Fel mae unrhyw un sy'n dilyn y newyddion yng Nghymru yn gwybod mae awdurdodau addysg ar hyd a lled y wlad yn gorfod ystyried ad drefnu eu darpariaeth ysgolion cynradd. Dwy broblem a dau gorff cyhoeddus sy'n gyrru'r newid yma.
Ysgol Llanystumdwy
Y problemau ydi bod gormod o lefydd gwag oddi fewn i'r sector a bod gwahaniaeth sylweddol rhwng yr hyn sy'n cael ei wario ar blant mewn gwahanol rannau o'r sector. Mae'r ddau sefyllfa yn ddrud ac yn wastraffus o ran adnoddau. Dyna pam bod y corff sy'n arolygu safonau addysg yng Nghymru - ESTYN, yn ogystal a'r corff sy'n gyfrifol am sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n effeithiol - y Comisiwn Archwilio yn mynu bod awdurdodau lleol yn 'ail strwythuro' eu darpariaeth gynradd.
Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd term neis am gau ysgolion ydi 'ail strwythuro', ac yn wir dyna mae awdurdodau addysg led led y wlad yn ei wneud. Prin bod wythnos yn mynd heibio heb bod son am rhyw brotest neu'i gilydd i amddiffyn rhyw ysgol neu'i gilydd yn rhywle neu'i gilydd.
Nid dyma'r union sefyllfa yng Ngwynedd. Cafwyd dwy flynedd o ymgynghori'n maith helaeth gyda phawb a phopeth, ac addewidion mai ychydig iawn o lefydd fyddai'n cau, ond yn mynu bod rhaid creu haenen newydd reolaethol. Canlyniad cwbl ragweladwy hyn oll i'r Awdurdod oedd cael eu lambastio gan ESTYN am fethu a wynebu eu problemau. Felly dyma anghofio'r ymgynghoriad drudfawr, a pharatoi adroddiad newydd, tra gwahanol i ddeilliannau'r hen broses ymgynghori.
Llond dwrn o bobl oedd yn gyfrifol am yr adroddiad yma - pedwar neu bump o swyddogion a chynghorwyr. Y ddau swyddog oedd yn bennaf gyfrifol oedd Iwan Trefor Jones ac Iwan Roberts, ac mae enw tri chynghorydd ar waelod yr adroddiad - Dafydd Iwan, Richard Parry Hughes a Dyfed Edwards - er nad oedd gan yr olaf unrhyw ran mewn ysgrifennu'r adroddiad. Mae'r tri yn ffigyrau pwysig i Blaid Cymru yng Ngwynedd, ac mae Dafydd Iwan wrth gwrs yn llywydd y Blaid ar lefel cenedlaethol.
Nid yw'n fwriad gen i drafod gwerth addysgol yr adroddiad yma ag eithrio i nodi bod iddi rinweddau yn ogystal a diffygion. I bwrpas yr ymarferiad yma ei oblygiadau gwleidyddol sydd yn bwysig.
Argymhelliad yr adroddiad ydi cau 29 o ysgolion, agor 8 a defnyddio'r arian a arbedir trwy gau sefydliadau i ariannu haenen newydd reolaethol fydd yn effeithio ar y rhan fwyaf o ysgolion y sir o ddigon. Felly yn ogystal a chau 21 o ysgolion, bydd y rhan fwyaf o'r gweddill yn colli eu statws fel ysgol, eu cyrff llywodraethu a'r hawl i fod a phennaeth iddynt hwy eu hunain. Mae'r cynlluniau yn llawer mwy pell gyrhaeddol a radical nag unrhyw gynlluniau eraill yng Nghymru - maent hefyd yn effeithio ar llawer mwy o sefydliadau.
Fel aelod gweithgar o Blaid Cymru, mae'n ddrwg calon gen i ddatgan y farn bod yr adroddiad am arwain at drychineb gwleidyddol i'r Blaid. Mae'n feirniadaeth deg ar y Blaid Lafur yng Nghymru mai ei phrif raison d'etre ydi amddiffyn buddianau ei chleiantiaid. Ni ellir cyhuddo'r Blaid o hyn yng Ngwynedd. Yn wir, gellid dadlau ei bod yn ymosod ar fuddiannau ei chefnogwyr ei hun. Ni ellir chwaith gyhuddo'r Blaid yng Ngwynedd o lyfdra, yn wir mae iddi ddewrder Cwicsotaidd.
