Saturday, January 22, 2005

Pam mor bwysig ydan "ni" iddyn "nhw".

Mae’n debyg ein bod ni fel Cymry Cymraeg efo’r tueddiad o weld ein hunain fel canolbwynt y Byd. Mae hyn yn naturiol ddigon am wn i. Yn wir, mae llawer ohonom sy’n genedlaetholwyr yn tueddu i ddiffinio ein gwleidyddiaeth mewn termau Cymru vs Lloegr – mae rhai ohonom yn wir yn gweld cynllwyn gan y llywodraeth i ddifa’r Gymraeg tu hwnt i pob cornel.

Cyn i mi fynd ymlaen cymrwch gip ar y rhain:

Yma
yma
yma
yma
ac yma

Allbwn o Gyfrifiad 2001 ar gyfer un Awdurdod Lleol (y mwyaf o ran poblogaeth, mae’n rhaid cyfaddef) – Llundain ydynt. Mae’r ffigyrau’n drawiadol. Mae 1,565,856 o bobl sy’n byw yno wedi eu geni y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Mae 377,048 arall wedi eu geni mewn gwledydd ag eithrio Prydain y tu mewn i’r UE (Gwyddelod ydi llawer o’r rhain), Mae 607,083 yn Fwslemiaid o ran crefydd. Mae 291,977 yn Hindwiaid, a 104,230 yn Siciaid. Mae’r ffigyrau uchod oll yn debygol o fod yn tan gyfrifiadau sylweddol – nid pawb o bell ffordd o gymunedau lleiafrifol sy’n mynd i lenwi ffurflen gyfrifiad.

I ddychwelyd at yr hanner miliwn ohonom sy’n siarad y Gymraeg yng Nghymru (mae’n debyg bod tua 100,000 arall y tu allan i’r wlad). Mae yna tua’r un faint ohonom na sydd o Fwslemiaid yn byw yn Llundain yn unig. Rydym ni’n bell o San Steffan, nid oes unrhyw oblygiadau i ni o ran ffurfio polisi tramor, rydym, at ein gilydd, yn byw yng nghefn gwlad neu mewn man drefi a phentrefi lle mae lefelau tor cyfraith yn isel, nid ydym yn ffactor etholiadol mewn mwy na llond dwrn o etholaethau, rydym wedi intergreiddio’n rhannol i’r gyfundrefn Brydeinig ers canrifoedd.

Tybed os ydi’r rhan fwyaf o weinidogion y llywodraeth hyd yn oed yn gwybod am ein bodolaeth?

No comments: