Wednesday, December 01, 2004

Canolfan y Mileniwm



Wel mae Canolfan y Mileniwm wedi agor o'r diwedd.

Mae'n debyg mai un o'n prif wendidau ni fel cenedl ydi ein bod yn swnian ac yn cwyno am ddatblygiadau y tu hwnt i'n milltir sgwar ein hunain, ac yn mwynhau bychanu ymdrechion eraill. Felly brysiaf i ddweud (cyn gwneud yn union hynny), ei bod ar un wedd yn beth cadarnhaol iawn bod Cymru efo'r adnoddau newydd sydd wedi ymddangos ym Mae Caerdydd ac yng nghanol y ddinas tros y blynyddoedd diweddar. Er yr holl wario pres cyhoeddus mewn ychydig o filltiroedd sgwar digon breintiedig beth bynnag, mae'n debyg ei fod yn gadarnhaol beth bynnag. Yn ddi amau mae'n rhoi cryn le i gredu ein bod yn magu hyder fel cenedl, yn dod yn ymwybodol ohonom ein hunain fel gwlad, yn gweld yr angen am brif ddinas go iawn i wlad go iawn.

Ond, o edrych ar arlwy'r Ganolfan tros y misoedd nesaf mae'n amlwg mai Saesneg a 'rhyngwladol', fydd naws y lle - o ran y ddarpariaeth gelfyddydol, beth bynnag. Digon naturiol mae'n debyg. Anaml iawn y gellid disgwyl llenwi 1,900 o seddi i weld cynhyrchiad Cymraeg.

Ond mae'r cwestiwn bach yn codi unwaith eto - "Oes yna le i ni, y Gymru Gymraeg yn y Gymru newydd hyderus"? 'Mond gofyn.

2 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Ti di sylwi ei fod o'n dweud 'Blofiau Eraill' ar ymyl y dudalen?

Cai Larsen said...

O ia, mi newidia i fo pan gaf amser.