Y rhannau o Wynedd sy'n pleidleisio drymaf tros y Blaid ydi pentrefi gwledig Cymraeg eu hiaith. Mae'r cynlluniau hyn yn effeithio ar bentrefi felly mwy na mae'n effeithio ar unrhyw lefydd eraill. Y sector o'r gweithly sydd fwyaf cefnogol i'r Blaid yng Ngwynedd ydi'r sector addysg. Mae llawer, llawer mwy o bobl sy'n gweithio i'r sector honno yn gwrthwynebu'r cynlluniau nag sydd yn eu cefnogi. Yn wir, mae'r cynlluniau yn bygwth bywoliaeth nifer arwyddocaol o weithwyr y sector.
Cymhlethir pethau gan y ffaith na chymerwyd unrhyw sylw o ganfyddiadau'r ymgynghori blaenorol. Bydd siniciaeth llwyr ynghlwm a'r ymgynghori nesaf.
Yn waeth na dim, mae'r newidiadau yn digwydd yn ystod cyfnod etholiadau lleol. Bydd yr adroddiad yn dod ger bron y cyngor llawn ym mis Rhagfyr, bydd ymghynghori yn digwydd ym mis Ionawr a Chwefror a bydd yr etholiadau ym mis Mai.
Mi fyddwn i'n tybio y bydd rhywun neu'i gilydd yn sefyll yn erbyn bron i bob cynghorydd Plaid Cymru sydd wedi pleidleisio o blaid yr adroddiad, yn ogystal a nifer fydd wedi pleidleisio yn ei herbyn. 'Dwi'n gwybod fel ffaith y bydd nifer fawr o bobl sydd wedi pleidleisio i'r Blaid trwy'r blynyddoedd (gan gynnwys rhai o'i gweithwyr caletaf) yn atal eu pleidlais neu yn pleidleisio yn ei herbyn. Am fisoedd cyn yr etholiad cyngor diwethaf bu'r Blaid yn canolbwyntio ei hymdrechion ar ddod o hyd i ymgeiswyr cryf ar gyfer yr etholiadau. Y tro hwn buom yn canolbwyntio ar ail strwythuro ysgolion.
Mae'n arwyddocaol bod dau o'r tri gwleidydd sydd a'u henwau ar waelod y ddogfen yn dod o'r tu allan i Wynedd. Mae gen i ofn nad ydynt yn deall gwleidyddiaeth y sir. Nid cenedlaetholdeb Cymreig ydi'r brif ffrwd gwleidyddol yng Ngwynedd - brogarwch a'r cystadleuaeth rhwng pentrefi ac ardaloedd sy'n dod yn sgil hynny ydi hanfod gwleidyddiaeth y sir. Mae'r cynllun yma yn mynd yn gwbl groes i'r lli yma - mae'n gosod y Blaid ben ben a llawer iawn o bobl - nifer fawr ohonynt yn gefnogwyr naturiol iddi. Efallai ei bod yn edrych yn dda ar lefel deallusol, ond yn wleidyddol mae'n gwbl naif.
Canlyniad anhepgor hyn yw y bydd y Blaid yn colli rheolaeth ar Wynedd ym mis Mai. Bydd plaid neu bleidiau newydd yn cael eu ffurfio yng Ngwynedd yn unswydd i wrthwynebu'r Blaid, a byddant yn apelio yn uniongyrchol at ei chefnogwyr naturiol. Ymhellach ymlaen yn yr etholiad cyffredinol nesaf, os na fydd newid sylweddol bydd cwymp arwyddocaol ym mhleidlais Elfyn (ond bydd ei sedd yn saff), a bydd bygythiad gwirioneddol i sedd Hywel - sedd a fyddai oni bai am hyn oll yn gwbl ddiogel.
Mae pawb yn deall bod penderfyniadau anodd yn gorfod cael eu gwneud, ond yr hyn a ddylai'r Blaid fod wedi ei wneud ydi minimeiddio yn hytrach na macsimeiddio'r penderfyniadau hynny, ceisio adeiladu consensws yn hytrach na chynnen a chadw y llywydd cyn belled a phosibl oddi wrth unrhyw benderfyniadau amhoblogaidd. Am rhyw reswm sydd y tu hwnt i mi rydym wedi stampio'r newidiadau cwbl amhoblogaidd hyn gyda'r triban.
No comments:
Post a Comment