Wednesday, January 17, 2007

Gogledd Iwerddon Ddoe a Heddiw

Mae'r broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon mewn trafferthion eto fyth gydag anghytundebau ynglyn a phlismona yn dal pethau yn ol y tro hwn. Serch hynny mae'r newid yn ansawdd bywydau pobl yno tros ddegawd yn syfrdanol. Hwyrach bod y lluniau hyn yn rhoi blas o hynny.

Ddoe

Siarad efo'r heddlu - erstalwm



Byddin Prydain, Belfast 69


Belfast ar dan



Bom tan, Belfast



Byddin Prydain - De Armagh


Cynhebrwng ym mherfedd dir PIRA, Dwyrain Tyrone



Parch at y faner



Ian a'i ffrindiau yn dweud "Na" eto fyth yn Stormont


Murlun Gweriniaethol, Belfast



PIRA, De Armagh



RUC mewn lifrai "risg isel"



UVF Belfast



A bellach

Arfordir Antrim



Gem beryg



Clwb nos





Swydd Down yn y gaeaf



Gortin Glens Tyrone



Gwyl Gorllewin Belfast



Llynoedd Fermanagh



Queens



Syrffio



Rali ychydig yn gwahanol



Clwb nos Shines

Sunday, January 14, 2007

Gwibdaith i Gatalonia

Y Mrs a minnau wedi priodi ers chwarter canrif - felly dyma bendrefynu'n hwyr mynd i Gatalonia am ychydig ddyddiau i ddathlu'r barchus, arswydus achlysur. Rhyw son ar y ffordd am yr holl lefydd rydym wedi bod iddynt ar hyd y blynyddoedd ac heb drafferthu i gofnodi pethau , nes bod un gwyliau yn ymdoddi i un arall yn y cof - a phob ymweliad a thref neu bentref hwythau yn ymdoddi - un i mewn i'r llall. Felly mae Nacw wedi cofnodi beth ddigwyddodd y tro hwn - diwrnod wrth ddiwrnod.

Mawrth 2/1/07

Taith digon di drafferth o Gaernarfon i Lerpwl, a’r awyren yn cychwyn ar amser. Darganfyddiad erchyll ar y ffordd i Girona fodd bynnag – wedi anghofio’r drwydded yrru adref. Disgwyl yn y maes awyr am rhyw awr i’r DVLA ffacsio’r manylion i’r cwmni hurio ceir. Dal y bws heb y drwydded yn y diwedd i Girona heb dderbyn y ffacs o’r drwydded. Cael pryd blasus iawn o fwyd – yn hwyr braidd.
















Mercher 3/1/07

Crwydro o gwmpas canol hen dref Girona yn ystod y bore – llaweroedd o siopau bach arbennigol yno. Llawer o stondinau crefft yno hefyd tros y Nadolig.

Mynd am dro i erddi hyfryd y Passeig Arqueaoleg – gerddi hyfryd uwchlaw’r dre a cherdded ar hyd y waliau – golygfa wych. Gweld y Banys Arabs – baddondai ‘Arabaidd’. Mynd am dro i’r Parc de la Devesa ac wedyn mynd i nol y car o’r diwedd.

Iau 4/1/07

Gadael Gerona a mynd i Figueres – tref sy’n cael ei chysylltu efo Salvador Dali. Dod o hyd i pension digon rhad trwy holi mewn bar lleol – y ffordd mwyaf effeithiol o ddod o hyd i rhywle i aros efallai.

Museo S. Dali yn lle hynod ddiddorol, os bizarre chwedl plentyn Ffrangeg oedd yn cael ei lusgo oddi amgylch yr adeilad gan ei rieni. Roedd amrediad rhyfeddol o eang mewn amrediad rhyfeddol o gyfryngau ar nifer rhyfeddol o themau (megis llun o fwrdd yn ymosod ar soddgrwth) wedi eu cadw’n chwaethus mewn adeilad oedd yn – wel – rhyfedd.






Bedd Dali - yng ngwaelod yr amgueddfa.










Gwener 5/11/06

Ymweld a Chastell Sant Ferran cyn gadael Figueres. Ymddengys mai hon ydi’r gaer filwrol fwyaf yn Ewrop – yn dibynnu os mai’r llyfr teithio ynteu’r wybodaeth a geir yn y lle ei hun yr ydych yn ei gredu.










