Edrych ar ystadegau Plasc, Llywodraeth Cymru oeddwn i (fel y bydd rhywun) pan gefais fy hun yn edrych ar ystadegau iaith plant ysgolion cynradd Cymru. Efallai y byddaf yn dod yn ol at agweddau eraill ar y tablau eto - ond i bwrpas yr ymarferiad yma edrych ar y plant sy'n siarad y Gymraeg adref ydw i. Dwi wedi addasu'r tablau er eglurder ac yn cyfrifo'r canrannau - dydi hynny ddim ar gael yn y data gwreiddiol.
Cyn dechrau mae'n well i mi gynnig pwt o eglurhad - er mwyn llonyddwch domestig ymhlith pethau eraill. 'Dydw i ddim yn credu mewn gwahaniaethu rhwng gwahanol fath o siaradwyr Cymraeg - maent i gyd mor werthfawr a'i gilydd. Dydw i ddim chwaith yn awgrymu am funud mai dim ond pobl o gartrefi Cymraeg eu hiaith sy'n trosglwyddo'r Gymraeg i'w plant - dwi'n briod efo rhywun nad oes neb ond hi yn ei theulu estynedig mawr iawn sy'n siarad y Gymraeg, a'r unig dro dwi wedi ei chlywed yn siarad Saesneg adref oedd pan oedd yn dweud rhywbeth wrthyf fi nad oedd am i'r plant ei ddeall pan oeddynt yn fan a di Saesneg. Gallaf feddwl am lawer o bobl mae'r Gymraeg yn ail iaith iddynt sydd wedi codi eu plant yn Gymry Cymraeg.
Ond dwi yn credu bod unrhyw iaith hyfyw angen siaradwyr iaith gyntaf - pobl sy'n fwy cyfforddus yn ei siarad nag ydynt yn siarad yr un iaith arall. Pe na byddai siaradwyr Cymraeg felly yn bodoli yn y gorffennol, ni fyddai'r iaith yn fyw heddiw. I'r graddau hynny mae'r nifer o siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn bwysig - a dyna pam 'dwi'n edrych ar y mater yma. 'Dwi'n cychwyn trwy edrych ar ffigyrau Cymru a Gwynedd yn fanwl tros y deg mlynedd ddiwethaf cyn mynd ati i edrych ar pob man arall yn llai trylwyr.
Byddai dyn yn disgwylm cwymp cyson ag ystyried bod trosglwyddiad iaith yn llai effeithiol pan mai dim ond un rhiant sy'n siarad y Gymraeg a chyn mai llai na 20% o'r boblogaeth sy'n siarad yr iaith. Petai pob dim arall yn gyfartal byddai 80% o siaradwyr Cymraeg yn priodi -neu o leiaf yn cael plant efo - rhywun di Gymraeg. 'Dydi pethau ddim yn gweithio felly yn union wrth gwrs - mae diwylliant a daearyddiaeth yn gyrru hyd yn oed cariad a rhamant i raddau - ond dwi'n siwr eich bod yn gwerthfawrogi negyddiaeth y fathemateg sy'n wynebu'r Gymraeg yn y cyswllt yma.
Ond dydi'r disgwyliad ddim yn cael ei wireddu mewn gwirionedd. Mae'n wir bod y canrannau o blant sy'n siarad y Gymraeg adref yn is yng Nghymru a Gwynedd yn 2012/13 nag oeddynt yn 2003/04, ond gallwn ddewis blynyddoedd eraill - 2006/07 er enghraifft lle mae'r canrannau'n is na'r rhai diweddaraf. Yr hyn sydd fwyaf trawiadol i mi ydi sefydlogrwydd ffigyrau a ddylai - yn ol unrhyw fodel mathemategol - syrthio'n gyson.
Mae yna eglurhad syml am hyn - ac eglurhad diwylliannol ydi hwnnw. Mae'n ymddangos i mi bod parodrwydd i siarad y Gymraeg adref ar gynnydd naill ai ymysg teuluoedd lle mae'r ddau riant yn siarad y Gymraeg neu lle mae un o'r ddau yn siarad y Gymraeg, neu ymysg teuluoedd lle ceir rhiant sengl yn siarad y Gymraeg neu mewn cyfuniad o'r mathau yma o deuluoedd.
Dydi pob newyddion am yr iaith ddim yn newyddion drwg.

