Sunday, February 18, 2018

Sylw neu ddau ynglyn a lleoliad gwleidyddol y Blaid

Mae problem y Blaid yn eithaf syml yn y bon ac mae’n ymwneud a lleoliad gwleidyddol.  Cyn ymddangosiad Corbyn ar y ffurfafen wleidyddol roedd y Blaid wedi ei lleoli i’r chwith i Lafur - ac roedd y fan honno yn lle eithaf defnyddiol i fod yn wleidyddol.  Roedd Llafur Milliband yn lled gefnogi’r consensws Prydeinig ynglyn a llymdra ac roedd hynny’n rhoi cyfle i’r Blaid ddenu pobl na fyddai’n edrych i’w chyfeiriad fel rheol.  Adlewyrchwyd hynny yn Etholiad Cyffredinol 2015 - er mai dim ond tri aelod seneddol etholwyd, o safbwynt canrannol roedd y perfformiad (o safbwynt canrannol) ymysg y gorau yn hanes y Blaid.  Adlewyrchwyd hynny i raddau yn Etholiad Cynulliad 2016 pan ddaeth y Blaid yn ail o ran nifer pleidleisiau a seddi a rhoi pwysau sylweddol ar Lafur yn rhai o’i chadarnleoedd traddodiadol.

Y broblem efo Corbyn o safbwynt y Blaid - neu o leiaf y fersiwn boblogaidd o Corbyn sy’n bodoli ar hyn o bryd - ydi nad ydi hi’n bosibl i blaid arall leoli ei hun i’r chwith iddo.  Felly mae’n rhaid gwneud rhywbeth arall.  Pan ‘dwi’n dweud hyn wrth bobl maent yn aml yn camddeall ac yn cymryd fy mod o blaid newid lleoliad y Blaid ar y sbectrwm De / Chwith.  Nid dyna dwi’n ei awgrymu - dwi’n hollol gyfforddus efo’r lleoliad sydd gennym ar hyn o bryd - angen gwneud pethau ychwanegol yn fwy effeithiol ydym ni, nid gwneud pethau amgen.  Mewn geiriau eraill rydym angen pwysleisio rhai o’r pethau eraill sy’n ein gwahaniaethu ni oddi wrth y Blaid Lafur.

I mi mae yna dri thema cyffredinol  lle gellir gwneud hynny.  Maent fel a ganlyn:

Y mater mawr - ac amlwg - i fynd ar ei ol ydi gydael yr Undeb Ewropiaidd.  Yn y bon mae agwedd Corbyn at y mater holl bwysig hwn fwy neu lai yn union yr un peth ag un Jacob Rees Mogg.  Mae’r rhesymau pam bod y ddau eisiau cymryd cwrs fydd yn cymhlethu’n fawr mynediad y DU i’w phrif farchnadoedd yn gwbl wahanol, ond mae’r polisi ei hun fwy neu lai yn union yr un peth.  Mae Ress Mogg a Corbyn eisiau gadael y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau, ac maent eisiau gwneud hynny beth bynnag y niwed fydd hynny yn ei wneud i safonau byw a chyflwr materol pobl.  Mae rhesymeg y ddau wedi ei seilio ar ffantasi llwyr ynglyn a phwysigrwydd y DU.  Mae’r ddau yn meddwl bod yr UE am negydu efo’r DU oherwydd bod marchnadoedd y DU yn bwysig iddi.  ‘Dydi’r UE ddim am negydu mewn ffordd allai danseilio cyfraith a rheoliadau’r UE - y cwbl mae nhw ei eisiau ydi deall yn union beth mae’r DU ei eisiau ac ymateb i hynny yng nghyd destun cyfraith Ewrop.  Ni fydd rhan 2 o’r trafodaethau fawr gwahanol i rhan 1- proses o’r UE yn dweud wrth y DU beth i’w wneud fydd hi, gyda’r DU yn strancio a tantro cyn derbyn y cyfarwyddiadau.  Bydd canlyniadau codi ffin galed rhwng y DU a’i phrif farchnadoedd yn hynod niweidiol i bron i bawb yng Nghymru.  Mae’r Blaid angen bod mewn sefyllfa lle mae’r gwahaniaeth rhyngddi hi a Llafur Corbyn yn gwbl, gwbl amlwg i pob copa walltog yng Nghymru.