Codwyd y gaer yn sgil Cytundeb y Pyrenees, gan bod y cytundeb hwnnw’n symud y ffin i’r de, ac felly’n amddifadu Sbaen o llawer o’i cheiri. Ymddengys bod rhan o’r adeilad yn cael ei ddefnyddio o hyd gan fyddin Sbaen, ond gwag ydi’r rhan fwyaf o’r adeilad anferthol – ac mae’n wirioneddol anferth. Saif yn dyst tawel mawreddog i ofnau Sbaen wrth edrych tuag at ei chymydog gogleddol ac i’r cyfoeth oedd yn arllwys yn ol o Dde America ar y llongau arian diwethaf.

Yn y prynhawn symud ymlaen i dref glan mor Cadaques – tref gyda phob un o’i hadeiladau wedi eu gwyngalchu. Cael y profiad anarferol braidd o fwyta cinio mewn llewys crys ar lan y mor gan edrych ar addurniadau Nadolig.

Gyda’r nos daeth y tri brenin i Cadaques, fel ag y daethant i’r rhan fwyaf o drefi eraill yng Nghatalonia ac yn ehangach trwy Sbaen. Ar y chweched y bydd plant yn cael anrhegion yno – a gan y brenhinoedd ac nid gan Sion Corn. Roedd nifer fawr o blant yn disgwyl amdanynt wrth y traeth, a chanodd clychau’r eglwys trwy eu hymweliad - am tua hanner awr.

Ymddengys mai ar gwch oedd y brenhinoedd yn cael eu cludo i’r pentref yn y gorffennol, ond roedd y drefn wedi newid eleni – coets a cheffylau oedd y drafnidiaeth y tro hwn – siom i wraig y caffi lle’r oeddym yn bwyta yn y prynhawn. Roedd criw bach o Saeson yn cael diod ar y traeth gyda’r nos, ac yn amlwg heb glywed am y newid cynlluniau – roeddynt yn edrych allan i’r tywyllwch yn chwilio am y brenhinoedd. Yn anhygoel roeddynt mor benderfynol main nhw oedd yn iawn nes iddynt barhau i syllu i’r tywyllwch wedi i weddill y traeth wagio wrth i’r tri brenin ddod i lawr y lon y tu ol iddynt.





Y Ramblas o ffenest llofft y gwesty

Thursday, June 01, 2006

Che Guevara - Arwr Dosbarth Canol

Fel rydym i gyd yn gwybod roedd Che yn arwr o'r radd flaenaf. Mae ei ddelwedd wedi ei hatgynhyrchu filiynau o weithiau ar grysau T a phosteri yn y gorllewin. Mae hyn yn wir am Gymru, ac mae'n wir ers blynyddoedd. Pan oeddwn i yn y brifysgol yn Aberystwyth chwarter canrif yn ol bellach 'roedd pob 'chwyldroadwr' o stiwdant gyda llun o'r dyn ar ei wal.Mor dderbyniol ydi'r dyn erbyn heddiw nes bod arddanosfa o ddelweddau ohono yn agor yn y V&A.



Ar y cychwyn bwriad y trefnwyr oedd cael Gerry Adams, llywydd Sinn Fein i agor yr arddangosfa. Ond na, doedd hynny ddim yn bosibl. Cafwyd ffws a ffwdan. "Wedi'r cwbl, onid terfysgwr ydi Adams"?

Efallai, ond beth yn union oedd Che? Gweithiwr cymdeithasol? Gweinidog yr Efengyl? Athro ysgol gynradd? Cynhyrchydd rhaglenni dogfen?

Felly i fod yn gwbl, gwbl glir hoffwn sicrhau pawb nad oes gennym unrhyw reswm yn y byd i feddwl bod Che yn gefnogol i hawliau hoyw, nag i'r ewro, nag i hawliau anifeiliaid, nag yn poeni ddydd a nos am yr amgylchedd, nag yn mynd a'r plant i'r ysgol pob bore mewn SUV, nag yn llysiewr.

Roedd o'n derfysgwr.

