Sunday, May 31, 2015

Cymru ac Iwerddon - hanes dau economi

Dydi o ddim yn syndod bod trigolion y rhanbarth cyfoethocaf o Gymru efo llai o bres yn eu poced na'r rhanbarth tlotaf o Lundain.


Mae yna pob math o ffyrdd eraill o ddangos bod Cymru'n dlotach na'r unman arall yn y DU.  Er enghraifft mae'r ffigyrau GVA mwyaf diweddar sydd ar gael yn dangos bod Cymru ar waelod y pentwr o dan y mesur hwnnw o gyfoeth - ar £18,839 y pen.  Y ffigwr cyfatebol am ddinas Llundain ydi £40,215.  

Mae'r rhesymau am hyn oll yn weddol amlwg mae'n debyg gen i - diflaniad y diwydiannau mwyngloddio oedd yn asgwrn cefn i economi Cymru yn y gorffennol, a methiant i wneud iawn am hynny trwy ddatblygu sector cynhyrchu llewyrchus a sectorau gwasanaethau o ansawdd.  Mae llawer iawn o bobl Cymru yn byw mewn cymunedau ol ddiwydiannol lle nad oes dim wedi dod i gymryd lle'r diwydiannau a gollwyd.



Roeddwn yn Nulyn ddoe a dwi yng Nghaernarfon heddiw.  Roeddwn yn croesi'r mor yn hwyr neithiwr.  Yn gynharach yn y dydd roeddwn wedi parcio'r car yn agos at North Wall, a cherdded i ganol y ddinas.    Roedd fy llwybr i'r canol canol yn mynd a fi trwy ardal ariannol Dulyn - yr IFSC.  Mae'r lle yn llawn o swyddfeydd sefydliadau ariannol cenedlaethol -  sefydliadau fel CitibankCommerzbank, SIG a Sumitomo.  Yn gynharach yn y diwrnod roeddwn wedi dreifio i ganol Dundalk i chwilio am betrol.  Mae yna barc busnes ar gyrion Dundalk sy'n gartref i ganolfannau technoleg adnabyddus - Xerox, Ebay a Paypal er enghraifft. Mae Dundalk yn dref ar y ffin efo Gogledd Iwerddon oedd yn cael ei gysylltu yn fwy na dim efo'r rhyfel hir yn y Gogledd hyd yn ddiweddar.  

Wrth ddreifio'n ol o Gaergybi am adref roedd hi'n goblyn o nosod fudur ac roedd y car ymysg y diwethaf i gael gadael y llong.  Erbyn gadael yr A55 ar gyrion Bangor roeddwn wedi pasio dwsinau o loriau cario nwyddau - pob un ohonynt wedi eu llenwi efo nwyddau oedd wedi eu cynhyrchu yn yr Iwerddon.  Roeddynt yn gwneud eu ffordd tuag at farchnadoedd Ewrop trwy ddiffeithwch cynhyrchu yng Ngogledd Cymru.  

Dydi hi ddim yn neilltuol o anodd i weld pam nad ydi Cymru yn cael ei ystyried yn leoliad delfrydol i ddatblygu diwydiant cynhyrchu - mae ymhell iawn oddi wrth marchnadoedd mawr Ewrop.  Mae lleoli diwydiant ymhell oddi wrth marchnadoedd yn ychwanegu costau sylweddol i ddiwydiant.  Ond mae'r Iwerddon ymhellach oddi wrth marchnadoedd Ewrop na Chymru, ac mae yna for ychwanegol i 'w groesi.  Y gwahaniaeth ydi bod Iwerddon yn annibynnol - ac oherwydd y statws hwnnw mae ganddi'r gallu i ddigolledu diwydiannwyr am yr anfanteision strwythurol mae lleoliad daearyddol y wlad yn eu creu.  Mae'r gyfundrefn drethiannol yn rhan bwysig o'r digolledu hwnnw wrth gwrs, er bod llawer o bethau eraill y gellir eu gwneud i wneud lleoliad yn fwy atyniadol i fusnes.  

A deilliant hynny yn y diwedd ydi hyn - er gwaethaf gor ddibyniaeth ar y banciau a'r argyfwng ariannol a gododd yn sgil hynny, er gwaetha'r ffaith bod Iwerddon wedi dioddef llymder ar gyfarwyddyd yr Undeb Ewropeaidd, er gwaethaf yr anfanteision daearyddol, er gwaethaf y diffyg adnoddau naturiol mae'r Iwerddon yn llawer, llawer cyfoethocach na Cymru - rhan dlotaf y DU.  Mae'n llawer cyfoethocach na'r DU yn ei chyfanrwydd hefyd - fel mae'r tabl GDP isod yn ei ddangos.


Dydi'r ffeithiau - a ffeithiau ydyn nhw - ddim am wneud dim i effeithio ar y feddylfryd Gymreig na'r naratif unoliaethol - 'mae Cymru'n rhy dlawd i gymryd gormod o gyfrifoldeb am ei bywyd cenedlaethol ei hun'.  Y ffaith syml ydi mai'r anallu i gymryd cyfrifoldeb tros ein tynged economaidd ydi'r prif reswm tros dlodi yng Nghymru, a'r tlodi hwnnw sy'n cael ei gynnig fel y prif reswm pam na ddylai Cymru gael gormod o reolaeth tros ei phethau ei hun.  Tlawd fyddwn ni hyd i'r cylch afresymegol yma gael ei dorri.


Saturday, May 30, 2015

Ynglyn ag Aelodau Cynulliad yn gwrthod codiadau cyflog

A bod yn onest, tra fy mod yn deall pam nad ydi nifer o Aelodau'r Cynulliad eisiau cymryd y codiadau cyflog sydd am gael ei roi iddynt ar ol etholiadau'r flwyddyn nesaf, dwi'n meddwl bod cymryd y cam yma yn gamgymeriad.  Mae gwaith Aelod Cynulliad yn fwy heriol nag un Aelod Seneddol mewn gwirionedd.  Mae yna chwe chant a hanner o'r rheiny i wneud y busnes o lywodraethu a chraffu ar y llywodraethu hwnnw - heb son am y cannoedd lawer o arglwyddi sy'n gwneud yr un math o beth.  Chwe deg Aelod Cynulliad sydd yna.  Dylai'r cyflogau adlewyrchu hynny.  Dydi trefn lle mae Aelodau Cynulliad efo llawer mwy i 'w wneud nag Aelodau Seneddol, ond yn cael eu talu llawer llai ddim yn sefyllfa sy'n adeiladu hygrededd y Cynulliad.