| Cymru | Siarad Cym | Cym Adref | Dim Cym | Cyfanswm | %Cym Adre |
| 2003/04 | 37,995 | 23,511 | 150,693 | 212,199 | 11.1 |
| 2004/05 | 39,111 | 22,995 | 147,228 | 209,334 | 11.0 |
| 2005/06 | 37,457 | 21,943 | 146,062 | 205,462 | 10.7 |
| 2006/07 | 37,146 | 21,016 | 144,116 | 202,278 | 10.4 |
| 2007/08 | 50,702 | 20,969 | 127,021 | 198,692 | 10.6 |
| 2008/09 | 50,083 | 19,923 | 124,323 | 194,329 | 10.3 |
| 2009/10 | 51,412 | 19,737 | 120,875 | 192,024 | 10.3 |
| 2010/11 | 53,644 | 19,453 | 118,371 | 191,468 | 10.2 |
| 2011/12 | 54,862 | 19,956 | 117,560 | 192,378 | 10.4 |
| 2012/13 | 56,694 | 20,276 | 116,954 | 193,924 | 10.5 |
| Gwynedd | Siarad Cym | Cym Adref | Dim Cym | Cyfanswm | %Cym Adre |
| 2003/04 | 1,328 | 5,379 | 1,287 | 7,994 | 67.3 |
| 2004/05 | 1,143 | 5,261 | 1,525 | 7,929 | 66.4 |
| 2005/06 | 1,115 | 5,065 | 1,701 | 7,881 | 64.3 |
| 2006/07 | 1,013 | 4,835 | 1,924 | 7,772 | 62.2 |
| 2007/08 | 1,583 | 4,942 | 1,123 | 7,648 | 64.6 |
| 2008/09 | 1,709 | 4,673 | 891 | 7,273 | 64.3 |
| 2009/10 | 1,691 | 4,780 | 819 | 7,290 | 65.6 |
| 2010/11 | 1,707 | 4,658 | 867 | 7,232 | 64.4 |
| 2011/12 | 1,723 | 4,708 | 836 | 7,267 | 64.8 |
| 2012/13 | 1,709 | 4,673 | 891 | 7,273 | 64.3 |
| 2012/13 | Siarad Cym | Cym Adref | Dim Cym | Cyfanswm | %Cym Adre |
| Powys | 4,372 | 753 | 2,776 | 7,901 | 9.5 |
| Sir Ceredigion | 1,618 | 1,392 | 645 | 3,655 | 38.1 |
| Sir Benfro | 3,064 | 500 | 3,995 | 7,559 | 6.6 |
| Sir Gaerfyrddin | 4,439 | 3,008 | 3,879 | 11,326 | 26.6 |
| Abertawe | 1,776 | 575 | 12,643 | 14,994 | 3.8 |
| Castell-nedd Port Talbot | 1,442 | 588 | 6,645 | 8,675 | 6.8 |
| 2008/09 | |||||
| Powys | 5,119 | 750 | 2,400 | 8,269 | 9.1 |
| Sir Ceredigion | 1,609 | 1,556 | 893 | 4,058 | 38.3 |
| Sir Benfro | 1,631 | 619 | 5,597 | 7,847 | 7.9 |
| Sir Gaerfyrddin | 3,106 | 3,131 | 5,013 | 11,250 | 27.8 |
| Abertawe | 1,798 | 456 | 12,609 | 14,863 | 3.1 |
| Castell-nedd Port Talbot | 1,353 | 621 | 6,688 | 8,662 | 7.2 |
| 2003/04 | |||||
| Powys | 4,155 | 949 | 4,069 | 9,173 | 10.3 |
| Sir Ceredigion | 1,658 | 1,838 | 862 | 4,358 | 42.2 |
| Sir Benfro | 1,481 | 875 | 6,075 | 8,431 | 10.4 |
| Sir Gaerfyrddin | 1,827 | 3,597 | 6,508 | 11,932 | 30.1 |
| Abertawe | 1,228 | 525 | 14,008 | 15,761 | 3.3 |
| Castell-nedd Port Talbot | 1,319 | 828 | 7,707 | 9,854 | 8.4 |
| Wrecsam | 1,060 | 330 | 7,601 | 8,991 | 3.7 |
| 2012/13 | Siarad Cym | Cym Adref | Dim Cym | Cyfanswm | %Cym Adre |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 1,087 | 301 | 7,649 | 9,037 | 3.3 |
| Bro Morgannwg | 1,080 | 461 | 7,218 | 8,759 | 5.3 |
| Rhondda Cynon Taf | 3,182 | 1,118 | 11,353 | 15,653 | 7.1 |
