Bydd Bangor yn hynod bwysig i dynged Cyngor Gwynedd ar ol yr etholiadau – yn bwysicach nag unrhyw le arall efallai.
Mae’r ddinas yn an nodweddiadol o weddill Gwynedd. Fe’i lleolir yn Nwyrain Arfon, ac mae’n gymharol Seisnig o ran iaith – gorllewin Arfon ydi’r rhan Cymreiciaf o Gymru – yn ieithyddol o leiaf.
'Dydi cynllun ail strwythuro addysg gynradd Gwynedd ddim yn cael effaith mawr yma, ond mae’r cynllun i ffederaleiddio Ein Harglwyddes gyda Santes Helen yng Nghaernarfon yn poeni rhai o Babyddion y ddinas.
Nid oes traddodiad cryf o wleidyddiaeth annibynnol yma – gwleidyddiaeth bleidiol sydd i’r ddinas, ac felly y bu pethau ers talwm. Yn draddodiadol Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol fu’n cystadlu yma, ond daeth Plaid Cymru yn rym gwleidyddol yn y ddinas tros y ddegawd diwethaf. Tir hesb iawn ydyw i’r Toriaid – ar lefel gwleidyddiaeth leol o leiaf. Dydi Llais Gwynedd ddim yn ffactor o gwbl yn y rhan yma o'r sir. Mae nifer o’r wardiau yn agos iawn o ran cefnogaeth wleidyddol, ac o ganlyniad mae’n anodd iawn darogan beth sy’n debygol o ddigwydd i'r rhan fwyaf o'r seddau.
Mae un ffactor a allai fod o gymorth i'r Democratiaid Rhyddfrydol ym Menai a Deiniol a Phlaid Cymru yn Garth - yn etholiad 2004 roedd y myfyrwyr adref. Mae nhw wrth eu desgiau, neu o leiaf wrth y bar eleni.
Ta waeth – mi geisiaf roi cynnig arni, gan ddechrau efo’r rhai hawdd. Gair bach o eglurhad cyn cychwyn. Yn gwahanol i’r rhan fwyaf o Wynedd, ‘dwi’n meddwl bod gogwydd gwleidyddol ‘cenedlaethol’ yn cael rhywfaint o effaith ar etholiadau lleol yma – a ‘dwi’n cymryd gwendid ‘cenedlaethol’ Llafur i ystyriaeth wrth ddarogan.
Marchog – Stad dai cyngor enfawr ac hynod ddi freintiedig ar gyrion Bangor ydi’r rhan fwyaf o ddigon o’r ward yma. Mae’n debyg gen i mai dyma’r lle gwanaf i Blaid Cymru yn etholaeth Arfon – ac yn ol pob tebyg yng Ngwynedd i gyd. Ceir dwy sedd yn y ward yma.
Tri ymgeisydd sydd ar wefan Gwynedd ar hyn o bryd – er bod pedwerydd yn gynharach yn yr wythnos. Mae’n debyg gen i fod yr ymgeisydd BNP wedi tynnu’n ol. Ychydig o wahaniaeth mae hyn yn ei wneud – ychydig iawn o dyndra hiliol sydd ym Maes G – ac mae’r BNP angen hynny er mwyn denu cefnogaeth o unrhyw fath.
Y tri ymgeisydd yw Keith Greenly-Jones, Llafurwr hwyliog a phoblogaidd, Sylvia Humphreys, Annibynnol a Derek Hainge, Llafurwr arall. Union yr un tri a safodd o’r blaen a Keith a Sylvia a etholwyd yn hawdd. Fedra i ddim gweld unrhyw reswm i bethau fod yn gwahanol y tro hwn. Felly 1 Llafur ac 1 Annibynnol.
Glyder: Mae’r ward yma yn cwmpasu ardaloedd Ffriddoedd a rhan ddwyreiniol Penrhosgarnedd – pentref ar gyrion Bangor sydd wedi bod yn gadarnle i’r Blaid ar lefel lleol ers degawdau. Un sedd a dau ymgeisydd – Dai Rees Jones ar ran y Blaid a Douglas Madge ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd tri yn y ras y tro o’r blaen gyda Bryn Hughes yn sefyll ar ran Llafur. Cafodd Dai ychydig yn llai na 50% o’r bleidlais, a daeth Bryn yn ail o drwch blewyn. Yn gyffredinol mae’n well i’r Blaid ym Mangor pan mae Llafur a’r DRh yn sefyll yn hytrach nag un o'r ddau yn unig, ond mae’r bwlch yn rhy fawr yma i wneud gwahaniaeth. Dai Books i ennill gyda llai o fwyafrif nag o’r blaen. 1 sedd i’r Blaid felly.