Ta waeth - rhydd i bawb ei farn - ond os ydi rhai o Bleidwyr y Cynulliad ddim eisiau'r arian ychwanegol, mi fyddwn i yn argymell eu bod yn ei gyfrannu i'r Blaid yn hytrach na'i roi i elusen neu geisio ei wrthod yn llwyr.  Byddwch yn ymwybodol fy mod yn yr Iwerddon ar hyn o bryd, ac mae'n arfer gan nifer o grwpiau a phleidiau Adain Chwith i wneud hyn.  Yr esiampl mwyaf nodedig - ond nid yr unig un - ydi Sinn Fein.

Yng Ngogledd Iwerddom mae 29 Aelod Cynulliad y blaid yn cymryd cyflogau o £26,000 tra bod y taliadau iddynt yn amrywio o £48,000 i £120,000.  Mae'r gwahaniaeth  yn mynd i'r blaid.  Mae treuliau'r Aelodau Cynulliad hefyd yn cael ei ddefnyddio i gryfhau y blaid gyda £700,000 yn gwneud ei ffordd i gwmni o'r enw Research Services Ireland tros gyfnod o ddeg mlynedd.  Sinn Fein ydi perchenog y cwmni.

Dydi Aelodau Seneddol y blaid ddim yn cael cyflogau oherwydd nad ydynt yn fodlon eistedd yn San Steffan - ond mae'r £647,047 maent yn ei gael mewn treuliau eto yn cael ei fuddsoddi yn is seiledd y blaid.

Mae'r un peth yn digwydd yn y Weriniaeth gyda'r Aelodau Etholedig yn y Dail yn cyfrannu £145,000 i goffrau'r blaid trwy beidio cymryd mwy na'r cyflog cyfartalog yn y fan honno. Mae'r aelodau hynny hefyd wedi hawlio £5m tros y bedair blynedd diwethaf mewn treuliau - eto mae'r pres hwnnw yn cael ei ddefnyddio yn bennaf i gyflogi staff.   Bydd cyfraniad y tri Aelod Seneddol Ewropeaidd a etholwyd y llynedd yn cael ei ychwanegu at hynny maes o law.  

Mae'r cyfraniadau uchod, dulliau confensiynol o godi pres ynghyd a chyfraniadau gan gefnogwyr yn yr Unol Daleithiau yn creu incwm blynyddol o rhwng £3m a £4m.  Mae'r swmiau yma yn sylweddol, ac maent yn un o'r rhesymau pam bod y blaid wedi tyfu yn sylweddol yn ddiweddar.

Dydan ni ddim yn son am ffigyrau tebyg yn Nghymru wrth reswm, ond mae'r un hanfodion yn wir - gall pres o'i wario'n effeithiol brynu llwyddiant etholiadol - hyd yn oed swmiau cymharol fach o bres.


Thursday, May 28, 2015

A llongyfarchiadau i'r Mail Online _ _

_ _ ar lwyddo i fynd cam yn bellach nag arfer hyd yn oed.  

Go brin bod yna unrhyw bapur (hyd yn oed yr Express) arall fyddai'n dyrchafu anghyfleustra i dwristiaid sy 'n ymweld a chanolfan dwristiaid uwchben dioddefaint trueniaid sy'n dianc o ryfeloedd (sydd i rhyw raddau neu 'i gilydd wedi eu hachosi gan lywodraeth y dywydiedig dwristiaid) a bygythiad gwirioneddol i fywoliaeth y ganolfan dwristiaid honno.

Craig Williams yn mynd i'r afael a phroblemau mawr ei etholaeth

Llongyfarchiadau i aelod seneddol newydd Gogledd Caerdydd am ddeall a gweithredu ar yr hyn sy'n hanfodol i ddyfodol ei etholaeth.

Arweinyddiaeth y Blaid Lafur

Os ydi fy syms i 'n gywir mae'r Blaid Lafur Brydeinig wedi cael 22 arweinydd gwahanol ers 1908.  Pedwar yn unig o'r rheony sydd wedi cael eu hethol mewn etholiad cyffredinol yn brif weinidog - Ramsey McDonald, Clem Atlee, Harold Wilson a'r erchyll Tony Blair.  Dydi pedwar prif weinidog mewn 107 o flynyddoedd ddim yn record wych.  Mae'r Toriaid wedi cael 11 prif weinidog tros yr un cyfnod.  

Roedd llywodraeth cyntaf McDonald yn 1924 yn un anarferol - nid Llafur oedd y blaid fwyaf - roedd gan y Toriaid fwy o seddi na nhw.  Llywodraeth leiafrifol oedd ei ail lywodraeth hefyd yn 1929, er bod y Blaid Lafur efo mwy o aelodau seneddol y tro hwnnw.  Roedd ganddo fwyafrif llethol y trydydd tro - ond arwain clymblaid 'cenedlaethol' oedd yn hytrach na llywodraeth Lafur.

Cafodd Clem Atlee fwyafrif llethol yn 1945 yn sgil poblogrwydd eu polisi i sefydlu gwladwriaeth les.  Collodd Llafur y rhan fwyaf o'u mwyafrif yn yr etholiad canlynol yn 1950 gan eu gafael efo mwyafrif o 5 ac roedd y Toriaid yn ol mewn grym erbyn 1951.

O bedair sedd yn unig enilliodd Harold Wilson ei etholiad cyntaf yn 1964 er iddo gael mwyafrif llethol yn 1966.  Collodd etholiad 1970, cyn mynd ati i ffurfio llywodraeth lleiafrifol yn Chwefror 1974 - lle cafodd fwy o seddi ond llai o bleidleisiau na'r Ceidwadwyr.  Ffurfiodd lywodraeth fwyafrifol yn ddiweddarach y flwyddyn honno wedi ail etholiad.  Roedd ganddo fwyafrif o dri.  

Roedd hi'n 23 blynedd cyn i Lafur ennill etholiad arall o dan arweinyddiaeth y gwir anrhydeddus Tony Blair.  Enilliodd efo mwyafrif llethol yn 1997 a 2001 a chyda mwyafrif llai o lawer yn 2005 - y tro diwethaf i Lafur ennill etholiad cyffredinol tan 2020 - ar y gorau.

