Sunday, January 14, 2018

Mymryn o gymorth i Donald Trump

Nid yn aml y bydd Blogmenai yn ceisio cynnig cymorth i Arlywydd Unol Daleithiau'r America, ond cyn bod Donald Trump methu deall pam nad ydi pobl yn symud i fyw i America o Norwy, mi wna i geisio egluro.

Os ydych yn byw yn Norwy rydych yn debygol o fyw  yn hirach nag os ydych yn byw  yn America.  Gallwch ddisgwyl byw i fod yn  79 years os ydych yn ddyn yn y wlad ac yn 83 os ydych yn ddynas.  Y ffigyrau cyfatebol ar gyfer UDA ydi 76 a 81.

Ac wedyn wrth gwrs rydych yn debygol o fod yn gyfoethocach os ydych yn byw yn Norwy - GDP y pen yn y wlad honno ydi $73,450 - sy'n gyfforddus uwch na'r $61,687 a geir yn America.

Os ydi pethau'n mynd o chwith mae gan Norwy gronfa genedlaethol o - $1000,000,000,000 - tua $190.000 am pob un o drigolion yr wlad.  Does gan America ddim cronfa gyfatebol - er bod rhai o'r taleithiau unigol  efo rhai - ond mae nhw'n llawer iawn llai. 

Mae'r ddwy wlad yn agos at ei gilydd o ran cyflawniad addysgol ( fel mae hwnnw'n cael ei ddiffinio gan gynghrair Pisa), gyda Norwy mymryd ar y blaen.  

Dydi cymdeithas anghyfartal ddim yn ddelfrydol i fyw ynddi - a does yna'r un wlad llai anghyfartal na Norwy.  O dan y mesur anghyfartaledd rhyngwladol - Gini - mae Norwy yn sgorio 23.5, y sgor isaf yn y Byd.  Sgor America ydi 41.1.  

Mesuriad datblygiad dynol ydi HDI (cyfuniad o ystadegau addysg, incwm a hyd bywyd)   Unwaith eto mae Norwy gydasgor o  0.949 yn perfformio'n well na'r un gwlad arall.  Mae sgor America hefyd yn uchel iawn - 0.920 - sy'n ei rhoi'n ddegfed.

Mae Norwy yn bedwerydd ym Mynegai Hapusrwydd y Byd tra bod yr UDA yn drydydd ar ddeg.  

Ac yna wrth gwrs mae'r UDA hefyd yn lle uffernol o berygl i fyw ynddo.  Mae tros i 15,000 o drigolion yr wlad anffodus yma'n cael eu llofruddio'n flynyddol gan eu cyd Americanwyr - yn bennaf efo'r gynnau sydd i'w cael ym mhob man yno.  Mae trigolion America yn ofni ei gilydd i'r fath raddau mae ganddynt 300m o ynnau i amddiffyn ei hunain rhag eu cymdogion.  Mae'r gyfradd llofruddiaeth yn 4.88 am pob 100,000 o'r boblogaeth.  Os ydych yn byw yn agos at Donald ei hun yn Washington DC mae'r gyfradd yn llawer, llawer uwch.  Mae llofruddiaeth yn brin iawn yn Norwy gyda tua 1 llofruddiaeth am pob 200,000 o'r boblogaeth.

Felly mae'r ateb i gwestiwn Donald yn eithaf syml - dydi pobl ddim yn symud o wlad gyfoethog, hapus, diogel, cyfartal, ddatblygedig i wlad sy'n llai cyfoethog, llai hapus, llai cyfartal, llai diogel a llai datblygedig yn aml iawn.

Gyda llaw - peidiwch a gofyn am Gymru - ar wahan i'r ffaith nad ydym yn rhai mawr am lofruddio'n gilydd, rydym yn perfformio'n waeth na'r naill wlad na'r llall ar bob mesur.  Mae'n amlwg bod y DU yn gweithio'n wych i ni.

2 comments:

Anonymous said...

Be am drafod stad y blaid wedi’r llanast mae Leanne Wood a Deryn wedi wneud o achos Neil McEvoy?

Cai Larsen said...

Mae'r tebygolrwydd i mi drafod honna ar hyn o bryd yn tua 0%.