Mae'n anodd meddwl am rhywun mwy addas na Mr Adams i agor arddangosfa'r V&A.

Friday, April 21, 2006

Paris - parhad a goroesi

Wedi bod ym Mharis am ychydig o ddyddiau. Fel ym mhob hen ddinas mae rhywbeth trawiadol am y ffordd mae'r presenol a'r gorffennol yn asio yn un. Hen hen adeiladau yn cael eu defnyddio i bwrpas cyfoes, y palmentydd o dan draed wedi eu troedio yn y Canol Oesoedd. Mae llawer o ddinasoedd, trefi a phentrefi fel hyn yn Ffrainc Mae Sarlat yn y Dordogne yn esiampl da. Esiampl anhygoel o hen adeilad mewn cyd destun cyfoes ydi Palas y Pabau yn Avignon.

Beth sydd yn fwy trawiadol efallai ydi'r dystiolaeth o barhad o ran arferion pobl. Roeddym yn digwydd bod yn ardal Jardin des Plantes i’r de o’r afon ar ddydd Gwener y Groglith pan ddaethym ar draws gorymdaith yn dathlu Dydd Gwener y Groglith. Roedd canoedd yn cymryd rhan, ac roeddynt yn aros pob ugain llath neu ddeg llath ar hugain i ganu a gweddio wrth gofio rhyw ddigwyddiad neu'i gilydd yn ystod diwrnod olaf Crist. Mae'n debyg bod tua 30 gorymdaith debyg ar draws Paris ar yr un diwrnod. Seremoni sydd wedi ei hailadrodd am ganrifoedd.



Yna, ar ddiwrnod arall roeddym yn Marais i’r gogledd o’r afon - ardal sydd wedi bod yn gartref i Iddewon ers y Canol Oesoedd cynnar. Maent wedi aros yno yn wyneb tonnau mawr o Iddewon yn dod o ddwyrain Ewrop yn sgil erledigaeth, er gwaethaf erledigaeth yn Ffrainc, er gwaethaf newidiadau poblogaeth sylweddol a thwf enfawr dinas Paris, er gwaethaf digwyddiadau pedwar degau'r ganrif ddiwethaf - ac wedi aros yno am ganrifoedd lawer.



Cerrig bedd Iddewig o'r drydydd ganrif ar ddeg wedi eu cymryd o gwahanol rannau o Baris.



Synagog yn y Marais heddiw.




Copi o'r Torah o Baris.

Monday, April 03, 2006

Mae hi wedi bod yn aeaf, digon rhyfedd - oer, sych a di storm fwy na heb. Tybed beth a ddigwyddodd i'r effaith ty gwydr?

Beth bynnag, pam mor bynnag anarferol y tywydd mae ambell i beth yn aros yr un o hyd - Cennin Pedr ym mis Mawrth er enghtaifft. Byddaf yn mwynhau gyrru i'r gwaith yn ystod mis Mawrth oherwydd bod llawer o Gennin Pedr ar y ffordd rhwng Caernarfon a Threfor. Mae ychydig o liw ar derfyn y gaeaf, mewn mis sy'n ddigon llwydaidd fel arall, yn fwy trawiadol na'r hyn a geir yn ystod dau fis arall mwy amryliw'r gwanwyn.

Saturday, March 04, 2006

Eira yng Nghaernarfon

Pur anaml y bydd eira i'w weld yng Nghaernarfon. Felly i gymryd mantais o gyfle prin dyma lun neu ddau.





Mae eira i'w weld yn fwy mynych o lawer yn Ninorwig, ond dyma lun neu ddau beth bynnag.



Thursday, March 02, 2006

Agor y Senedd Newydd

Adeilad hardd, ond am seremoni - y frenhines yn agor y lle, band milwrol, awerynnau milwrol, llongau rhyfel.



Mae'n anodd meddwl am ddull llai cydnaws a'r rhan helyw o'r traddodiadau gwleidyddol Cymreig. 'Dwi'n gwybod bod Prydeinwyr Cymreig, a bod gan y rheini ddiddordeb yn nhraddodiad milwrol ac imperialaidd Prydain - ond siawns y gellid bod wedi dod o hyd i ffordd o gynrychioli traddodiadau gwleidyddol Cymoedd y De a'r Gymru Gymraeg.