Mae'n  amlwg bod y Blaid Lafur yn ei chael yn hynod o anodd i gael prif weinidog wedi ei ethol - ac yn arbennig felly efo mwyafrif cyfforddus.  1945, 1966, 1997 a 2001 ydi'r unig adegau pan mae hynny wedi digwydd mewn gwirionedd.  Mae'n bwysicach iddyn nhw wneud y dewis 'cywir' neu a bod yn fwy manwl y dewis mwyaf etholadwy wrth ddewis eu harweinydd nesaf.  Yn anffodus o safbwynt y Blaid Lafur dydyn nhw ddim yn gwneud y dewis gorau yn aml iawn - fel mewn cymaint o feysydd eraill mae ystyriaethau mewnol y blaid yn bwysicach nag ymarferoldeb ac effeithlionrwydd.  

Tuesday, May 26, 2015

Gogledd Ddwyrain y Gogledd Ddwyrain a'r Alban.

Mae'n dipyn o ystrydeb i ddweud bod pethau  yn aml yn groes i'r hyn y byddech yn ei ddisgwyl yn yr Iwerddon, ond mae yna sylwedd i ystrydebau weithiau.  Patrwm cyffredinol yng Ngogledd Iwerddon ydi mai'r pellaf yr ydych yn teithio i'r Gogledd a'r Dwyrain y mwyaf unoliaethol ydi'r wleidyddiaeth a'r diwylliant. Mae hynny'n gyffredinol wir - er bod Belfast yn eithriad amlwg i'r rheol.  Ond yr hyn sy'n rhyfedd ydi bod cornel Gogledd Ddwyreiniol y dalaith yn gartref i gymunedau Pabyddol a chenedlaetholgar iawn.  Tir Y DUP ydi'r rhan fwyaf o Ogledd a Dwyrain Antrim - ond mae'r eithafion Gogledd Ddwyreiniol yn ynys genedlaetholgar, ymhell oddi wrth yr ardaloedd cyffelyb agosaf yn Ne Derry a Tyrone.

Dwi'n cael fy hun yn Ballycastle ar hyn o bryd - tref glan mor gyferbyn ag Ynys Rathlin.  Mae Rathlin yn ynys hynod o heddychlon y dyddiau yma, ond llawer iawn o dywallt gwaed wedi bod yno yn y gorffennol.  Lladdwyd llawer yno gan Syr Henry Sidney yn 1557 a lladdwyd cannoedd lawer o ddynion, gwragedd a phlant o ffoaduriaid o'r Clann McDonnell Albanaidd gan Francis Drake yn 1575. 



Ac mae'r cysylltiad Albanaidd yn bwysig yn yr ardal.  Mae tir mawr yr Alban i'w weld yn glir o'r arfordir, ac mae'r holl ardal yn llawer, llawer nes at yr Alban nag ydyw at Belfast - heb son am Ddulyn.  Goroesodd yr iaith Wyddeleg yma yn hirach nag unrhyw le arall yng Ngogledd Iwerddon - yn 1985 y bu farw siaradwr brodorol olaf y math o Wyddeleg a siaradid ar Ynys Rathlin, ac roedd siaradwyr brodorol o'r iaith yn dal yn fyw ym 50au'r ganrif ddiwethaf yn Nyffrynoedd Gogledd Ddwyrain Antrim.  Roedd dylanwad Gaeleg yr Alban yn gryf ar Wyddeleg y Gogledd Ddwyrain.



Ac mae dylanwad Albanaidd pellach yma  - mae hurling yn mynd yn ol ganrifoedd yma, ond hyd yn ddiweddar roedd yn cael ei adnabod fel shinty -gem gyffelyb a chwaraeid yn yr Alban.  Hyd adeiladu'r ffordd arfordirol yn yr 1830au roedd yn haws cyrraedd yr Alban ddeuddeg milltir dros y mor nag oedd hi mynd i lawer o weddill Iwerddon, ac roedd llawer o deithio rhwng y naill wlad a'r llall.  Ar Ynys Rathlin roedd Robert the Bruce yn cuddio pan welodd y pryf copy yn dal ati er syrthio dro ar ol tro ac yn penderfynu y byddai yntau yn dal ati yn ei ryfel yn erbyn y Saeson.  

Mae'n debyg bod mwyafrif llethol trigolion Gogledd Iwerddon efo gwaed Albanaidd, ac mae llawer iawn o Albanwyr efo gwaed Gwyddelig.  Mae'r ddau ddiwylliant gwleidyddol yn wahanol iawn heddiw - ond roedd dylanwad y secteriaeth oedd ynglwn a gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon yn gryf yng ngwleidyddiaeth Gorllewin yr Alban hyd yn ddiweddar iawn.

Ac efallai bod yna wers neu ddwy cyfoes i'w dysgu o lefydd fel cornel fach Gogledd Ddwyreiniol Iwerddon.  Mae llawer o'r hyn sy'n ymddangos yn gadarn ac yn ddi gyfnewid i ni heddiw wedi dod o le mwy cyfnewidiol o lawer a dydi'r hunaniaethau gwleidyddol a chenedlaethol yr ydym yn eu harddel bellach ddim yn hunaniaethau y byddai ein cyn dadau wedi eu hadnabod na'u deall. Mae pob cenhedlaeth yn creu ei hunaniaeth a'i diwylliant gwleidyddol ei hun.  Efallai bod y gwahaniaeth rhwng yr Alban a'r rhan yma o Ogledd Iwerddon yn gwbl amlwg heddiw - ond datblygiad cymharol ddiweddar ydi hynny.

Mewn un ffordd mae deall hynny'n beth negyddol - mae llawer o'r angen am barhad a chysondeb sy'n bwysig i'r ceidwadwr sydd yn rhywle ym mhob un ohonom yn angen am rhywbeth sy'n rhithiol.  Ond mae'n beth cadarnhaol mewn gwirionedd - gallwn greu ein diwylliant gwleidyddol ein hunain o'r newydd.  Mae sylwi hynny'n rhywbeth hynod o gadarnhaol - ond mae'n sylweddoliad sy'n dod a chyfrifoldebau yn ei sgil.