Mae’r ail yn ymwneud a natur sylfaenol Brydeinig Llafur Corbyn.  ‘Dydi Corbyn ddim yn deall datganoli, a ‘dydi o ddim yn deall y gwahaniaeth yn hunaniaeth Cymru a gweddill y DU.  Mae hyn yn cael ei adlewyrchu mewn pob math o bethau - gyda helynt dewis ymgeisydd Llafur yn Arfon yn esiampl diweddar iawn.  Mae’n cael ei adlewyrchu hefyd gan fethiant Llafur Corbyn i ddangos parch at ddymuniadau Llafur Carwyn Jones ym Mae Caerdydd.  Gallwn ddisgwyl i arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru i gwympo i’r Corbynistiaid yn ystod y flwyddyn hon a bydd hynny’n gwaethygu’r sefyllfa.  Mewn geiriau eraill mae dominyddiaeth Corbyn o’i blaid yn rhoi cyfleoedd i’r Blaid ymosod ar Lafur am beidio bod yn ddigon Cymreig.  

Yn drydydd mae methiant parhaus Llafur yn cynnig cyfleoedd.   Fel gwlad rydym wedi bod yn pleidleisio i Lafur ers canrif ac mae’r Blaid honno wedi dominyddu’r Cynulliad Cenedlaethol ers ei chychwyn ac rydym ar waelod pob tabl rhyngwladol. Rydym angen canolbwyntio mwy ar feirniadu’r nghyfartaledd cwbl grotesg mewn gwariant ar is adeiledd yng Nghymru, methiant y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd i fynd i’r afael a thlodi yn ei chadarn leoedd ei hun, methiant Llafur yng Nghymru i wella safon gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i unrhyw raddau arwyddocao, methiant llywodraeth Lafur Cymru i wella’r economi ac ati, ac ati.

Mae canolbwyntio mwy ar y ddau thema olaf am wneud i’r Blaid ymddangos yn fwy negyddol, yn fwy cwynfanus ac yn fwy popiwlistaidd nag yw ar hyn o bryd - ond yn yr oes sydd ohoni gwleidyddiaeth felly sy’n cynhyrchu pleidleisiau.

3 comments:

Anonymous said...

Sut mae Plaid Cymru yn penderfynnu ar ei lleoliad gwleidyddol a'i pholisiau? Pwy sy'n gwneud y penderfyniadau hyn? Diolch.

Anonymous said...

Materion Ewropeaidd megis Brexit yn amlwg yn dylanwadu'n gryf ar wleidyddiaeth y dyddiau hyn, ond tair stori fawr yn ymwneud a iaith sydd wedi tynnu fy sylw yn ddiweddar, ac mae'r dair stori yn achosi pryder i mi.

1. Swyddog personel Babcock yn RAF Fali yn credu ei bod yn dderbyniol i ofyn/orchymyn i Gymry lleol beidio siarad Cymraeg at y safle, gan fod hyn, meddent, yn weithred 'anghwrtais' pan oedd gweithwyr di-Gymraeg yn bresennol.

2. Methiant trafodaethau Cynulliad Gogledd Iwerddon, ac yn ol yr adroddiadau, y Wyddeleg a'r Acht na Gaeilge arfaethedig oedd y tu ol i benderfyniad y DUP i beidio symud ymlaen a phethau yno. Ac yna'r Guardian, o bawb, ddydd Iau diwethaf, yn gryf yn erbyn mesur iaith Wyddeleg.

3. Yr wythnos hon, reffari Sbaenaidd yn gwahardd chwaraewyr ffwtbol clybiau Elgoibar a Idiazabal ( Gwlad y Basg), rhag defnyddio iaith frodorol y Basgiaid at y cae. Yn wir, y reff yn bygwth hel unrhyw droseddwr o'r maes.

Tair stori tebyg iawn felly. Ond...

Be aflwydd sydd yn mynd ymlaen yn Ewrop y dyddiau hyn ?

Beth mae ein gwleidyddion o fewn y Blaid yn ei wneud am hyn ?

Oes na rywun yn y Blaid yn cydweithio a grwpiau eraill led-led Ewrop er mwyn ymladd yn ol yn erbyn y digwyddiadau cywilyddus yma ?

Anonymous said...

Oni newidwyd (@m y tro
...) y Blaid Lafur o.blaid math o Undeb Tollau yn ddiweddar?