Dwi’n eistedd ar long o Ddulyn i Gaergybi ar hyn o bryd. Mewn bar coffi yng nghanol Dulyn oeddwn i pan gafodd canlyniad yr etholiad ei gyhoeddi. Efallai bod pellter yn anfantais o ran trafod rhywbeth fel hyn yn ystyrlon - ond mae pellter weithiau’n cynnig ychydig o wrthrychedd.
Y peth cyntaf i’w ddweud ydi bod y bleidlais (ond efallai ddim y canlyniad) yn anisgwyl. Ychydig fyddai wedi meddwl am wn i y byddai Adam wedi dod o fewn trwch adenydd gwybedyn i ennill ar y cyfri cyntaf, ac ychydig fyddai wedi disgwyl i Leanne ddod yn drydydd. Yn sicr roedd hynny - fel rhywun a bleidleisiodd tros Leanne - yn anisgwyl i mi.
Mae’n debyg bod y rhesymau tros y canlyniad yn gymhleth ac yn amrywiol - ac mae eraill wedi sgwennu am y rhesymau hynny ac mae eraill yn debygol o wneud hynny. Dwi ddim yn bwriadu ceisio ychwanegu at y dadansoddiadau hynny.
Ond un peth y byddwn yn hoffi ffocysu arno ydi bod Adam wedi llwyddo i grisialu ei weledigaeth yn hynod o effeithiol - yn yr hystings a thu hwnt. Dwi’n eithaf siwr yn fy meddwl mai dyma un o’r prif resymau tros ei fuddugoliaeth ysgubol. Mae’r weledigaeth honno yn ymwneud a gweld y Blaid yn dod i lywodraeth i sicrhau annibyniaeth, sicrhau ffyniant economaidd a thegwch cymdeithasol a dyfodol fel gwlad fodern sy’n rhan o’r Undeb Ewropiaidd. Mae’r weledigaeth yma yn hynod o debyg yn y bon i weledigaeth y ddau ymgeisydd arall.
Dwi’n gwybod bod pobl wedi eu siomi - yn arbennig cefnogwyr Leanne - ond mi hoffwn ddweud dau beth wrthynt.
Yn gyntaf, mae Leanne wedi llwyddo i ail ddiffinio’r hyn ydi’r Blaid i lawer o bobl yng Nghymru ac wedi rhoi wyneb cyhoeddus iddi sy’n atynadol i lawer iawn o bobl - rhai sy’n pleidleisio i’r Blaid a rhai sydd ddim yn gwneud hynny eto. Dydi hynny ddim yn fater bach - ac mae’n rhywbeth i ymfalchio ynddo.
Yn ail dwi’n credu mai’r hyn y dylai pawb ei wneud rwan ydi rhoi’r lle a’r gefnogaeth i Adam arwain y Blaid. Y ffordd orau o sicrhau gwaddol Leanne ydi trwy wneud yn siwr bod ei gweledigaeth hi - ein gweledigaeth ni i gyd fel Pleidwyr - yn cael y lle a’r cyfle i ddatblygu yn dilyn yr etholiad nesaf yn 2021. Dylai Adam gael 100% o’n cefnogaeth ni oll - sut bynnag wnaethom bleidleisio. Chwarae i ddwylo’r pleidiau unoliaethol fyddai gwneud unrhyw beth arall.