Monday, May 25, 2015

Peter Robinson ac argyfwng Gogledd Iwerddon

TMae'n siwr gen i nad oes yna amser da i gael trawiad ar y galon, ond petai Gweinidog Cyntaf Gogledd Iwerddon wedi gallu dewis diwrnod anghyfleus i gael un, heddiw fyddai hwnnw.  Mae'n dra thebygol y bydd Sinn Fein yn atal Bil Budd Daliadau plaid Peter Robinson - y DUP - fory.  Os bydd hynny'n digwydd, bydd rhaid i Weinidog Cyllid Gogledd Iwerddon, Arlene Foster gyflwyno cyllideb brys - un fydd yn torri cannoedd o filiynau o bunnoedd oddi ar wariant cyhoeddus.  Ni fydd y gyllideb honno'n mynd trwy Stormont, a gallai hynny'n hawdd arwain at gwymp y sefydliad - neu gyfyngu sylweddol ar ei bwerau.  Dydi'r ffaith bod Peter Robinson yn yr ysbyty ddim arm ei gwneud mymryn yn haws i osgoi argyfwng.


Ond mae'r sefyllfa yn dweud mwy am y cenedlaethwyr nag yw am yr unoliaethwyr mewn gwirionedd.  Hyd yn ddiweddar roedd partneriaid y DUP mewn llywodraeth, Sinn Fein wedi awgrymu y byddent yn derbyn y toriadau mewn budd daliadau (sydd yn cael eu gyrru gan San Steffan yn y pen draw) - ond maent wedi troi fel cwpan mewn dwr.  Roeddynt yn gwybod bod gwahanol ffyrdd y gallant fod wedi eu defnyddio i amddiffyn eu hetholwyr rhag effeithiadau gwaethaf y toriadau - ond mae'n ymddangos bellach bod yn well ganddynt adael i San Steffan, neu weision sifil Gogledd Iwerddon weithredu'r toriadau.  Mae hyn yn dweud llawer am ble mae'r Mudiad Gweriniaethol heddiw.

Am y rhan fwyaf o hanes y Mudiad Gweriniaethol mae wedi ei arwain o'r De.  Daeth hynny i ben yn y saith degau cynnar yn sgil methiant yr IRA i amddiffyn cymunedau cenedlaetholgar yn y Gogledd.  Tyfodd y Provos o'r hen IRA, ac roedd hwnnw yn fudiad Gogleddol iawn o ran naws a chefnogaeth.  Gogleddwyr oedd yn dominyddu 'r Mudiad erbyn diwedd y saith degau.  Arhosodd y sefyllfa yna trwy'r rhyfel hir - a thu hwnt.  Ond ers Cytundeb Dydd Gwener y Groglith mae Sinn Fein wedi tyfu'n sylweddol yn y Weriniaeth - ac yn sgil hynny mae awdurdod canolog y Mudiad wedi symud yn ol i'r De.  Etholiadau Dail y flwyddyn nesaf (neu eleni) ydi prif ffocws Sinn Fein bellach.  Y peth diwethaf mae'r blaid ei eisiau ydi mynd i mewn i etholiadau yn y Weriniaeth yn dadlau yn erbyn llymder cyllidol tra'n gweinyddu toriadau mewn budd daliadau a gwariant cyhoeddus yn gyffredinol yn y Gogledd.  Mae ganddyn nhw ddigon o wrthwynebwyr i'r chwith iddynt yn y Weriniaeth sy'n ysu eisiau iddynt dorri ar wasanaethau yn y Gogledd.

A dyna pam ei bod yn debygol y bydd y grwp bach o strategwyr etholiadol Sinn Fein yn Connolly House yn mynnu bod y blaid yn y Gogledd yn tynnu Stormont i'r llawr, neu o leiaf yn tynnu allan o lywodraeth cyn eu bod yn gwrinyddu mwy o doriadau mewn gwariant cyhoeddus - hyd yn oed os bydd hynny yn arwain at fwy o galedi i gefnogaeth greiddiol Sinn Fein yn y Gogledd.  

Etholiadau'r De ydi pob dim bellach.


Posteri'r diwrnod

Mae gosod posteri ar bob dim sy'n gallu dal poster yn nodwedd o etholiadau a refferenda Gwyddelig.  Doedd refferendwm dydd Gwener ddim yn eithriad.  Wele ddetholiad.  Efallai y byddaf yn ychwanegu atynt 'fory.






















Saturday, May 23, 2015

Map y diwrnod

Canlyniadau referendum y Weriniaeth.


Etholiad arall Iwerddon

Er nad ydi'r cyfri wedi dechrau mewn gwirionedd eto yn Iwerddon, mae'n edrych fel petai'r ochr Ia am ennill yn hawdd.  Mae'r Gwyddelod yn dda iawn am ddarogan canlyniadau refferenda o'r broses ddilysu pleidleisiau.  Mae bod yn tallyman yn dipyn o grefft yma.

Mae yna ddwy refferenda yma, gydag un yn cael llai o sylw na'r llall.  Mae'r ail yn ymwneud ag iselhau'r oedran lle gall rhywun gael ei ethol yn arlywydd.  Mae yna hefyd is etholiad, a gallai goblygiadau honno fod yn ddiddorol.



Mae'r etholiad yn etholaeth wledig Carlow Kilkenny, ac mae'n debygol mai Fianna Fail fydd yn ei hennill.  Mi fydd hynny'n creu penawdau oherwydd y bydd yn creu canfyddiad bod y blaid honno ar ei ffordd yn ol ar ol cyfnod o gywilydd a gwarth gwleidyddol.  Yr unig ganlyniad arall tebygol ydi buddugoliaeth i Fine Gael, y blaid sy'n arwain llywodraeth y Weriniaeth.  Petai hi yn ennill gallai arwain at etholiad cyffredinol yn yr hydref yn hytrach nag yn ystod y flwyddyn nesaf.  Ond o ran dyfodol hir dymor gwleidyddiaeth Iwerddon mae perfformiad Sinn Fein yn fwy diddorol.

Dydi'r etholaeth yma ddim yn dir ffafriol i Sinn Fein - mae ymhell o'i chadarnleoedd yn yr etholaethau sy'n agos at y ffin efo Gogledd Iwerddon, a does yna ddim canolfanau trefol mawr yno chwaith - mewn llefydd felly mae'r blaid wedi bod yn tyfu yn ddiweddar.  Mewn is etholiad am un sedd yn Iwerddon mae'r ymgeisydd buddigol angen 50%+1 o'r bleidlais - ar ffurf pleidleisiau cyntaf, a phleidleisiau eilaidd.  Mae'r Iwerddion yn defnyddio dull STV i bleidleisio.  Mae'r etholwr yn rhestru'r ymgeiswyr gan roi 1 wrth ochr ei hoff ymgeisydd, 2 wrth yr ail, 3 wrth ymyl y trydydd ac ati.  Fydd yna byth 50%+1 i SF yn rhywle fel Carlow Kilkenny.  Ond mewn etholiad cyffredinol mae Carlow Kilkenny yn etholaeth 5 sedd.  Tua 16% o'r bleidlais (cynradd ac eilaidd) sydd rhaid ei ennill o dan amgylchiadau felly.