| Merthyr Tudful | 521 | 38 | 3,340 | 3,899 | 1.0 |
| Caerdydd | 2,218 | 1,393 | 18,414 | 22,025 | 6.3 |
| 2008/09 | |||||
| Pen-y-bont ar Ogwr | 1,160 | 207 | 7,802 | 9,169 | 2.3 |
| Bro Morgannwg | 881 | 378 | 7,476 | 8,735 | 4.3 |
| Rhondda Cynon Taf | 2,887 | 1,175 | 11,434 | 15,496 | 7.6 |
| Merthyr Tudful | 530 | 42 | 3,255 | 3,827 | 1.1 |
| Caerdydd | 2,005 | 1,076 | 17,664 | 20,745 | 5.2 |
| 2003/04 | |||||
| Pen-y-bont ar Ogwr | 1,451 | 256 | 8,109 | 9,816 | 2.6 |
| Bro Morgannwg | 1,057 | 522 | 7,955 | 9,534 | 5.5 |
| Rhondda Cynon Taf | 2,386 | 1,248 | 13,410 | 17,044 | 7.3 |
| Merthyr Tudful | 724 | 87 | 3,576 | 4,387 | 2.0 |
| Caerdydd | 1,907 | 1,368 | 18,959 | 22,234 | 6.2 |
| 2012/13 | Siarad Cym | Cym Adref | Dim Cym | Cyfanswm | %Cym Adref |
| r Ynys Môn | 1,400 | 2,068 | 685 | 4,153 | 49.8 |
| Gwynedd | 1,709 | 4,673 | 891 | 7,273 | 64.3 |
| Conwy | 1,213 | 1,415 | 3,851 | 6,479 | 21.8 |
| Sir Ddinbych | 2,080 | 891 | 2,977 | 5,948 | 15.0 |
| Sir y Fflint | 2,959 | 263 | 6,769 | 9,991 | 2.6 |
| Wrecsam | 3,372 | 245 | 5,339 | 8,956 | 2.7 |
| 2008/2009 | |||||
| Sir Ynys Môn | 967 | 1,910 | 1,242 | 4,119 | 46.4 |
| Gwynedd | 1,750 | 4,737 | 947 | 7,434 | 63.7 |
| Conwy | 981 | 1,479 | 4,129 | 6,589 | 22.4 |
| Sir Ddinbych | 2,010 | 831 | 3,399 | 6,240 | 13.3 |
| Sir y Fflint | 2,607 | 252 | 7,162 | 10,021 | 2.5 |
| Wrecsam | 2,208 | 295 | 6,232 | 8,735 | 3.4 |
| 2003 / 04 | |||||
| Sir Ynys Môn | 930 | 2,227 | 1,371 | 4,528 | 49.2 |
| Gwynedd | 1,328 | 5,379 | 1,287 | 7,994 | 67.3 |
| Conwy | 1,361 | 1,589 | 4,433 | 7,383 | 21.5 |
| Sir Ddinbych | 2,051 | 874 | 3,853 | 6,778 | 12.9 |
| Sir y Fflint | 2,051 | 368 | 8,683 | 11,102 | 3.3 |
| Wrecsam | 1,060 | 330 | 7,601 | 8,991 | 3.7 |
| 2012/13 | Siarad Cym | Cym Adref | Dim Cym | Cyfanswm | %Cym Adre |
| Caerffili | 5,637 | 269 | 6,167 | 12,073 | 2.2 |
| Blaenau Gwent | 1,859 | 55 | 2,167 | 4,081 | 1.3 |
| Torfaen | 3,322 | 120 | 2,642 | 6,084 | 2.0 |
| Sir Fynwy | 3,460 | 112 | 1,682 | 5,254 | 2.1 |
| Casnewydd | 4,884 | 38 | 5,227 | 10,149 | 0.4 |
| 2008/09 | |||||
| Caerffili | 5,298 | 118 | 6,751 | 12,167 | 1.0 |
| Blaenau Gwent | 1,758 | 37 | 2,656 | 4,451 | 0.8 |
| Torfaen | 2,896 | 78 | 3,059 | 6,033 | 1.3 |
| Sir Fynwy | 4,013 | 141 | 1,216 | 5,370 | 2.6 |
| Casnewydd | 3,516 | 34 | 6,699 | 10,249 | 0.3 |
| 2003/04 | |||||
| Caerffili | 3,980 | 236 | 9,265 | 13,481 | 1.8 |
| Blaenau Gwent | 639 | 55 | 4,499 | 5,193 | 1.1 |
| Torfaen | 1,762 | 79 | 5,299 | 7,140 | 1.1 |
| Sir Fynwy | 2,388 | 236 | 3,365 | 5,989 | 3.9 |
| Casnewydd | 1,252 | 45 | 9,799 | 11,096 | 0.4 |