Sunday, July 29, 2018

Yr etholiad arweinyddol - record etholiadol Leanne Wood

Tra nad ydi llinellau’r frwydr am arweinyddiaeth Plaid Cymru yn gwbl glir eto, un o’r materion sy’n debygol o godi (a sydd yn wir wedi codi) ydi’r tebygrwydd o ennill llwyddiant etholiadol.  Wedi’r cwbl mae Llafur wedi arwain pob llywodraeth datganoledig Cymreig ers 1999 - ac wedi methu yn amlach na pheidio.  Mae Cymru’n barod am rhywbeth arall.  Mi fydda i’n edrych ar berfformiad etholiadol y Blaid ers i Leanne Wood ddechrau ei harwain yn y blogiad hwn, a byddaf yn edrych ar beth sy’n debygol o ddigwydd yn y dyfodol mewn blogiad dilynol.

Mae yna ganfyddiad ymysg rhai bod yna rhyw oes aur wedi bod yn y gorffennol pan roedd Plaid Cymru’n llwyddiannus yn etholiadol, ond bod yr oes aur honno bellach yn y gorffennol pell a bod y Blaid heddiw yn tan berfformio o gymharu a’r oes aur honno.  Y broblem efo’r canfyddiad yna ydi ei bod yn anodd dod o hyd dystiolaeth tros fodolaeth yr oes aur honno.  Ystyrier er enghraifft berfformiadau etholiadol y Blaid mewn etholiadau San Steffan ar hyd y blynyddoedd.  Etholiad 1970 oedd yr un cyntaf i’r Blaid gael mwy na 5% o’r bleidlais ar hyd Cymru - a wele’r hanes wedi hynny.

BlwyddynCanran
197011.5
1974 (Chwef)10.8
1974 (Hyd)10.8
19798.1
19837.8
19877.3
19928.8
19979.9
200114.3
200512.6
201011.3
201512.1
201710.4





Dim ond mewn wyth etholiad mae’r Blaid wedi ennill mwy na 10% o’r bleidlais - dair gwaith ar ddechrau’r saith degau o dan arweinyddiaeth Gwynfor Evans, dair gwaith yn y ganrif yma o dan arweinyddiaeth Ieuan Wyn Jones a dwy waith o dan arweinyddiaeth Leanne Wood.  Cychwynodd yr arweinyddiaeth hwnnw yn 2012.  Yn ychwanegol at hynny mae’r Blaid yn draddodiadol wedi ei chael yn llawer mwy anodd i ennill tir pan mae Llafur  yn rheoli yn San Steffan, na phan mae’r Toriaid mewn grym.  Dair gwaith yn unig mae’r Blaid wedi cael mwy na 10% o’r bleidlais pan bod y Toriaid mewn grym yn San Steffan - yn 2015 a 2017 o dan arweinyddiaeth Leanne Wood ac etholiad cyntaf 1974 o dan arweiniad Gwynfor Evans.

Er bod y ganran o’r bleidlais a enillwyd yn 2017 yn is na chanlyniad 2015 roedd yr etholiad yna yn un eithriadol yn yr ystyr bod mwy o bolareiddio rhwng pleidiau mawr na mewn unrhyw etholiad ers 1997.  Dioddefodd yr SNP, UKIP, y Gwyrddion, y Lib Dems a’r pleidiau llai yng Ngogledd Iwerddon.  Cynyddodd y Blaid ei nifer o aelodau seneddol.

Felly beth am y Cynulliad?  Roedd yna yn wir oes aur - neu yn hytrach 2 funud aur yn y fan honno - yn 1999.   Roedd yr etholiad y flwyddyn honno (o dan arweiniad Dafydd Wigley)  yn eithriad  a  llwyddodd y Blaid i gyrraedd lle nad yw wedi ei gyrraedd cynt na wedyn.  Fel arall mae’r canrannau wedi bod o fewn amrediad bach rhwng 17.9% a 21%.  

Ond roedd cael 20.5% yn 2016 gyda llywodraeth Doriaidd yn Llundain yn llawer anos na chael 21% yn 2007 pan roedd Tony Blair yn hynod amhoblogaidd ac ym misoedd olaf ei arweinyddiaeth o’r Blaid Lafur.  Enillodd Leanne yn y Rhondda, a daeth y Blaid yn agos i ennill yn Llanelli, Aberconwy, Gorllewin Caerdydd a Blaenau Gwent.  Ail enillwyd y statws o brif wrthblaid o flaen y Toriaid.

