Monday, September 25, 2017

Amaethyddiaeth, y Gymraeg a Brexit

Mae gen i gof i ffrwyth rhyw ymchwil neu'i gilydd i sut bleidleisiodd ffermwyr yng Nghymru yn refferendwm Ewrop a gafodd ei gyhoeddi yn Sioe Frenhinol y llynedd awgrymu i tua 60% ohonynt bleidleisio i adael yr UE.  Wna i ddim cymryd arnaf fy mod yn deall sut a pham aeth un o'r cydrannau hynny o'r economi sydd wedi elwa fwyaf o'r UE ati i bleidleisio i adael.  Ond mae'n werth edrych ar ganlyniadau posibl gadael yr Undeb serch hynny.



I ddechrau mae taliadau o'r UE yn cyfrif am tua 55% o incwm amaethyddol yn y DU, ac mae 73% o allforion amaethyddol y DU yn mynd i'r UE.  Mae'n anhebygol iawn y bydd y sector amaethyddol yn flaenoriaeth i lywodraeth y DU wrth iddi negydu cytundebau masnach yn y dyfodol - mae'r sector amaeth yn cyfri am tua 0.7% o GDP'r DU yn unig.  Byddai hyn yn rhoi'r sector yn weddol agos at ddiwedd y ciw o ran cael ei blaenori - ac mi fyddai'r gydadran Gymreig yn ei thro ar ddiwedd y ciw hwnnw.  O safbwynt llywodraeth y DU mae barwniaid grawn East Anglia yn llawer pwysicach na ffermwyr defaid Eryri.  

Ac nid dyna'r gwaethaf.  Un o'r prif ddadleuon tros adael yr UE oedd y byddai hynny'n galluogi'r DU i negydu cytundebau masnach rydd efo gwledydd y tu hwnt i'r DU.  Petai hyn yn digwydd byddai yn arwain at lawer mwy o fewnforion rhad o ansawdd is na'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd ar y farchnad.   Mae cig o Seland Newydd (er enghraifft) eisoes yn hynod gystadleuol yn y DU, er iddo gael ei gynhyrchu yn ddi gymhorthdal, iddo gael ei symud o un ochr i'r Byd i'r llall a bod tollau wedi ei dalu arno.  

Mae'n bosibl dadlau y bydd llywodraeth y DU yn dod o hyd i'r pres ar gyfer cymorth daliadau wrth gwrs - a gellir dadlau hefyd nad ydi'r gyfundrefn CAP ond wedi ei sicrhau hyd at 2021 ac na chaiff ei adnewyddu.  Ond y gwir amdani ydi bod gan y sector amaethyddol lawer mwy o rym gwleidyddol yn Ewrop na sydd ganddi yma.  Yn ychwanegol at hynny bydd cynnig cymorthdaliadau yn llawer anoddach yn wleidyddol os nad yw'n cael ei ariannu o Ewrop. Os yw'n cael ei dalu yn uniongyrchol o gyllideb llywodraeth y DU bydd yn cystadlu efo addysg, gofal, pensiynau, iechyd ac ati am gyllid - a bydd yn anodd iawn ennill y ddadl yna.

Mewn geiriau eraill gallai gadael yr UE fod yn drychineb i'r diwydiant amaethyddol yng Nghymru.

Felly ydi o dragwyddol bwys bod y diwydiant amaeth yng Nghymru yn crebachu ymhellach - wedi'r cyfan mae'n rhan gweddol fach o 'r economi?  Wel mae'n dibynnu beth sy'n bwysig i chi.  Un o batrymau amlycaf y degawdau diwethaf o ran y Gymraeg ydi ei bod wedi datblygu i fod yn iaith llai gwledig a mwy trefol.  Y rheswm am hyn ydi bod pobl gynhenid (a Chymraeg eu iaith) wedi bod yn symud o ardaloedd gwledig i ardaloedd trefol yng Nghymru, tra bod pobl o Loegr wedi bod yn symud i ardaloedd Cymraeg eu hiaith.  Dyna pam bod Caernarfon (dyweder) yn llawer mwy Cymraeg o ran iaith heddiw na Phen Llyn - er mai'r gwrthwyneb oedd yn wir trwy gydol hanes Cymru.  

Mae un cydadran o'r Gymru wledig wedi parhau'n Gymreig a Chymraeg iawn fodd bynnag - yr adran  amaethyddol.  Byddai colli honno'n ergyd sylweddol i'r Gymraeg yn y Gymru wledig yn gyffredinol ac yn ergyd farwol mewn rhannau helaeth ohoni.