Wedi'r cwbl mae yna fwy ohonym ni (rhyngom) na sydd yna o Brits. Mae hi'n Senedd i ni i gyd.

Wednesday, March 01, 2006

Iwerddon, Rygbi a'r Terfysg

Mynd drosodd i’r Iwerddon gyda’r llwythau Cymreig i weld y gem rygbi ddydd Gwener. Rhyw benderfyniad funud diwethaf oedd o a dweud y gwir. ‘Dwi wedi bod trosodd ar benwythnosau rygbi o’r blaen efo rhai o hogiau’r clwb sboncen ond taith wedi ei threfnu ar y munud olaf efo’r Mrs oedd hon.

Yn rhannol oherwydd hyn cawsom ein hunain yn aros ar gyrion de ddeheuol y ddinas gerllaw stad dai enfawr Tallaght Yn nhafarn Molloy’s ymddengys mae’r prif sgwrs oedd bod Protestaniaid o Ogledd Iwerddon yn dod i orymdeithio trwy ganol y ddinas. Roedd band yn canu, ac ar ddiwedd y set dywedodd y prif leisydd bod protest yn erbyn yr orymdaith yn cael ei chynnal. Aeth y TD (aelod seneddol) Sinn Fein lleol – Sean Crowe – oedd yn y dafarn yn syth i’r llwyfan a siarsio pobl i beidio a mynd ar gyfyl yr orymdaith.

Feddyliais i ddim llawer am y peth hyd amser cinio’r diwrnod canlynol pan geisiais fynd i O’Connell Street – y brif stryd trwy ganol y ddinas. Nid oedd posibl mynd arni gan bod y Garda yn atal unrhyw un rhag mynd arni. Roedd brwydr yn mynd rhagddi ar y stryd – rhesi o heddlu’n amddiffyn un ochr i’r stryd, canoedd o lanciau yn taflu pethau atynt ymhellach i fyny’r stryd a biniau yn llosgi rhwng y ddwy garfan. Llawer o’r ymladdwyr yn ifanc iawn, roedd llawer ohonynt hefyd wedi eu gwisgo’n drawiadol – crys Celtic neu GAA, baner Iwerddon tros eu ysgwyddau a sgarff tros eu hwynebau. ‘Roedd yr ymladd yn digwydd tros ran eang o’r ddinas, ac roedd yn hynod ffyrnig. Gallai rhywun fod wedi ei ladd yn hawdd.







Yr hyn oedd yn ddiddorol am y terfysg oedd ymateb pobl nad oedd yn rhan ohono - ar gwahanol adegau roedd canoedd yn sefyll ar gyrion yr helynt yn edrych beth oedd yn edrych ar y digwyddiadau. Roedd llawer yn cymryd lluniau - ac roedd rhai yn mynd yn agos at ddannedd yr helynt er mwyn cael gwell lluniau. Roedd yn aml yn anodd bod yn siwr pwy oedd yn rhyfela a phwy oedd yn gwylio - roeddynt oll yn gymysg ar adegau. Mae'n rhyfedd, ond er mor anymunol y golygfeydd, mae'n anodd peidio ag aros i edrych arnynt - ac mae'r adrenalin hit o fynd yn agos at yr ymladd yn beth digon pwerus. Profais rhywbeth tebyg chwarter canrif yn ol yn yr yn ddinas, pan cefais fy nal mewn terfysg mwy o lawer, a lle anafwyd mwy o bobl o lawer. Roedd y ffenomenon o bobl yn aros i edrych yn wir y tro hwnnw hefyd. Gall ymateb dyn i gael ei ddychryn fod yn beth rhyfedd iawn.

Wedyn ar ol ychydig o beintiau yn rhai o dafarnau’r ddinas mynd i weld Bryn Fon yn y Temple Bar Music Centre yn Temple Bar. Ymddengys ei fod wedi colli teiars ei fan - y rhif Prydeinig fyddai wedi achosi hynny mae'n debyg. Y lle’n llawn a’r noson yn un ddigon difyr, ond roedd y swn yn hynod o fyddarol. Bechod am y gem y diwrnod wedyn.