Cafodd y ddwy brif blaid unoliaethol efo’i gilydd y ganran isaf erioed o’r bleidlais – 22% – o filltiroedd. Yn 2017 y ffigwr cyfatebol oedd 82.5%.
Mae‘r cwymp yng nghyfanswm y pleidleisiau hyd yn oed yn fwy trawiadol – mae’n syrthio o 1.3m i 182k
Plaid Cymru yn curo Llafur am y tro cyntaf mewn etholiad Cymru gyfan.
Plaid Brexit yn ennill pob sir ag eithrio tair yn y Gorllewin.
Fel rheol mae’n well edrych ar ffigyrau o safbwynt canrannau – ond ambell waith mae’r rhifau abserliwt yn well.– Mae rwan yn un o’r achlysuron hynny.
Plaid Brexit yn cael bron cymaint o bleidleisiau na Llafur, Toriaid a Lib Dems efo’i gilydd.
Plaid Cymru yn cael bron cymaint a’r Toriaid a’r Lib Dems efo’i gilydd.
PC wedi cael mwy o bleidleisiau na’r Toriaid ym mhob sir ag eithrio Mynwy (llai na 200 oedd ynddi) ac wedi cael tair gwaith pleidlais y Toriaid yng Nghaerdydd a 14 pleidlais am pob pleidlais Doriaidd yng Ngwynedd. Curodd y Blaid Llafur mewn 13 sir – gan gynnwys y ddwy mwyaf poblog – Caerdydd a RCT.
Mi aeth y niferoedd o bobl aeth allan i bleidleisio i fyny o tua 103,000 – o dan amgylchiadau felly byddwn yn disgwyl i bleidlais pawb gynyddu – os nad y ganran. Ond wnaeth hynny ddim digwydd.
Brexit + UKip (tros UKIP o’r blaen) – +98k
Lib Dem – +85k
Plaid Cymru – + 52k
Gwyrdd + 19k
Llafur – —79k
Toriaid – — 73k
Gelly plaid efo safbwyntiau cryf ar Brexit yn cael eu
– pob plaid sydd heb safbwynt glir yn cael eu cosbi.
I ffocysu ar berfformiad y Blaid:
Cynnydd yng nghanran y Blaid 4.34%, cynydd mewn pleidleisiau + 52k.
Dydi + 4.34% ddim yn edrych yn fawr – ond mae’n anarferol iawn i PC weld symudiad felly o un etholiad i etholiad cyfatebol dilynol. Yr unig bethau fedra i feddwl amdanyn nhw ydi’r etholiadau ar droad y mileniwm a 1970.
Roedd y ddau achos yna pan oedd Llafur mewn grym yn San Steffan. Mae’n anarferol iawn i’r Blaid wneud yn dda tros Gymru pan mae yna lywodraeth Doriaidd yn San
Steffan – ac mae’n fwy anarferol eto pan mae’r nifer sy’n pleidleisio yn cynyddu.
Pleidlais y Blaid uchaf fel arfer yn y bedair sir fwyaf Cymraeg o ran iaith – ond y cynnydd yn is na’r cymedr mewn tair ohonynt – ond cynnydd sylweddol iawn yng Ngwynedd. Cymedr 3% – heb Gwynedd 1.3%
Dinasoedd y De 8%. Cymoedd 5%. Seddi Toriaidd y De Ddwyrain 5%, Canolbarth a Gorllewin llai Cymraeg 3%.
Gogledd Cymru llai Cymraeg 2.8%.
Siroedd aros – bron i 6%. Llawer uwch yn y ddwy sir gryfaf tros Gymru.
Mae perfformiad PC yn wahanol i’r lleill i’r graddau bod amrediad enfawr ym mhleidlais y Blaid rhwng un sir a’r llall – 41.3% o wahaniaeth i’r Blaid rhwng Gwynedd (50.8%) a
Fflint (9.5%) – gwta 1/2 awr i ffwrdd ar yr A55.
Ffigyrau cyfatebol y Toriaid ydi 8.4%, Brexit 19.8%, Llafur 19.4%, Lib Dems 17.5%.