Fel mae pawb sy’n gyfarwydd efo Plaid Lafur Arfon yn gwybod, mae nhw yn treulio cryn dipyn o amser ac ynni yn ffraeo - efo’i gilydd yn bennaf. Weithiau bydd hynny yn torri i wyneb y dwr - yn amlach na pheidio (ond ddim pob tro) ar un o wefannau cymdeithasol eu hunig gynghorydd yng Ngwynedd - Sion Jones.
Cwyno oedd o ddoe nad fo ydi ymgeisydd Llafur ar gyfer Arfon yn etholiadau San Steffan. Yn naturiol ddigon ynghanol y cwyno am ei blaid ei hun mae’n cwyno am Blaid Cymru a’i ardal ei hun. Bydd o gryn syndod i’r cannoedd lawer o bobl sydd wedi heidio i draeth Dinas Dinlle yn haul y dyddiau diwethaf bod Sion yn ystyried bod y lle yn ‘ddymp’ o dan Cyngor Gwynedd. Mae o hefyd wrthi’n cwyno bod y Blaid wedi cael eu hethol yn Arfon ers 45 o flynyddoedd (rhywbeth sydd ddim yn wir wrth gwrs - dim ond yn 2005 y daeth Arfon i fodolaeth fel etholaeth.
Mae’r naratif yma - bod Arfon yn ddymp ac mai cynrychiolaeth Plaid Cymru yn San Steffan a’r Cynulliad yn diwn gron gan yr hen griw o Lafurwyr yn Arfon. Mae’r criw yma wedi colli rheolaeth ar Lafur yn Arfon gyda llaw - ond stori i flogiad arall ydi
Y brif broblem efo’r naratif ydi ei bod yn nonsens llwyr a chyfangwbl. Wrth safonau Cymru ‘dydi Arfon ddim yn etholaeth dlawd - ac o gymharu ag etholaethau sy’n pleidleisio i Lafur yn ddi eithriad, mae’n etholaeth eithaf cyfoethog.
Os ydym yn cymharu Arfon efo’r etholaethau sydd wedi cael eu cynrychioli yn ddi dor neu fwy neu lai’n ddi dor gan Lafur mae yna wahaniaeth sylweddol mewn safonau byw - ac mae’r gwahaniaeth hwnnw yn ffafrio Arfon. Cymerer - er enghraifft Aberafon. Nid hon ydi’r etholaeth Lafur dlotaf o ddigon - yn wir mae’n ddigon nodweddiadol o etholaethau Llafur yng Nghymru.
Enillwyd y sedd gan Ramsay McDonald i Lafur yn 1922 - bron i gan mlynedd yn ol - ac mae Llafur wedi ennill pob
etholiad yno ar lefel San Steffan a Cynulliad ers hynny. Bydd Llafur yn cael tua 70% yn rheolaidd. Dydi’r etholaeth ddim yn llewyrchys wrth safonau Gorllewin Ewrop. Llafur sydd wedi rheoli’r cyngor lleol ers i hwnnw gael ei ffurfio hefyd.
Mae 21% o drigolion yr etholaeth yn byw yn y cymdogaethau mwyaf amddifiedig yn y DU (8% ydi’r ganran yn Arfon). Mae cyfraddau hyd bywyd tua dwy flynedd yn is yn Aberafan nag yw yn Arfon. Mae 25% o’r boblogaeth yn economaidd anweithgar o gymharu a 19% yn Arfon. Mae 32% o’r boblogaeth mewn swyddi proffesiynol o gymharu a 46% yn Arfon. Nid oes gan 32% o’r boblogaeth unrhyw
sgiliau o gwbl o gymharu a 25% yn Arfon. Mae cyflogau wythnosol yn Arfon tua £60 yn wythnos yn uwch nag ydynt yn Aberafan, ac mae prisiau tai £12k yn uwch yn Arfon. Mae safonau addysg yn sylweddol uwch. Yn wir cymaint yr amddifadedd yn Aberafan mae 30% o blant yn cael prydau
ysgol am ddim. 13% ydi’r ganran gyfatebol yn Arfon. Mae llawer mwy o drigolion Aberafan yn dioddef o anabledd neu o dan law doctor, ond mae llai o ddoctoriaid yno.
Ond ‘dydi dyn ddim mymryn callach o dynnu sylw ein cyfeillion Llafur yma yn y Gogledd at ffeithiau a phethau anghyfleus felly. Mae’r syniad mai aelodau etholedig lleol sy’n gyfangwbl gyfrifol am lewyrch- neu ddiffyg llewyrch - lleol, cyn belled nad ydi’r aelodau etholedig yna yn Lafurwyr sy’n cynrychioli ardaloedd tlawd, wedi ei wreiddio’n rhy dwfn i’w symud.
Bai’r Toriaid ydi tlodi Aberafan, Blaenau Gwent ac Ogwr wrth gwrs.
No comments:
Post a Comment