Thursday, May 31, 2018

Gadael yr UE - rhan 4



  1. 17.  Fel mae’r negydu yn mynd rhagddo mae’n dod yn amlwg y bydd rhaid i’r DU ddewis rhwng gadael yr Undeb Tollau a chael masnach rydd efo’r UE.  Felly mae’r Cabinet yn dechrau ffraeo ynglyn a dau gynllun gwahanol.  Mae May eisiau gweithredu ar  gynllun sydd ddim yn cael ei ddefnyddio yn unrhyw le arall yn y Byd lle byddai’r DU yn hel tollau ar ran yr UE.  Mae Boris Johnson yn disgrifio’r cynllun fel un ‘gorffwyll’.  Yn y cyfamser daw’n amlwg bod y cynllun mae Boris yn ei ffafrio - creu ffin sy’n cael ei phlismona gan dechnoleg - am gostio £20bn y flwyddyn - os ydi hi’n bosibl creu’r system yn y lle cyntaf - ac mae hynny’n hynod amheus. Mae hyn yn llawer mwy o arian na mae’r DU yn ei wario ar aelodaeth y DU ar hyn o bryd ac mae’n gyfystyr a chael dau Ogledd Iwerddon newydd i’w hariannu.  Mae’r Cabinet yn mynd ati i dreulio wythnosau yn ffraeo pa un o’r ddau gynllun boncyrs maent yn ei ffafrio - sy’n wastraff amser braidd cyn bod yr UE wedi dweud o’r cychwyn nad ydi’r naill gynllun na’r llall yn dderbyniol iddyn nhw.
  2. 18. Mae Cymru - neu ei llywodraeth - yn penderfynu ildio i ddymuniadau llywodraeth Doriaidd y DU a gadael iddyn nhw gadw’r pwerau ‘datganoledig’ sy’n cael eu ad ennill o Frwsel am gyfnod o flynyddoedd gan ddisgrifio eu llyfdra fel ‘cyd weithio’.  Unwaith eto mae llywodraeth genedlaetholgar yr Alban yn cymryd trywydd gwahanol ac yn gwrthod y math o ‘gyd weithredu’.  Maent yn cael cefnogaeth y gwrthbleidiau i gyd ag eithrio’r Toriaid a Jeremy Corbyn. Ac unwaith eto mae Cymru yn dangos nad oes rhaid i Lywodraeth San Steffan ei chymryd o ddifri.
  3. 19. Mae May yn cael syniad newydd - cicio Brexit ymhell i’r dyfodol, ac i gyfnod pan na fydd hi yn Brif Weinidog a felly ddim yn gorfod poeni am yr holl smonach.  Mae’n dechrau son am ymestyn y cyfnod trawsnewidiol ymhellach - i 2023 y tro hwn.  Petai yr UE yn derbyn yr argymhelliad (a go brin y byddan nhw) byddai ymadawiad y DU a’r UE wedi cymryd saith blynedd - ac mi fyddai yna ddigon o sgop i wthio pethau ymhellach fyth i’r dyfodol.

A dyna lle ydan ni ddwy flynedd ar ol penderfynu y byddai’n syniad da gadael yr UE.  ‘Dydan ni ddim wedi diffinio beth ydym ei eisiau, mae pob fersiwn o Brexit yn sicr o achosi niwed economaidd i’r DU, mae’r cloc yn tician efo llai na blwyddyn i fynd cyn ein hymadawiad - a’r unig beth tebyg i strategaeth sydd gan y DU ydi ceisio symud y penderfyniad i’r dyfodol pell.

1 comment:

Marconatrix said...

Diolch yn fawr iawn! Erbyn hyn mae pethau mor glir ... mor glir â mwd ;-)