Petai SF yn ennill 15% i 20% o'r bleidlais gyntaf yma, byddai'n awgrymu eu bod am ennill sedd yn gyfforddus yma yn yr etholiad cyfffredinol.  Os oes yna sedd hawdd i SF yn Carlow Kilkenny, mae yna lawer o seddi ychwanegol iddynt ar hyd a lled y Weriniaeth. Mae'n bosibl y gallant ennill 3 yn rhai o"r etholaethau pum sedd o amgylch y ffin.  Gyda'r ail blaid lywodraethol - Llafur - yn debygol o fynd yr un ffordd a'r Lib Dems, mae goblygiadau pell gyrhaeddol posibl i dirwedd gwleidyddol y Weriniaeth.

Mae patrwm gwleidyddol y Weriniaeth wedi bod yn hynod o anarferol ers ei sefydlu.  Tyfodd y prif bleidiau gwleidyddol o'r Rhyfel Cartref, gyda'r ochr oedd o blaid y cytundeb yn datblygu i blaid Fine Gael a'r ochr a wrthwynebodd y cytundeb yn datblygu i Fianna Fail.  Mae'r ddwy blaid yn debyg - dwy blaid geidwadol sydd a pholisiau economaidd ac agweddau cymdeithasol tebyg iawn i'w gilydd.

Os bydd Sinn Fein (ac annibynwyr adain chwith eraill) yn gwneud yn dda yn yr etholiad cyffredinol nesaf, gallai hynny orfodi Fine Gael a Fianna Fail i fynd i lywodraeth efo'i gilydd.  Gallai hynny'n hawdd ail strwythuro'r tirlun gwleidyddol, a chre patrwm gwleidyddol Chwith / De mwy nodweddiadol o wleidyddiaeth Ewrop erbyn yr etholiad cyffredinol ar ol yr un nesaf - bron i ganrif ar ol sefydlu'r wladwriaeth.

Friday, May 22, 2015

Refferendwm Gweriniaeth Iwerddon

Fel dwi'n 'sgwennu'r geiriau yma, dwi mewn cwch ar y ffordd i'r Iwerddon.  Mi gadwn ni at y drefn arferol pan dwi i ffwrdd - tipyn bach o'r blogio arferol ynghyd a blogio ynglyn a gwleidyddiaeth y wlad dwi'n ymweld a hi.  Fydd yna ddim blogio am y gwyliau fel y cyfryw - blog gwleidyddol ac nid blog gwyliau ydi Blogmenai.  


Beth bynnag, gan bod heddiw yn ddiwrnod refferendwm yn y Weriniaeth, waeth i ni ddweud pwt am hynny.  Refferendwm ynglyn a hawliau priodi cyfartal ydi un heddiw, ond mae refferenda yn hynod gyffredin yng Ngweriniaeth Iwerddon.  Y rheswm am hynny ydi bod gan y wladwriaeth gyfansoddiad ysgrifenedig na all gael ei addasu gan y Dail na'r llysoedd.  Felly mae'n rhaid gofyn i'r etholwyr cyn newid y cyfansoddiad.  Ceir refferenda ynglyn a phob math o bethau, ond mae'r rhai mwyaf diddorol - a chynhenus - yn syrthio i un o ddau gategori.  Mae materion yn ymwneud a sofraniaeth y wlad yn syrthio i un o'r categoriau hyn, ac mae materion  cymdeithasol a theuluol yn syrthio i'r ail gategori.  Er enghraifft mae addasiadau cyfansoddiadol sy'n ymwneud ag ysgariad neu erthyliad yn syrthio i'r ail gategori, tra bod rhai sy'n ymwneud a throsglwyddo pwerau i'r Undeb Ewrpoeaidd yn syrthio i'r cyntaf.  

Mae'r patrymau pleidleisio yn ddiddorol, ac maen nhw'n tanlinellu holltau traddodiadol mewn cymdeithas Wyddelig.  Gallwch fod yn gwbl siwr y bydd Donegal North East wedi pleidleisio Na pan fydd y pleidleisiau yn cael eu cyfri fory - hyd yn oed os ydi pob etholaeth arall yn y wladwriaeth wedi pleidleisio Ia.  Mae'r etholaeth yn hynod geidwadol ac yn pleidleisio yn erbyn unrhyw lacio ar ethos Babyddol y Weriniaeth - yn ddi eithriad. Mae'r rhan fwyaf o etholaethau'r Gorllewin efo'r un tueddiad, yn ogystal a'r etholaethau gwledig ym mherfedd y wlad.   Gallwch hefyd fod yn siwr y bydd etholaethau cefnog, trefol fel Dublin South East neu Dun Laoghaire yn pleidleisio Ia.  Maent yn etholaethau rhyddfrydig iawn.  

Yr hyn sy'n ddiddorol fodd bynnag ydi patrymau pleidleisio'r etholaethau dosbarth gweithiol trefol - llefydd fel Dublin North West, Dublin South West neu Cork North Central.  Mewn refferenda sy'n ymwneud a materion cymdeithasol maent yn tueddu i bleidleisio efo'u cymdogion mwy cefnog a rhyddfrydig.  Ond mewn materion sy'n ymwneud a sofraniaeth cenedlaethol maent yn pleidleisio'n wahanol.  Mewn refferenda felly mae'r ceidwadwyr Gorllewinol yn pleidleisio yn erbyn glastwreiddio sofraniaeth y wlad, ac mae'r dosbarth gweithiol trefol yn pleidleisio felly hefyd.  Dydi materion felly ddim cyn bwysiced i bobl dosbarth canol, ac maent yn fwy parod i bleidleisio tros drosglwyddo pwerau i Ewrop ac ati.

Mae hyn yn adlewyrchu hen batrwm - ceidwadwyr Gorllewinol a phobl dosbarth gweithiol trefol oedd yn bennaf gyfrifol am ymladd y rhyfel a greodd y Weriniaeth.  Mae'n rhyfedd fel mae hen batrymau hanesyddol yn dod yn ol i'r wyneb mewn gwleidyddiaeth gyfoes.

Wednesday, May 20, 2015

Beth petai refferendwm Ewrop ar yr un diwrnod ag etholiad y Cynulliad?

