Reit – yn unol ag addewid blwyddyn newydd – dyma atgyfodi’r blog o drwmgwsg sydd wedi parhau braidd yn rhy hir.
Er i’r blogiadau diwethaf ymddangos yma yn 2019, roedd y blogio rheolaidd wedi dod i ben tua thair blynedd ynghynt, yn rhannol – ac yn eironig braidd – oherwydd i mi ymddeol a mynd ati ymhél mwy a gwleidyddiaeth yn fewnol i’r Blaid ac ar raddfa leol yng Ngwynedd.
‘Dwi’n gynghorydd sir a thref tros ward Canol Tref Caernarfon ar Gyngor Gwynedd ers 2017 a ‘dwi hefyd yn eistedd ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Cymru fel ei Chyfarwyddydd Etholiadau.
Arweiniodd mwy o ymwneud diwrnod i ddiwrnod efo gwleidyddiaeth at lai o ryddid i ‘sgwennu yn agored am y pwnc ac at lai o lawer o awydd i wneud hynny.
Felly dyma ymgais i ail gychwyn arni, ond bydd pethau braidd yn wahanol i sut oeddynt yn 2016.
Yn gyntaf fydd ‘na ddim yn agos cymaint o flogio nag oedd yn 2016. Roeddwn yn blogio fwy neu lai yn ddyddiol bryd hynny. Yn y dyfodol byddaf yn ceisio blogio unwaith yr wythnos, ond ‘dwi ddim yn addo cadw at hynny.
Yn ail mae gwleidyddiaeth – a fy rôl innau mewn gwleidyddiaeth – wedi newid a bydd y blog yn rhwym o adlewyrchu hynny. Yn wir mae’r dirwedd wleidyddol wedi newid yn llwyr mewn cyfnod byr iawn – i raddau sydd yn ymylu ar fod yn ddigynsail, ac mi wnawn ni gychwyn efo hynny – y gwahaniaeth rhwng y dirwedd wleidyddol rŵan o gymharu a 2016.
‘Dwi wedi dweud uchod mai yn wythnosol y byddaf yn blogio yn y dyfodol, ond byddaf yn gwneud hynny fwy neu lai yn ddyddiol am rhyw wythnos er mwyn sefydlu’r dirwedd wleidyddol newydd rydym yn ei throedio. Byddwn yn cychwyn ar y dasg honno ‘fory.