Sunday, February 19, 2017

Tudalen flaen y diwrnod


A thrydariad y diwrnod - bai Plaid Cymru ydi o bod aelodau Llafur yn cyd weithredu efo'r Dde eithafol rydach chi'n gweld.



2 comments:

Anonymous said...

Mae'n hen bryd i un o AS neu AC y Blaid ymateb unwaith am byth i'r cyhuddiad hurt yma fod ysgolion cyfrwng Cymraeg, Plaid Cymru, Cymdeithas yr Iaith, S4C, yr Eisteddfod Genedlaethol, ayyb yn creu 'linguistic apartheid'.

1. Mae pawb yn gorfod dysgu iaith. Pob un ohonom. Does neb yn cael ei eni yn siarad iaith. Mae rhai ohonom yn siarad un iaith, mae eraill yn ddwyieithog, ac mae yn rai ohonom yn aml-ieithog. Sut felly mae posib galw hyn yn apartheid ? Mae rhywun yn gallu dysgu iaith/ieithoedd newydd ar hyd ei oes.

Felly, beth union wyf fi yn ol cysyniad y 'linguistic apartheid' ? - gallaf siarad Cymraeg a Saesneg yn bur dda. Ydwi yn perthyn i ddau gategori ieithyddol felly ?

2. Yn Ne Affrica, ble daeth y polisi erchyll hwn i fodolaeth, roedd pawb yn cael ei roi mewn categori at sail lliw ei groen. Sef, gwyn, du neu lliw. Doedd dim modd newid hyn, ac nid oedd hi'n bosib fod yn perthyn i ddau grwp, ac yn sicr doedd dim modd i'r bobl croenddu 'ddysgu' sut i fod yn wyn.

Dyna yw apartheid. Polisi haearnaidd sy'n gwahanu pobl at sail cefndir ethnig a lliw croen, a does dim allwch chi wneud am y peth.

Beth amdani wleidyddion ?

mae'n bwysig

Cai Larsen said...

“As this investigation gets underway, I would expect all those who have perpetuated the divisive rhetoric of the far right, including those who brand this Welsh Government policy as ‘apartheid’ to be barred from standing for public office in the name of the Labour Party."

Jonathan Edwards, ddoe.