BlwyddynCanran
199930.5
200319.7
200721
201117.9
201620.5





Beth felly am etholiadau lleol?  Wel does yna ddim llawer o dystiolaeth o ddirywiad yma chwaith - i’r gwrthwyneb a dweud y gwir, mae’n debyg mai etholiadau 2017 oedd y rhai mwyaf llwyddiannus yn hanes y Blaid.  Roedd yr etholiadau lleol 2012 wedi eu cynnal llai na 2 fis ar ol i Leanne Wood ennill yr arweinyddiaeth.

BlwyddynCanran
199512.5
199918.2
200416.4
200816.8
201215.7
201716.5





A daw hynny a ni at yr unig etholiad arall i gael ei chynnal yng nghyfnod Leanne Wood fel arweinydd y Blaid - etholiad Ewrop 2014 - mae’n debyg yr un lleiaf llwyddiannu yn ystod ei chyfnod fel arweinydd i’r graddau bod y ganran o’r bleidlas y gafodd y Blaid yn is nag oedd wedi bod ers 1989.  Ond roedd yr etholiad hwnnw yn un hynod anarferol os nad unigryw yng Nghymru a’r DU.  Roedd yn etholiad lle’r oedd pethau wedi polareiddio rhwng Llafur ac UKIP gyda phob plaid arall (ag eithrio’r SNP) yn colli tir - mae pedair blynedd yn amser maith mewn gwleidyddiaeth.

BlwyddynCanran
197911.7
198412.2
198912.9
199417.1
199929.6
200417.4
200918.5
201415.3



Rwan mae’n debyg gen i y bydd yna nifer o ystyriaethau yn wynebu aelodau’r Blaid ym mis Medi pan maent yn penderfynu pwy i bleidleisio drosto / drosti - a bydd pwy sydd fwyaf tebygol o arwain y Blaid at fuddugoliaeth yn 2021 yn un o’r rhai pwysig.  ‘Does yna ddim ym mherfformiad etholiadol y Blaid yn ystod y chwe mlynedd diwethaf i awgrymu na all y Blaid berfformio’n dda gyda Leanne Wood yn arweinydd arni. Mae ein perfformiadau wedi bod yn ddigon soled yn ystod y cyfnod.  Mae’n anarferol i arweinydd plaid golli’r arweinyddiaeth ar unrhyw sail ag eithrio diffyg llwyddiant etholiadol, ‘Does  yna ddim diffyg llwyddiant yn yr achos yma.  

4 comments:

Anonymous said...

Beth bynnag am batrymau'r gorffennol, mae'n debyg mai teimlad llawer o'r aelodau ydi nad yw LW wedi prifio o gwbl fel arweinydd. Mae yna synnwyr hefyd nad yw pobol yn cymryd y mudiad cenedlaethol o ddifrif hefo hi wrth y llyw. Er na ddylien ni bwyso gormod ar farn allanol pob tro, pan mae un o'r blogiau Saesneg mwyaf dylanwadol ym Mhrydain yn cyfeirio ati'n gyson fel 'the thick-sounding school dinners lady" mae'n rhaid cydnabod bod yma broblem.

Anonymous said...

Dwi'n meddwl mai'r oes aur dybiedig oedd yr un fyrhoedlog a fu yn union ar ol yr etholiadau cynulliad 1999. Bu disgwyliad wedyn mai honna fuasai'r 'norm' i PC. Yn anffodus, cafwyd wared ar Dafydd Wigley gan bobl a ddylai, ac mae un ohonynt wedi cyfaddef hynny, fod wedi gwybod yn well. Dirywiad fu wedyn.
Yr hyn sydd wedi drysu Leanne Wood, i raddau ydi (1) Ymddangosiad Corbyn i'r chwith iddi, gan gymell adfywiad ymysg ieuenctid (gan gynnwys mewnfudwyr ardaloedd yn y Fro Gymraeg lle roedd Llafur wedi marw cynt) a (2) Brexit - mae ei hymdrechion i greu naratif unigryw Cymreig i hyn yn cael ei foddi, a'r ffaith nad yw ei hetholaeth ei hun yn gweld ei dadl (3) ei anallu i adeiladu'n gyhoeddus ar ei pherfformiad Prydeinig yn 2015 - nid yw ei carisma personol yn cael ei gyfleu o gwbl (4) mae aelodau PC eraill y senedd i'w gweld yn fwy effeithiol e.e. mater ail-enwi Pont Hafren. (5) Mae ganddi ddelwedd fod 'cabal' o'i chwmpas sy'n gweld materion adain-chwith Prydeinig yn bwysicach na chenedlaetholdeb a Chymreictod. (6) Mae'n anlwcus. Gwendid peryclaf unrhyw wleidydd - nid ei bai hi oedd DET na McEvoy na'r mater diweddaraf.

