Thursday, May 03, 2018

Celwydd yr wythnos 2 _ _ _

_ _ _ neu ‘Dim ond yng Ngwynedd’

Y Celwydd



A’r realiti:

Cafwyd cynnig yng nghyfarfod llawn Cyngor Gwynedd heddiw gan y Cynghorydd Alwyn Griffiths ynglyn a chynlluniau i ail fodelu gwasanaeth ieuenctid Gwynedd.  Wele’r cynnig.

Bod y Cyngor hwn yn gofyn i Gabinet y Cyngor ail-ystyried dyfodol Gwasanaeth Ieuenctid y Sir gan ragdybio o blaid cynnal clybiau ieuenctid a pharhau gyda’r cymorth ariannol traddodiadol i fudiadau gwirfoddol megis yr Urdd a Mudiad y Ffermwyr Ifanc.

Roedd cynnig Alwyn Griffiths yn un digon teilwng - ond roedd yna un gwendid amlwg.  O dderbyn y cynnig gallai  Cabinet Cyngor Gwynedd ail ystyried y bwriad i atal arian i gwahanol wasanaethau ieuenctid a dod i yn union yr un canlyniad - rhagdybiaeth neu beidio - yn wyneb y pwysau cyllidol anferth sydd ar y Cyngor o ganlyniad i doriadau Llafur a Thoriaidd.

Cynigwyd gwelliant i’r cynnig gan y Cynghorydd Menna Baines.  Wele hwnnw isod:

Gwelliant i gynnig Alwyn Gruffydd:

Bod y Cyngor hwn hefyd yn gofyn i Gabinet y Cyngor ailystyried elfennau penodol o’r model newydd ar gyfer Gwasanaeth Ieuenctid y Sir, a hynny oherwydd ein pryderon ar dri chyfrif:

1.  Y newid pwyslais o’r cymunedol i les unigolion
2.  Yr effaith ar ardaloedd mwyaf difreintiedig y sir
3.  Yr effaith ar yr iaith Gymraeg

Gofynnwn felly i’r Cabinet gynnal trafodaethau brys a manwl gyda phob un o’r cynghorau tref, cymuned a dinas ynghyd ag asiantaethau perthnasol eraill. Diben hyn fyddai edrych ar ffyrdd o gydweithredu er mwyn ariannu parhad cynifer â phosib o glybiau ieuenctid y sir - lle dymunir hynny -  ac er mwyn rhoi cymorth priodol i’r mudiadau ieuenctid gwirfoddol a fu’n derbyn nawdd tan yn ddiweddar. Gofynnwn hefyd i’r Cabinet gynnal asesiad ieithyddol o effaith yr ad-drefnu ac asesiad o’i effaith gymunedol ar ardaloedd mwyaf difreintiedig y sir.

I’r sawl sydd ddim yn gyfarwydd ag arferion cyngor, ychwanegiad at gynnig, nid rhywbeth yn ei le ydi gwelliant.  Felly mae cynnig Menna yn golygu bod y cynnig nid yn unig yn cyfarwyddo’r Cabinet  i ail ystyried eu penderfyniad, ond i droi pob carreg yn lleol i ddarganfod y cyllid i gadw sefydliadau yn agored pan mae dymuniad i wneud hynny yn lleol.  ‘Does gen i ddim pwt o amheuaeth bod y gwelliant yn ei gwneud yn fwy tebygol o lawer y bydd sefydliadau ieuenctid yn aros yn agored na’r cynnig ar ei ben ei hun.

Pleidleisiodd y Pleidwyr tros y gwelliant, pleidleisiodd y gwrthbleidiau i gyd ag eithrio un unigolyn yn erbyn y gwelliant.  Wedi i’r gwelliant gael ei dderbyn pleidleisiodd pawb (‘dwi’n meddwl) o blaid y cynnig  a’r gwelliant. 

Ond eto mae gwefan gweplyfr yng Ngwynedd yn honni bod y sawl oedd wedi cynnig y llwybr mwyaf tebygol o gadw sefydliadau yn agored wedi pleidleisio i’w cau,  tra bod y sawl bleidleisiodd tros gymryd llwybr fyddai’n llai tebygol o fod yn  effeithiol wedi pleidleisio i’w cadw’n agored.

Tybed os mai ond yng ngwleidyddiaeth lleol Gwynedd mae’n cael ei ystyried yn briodol i ddweud bod gwyn yn ddu a du yn wyn er mwyn pardduo gwrthwynebwyr?


1 comment:

Anonymous said...

Pardduo?
Nid Gwynedd yn unig sy'n troi geiriau "gwir neu gau?" o'i wyneb i waered. Y mae'r ymarfer gwleidyddol o "ddwyieithrwydd" mympwyol gwleidyddol yn rhemp yma,acw a thu hwnt i'r clawdd.