Dewi: Ward ddiddorol iawn. Dylai’r rhan yma o Orllewin Bangor fod yn gadarnle Llafur, ac yn wir cafodd Eddie Dogan – un o hynafwyr y Blaid Lafur ym Mangor ddwywaith cymaint a’r Pleidiwr a’r Democrat Rhyddfrydol gyda’i gilydd yn 2004. Ond mae Eddie wedi dod trosodd at y Blaid ers hynny – gan roi i’r Blaid yng Ngwynedd gynghorydd Pabyddol a chynghorwydd di Gymraeg am y tro cyntaf. Dim ond Llafurwr sy’n ei erbyn y tro hwn – Dorothy Bulled. Dydi Dorothy ddim yn byw yn y ward – mae’n byw ym Maesgerchen. Go brin y caiff Eddie bleidlais mor uchel y tro hwn - mae pleidlais soled i Lafur yng Nghoed Mawr - a fydd llawer o honno ddim yn trosglwyddo i'r Blaid – ond fyddwn i ddim yn betio yn ei erbyn - mae'n boblogaidd ac adnabyddus. Dim newid unwaith eto felly. Sedd arall i’r Blaid.
Deiniol: Canol Bangor ydi Deiniol, ac mae’r ward yn drawiadol oherwydd bod cyn lleied o’i etholwyr yn trafferthu i bleidleisio. 19% a bleidleisiodd o’r blaen. Un ward yng Ngwynedd oedd a chyfradd pleidleisio salach – Menai (Bangor) gydag 17%. Dewi Llywelyn (Plaid Cymru) a enilliodd – ond gyda 77 o bleidleisiau yn unig. Roedd y Rhyddfrydwr Democrataidd a’r Llafurwr tua ugain pleidlais y tu ol iddo.
Mae Dewi’n sefyll eto, ac mae Democrat Rhyddfrydol a Llafurwr yn yr ornest unwaith eto hefyd. Mae’n amhosibl galw hon – yn arbennig gan nad wyf yn gwybod dim am Richard Joyce ac Anthony Roberts. Mae llawer o’r boblogaeth yn symudol, ac nid ydi llefydd felly yn dda i Blaid Cymru gan amlaf – ond ‘dydi pobl symudol ddim yn dueddol o bleidleisio mewn etholiadau lleol. Os bydd y bleidlais yn uchel y Democrat Rhyddfrydol fydd yn ennill, os bydd yn isel mae gan Dewi gyfle da – mae’n hynod drefnus, ac mae wedi gweithio ar yr ychydig dai cyngor yn ei ward. Mae’n amhosibl darogan yn gywir– ond i gadw at y rheol dim jibio fe a i am y Democrat Rhyddfrydol. Mae llefydd gyda phoblogaethau ansefydlog yn anodd iawn i’r Blaid fel rheol. Plaid yn colli a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill felly.
Hendre: William Lovelock (Llafur) ydi’r aelod ar hyn o bryd. John Wynn Jones (Plaid Cymru) ydi ei unig wrthwynebydd. Yr un dau oedd yn sefyll yn 2004 gyda William Lovelock yn ennill o ddwy bleidlais yn unig ar gyfradd pleidleisio cymharol isel o 33%. Mae William Lovelock yn berson dymunol a chwrtais, ond distaw. Mae John Wynn yn fwy adnabyddus o lawer. Er y byddai’n well iddo pe bai yna Lib Dem yn y ras hefyd, ‘dwi’n rhagweld y bydd amhoblogrwydd ehangach Llafur yn gwneud y gwahaniaeth yma, ac y bydd John Wynn yn ennill y sedd. Plaid yn ennill a Llafur yn colli felly.
Menai: (Bangor – mae ward o’r un enw yng Nghaernarfon hefyd). Ward arall ag iddi ddwy sedd. Gwr a gwraig – June a Keith Marshall sy’n sefyll i’r Democratiaid Rhyddfrydol, a Stephen Landsdown – tad Gwenllian (prif weithredwr y Blaid) yw eu hunig wrthwynebydd ar ran Plaid Cymru. Mae’r ward hon yn cynnwys Bangor Uchaf, a’r holl neuaddau preswyl sydd yn y fan honno. Mae June yn gynghorydd ar hyn o bryd, ond mae ei chyd aelod, Cathy Thomas (Dem Rhyd arall) yn rhoi’r gorau iddi, felly yn gadael lle i Keith. Roedd Keith ar yr hen Gyngor Gwynedd, ond nid yw wedi bod yn aelod ar yr un newydd.