Mae hyn yn bosibl - wedi'r cwbl mae'r mater o Ewrop yn boen oesol i'r Blaid Doriaidd, ac mi fydd yn demtasiwn iddynt geisio lladd y mater cyn gynted a phosibl ym mywyd y senedd newydd.  Petai hynny'n digwydd byddai'n debygol o gael effaith sylweddol ar ganlyniad yr etholiad.

Gan bod y rhan fwyaf o Gymry yn cael eu newyddion i gyd o Loegr, byddai penderfyniad o'r fath yn gwneud yr etholiad yn un llawer mwy Prydeinig nag yn y gorffennol.  Byddai naratif y refferendwm yn boddi naratifau etholiad y Cynulliad.  I'r graddau hynny byddai penderfyniad o'r fath yn niweidiol i Blaid Cymru.  Ond nid Plaid Cymru yn unig fyddai'n dioddef.

Mae rhagolygon etholiad Cynulliad y flwyddyn nesaf yn ddrwg iawn i'r Lib Dems ac yn ddrwg i Lafur.  Tan berfformiodd Llafur yng Nghymru ar Fai 7, ac mae Llafur yn ei chael yn anodd i berfformio i'w potensial mewn etholiadau Cynulliad.  Bydd pethau'n anos fyth y flwyddyn nesaf - bydd y blaid wedi treulio cyfnod yn syllu ar ei bogel, bydd yn ol pob tebyg yn dechrau ar daith i'r Dde.  Ar ben hynny bydd moral yn isel - a dydi Llafur ddim yn chael yn hawdd i gael ei gweithwyr ar y strydoedd mewn etholiad Cynulliad ar yr amser gorau.  Roedd y gyfradd pleidleisio mewn ardaloedd Llafur yn is na gweddill Cymru yn yr etholiad cyffredinol - mae'n dra phosibl y bydd y patrwm yna'n gryfach y flwyddyn nesaf.  Ond byddaii'r gyfradd pleidleisio ymysg Llafurwyr yn uwch petai yna refferendwm ar yr un diwrnod - gyda chyfran nid ansylweddol ohonynt yn dod allan i bleidleisio yn erbyn aros yn yr Undeb Ewropiaidd.  Byddai hyn yn niweidio'r Toriaid yn ogystal na Phlaid Cymru - mae cefnogwyr y ddwy blaid yn well am ddod allan i bleidleisio na rhai Llafur mewn etholiadau ag eithrio etholiad San Steffan.

Ond byddai yna fwy o niwed na hynny i'r  Toriaid hefyd.  Y Blaid Doriaidd ydi'r unig un sydd wedi hollti mewn gwirionedd ynglyn ag Ewrop, a bydd yn edrych yn blaid ranedig tros gyfnod y refferendwm, tra bod pob plaid arall yn edrych yn gymharol unedig.  Dydi wynebu etholiad tra'n ymddangos yn rhanedig byth yn syniad da - mae pris etholiadol i'w dalu am hynny.  Dyna fyddai'n digwydd i'r Toriaid petai'r refferendwm a'r etholiad ar yr un diwrnod, a dyna pam y byddai'r blaid honno'n dioddef cymaint a'r un yng Nghymru petai'n dewis cynnal y ddau ar yr un diwrnod.




Tuesday, May 19, 2015

Map y diwrnod

Cyfraddau pleidleisio'r ethpliad cyffredinol.  Llongyfarchiadau i Frycheiniog a Maesyfed.  Manylion yma.

Record arall

Roedd Etholiad Cyffredinol 2015 yn un a sawl record yn perthyn iddi - y cynnydd ym mhleidlais UKIP, y cynnydd yn seddi a chefnogaeth yr SNP, y cwymp yng nghefnogaeth a seddi'r Lib Dems, methiant Llafur yng Nghymru i adeiladu cefnogaeth pan mae'r Toriaid mewn grym yn San Steffan.  Ond dyma i chi un bach arall - y tro cyntaf i sedd gael ei hennill mewn etholiad San Steffan ar llai na chwarter y bleidlais.


Sunday, May 17, 2015

Poster y Diwrnod

Nid yn aml y bydd Blogmenai yn defnyddio poster UKIP fel poster y diwrnod, ond mi wnawn ni eithriad heddiw - a balchder lleol ydi'r rheswm am hynny.   Map ydyw sy'n dangos pa blaid wnaeth y mwyaf o gynnydd ym mhob etholaeth yn y DU.  Mae melyn yr SNP yn amlwg yn dominyddu i'r gogledd i Fur Hadrian, tra bod porffor UKIP yn dominyddu ym mhob man arall.  Mae yna eithriadau prin fodd bynnag - un ohonynt yn etholaeth fach yng Ngogledd Orllewin Cymru.


Cyd ddigwyddiad hapus

Yn ol Stephen Crabb fydd yna ddim amser i ddeddfu i sicrhau hawliau pleidleisio i bobl 16 ac 17 oed cyn etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf.  Trwy gyd ddigwyddiad hapus dyma'r grwp oedran sydd leiaf tebygol i bleidleisio i blaid Mr Crabb.

Stori lawn yma.

Friday, May 15, 2015

Pwy ddylai fod mwyaf digalon?

Hmm, prif storI Golwg360 trwy'r dydd oedd hon.


Rwan, dwi ddim yn gwybod os ydi Roger Scully o'r farn y dylai Plaid Cymru fod yn fwy di galon na neb arall mewn gwirionedd, ond petai wedi mynegi'r farn honno byddai'n un ecsentrig braidd.  Collodd y Dib Lems 2/3 o'u pleidleisiau a 6/7 o'u seddi yn y DU a 2/3 o'u seddi a'u pleidlais yng Nghymru.  Cynyddodd pleidlais Plaid Cymru rhywfaint, a chadwyd y dair sedd.  Dwi'n gwybod pa sefyllfa fyddai'n gwneud i mi deimlo mwyaf digalon.

Thursday, May 14, 2015

Ymddiswyddiadau diweddaraf Llais Gwynedd

Mae'n anhygoel cymaint o gynghorwyr sydd wedi gadael Llais Gwynedd yn ystod hanes byr y corff hwnnw.  Gadawodd Louise Hughes yn dilyn ffrae am na chafodd ei henwebu i sefyll tros Lais Gwynedd yn etholiad y  Cynulliad / San Steffan ddiwedd y llynedd, gadawodd Chris Hughes a Gethin Hughes i ymuno a'r Blaid cyn etholiad cyngor 2012, gadawodd Gwilym Euros a Dafydd Williams, Richard Jones oherwydd amgylchiadau nad oeddynt yn ymwneud a gwleidyddiaeth yn ystod tymor diwethaf Cyngor Gwynedd, a rwan mae Seimon Glyn, Gweno Glyn a Gruff Williams wedi gadael i ymuno a Phlaid Cymru.  Mae hynna'n llwyth o gynghorwyr i'w colli.  

