Twee oedd yr ansoddair Saesneg dilornus a ddefnyddiodd un o uchel swyddogion Amgueddfa Genedlaethol Cymru wrth gyfeirio at Amgueddfa Werin Sain Ffagan mewn sgwrs (braidd yn feddw, rhaid cyfaddef) efo fi'n yn yr
Anglesey ddiweddar.
Ar un olwg mae'n ddigon hawdd cytuno efo fo. Mae llawer - nid y cwbl wrth gwrs - o'r adeiladau sydd i'w gweld ynddo yn adlewyrchu cyfnodau cyn ddiwydiannol, ac yn adlewyrchu bywydau pobl oedd cryn dipyn yn gyfoethocach na'r helyw o'u cyfoedion. Go brin y byddai eu haneddau wedi goroesi oni bai am hynny. Yr ymdeimlad cyffredinol mae'r lle yn ei adael ydi un o rhyw lonyddwch gwledig delfrydol - llonyddwch nad oedd yn bodoli mewn gwirionedd.
Yn sicr, mae'r argraff cyffredinol yn dra gwahanol i'r hyn a geir yn yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis neu
Big Pit ym Mlaenafon. Ceir ymdeimlad uniongyrchol iawn o galedi corfforol bywyd , ynghyd a blas o'r cyfeillgarwch a chymuned yn y lleoedd hynny. Adlais, ond adlais digon nerthol, o gymunedau a gwerthoedd y cymunedau hynny, cymunedau sydd bellach wedi mynd i ddifancoll.
Serch hynny, beth bynnag barn y swyddog, 'dwi'n ddigon hoff o Sain Ffagan - nid cymaint oherwydd ethos cyffredinol y lle, ond oherwydd rhai o'r adeiladau unigol. Dau o fy hoff adeiladau yn bersonol ydi Bwthyn Llainfadyn a Beudy Cae Adda. Mae'r ddau yn adeiladau o'r ddeunawfed ganrif sydd wedi eu symud o Wynedd - y naill o Rostryfan, a'r llall o'r Waunfawr.
Adeiladau ydynt wedi eu codi o gerrig y mynydd, ac oherwydd hynny maent wedi goroesi - yn gwahanol i lawer o adeiladau eraill y cyfnod. Fel plant roeddem yn arfer chwarae mewn adfeilion bythynod a beudai digon tebyg yng nghaeau plwyf Llanddeiniolen. Yn aml byddai yna goed eirin, neu goed afalau yn y gerddi a llwybr troed cul yn unig fyddai'n arwain atynt o gamfa wrth ochr y ffordd fawr.
Mae'n rhaid bod hel yr holl gerrig o'r tir mynyddig a'u cludo i safle'r cartref yn waith poenus o galed ynddo'i hun, heb son am godi'r ty wedyn. Ymdrech dorfol i deulu estynedig cyfan mae'n siwr. Ac ar ol codi'r ty roedd rhaid mynd ati i blanu coed ffrwythau, gwyngalchu'r waliau, a gwneud beth bynnag oedd angen ei wneud i droi'r gwagle oddi mewn i hen gerrig y mynydd cyntefig yn gartref i deulu, yn ffocws i'w delfrydau. 'Dwi'n cofio fel ddoe tri neu bedwar ohonom yn mochel rhag cawod drom yn un o'r tai hyn ac yn teimlo ychydig o'r cynhesrwydd diddan oedd yn perthyn i'r adeilad pan oedd o'n gartref i deulu oedd erbyn hynny wedi hen ddychwelyd i'r pridd.
Bwthyn Llainfadyn
Beudy Cae Adda
Mor
twee ag ymddengys y lle ar un olwg, o edrych ar ambell i adeilad a'i osod yn feddyliol yn ei gyd destun go iawn, ac o ddefnyddio ychydig ar y dychymyg, mae ymweld a'r lle yn brofiad a chymaint o sylwedd iddo nag ymweld a'r un amgueddfa arall. Daw ymdrech, delfryd, gobaith a chariad a sgubwyd ar adain y gwynt yn ol am ennyd fach. Na, lle gwerth chweil, er gwaethaf siniciaeth y sawl sy'n gyfrifol amdano.
Gyda llaw, mae datblygiadau digon diddorol ar y gweill yn Sain Ffagan. Mae Eglwys Llandeilo Tal y Bont yn y broses o gael ei chodi (hen bryd i ni gael eglwys yno.
Eglwys Llandeilo Tal y Bont
Deallaf hefyd bod gorsaf heddlu a thy marsiandwr ar y safle eisoes, ond heb eu codi eto. Ac wrth gwrs mae'n hen bryd cael tafarn yno, cyn gynted a phosibl. awgrymaf dafarn dinesig - Brains efallai. Tybed beth ddaeth o'r Vulcan?