Y gyfradd bleidleisio ydi’r allwedd yma. 17% a bleidleisiodd yn 2004 – ymysg y cyfraddau isaf yn y wlad. Os mai pobl gynhenid Bangor fydd yn pleidleisio, yna bydd Stephen cymryd sedd. Mae’r Landsdowns yn un o hen deuluoedd Bangor, a bydd nifer yn pleidleisio iddo na bleidleisiodd i Dyfrig Wyn Jones yn 2004. Os bydd y gymuned sy’n gysylltiedig a’r Brifysgol yn pleidleisio mewn unrhyw niferoedd, yna’r ddau Marshall fydd yn ennill. Yn fy marn i bydd June a Stephen yn ennill sedd ar bleidlais isel. Plaid Cymru yn ennill un a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn colli un felly.
Garth: Gogledd Ddwyrain y ddinas. John Wyn Meredith (Plaid Cymru) sy’n dal y sedd hon, a’i wrthwynebwraig ydi’r ymgeisydd Annibynnol, Lesley Day. Yr un ymgeiswyr oedd yn sefyll yn 04 gyda John Wyn yn cael pedair pleidlais ar ddeg yn fwy na Lesley – ar gyfradd pleidleisio o 30%. Mae neuadd breswyl Gymraeg John Morris Jones yn y ward – ac mae’n hanfodol os ydi’r Blaid i lwyddo i gael y bleidlais allan yno. ‘Dwi’n mynd am John Wyn – ond heb fawr o hyder – gall fynd y naill ffordd neu’r llall. Plaid Cymru i gadw eu sedd felly.
Hirael: Cymdogaeth i’r dwyrain o ganol y ddinas ydi Hirael, ac roedd yn gymuned sefydlog, cymharol Gymraeg ei hiaith tan rhyw bymtheg mlynedd yn ol. Mae pethau wedi newid erbyn heddiw. Jean Roscoe – y Democrat Rhyddfrydol mwyaf effeithiol o ddigon ar Gyngor Gwynedd sy’n cynrychioli’r ward ar hyn o bryd. Ni fydd yn sefyll y tro hwn - dydi ei hiechyd heb fod yn dda iawn gwaetha'r modd. Pe byddai, nid oes fawr o amheuaeth y byddai’n ennill. Tri ymgeisydd sydd yn sefyll am un sedd y tro hwn - Evelyn Butler, Llafur, Gwynant Roberts, Plaid Cymru a Jean Forsyth, Democrat Rhyddfrydol. ‘Dwi ddim yn meddwl mai Evelyn fydd yn ennill – un o’r ddau arall fydd yn mynd a hi. Jean Forsyth yn ol pob tebyg, mae'n adnabyddus ac wedi cymryd rhan mewn gwahanol ymgyrchoedd lleol. Sedd i'r Democratiaid Rhyddfrydol mae'n debyg.
Felly fel y dywedais ar y cychwyn, bydd Bangor yn bwysig. Gallai pob Pleidiwr ennill, a gallant oll ag eithrio Dai Books golli. Gallai fod yn 1, a gallai fod yn 7. Gallai Bangor yn hawdd benderfynu os mai Plaid Cymru sy’n rheoli Gwynedd ar ol Mai 1. A (i gael un gallai arall i mewn) gallai’r Blaid fod yn gryfach ar lefel llywodraeth leol ym Mangor ar Fai 2, nag ydyw yn Llyn ac Eifionydd. Rhywbeth fyddai y tu hwnt i’r dychymyg ddeg mlynedd yn ol.
Un ffaith bach nad yw’n bwysig am wn i cyn gorffen. Mae Eddie Dogan, Stephen Landsdown a Douglas Madge yn cyd addoli yn wythnosol yn Eglwys Babyddol Bangor.
12 comments:
Diolch i ti am yr ysgrifau yma parthed Etholiad...mae'nt yn wrthrychol ac yn synhwyrol...os ti'n 'sgwennu am Etholiadau yn Meirionnydd byddaf yn edrych yn ofalus iawn ar dy "take" ar Diffwys a Maenofferen ;-))
Mi dria i 'sgwennu un am Feirion yn hwyrach ymlaen Gwilym - ond y gwir ydi nad ydi fy adnabyddiaeth o'r rhan hwnnw o'r sir yn ddigon da.
Byddai blog gen ti yn fwy diddorol 'dwi'n meddwl.
mae fy mlog i ar lein ers tua pythefnos fel rhan o'r ymgyrch ac mae'n canolbwyntio ar faterion lleol i Stiniog mwy na dim....os gai gyfle i nai drio rhoi rhyweth arno am etholiadau eraill. Be di dy farn di am Benllyn?...yno fydd problem fwya'r Blaid o be dwi'n ei weld a'i glywed. Trafodaeth maes -e'n ddiddorol hefyd heblaw am un neu ddau o gyfraniadau dwl. Hwyl i ti am y tro. Gwil
Cyfeiriad y blog ydi www.gwilymeurosroberts.blogspot.com
Diolch Gwilym.
