
Mae erthygl gwirioneddol warthus ar Waleshome.com gan Aelod Cynulliad Gogledd Caerdydd, Jonathan Morgan yn dangos yn eithaf clir y cyfeiriad mae penderfyniad llwfr Carwyn Jones wedi ein gyrru ni iddo. Am y tro wna i ddim mynd ar ol yr awgrym ar ddiwedd yr erthygl y dylai awdurdodau lleol geisio cynyddu'r galw am addysg cyfrwng Saesneg.
Chwi gofiwch i Carwyn benderfynu peidio a chymeradwyo cynlluniau ail strwythuro ysgolion Cyngor Caerdydd yn Nhreganna ar y sail y byddai'r cynlluniau hynny ddim yn gwella safon addysg cyfrwng Saesneg yn yr ward. Mi gofiwch hefyd mai canlyniad hyn ydi sicrhau bod camau'r Cyngor i ymateb i gyfarwyddyd y Cynulliad ei hun i ddelio a phroblem llefeydd gweigion yn ysgolion Treganna ac i'r galw cynyddol am addysg Gymraeg yno bellach yn deilchion.
Mae Simon Brooks yn mynegi'r farn ar waelod yr erthygl bod yr hyn a ddigwyddodd yng Ngorllewin Caerdydd yn creu rhagfarn sefydliadol yn erbyn pobl sydd am i'w plant dderbyn addysg Gymraeg. 'Dwi ddim yn amau bod gwirionedd yn hynny, ond ystyriaethau etholiadol oedd y prif gymhelliad y tu ol i benderfyniad Carwyn Jones, nid rhagfarnau ethnig / ieithyddol.
Gall Llafur yng Nghaerdydd deimlo yn eithaf bodlon efo eu perfformiad yn etholiadau eleni. Roeddynt wedi gweld eu canran o'r bleidlais yn y ddinas yn cwympo'n gyson ar pob lefel ers penllanw etholiadol mawr 1997, ac roeddynt wedi colli Canol Caerdydd ar lefel Cynulliad a lefel San Steffan, a Gogledd Caerdydd ar lefel Cynulliad. Roeddynt hefyd wedi colli eu rheolaeth o'r Cyngor. Erbyn etholiadau Ewrop y llynedd roedd eu pleidlais mor isel nes awgrymu bod pob un o'u tair sedd yn y ddinas mewn perygl ar lefel San Steffan. Pan ddaeth yr etholiadau San Steffan yn eu tro cadwyd y Gorllewin a'r De yn eithaf hawdd, cauwyd y bwlch rhyngddynt a'r Lib Dems yn y Canol ac er i'r Gogledd gael ei golli roedd y gogwydd yn llawer, llawer llai nag oedd neb yn meddwl - yn wir gwnaethant cystal yn y Gogledd a rhoi cyfle go iawn iddynt ad ennill y sedd ar lefel Cynulliad y flwyddyn nesaf.
Aelod Cynulliad ar ran Gogledd Caerdydd ydi Jonathan Morgan wrth gwrs, ac yng nghyd destun etholiadol dinas Caerdydd y dylid gweld ei erthygl Waleshome.com. Beth bynnag y 'rhesymu' swyddogol, ymateb i bwysau gan Lafur Caerdydd i wneud pethau'n haws iddynt wrthsefyll ymosodiad deublyg gan Blaid Cymru ar y naill llaw a'r Toriaid ar y llall y flwyddyn nesaf yng Ngorllewin y ddinas oedd Carwyn Jones pan ddaeth i'w benderfyniad ynglyn a Threganna.
Mae ardal yr Eglwys Newydd mor bwysig i'r Toriaid yng Ngogledd Caerdydd nag ydi Treganna i Lafur yn y Gorllewin ar lefel lleol a Chynulliad. Mae pethau'n glos rhwng Llafur a'r Toriaid yn ward fawr boblog yr Eglwys Newydd. Defnyddio yr union 'resymeg' a ddefnyddwyd tros beidio a chau Landsdowne gan Carwyn Jones mae Jonathan Morgan wrth ddadlau yn erbyn cau Ysgol Eglwys Newydd er mwyn ehangu'r sector cyfrwng Cymraeg. Os ydi Leighton Andrews yn bod yn gyson a 'rhesymeg' Carwyn Jones ac yn atal y cynlluniau oherwydd nad ydynt yn gwella'r ddarpariaeth Saesneg, gall Jonathan Morgan hawlio mai fo gadwodd trwyn Leighton ar y maen. Os mai'r ffordd arall y bydd pethau'n mynd gall Jonathan Morgan elwa yn etholiadol o'r penderfyniad yn ogystal a dadlau bod y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd yn bod yn anghyson - gan weithredu un rheol i ward Llafur, ac un arall i ward Doriaidd.
A dyna ydi problem cymryd penderfyniadau sydd yn y bon yn rhai gweinyddol am resymau etholiadol - mae'r broses yn cael eu llygru mewn modd sy'n galluogi gwleidyddion plwyfol a di egwyddor fel Jonathan Morgan ddefnyddio addysg plant bach fel pel droed wleidyddol er ei les etholiadol ei hun