Monday, September 18, 2017

Problemau anarferol Senedd Cymru

Dwi dipyn yn hwyr ar hon, ond dyma bwt ar 20fed penblwydd y Cynulliad / Senedd.

Yn sylfaenol mae gan y Cynulliad / Senedd ddwy broblem waselodol: 

1). Y ffaith ei fod yn ddi eithriad yn cael ei redeg gan y Blaid Lafur.
2). Y ffaith bod y pwerau sydd ganddo yn gyfyng - yn arbennig felly mewn perthynas a materion economaidd.

Wna i ddim son am 2) ar hyn o bryd - ond mae yna ychydig gen i i'w ddweud am 1).

Ar un ystyr mater democrataidd ydi o bod Llafur pob amser mewn grym.  Os ydi etholwyr Cymru eisiau llywodraeth sy'n cael ei harwain gan Lafur er bod perfformiad y llywodraeth yna'n ddifrifol o wael, ac wedi bod yn wael am y rhan fwyaf o hanes y sefydliad, yna mater i'r etholwyr ydi hynny.  

Ond mae yna broblemau systemaidd hefyd - ac mae nhw'n rhai anarferol o'u cymharu a gwledydd eraill.  Dwi wedi torri'r canlynol o wikipedia - mae'r ffigyrau yn dangos perfformiad Llafur ers 1999.  

2016:

Last election30 seats

Seats won29

Seat changeDecrease1

Constituency Vote353,866

 % and swing34.7% Decrease7.6%


2011:

Last election26 seats
Seats won30
Seat changeIncrease4
Constituency Vote401,677
 % and swing42.3% Increase10.1%
2007:

Last election30 seats
Seats won26
Seat changeDecrease4
Constituency Vote314,925
 % and swing32.2% Decrease7.8%

2003: 
Last election28 seats
Seats won30
Seat changeIncrease2
Constituency Vote340,515
 % and swing40.0% Increase2.4%
1999:

Seats won28
Constituency Vote384,671
Percentage37.6%
Felly tros y cyfnod o 20 mlynedd mae canran pleidlais (etholaethol) wedi amrywio rhwng 32.2% a 42.3%  o'r bleidlais genedlaethol.  Mae hynny'n amrediad mawr.  Ond cymharol fach ydi'r amrediad mewn seddi - 4 a bod yn fanwl - 26 ydi'r lleiaf iddynt ei gael a 30 ydi'r mwyaf.  Mae'r system etholiadol ynghyd a dosbarthiad cefnogaeth Llafur yn creu cyfundrefn etholiadol sy'n gyndyn iawn i ymateb i newid etholiadol.

Ond nid y system etholiadol ydi'r unig broblem.  Problem arall ydi bod y rhan fwyaf o bobl Cymru 'n cael eu newyddion o Loegr.  O ganlyniad maent yn edrych ar wleidyddiaeth Cymru trwy brism gwleidyddiaeth Lloegr.  O ganlyniad i hynny mae Llafur yng Nghymru yn tueddu i fod yn boblogaidd pan mae Llafur Lloegr yn boblogaidd, ac yn amhoblogaidd pan mae Llafur Lloegr yn amhoblogaidd.  Felly gall Llafur wneud yn gymharol dda yng Nghymru yn etholiadol hyd yn oed os ydynt yn perfformio'n sal mewn llywodraeth oherwydd eu bod yn cael eu beirniadu mewn cyd destun Cymru / Lloegr. 

 'Dydi sefyllfa lle nad oes yna gysylltiad uniongyrchol a chlir rhwng perfformiad mewn llywodraeth a'r broses etholiadol ddim yn cynnig cymhelliad i lywodraeth berfformio'n dda, ac felly mae'n cynhyrchu cyfundrefn sydd yn ddiffygiol o safbwynt democrataidd.

Sunday, September 17, 2017

Y Dib Lems bach 'na eto.

"'Dyn ni'n gryf iawn yn y canolbarth ac mae 'na obaith newydd yn y gogledd, fel y gwnes i ddarganfod wrth gwrdd รข'n haelodau yno." - Vince Cable.


Hmm.























Sunday, September 10, 2017

Heriau'r Blaid tros y blynyddoedd nesaf

Mae gan pob plaid ei phroblemau - neu i fod yn fwy cadarnhaol heriau.  Dydan ni ddim yn gwybod os fydd yna Etholiad Cyffredinol yn y flwyddyn neu ddwy nesaf - ond os bydd y senedd presenol yn cael tymor llawn, etholiadau Senedd Cymru yn 2021 fydd yr etholiad Cymru gyfan nesaf.  Yn fy marn i y canlynol ydi'r prif heriau sy'n ein hwynebu rhwng rwan a 2021.

