Friday, September 28, 2018

Yr etholiad am arweinyddiaeth Y Blaid - un neu ddau o sylwadau brysiog

Dwi’n eistedd ar long o Ddulyn i Gaergybi ar hyn o bryd.  Mewn bar coffi yng nghanol Dulyn oeddwn i pan gafodd canlyniad yr etholiad ei gyhoeddi.  Efallai bod pellter yn anfantais o ran trafod rhywbeth fel hyn yn ystyrlon - ond mae pellter weithiau’n cynnig ychydig o wrthrychedd.  


Y peth cyntaf i’w ddweud ydi bod y bleidlais (ond efallai ddim y canlyniad) yn anisgwyl.  Ychydig fyddai wedi meddwl am wn i y byddai Adam wedi dod o fewn trwch adenydd gwybedyn i ennill ar y cyfri cyntaf, ac ychydig fyddai wedi disgwyl i Leanne ddod yn drydydd.  Yn sicr roedd hynny - fel rhywun a bleidleisiodd tros Leanne - yn anisgwyl i mi.  


Mae’n debyg bod y rhesymau tros y canlyniad yn gymhleth ac yn amrywiol - ac mae eraill wedi sgwennu am y rhesymau hynny ac mae eraill yn debygol o wneud hynny.  Dwi ddim yn bwriadu ceisio ychwanegu at y dadansoddiadau hynny.  


Ond un peth y byddwn yn hoffi ffocysu arno ydi bod Adam wedi llwyddo i grisialu ei weledigaeth yn hynod o effeithiol - yn yr hystings a thu hwnt.  Dwi’n eithaf siwr yn fy meddwl mai dyma un o’r prif resymau tros ei fuddugoliaeth ysgubol.   Mae’r weledigaeth honno yn ymwneud a gweld y Blaid yn dod i lywodraeth i sicrhau annibyniaeth, sicrhau ffyniant economaidd a thegwch cymdeithasol a dyfodol fel gwlad fodern sy’n rhan o’r Undeb Ewropiaidd.  Mae’r  weledigaeth yma yn hynod o debyg yn y bon i weledigaeth y ddau ymgeisydd arall.  


Dwi’n gwybod bod pobl wedi eu siomi - yn arbennig cefnogwyr Leanne - ond mi hoffwn ddweud dau beth wrthynt.  


Yn gyntaf, mae Leanne wedi llwyddo i ail ddiffinio’r hyn ydi’r Blaid i lawer o bobl yng Nghymru ac wedi rhoi wyneb cyhoeddus iddi sy’n atynadol i lawer iawn o bobl - rhai sy’n pleidleisio i’r Blaid a rhai sydd ddim yn gwneud hynny eto.  Dydi hynny ddim yn fater bach - ac mae’n rhywbeth i ymfalchio ynddo.


Yn ail dwi’n credu mai’r hyn y dylai pawb ei wneud rwan ydi rhoi’r lle a’r gefnogaeth i Adam arwain y Blaid.  Y ffordd orau o sicrhau gwaddol Leanne ydi trwy wneud yn siwr bod ei gweledigaeth hi - ein gweledigaeth ni i gyd fel Pleidwyr - yn cael y lle a’r cyfle i ddatblygu yn dilyn yr etholiad nesaf yn 2021.  Dylai Adam gael 100% o’n cefnogaeth ni oll - sut bynnag wnaethom bleidleisio.  Chwarae i ddwylo’r pleidiau unoliaethol fyddai gwneud unrhyw beth arall.


4 comments:

Anonymous said...

Mmm- ddim jest cefnogi LW o bell oeddet ti na?

Oni wnes di gydlynu dau lythyr cryf yn ei chefnogi + perswadio dros 50 o gynghorwyr o bob cwr o Gymru i lofnodi'r llythyrau hynny?

Sgwennu blogiad yn dweud mai "visibility" LW a'r ewyllys da tuag ati ymhlith y fotwyr oedd un o'r ffactorau cryfaf o blaid PC wrth anelu am 2021? "One more push" ac y gallai PC gyrraedd 30 sedd o dan LW?

A pushio neges gref mai'r ateb pragmatic oedd cadw LW yn ei lle? Rhag ofn i'w chefnogwyr greu difrod wedi iddi colli….?


Be aeth o'i le?



Cai Larsen said...

Dwi ddim yn siwr beth i’w wneud o hon.

Mi wnes i gymryd ochr o’r cychwyn.

Mi wnes i hefyd gynhyrchu dau flogiad oedd yn rhoi rhesymau tros beidio newid arweinyddiaeth.

Mi wnes i hefyd gyhoeddi llythyr (1 llythyr nid 2) nid fy mod wedi hel yr enwau.

Wnesi erioed ddweud dim am ei chefnogwyr yn creu difrod petai’n colli - dwi’n trio meddwl o ble ti wedi cael y syniad yna.

Ac roeddwn i ar ochr a gollodd.

A rwan dwi’n gofyn i’r sawl oedd yn ei chefnogi i dderbyn y canlyniad a hel y tu ol i Adam.

A hynny heb fod yn negyddol am neb, nac chas am neb.

A’r cwbl yn agored ac o dan fy enw fy hun.

Onid felly y dylai disgwrs ddemocrataidd weithio?

Guto Bebb said...

Gad i mi gytuno Cai. Da ni'n cytuno ar fawr ddim ond tydi dy sylwadau ddim yn groes i dy gefnogaeth o Leanne ac mae'n gyson a dy sylw yn Golwg. Yn bwysicach serch hynny ydi dy fodlonrwydd i ddatgan barn yn dy enw dy hun. Ydi perchnogi sylwadau ar y we yn gofyn gormod?

Cai Larsen said...

Sut mae’r hwyl ers talwm Guto?

Ti’n gywir wrth gwrs - mae barn sy’n cael ei pherchnogi pob amser o fwy o werth nag un sydd ddim.