Saturday, April 21, 2018

Dawns y Deinasor - unwaith eto

Mae yna ormod o gwestiynau yng ngholofn Gwilym Owen (Gwarth Cyngor Gwynedd) i’w hateb nhw i gyd – mae yna 9 ohonyn cwestiwn yn ôl fy nghyfri i – a llawer llai o atebion wrth gwrs.  


Carwn fodd bynnag wneud sylw ar un neu ddau o’i sylwadau.


Mae Gwilym yn mynd ati i restru cyflogau cynghorwyr Cyngor Gwynedd fel petai cynghorwyr Gwynedd ydi’r unig rai yng Nghymru sy’n derbyn unrhyw gydnabyddiaeth ariannol – ond yr hyn mae’n ei restru mewn gwirionedd ydi  lwfansau cynghorwyr ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.  Mae’r lwfansau wedi eu pennu gan gorff annibynnol, ac nid yw’r awdurdodau lleol yn cymryd rhan yn y penderfyniad hwnnw.  Felly hefyd y codiad o £200 y flwyddyn (neu 1.49% o gymharu a chyfradd chwyddiant o 2.5%) mae pob cynghorydd sir yng Nghymru yn derbyn y codiad, a chorff annibynnol sy’n gwneud y penderfyniad.  Mae’n gywir i ddweud bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi awgrymu codiad cyflog yn un o’r ychydig feysydd lle mae disgresiwn ganddo i wneud hynny (mewn perthynas a chadeirydd y Cyngor), ond bydd rhaid i’r Cyngor llawn dderbyn yr argymhelliad, ac mae hynny ymhell, bell o fod yn sicr.  


Ac mae hyn yn nodweddiadol o Gwilym wrth gwrs – trin Gwynedd fel petai yn blaned ar ei phen ei hun – ac anwybyddu’r ffaith bod yna gynghorau eraill – ac mae nifer dda o’r rheiny yn cael eu rheoli gan hoff blaid Gwilym wrth gwrs.  Yr hyn wnewch chi byth ei glywed gan Gwilym, na beirniaid y Blaid yng Ngwynedd ydi’r cyd destun ehangach i’r toriadau mewn gwasanaethau, sef polisi Toriaidd yn Llundain o barhau efo llymder – er ei bod yn amlwg bellach nad yw’n gweithio – a pholisi Llafur yng Nghaerdydd o beidio a throsglwyddo unrhyw gynnydd maent yn ei dderbyn o Lundain i’r cynghorau lleol.


Mae yna un peth arall sydd gen i.


Mae’r cyfeiriad at ‘ddosbarth canol elitaidd sy’n byw yn fras ar Gymreictod (trwy) odro’r pwrs cyhoeddus’ yn honiad mae Gwilym wedi ei wneud droeon yn y gorffennol ac mae’n nonsens sydd hefyd yn  niweidiol i’r Gymraeg.  Yr unig bobl ‘dwi’n gallu meddwl amdanynt sy’n ‘byw ar y Gymraeg’ ydi pobl sy’n gweithio i’r mentrau iaith, neu i Gomiwsiynydd y Gymraeg.  Mae yna bobl sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg wrth gwrs – athrawon, gweithwyr llywodraeth leol (yng Nghwynedd o leiaf), pobl sy’n gweithio i gwmnïau teledu ac ati.  Ond dydyn nhw ddim yn ‘byw ar y Gymraeg’, ddim mwy nag ydi pobl sy’n gwneud union yr un swyddi trwy gyfrwng y Saesneg yn ‘byw ar y Saesneg’.  Yn wir mae’r honiad yn awgrymu cred waelodol ar ran Gwilym bod yna rhywbeth abnormal am weithio trwy gyfrwng y Gymraeg – ac mae’r canfyddiad hwnnw, a’r cyhuddiad sy’n dod yn ei sgil yn sylfaenol niweidiol i’r Gymraeg.  Dwi’n gwybod bod Gwilym yn dipyn o ddeinasor – ond mae gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhywbeth sydd wedi ei hen sefydlu bellach - ac efallai y dylai Gwilym wneud rhyw fath o ymdrech i symud ymlaen efo hynny os dim arall.  

3 comments:

Anonymous said...

Allan o'r adran " Blogiau dwi'n eu dilyn" dyfala pwy yw awdur y canlynol :

"My father was once sued by a Welshman, and the entire proceedings were conducted in Welsh, leading to the farcical situation that a native citizen of the UK appearing in a court in the UK against another native citizen of the UK had to hire a translator to defend himself even though every single person in the room spoke perfect English and had done all their life."

Cai Larsen said...

Wings.

Anonymous said...

Ti'n iawn. Un rhyfedd ydi o weithiau hefo'r Gaeleg ( a'r Gymraeg, mae'n amlwg)