Rwan dwi ddim am glochdar - er fy mod yn hapus i ddeall bod y triawd wedi croesi'r llawr.  Mae'n dda gen i bod yr ymadawiad wedi bod ar delerau da y tro hwn, ac nad oes yna lawer o ddrwg deimlad wedi ei greu.  Mae'n bryd i'r hollt rhwng y cynghorwyr hynny oddi mewn i Lais Gwynedd sy'n genedlaetholwyr a gweddill y Mudiad Cenedlaethol ddod i ben.  Roedd yna resymau dealltadwy tros enedigaeth Llais Gwynedd - ond mae'r rhesymau hynny bellach yn cilio i'r gorffennol.  Mae'r sefyllfa gyllidol sydd ohoni yn siwr o arwain at fygythiadau sylweddol i gymunedau'r Gogledd Orllewin, ac mae'r bygythiadau i'r iaith a'r diwylliant Cymraeg cyn gryfed ag erioed.  Mae Llais Gwynedd yn rhy fach - ac a barnu oddi wrth yr holl ymddiswyddiadau - rhy ansefydlog - i fynd i'r afael a'r grymoedd mawr sy'n bygwth ein cymunedau.  Mae caredigion Cymru a'r Gymraeg yn ddigon prin beth bynnag - mae'n bryd i ni roi chwerwedd y gorffennol i'r neilltu a symud ymlaen i amddiffyn yr hyn sy'n annwyl i ni i gyd.

Wednesday, May 13, 2015

Democratiaeth unigryw Prydain

Hmm - felly mae gan y Dim Lems 101 o wleidyddion anetholedig yn San Steffan a naw o rhai etholedig.  Dweud y cyfan am 'ddemocratiaeth' Prydeinig debyg.


Y diweddaraf am Blaid y Llwynogod

Mi fydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai wedi darllen am antics rhyfedd Llafur Arfon yn ystod yr ymgyrch etholiad ddiweddar.  'Dydi colli'r etholiad heb eu gwneud nhw yn fwy rhesymegol mae gen i ofn.  Y stynt diweddaraf ydi trefnu bws i fynd i Lundain i brotestio yn erbyn llymder a thoriadau mewn gwariant cyhoeddus.  Pleidleisiodd y Blaid Lafur seneddol o blaid toriadau a llymder yn gynharach eleni.  Maent felly yn mynd i brotestio yn erbyn polisi eu plaid eu hunain. 

Ymddengys bod hyn yn duedd Llafuraidd y tu hwnt i Arfon.  Mi gofiwch  Leighton Andrews yn gwrthdystio fel Aelod Cynulliad yn erbyn cau ysgolion - deilliant uniongyrchol ei bolisiau fo'i hun fel Gweinidog Addysg.








Da iawn Chris

Llongyfarchiadau i Chris Bryant ar gael ei ddewis yn weinidog cysgodol tros ddiwylliant a hamdden.  

Gobeithio y caiff cymaint o lwyddiant yn y rol honno na mae wedi ei gael yn difa pleidleisiau Llafur yn y Rhondda.  Pan safodd gyntaf yn 2001 etifeddodd 30,381 pleidlais gan Alan Rogers.  Llwyddodd i dorri hynny i 23,230 yn syth bin.  Cafodd fwy o lwyddiant yn 2005 gan lusgo'r bleidlais i lawr i 21,198.  Erbyn 2010 roedd y bleidlais i lawr i 17,183, a llwyddodd i gyrraedd isafswm newydd o 15,976 ddydd Iau.  Mae bron wedi haneru pleidlais ei blaid yn y Rhondda ers cael ei ethol.  Cryn gamp.


Monday, May 11, 2015

Bai pwy ydi buddugoliaeth y Toriaid yn Lloegr?

Wel yr SNP wrth gwrs - yn ol Plaid Lafur yr Alban o leiaf.

Rhyfel mewnol arall yn y Blaid Lafur

Rwan mae'r etholiad allan o'r ffordd mi gaiff y Blaid Lafur ddychwelyd at yr hyn mae'n ei wneud orau - ffraeo'n fewnol.  Mae hen gyfaill y Cneifiwr, Kevin Madge wedi gorfod cerdded y planc.  Mi edrychwn ni i gyfeiriad Caerdydd a disgwyl.


Beth mae etholiadau'r San Steffan yn ei ddweud wrthym am etholiadau'r Cynulliad 2016?

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi nad yw etholiad San Steffan o angenrhaid yn dylanwadu ar etholiad Cynulliad / Senedd datganoledig.  Ni pherfformiodd y Blaid yn arbennig o dda yn 1997 ond cafwyd canlyniad gwych yn 1999.  Cafodd yr SNP ganlyniad siomedig yn etholiad cyffredinol 2010, ond cafwyd canlyniad penigamp yn etholiadau Holyrood yn 2011.  Serch hynny yr etholiad diwethaf ydi'r un pwysicaf o safbwynt edrych ymlaen i'r dyfodol - ac mae'n rhwym o effeithio ar yr etholiad dilynol.

UKIP:  Mae cryn ddisgwyl wedi bod y bydd UKIP yn cael seddi rhanbarthol yn 2016 - ac mi fyddai perfformiad dydd Iau yn rhoi o leiaf pum sedd iddynt.  Serch hynny mae'r flwyddyn nesaf - a thu hwnt am fod yn anos iddynt.  Gan mai un aelod seneddol sydd ganddynt, byddant yn cael cryn dipyn yn llai o sylw cyfryngol na gafwyd tros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf.  Bydd diwedd y Glymblaid hefyd yn cymhlethu pethau - bydd yn caniatau i'r Toriaid symud i'r Dde, yn ogystal a chaniatau i'r Dib Lems ddechrau cyflwyno eu hunain fel plaid brotest unwaith eto.  Dylent gael ychydig o seddi rhanbarthol, ond byddant yn cael yn gyfforddus is na 10% o'r bleidlais.  Mae rhai o gydrannau eu cefnogaeth yn llai tebygol o fotio mewn etholiad Cynulliad na mewn un San Steffan.

