd edrych ar y gem efo canoedd o bobl eraill yn Sinotts - a'r gefnogaeth wedi ei hollti i lawr y canol rhwng Gwyddelod a Chymru. Roedd o'n braf bod cymaint o Wyddelod wedi dod atom i'n llongyfarch a dweud mai'r tim gorau oedd wedi ennill.
Mae'n gwestiwn diddorol pam bod cymaint ohonom yn mynd. Dwi'n gwybod bod Dulyn yn nes i ni yn y Gogledd na Chaerdydd - ond roedd llawer o bobl o'r De yno hefyd. Ydi o am ein bod yn gweld rhywbeth yr hoffem ei weld yn ein gwlad ein hunain yno - gwlad rydd, hyderus gyda thrigolion sy'n gwybod sut i fwynhau eu hunain.
Enw'r creadur yn y llun ydi John Lloyd Williams, ac mae'n byw yng Ngaernarfon. Fel y gwelwch mae ganddo grys Cymru del. Neu yn hytrach roedd ganddo un. Yn anffodus, yn fuan wedi i'r llun hwn gael ei gymryd, bu'n ddigon gwirion i'w ffeirio am grys t rhad Leinster. Yn waeth na dim, rhodd gan ei wraig, Delyth, iddo oedd y crys. Roedd y creadur ofn mynd adref. Beth bynnag, i godi ei galon, 'dwi wedi postio'r llun olaf i'w gymryd ohono yn ei grys.
No comments:
Post a Comment