1). Sut i wahaniaethu'n glir rhyngom ni a phawb arall, ac yn arbennig felly Llafur.  Roedd ethol Corbyn yn arweinydd y Blaid Lafur yn hynod anghyfleus o safbwynt y Blaid.  Dydi hi bellach ddim yn bosibl lleoli'n hunain i'r Chwith i Lafur.  Mae hi fodd bynnag yn bosibl amlygu'r dwr gwyrdd rhyngom ni a Llafur, ac mae'n bosibl gwneud rhywbeth i wahaniaethu ein hunain a gwleidyddiaeth Adain Chwith hen ffasiwn 'top down' Corbyn a'r ffaith nad yw'n deall datganoli.
2). Sut i ddod tros y ffaith bod yna ganfyddiad nad oes gennym y gallu i wireddu'n hamcanion.  Mae hyn yn arbennig o wir am San Steffan?   Roedd yr hyn roedd y Blaid yn ei addo yn 2015 yn eithaf tebyg i'r hyn roedd Llafur yn ei addo yn 2017, ond wnaeth o ddim cynhyrchu'r un lefelau o gefnogaeth newydd o bell ffordd.  Y prif reswm am hynny ydi bod pobl yn credu bod gan Llafur y gallu i weithredu ar eu addewidion pan nad oes gennym ni.  Efallai y gall hyn newid rhyw gymaint os bydd pobl yn mynd i arfer at y syniad o glymbleidio rheolaidd.
3). Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cael eu holl newyddion, neu'r rhan fwyaf o'u newyddion gan gyfryngau Seisnig. Dydi'r Blaid prin yn ymddangos yn y cyfryw gyfryngau.  Mae cyfryngau Cymru yn atgyfnerthu'r sefyllfa hon i raddau helaeth oherwydd eu bod yn sefydliadol iawn ac amharod i herio'r sawl sy'n dal grym.  Yn wir mae'n hawdd credu weithiau bod yn well gan y cyfryngau Cymreig feirniadu'r hwrthbleidiau ac yn arbennig felly Plaid Cymru, na herio'r sawl sy'n ymarfer grym.  I'r graddau yna mae yna rhywbeth Dwyrain Ewropiaidd iawn am wleidyddiaeth Cymru.  
4). Fel bron i pob mudiad cenedlaethol mae'n rhaid i'r Blaid apelio at amrediad eang o bobl - pobl sydd yn cytuno ynglyn a'r diwylliant Cymreig a statws cyfansoddiadol Cymru ond sy'n anghytuno ynglyn a materion cymdeithasol ac economaidd eraill.  Mae rheoli hyn yn heriol, ac mae'n nesaf peth i amhosibl plesio pawb.
5). Torri allan o'r Gymru Gymraeg.  Mae hyn yn digwydd i raddau weithiau - ond ddim am hir.  Mae pobl sy'n byw yn yr etholaethau Cymraeg eu hiaith yn llawer mwy tebygol o bleidleisio i'r Blaid - ac mae hynny'n cynnwys pobl sydd ddim yn siarad y Gymraeg ond sy'n byw mewn ardaloedd Cymraeg.  Mae cael caer Orllewinol yn bwysig pan mae perhau'n anodd (cymharer a'r Dib Lems sydd ddim efo demograffig naturiol sy'n eu cefnogi), ond mae apelio yn eang wedi bod yn broblem i'r Blaid am y rhan fwyaf o'i hanes - ac mae'n dal i fod yn broblem.
7). Rydan ni'n gwleidydda mewn ffordd rhy gadarnhaol.   Mae Llafur wedi ennill pob Etholiad Cyffredinol yng Nghymru ers bron i ganrif, mae wedi rheoli'r Cynulliad / Senedd ers sefydlu datganoli ac mae nhw bron yn ddi eithriad yn rheoli mwy o gynghorau na'r un blaid arall ac mae ei haelodau'n britho cyrff cyhoeddus ar hyd a lled Cymru.  Ac eto rydym - fel gwlad - yn agos at waelod bron i pob tabl rhyngwladol - mewn perthynas a gwledydd cyffelyb o leiaf.  Mae gwleidyddiaeth negyddol yn gweithio, ac mae yna lawer iawn, iawn i fod yn negyddol amdano ynglyn a phlaid fwyaf Cymru.