Mi fydda i yn dod at Ben Llyn maes o law gobeithio. Byddwn yn cytuno a thi mai yno y mae'r drwg deimlad yn erbyn cynlluniau addysg yr AALl ar ei waethaf.
Wedi dweud hynny, efallai na fydd LlG yn manteisio cymaint a mae rhai pobl yn disgwyl. Anwastad braidd ydi safon yr ymgeiswyr sydd ganddynt yno. Ond galli fod yn sicr y bydd rhai yn ennill seddi.
'Dwi ddim yn gweld LlG yn ennill llawer yn Arfon - dwy efallai - ond byddwn yn dod at hynny yn hwyrach.
Dadansoddiad treiddgar dros ben, chwarae teg. Mae gen i ddiddordeb mewn darllen, gan mai fi yw'r Dyfrig Jones a safodd yn Menai tro dwytha, a fy nhad yw John Jones a safodd yn Hendre.
Dwn i ddim beth ddigwyddith yn Menai y tro hwn. Dwi ddim yn amau bod Stephen yn well ymgeisydd na fi, ond mae'r ardal yn dalcen galed.
Er bod Stephen yn adnabyddus ym Mangor, mae yn byw ym Mhenrhosgarnedd, ac mae hon yn ward lle mae'r trigolion sefydlog (h.y. ddim y myfyrwyr) yn hynod o blwyfol. Hefyd, mae'n rhaid cofio bod ymgeisydd Llafur wedi sefyll y tro dwytha, a bod y myfyrwyr ar eu gwyliau. Dyw Neuadd Gymraeg JMJ dim o fewn y ward, felly myfyrwyr o Loegr yw'r rhai sy'n debygol o bleidleisio o'r newydd y tro yma, a dwi ddim yn credu eu bod yn debygol o wybod rhyw lawer am Blaid Cymru.
Dwi'n gobeithio yn arw y bydd Stephen yn llwyddianus, ond fe fydd yn dipyn o gamp.
Diolch yn fawr Dyfrig.
Sut mae pethau'n mynd yn Hendre?
Dwi'n meddwl bod fy nhad yn obeithiol, a bod yr ymgyrch yn mynd yn o lew. Pryd ti'n debygol o darro golwg ar Ddyffryn Ogwen? Dwi ishio gwybod faint o jans sgen i o guro Godfrey Northam.
Mi fydda i yn gwneud Dyffryn Ogwen nesaf - erbyn diwedd yr wythnos. Paid a chymryd fod fy ngair i yn ddwyfol - gesio ydw i fel pawb arall - jest bod gen i fwy o wybodaeth ambell waith.
Cwestiwn cyn i mi wneud Dyffryn Ogwen. Pam mor aml mae Ann wedi bod yn canfasio efo chdi?
Gyda llaw - 'dwi'n gwybod fel ffaith bod Godfrey'n cachu poeni.
O ran Garth (sy'n cynnwys JMJ y neuadd lle dwi'n warden) roeddw ni'n siarad gyda John Meredith pwy ddiwrnod ac roedd e'n dweud ei fod e'n sefyll yn ddi-wrthwynebiad. Tithau neu efe sy'n gwybod orau - roedd en eitha lathargic ei agwedd am gael pleidleiswyr JMJ allan oherwydd hynny, os nad yw hyn yn wir a bod ganddo wrthwynebiad gad mi wybod asap er mwyn i mi ddechrau llunio strategaeth get the JMJ crew owt!
Llugoer oedd fy agwedd i tuag at yr etholiadau yma a doeddw ni ddim wedi bwriadu codi bys i'r Blaid ond gan fod ymgeisydd fy ward yma yn y Garth yn un o'r 12 rebel a bledleisiodd yn erbyn y cynllun ysgolion dwi'n eiddgar i'w gynorthwyo lle fedra i.
Dwi heb fod allan efo Ann hyd yn hyn, ond dwi'n bwriadu mynd efo hi wythnos nesa. Ar y funud, dwi wedi ceisio targedu etholwyr newydd, gan drio cael cymaint ar y gofrestr am y tro cyntaf a sy'n bosib. Dwi'n cael ymateb da iawn gan bobl sydd ddim yn arfer pleidleisio, a hynny oherwydd mod i'n ifanc (fi yw'r ymgeisydd ieuengaf trwy Wynedd, dwi'n credu) ac am fy mod i'n ymgeisydd newydd (h.y. ddim yn un o'r "usual suspects").
Wedi dweud hynny, mae Mr Northam yn aelod gweithgar ac uchel ei barch, a dwi'n cydnabod bod Gerlan yn dalcen caled i'r Blaid. Ond dwi ddim yn credu ei bod hi'n amhosib i mi ennill, o bell ffordd.
Post a Comment