Marconatrix said...

Diolch, diddorol dros ben ...

BoiCymraeg said...

Dwi ddim yn meddwl bod neb yn honni bod rhyw dirywiad enfawr wedi bod ym mhleidlais y Blaid ac yn sicr dydw i erioed wedi clywed unrhywun yn awgrymu bod unrhyw fath o 'oes aur' wedi bodoli yn y gorffennol o ran ei pherfformiad etholiadol.

Ar yr un pryd, mae'r union ystadegau yr wyt ti'n eu dyfynu uchod yn amlygu nad yw'r Blaid, am ba bynnag rheswm, wedi llwyddo i apelio at fwy na chyfran gymharol fach o'r boblogaeth ers bron i 50 mlynedd bellach. Rwyt ti'n dweud nad oes tystiolaeth o ddirywiad etholiadol o dan Leanne, a byddwn i'n cytuno i ryw raddau â hyny, ond ar yr un pryd nid ydym chwaith wedi gweld y cynnydd yr oeddwn i (a nifer fawr o'r rhai eraill a bleidleisiodd drosti) wedi gobeithio gweld. Adeg etholiad 2016 roeddwn yn gweld y canlyniadau agos yng Ngorllewin Caerdydd a Blaenau Gwent fel tystiolaeth bod rhywfaint o gynnydd wedi digwydd, ond o ddiystyru yr etholaethau hyny (a'r Rhondda) dirywiad cyffredinol oedd hanes pleidlais y blaid dros fwyafrif y wlad. Ag ôl ddoethineb mae canlyniadau Blaenau Gwent a Gorllewin Caerdydd nawr yn edrych llawer mwy fel llwyddiant ymgeiswyr and ymgyrchoedd lleol yn hytrach nag apêl Leanne, a dwi ddim yn hyderus o gwbwl gweld llwyddiant ymhellach yn yr etholaethau hyny tro nesaf o gofio bod y ddau ymgeisydd a ddaeth mor agos wedi cwympo mas go iawn â Leanne.

Felly'r gorau gall Leanne honni yw ei bod wedi llwyddo cynnal pleidlais y Blaid, ynlle ei chynyddu fel y gobeithiwyd. Ydy, mae'r cyd-destun etholiadol - diffyg a diffygion y cyfryngau Cymreig, Toriaid mewn grym, Brecsit ac ati - wedi bod yn llai ffafriol, ond mae'r SNP wedi llwyddo i wneud tir sylweddol o dan amgylchiadau tebyg. Roedd yr SNP a Phlaid Cymru mewn sefyllfa tebyg i'w gilydd yn 1999 ond afraid dweud nad yw hyny'n wir bellach. Wrth gwrs dydy hi ddim yn deg i briodoli pob dim wrth ddrws Leanne ond mae'n rhaid iddi gymryd cyfrifoldeb am ganlyniadau'r Blaid gan mae hi yw'r arweinydd. Mae hyny'n ran o fod yn arweinydd.

Hyd yn oed os diystyrwn ni ganlyniadau etholiadol y Blaid, mae agweddau eraill o'i harweinyddiaeth y gall achosi pryder i'r aelodaeth: dwi ddim yn credu y bu iddi ddelio'n dda â Dafydd El heb sôn am Neil McEvoy; a'r pryderon hollol teg mae pobl fel Ifan Morgan Jones wedi codi am y ffordd mae wedi canolbwyntio gymaint ar bethau fel cyfreithloni canabis a hawliau traws - pethau sydd yn bwysig wrth gwrs ond pethau yn y bôn sy'n amherthnasol i neges greiddiol y Blaid. Pryderon rhesymol yw'r rhain a rhai nad ydw i wedi gweld Leanne na'i chefnogwyr yn mynd i'r afael â nhw.