Wednesday, January 24, 2018

Argymhellion y Comisiwn Ffiniau yng Ngwynedd - rhan 1


 Mae'r Comisiwn Ffiniau wedi cyhoeddi eu cynigion drafft diweddaraf ar gyfer Cyngor Gwynedd.  Mae'r nifer cynghorwyr yn syrthio o 75 i 69.  'Dwi'n bwriadu cymryd cip ar y newidiadau yn Arfon, Dwyfor a Meirion tros y dyddiau nesaf, gan ddechrau efo Arfon.

Y peth cyntaf i'w nodi mae'n debyg ydi'r gyflafan ym Mangor gyda nifer y cynghorwyr yn disgyn o ddeg i chwech.  Mae yna or gynrychiolaeth wedi bod yn y ddinas ers cryn gyfnod gyda ambell i gynghorydd yn cael ei ethol efo nifer cymharol fach o bleidleisiau - ymhell o dan 100 mewn ambell i achos.

Un enghraifft o hyn ydi'r argymhelliad isod i uno ward dau gynghorydd Menai efo ward un cynghorydd Garth i greu  un ward un aelod. 


Bron mor drawiadol ydi'r datblygiadau ar yr ochr arall i'r ddinas gyda Marchog (Maes G i bob pwrpas) yn colli un o'i ddau aelod.





Mae pethau'n mynd i'r cyfeiriad arall yn Nyffryn Ogwen gyda wardiau un aelod Bethesda a Gerlan yn cael eu huno ac yn cael aelod ychwanegol.

Draw yng Nghaernarfon cymharol ychydig o newid sydd - ond bod y prif newid o ddiddordeb arbennig i'r blogiwr yma.  Ar hyn o bryd mae'n cynrychioli ward dau aelod Seiont (gan ddod yn ail pell i'r Cynghorydd annibynnol Roy Owen ym mis Mai).  Mae'r ward honno'n cael ei rhannu'n ddau (Hendre a Chanol y Dref) ac mae darnau cymharol fach o wardiau cyfagos yn cael eu hychwanegu at y ward newydd yng nghanol y dref. 



Datblygiad diddorol rhwng Caernarfon a Bangor ydi'r hyn sy'n digwydd yn ardal Felinheli / Bethel.  Bethel ydi ward Sion Jones wrth gwrs.  Mae'r ddwy ward un aelod yn cael eu cyfuno i greu ward dau aelod.  Mae'r Felinheli gyda phoblogaeth llawer uwch nag un Bethel, ac mae'n gaer etholiadol i Blaid Cymru ers blynyddoedd.  Mae'n debyg bod cefnogaeth y Blaid gyda'r uchaf yng Nghymru yn y rhan yma o lannau'r Fenai.
 



 Mae yna nifer o newidiadau eraill yn Arfon - er bod y rhan fwyaf ohonynt yn weddol fach.  Un sy'n ddiddorol o bosibl ydi gwahanu pentrefi cyfagos Rhostryfan a Rhosgadfan i'r gorllewin o Gaernarfon a'u lleoli mewn wardiau gwahanol. 


Gellir gweld yr adroddiad llawn yma.









1 comment:

Anonymous said...

Sut mae pethau'n edrych ym Mangor bellach ? A wnaeth y blaid ddarganfod sut aeth pethau cymaint o'i le rhwng yr etholiadau lleol a'r etholiad cyffredinol ?