Sunday, September 03, 2017

Ynglyn a'r nepotistiaeth yn y Bae

Rwan peidiwch a cham ddeall - does gen i ddim problem o gwbl efo cyflogau Aelodau Cynulliad - mae £64,000 y flwyddyn yn adlewyrchu pwysigrwydd y gwaith ac yn sicrhau bod ymgeiswyr addas yn rhoi eu henwau ymlaen.  Mae hefyd yn gyflog is na'r hyn enillir gan Aelodau Seneddol (£74,000) am wneud gwaith digon tebyg.

Ond mae yna botensial i Aelod Cynulliad elwa yn anuniongyrchol o'i swydd hefyd trwy gyflogi aelod o'i d / theulu.  Mae'r arfer yma yn rhyfeddol o gyffredin yn y sefydliad  - ac mae cyflogau pobl sy'n gweithio i Aelodau Cynulliad yn ddigon parchus.

Rhestraf yr ACau sy'n cyflogi aelodau o'u teuluoedd isod.

Mohammad Asghar (Tori)

Mae ei wraig Firandus yn cael ei chyflogi fel gweithiwr achos am 22.2 awr yr wythnos ac mae ei ferch, Natasha yn cael ei chyflogi am 22.2 awr yr wythnos fel Uwch Swyddog Cyfathrebu.

Michelle Brown (UKIP)

Cafodd ei brawd, Richard Baxendale ei gyflogi o Fehefin 2016 hyd fis Ionawr 2017 am 37 awr yr wythnos fel Gweithiwr Achos.

Angela Burns (Tori)

Cyflogir ei gwr, Andrew am 18.5 awr pob wythnos fel ymchwilydd a gweithiwr achos.

Andrew RT Davies (Tori)

Cyflogir ei wraig Julia am 37.5 awr fel Cymhorthydd Personol ac Ymchwilydd.

Rebecca Evans ( Llafur)

Cyflogir ei gwr Paul am 37.5 awr pob wythnos fel Rheolwr Swyddfa a'i chwaer Claire Stowell am 18.5 awr fel Cymhorthydd Swyddfa.

John Griffith (Llafur)

Cyflogir ei wraig, Alison am 37 awr fel Gweinyddydd.

Neil Hamilton (UKIP)

Cyflogir ei wraig, Christine fel Cynorthwy - ydd personol am 37 awr.

Mark Isherwood (Tori)

Mae ei wraig Hilary yn gweithio am bump awr pob wythnos fel Gweithiwr Achos.

Darren Miller (Tori)

Cyflogir ei wraig, Rebekah am 22.2 awr fel Gweinyddwr a Gweithiwr Achos.

Mark Reckless (Duw a wyr)

Mae ei wraig, Catriona yn gweithio iddo fel Uwch Gynghorydd.

David Rees (Llafur) 

Mae Angharad ei ferch yn gweithio iddo fel Ymchwilydd a Swyddog Cyfathrebu ac Ymchwilydd am 22.3 awr.

David Rowlands (UKIP) 

Mae ei wraig, Keryn yn gweithio iddo am 37 awr fel Pennaeth Swyddfa.

Joyce Watson (Llafur) 

Mae ei merch, Fiona Openshaw yn gweithio iddi am 14 awr fel Ymchwilydd.

Felly os ydi fy syms i'n gywir mae yna 5 Tori, 4 AC a etholwyd yn enw UKIP a 4 Llafurwr yn cyflogi aelodau o'u teulu.

Rwan petai'r Aelodau Cynulliad yn defnyddio eu pres eu hunain i gyflogi aelodau o'u teuluoedd eu busnes nhw a neb arall fyddai hynny.  Ond maent yn eu cyflogi efo pres cyhoeddus.  Ym mhob rhan arall o'r sector cyhoeddus  mae canllawiau caeth o ran cyflogi pobl - a dwi'n siwr bod yna ganllawiau caeth yn y Cynulliad i sicrhau mai'r person gorau i swydd sy'n cael ei benodi - ond bod na thrwy gyd ddigwyddiad hapus mae llawer o ACau yn cael mai aelodau o'u teuluoedd eu hunain ydi'r bobl gorau i weithio yn y swyddi maent yn gyfrifol am eu llenwi.

Mae'n eithaf digri mai'r Dde sydd fwyaf euog o hyn - y sawl sy'n honni bod defnydd effeithiol o bres cyhoeddus yn bwysig iddynt.  Ymddengys mai ystyr 'defnydd effeithiol o bres cyhoeddus' i nifer ohonynt ydi sicrhau bod cymaint a phosibl o bres cyhoeddus yn gwneud eu ffordd i'w coffrau nhw a'u teuluoedd.