Lib Dems:  Dydi'r gair Uffernol ddim yn ansoddiair digon cryf rhywsut i ddisgrifio pa mor wael oedd eu perfformiad ddydd Iau.  Roedd yn waeth na hynny.  Roedd eu canran o'r bleidlais ond hanner eu perfformiad siomedig yn etholiadau Cynulliad 2011.  Mae'r Lib Dems yn ddi eithriad yn gwneud yn salach mewn etholiadau Cynulliad nag yn yr etholiadau San Steffan blaenorol.  Oni bai eu bod yn gallu troi pethau yn sydyn, fydd yna ddim seddi rhanbarthol iddynt.  Serch hynny fyddwn i ddim yn betio gormod yn erbyn Kirsty Williams i ddal ei gafael ar Frycheiniog a Maesyfed.

Llafur:  Mewn trwbwl - mae'r etholiad yma wedi niweidio delwedd y blaid. Mae'r hen, hen batrwm yng ngwleidyddiaeth Cymru lle y gwelir Llafur yn adeiladu cefnogaeth yn gyflym pan mae'r Toriaid mewn grym yn San Steffan wedi ei dorri - maent yn wanach rwan nag oeddynt yn 2010.  Byddant yn amddiffyn record o fethiant tros 17 mlynedd, mae yna rannau o Gymru lle maent o dan fygythiad o gyfeiriad  y Toriaid, a rhannau eraill lle mae'r Blaid yn fygythiad.  Mae'n anodd llunio naratif i ymladd bygythiadau o'r Dde a'r Chwith ar yr un pryd.  Ar ben hynny mae llawer o'r amodau sydd wedi arwain at drychineb y Blaid Lafur Albanaidd yn wir yng Nghymru hefyd.

Y Toriaid:  Bydd y gwynt yn eu hwyliau, ond maent yn tan berfformio mewn etholiadau Cynulliad.  Byddant hefyd mewn llywodraeth yn San Steffan, a bydd y llywodraeth hwnnw yn cymryd eu penderfyniadau amhoblogaidd yn gynnar.  Gallant yn hawdd gymryd ambell i sedd ychwanegol (byddant yn edrych ar Frycheiniog a Maesyfed, Gwyr, Gogledd Caerdydd a Dyffryn Clwyd) - ond ni fyddai'n syndod chwaith petaent yn aros yn eu hunfan.

Plaid Cymru:  Y Blaid gafodd y canlyniadau mwyaf amrywiol, gyda rhai canlyniadau arbennig o dda (yng Nghanol De Cymru ac Arfon yn bennaf) a rhai siomedig.  Serch hynny y Blaid sydd a'r mwyaf o botensial i symud ymlaen yn sylweddol.  Mae ei harweinydd bellach yn fwy adnabyddus na'r un gwleidydd Cymreig arall, mae mewn gwell lle na neb arall i fanteisio ar wendid Llafur, mae etholiadau Cynulliad yn tanio ei chefnogwyr a'i hactifyddion - rhywbeth sydd ddim yn wir am y pleidiau eraill.  Mae gan y Blaid hefyd hanes o wneud cynnydd sylweddol mewn etholiad Cynulliad - yn ol yn 1999.  Does yna ddim byd yn sicr eto - ond mae yna bosibiliadau i'r Blaid nad ydynt ar gael i'r un blaid arall.

Sunday, May 10, 2015

Arfon - hanes dwy ymgyrch

Mi gynhyrchais i flog yn ddiweddar oedd yn ymwneud ag ymgyrch Llafur yn Arfon yn syrthio yn ddarnau.  Erbyn y dydd Sadwrn olaf roedd eu hactifyddion yn rhedeg o gwmpas yr etholaeth wedi eu gwisgo fel anifeiliaid gwyllt.  Parhaodd hynny at ddiwrnod yr etholiad - roedd yna lwynog yn rhedeg o gwmpas Bangor Uchaf ar ddiwrnod yr etholiad ei hun yn ceisio argyhoeddi myfyrwyr y byddai pleidlais i Lafur yn amddiffyn ei fywyd.



Roedd ymgyrch Llafur yn lleol yn astudiaeth achos o sut i beidio a rhedeg ymgyrch etholiadol.  Yn sylfaenol craidd yr ymgyrch oedd adnabod gwahanol grwpiau lleiafrifol oddi mewn i'r boblogaeth a cheisio apelio atynt i bleidleisio i Lafur i bwrpas pontio'r bwlch o tua 1.4k rhwng Llafur a Phlaid Cymru.  Felly roedd gwahanol achosion cynllunio yn rhan o ymgyrch Llafur, roedd yna lwynogod a moch daear yn rhedeg o gwmpas yr etholaeth, roedd myfyrwyr o Loegr yn cael addewidion o £3k tuag at eu ffioedd, roedd cau Ysgol Carmel ar dudalen flaen pamffledi Llafur - er i'w cynghorwyr gefnogi cau'r ysgol, roedd gweithwyr cytundebau sero awr yn cael addewidion y byddai'r cytundebau hynny yn anghyfreithlon y diwrnod ar ol yr etholiad petai Alun Pugh yn cael ei ethol yn Arfon, ac ati, ac ati. 

Yn y cyfamser roedd y Blaid yn rhedeg ymgyrch hollol wahanol - doedd yna ddim apelio at grwpiau lleiafrifol.  Roedd yr ymgyrch wedi ei chanoli o gwmpas nifer gyfyng o negeseuon oedd wedi eu hanelu at bawb - negeseuon creiddiol y Blaid yn genedlaethol o wrthwynebu toriadau, cefnogi cyfartaledd rhwng Cymru a'r Alban a sefyll i fyny tros Gymru ochr yn ochr a negeseuon lleol - llais cryf i Arfon yn San Steffan  a record yr ymgeisydd.  Taflwyd adnoddau ariannol a dynol tuag at ail adrodd ac atgyfnerthu'r negeseuon hynny trosodd a throsodd.  Hefyd gwnaed defnydd o beirianwaith sylweddol y Blaid yn lleol  i adnabod cefnogwyr potensial a'u cael allan i bleidleisio.  Daethwyd o hyd i dros i 13k a llwyddwyd i gael 90% a mwy  o'r rheiny allan ar y diwrnod.  

A bod yn deg a Llafur mi gafodd eu hymgyrch ddarniog effaith - ond effaith darniog oedd hi.  Cododd eu pleidlais yn gyffredinol ac yn arbennig ymysg y sawl roeddynt yn eu dargedu - yn yr ardaloedd tlotaf un, ymysg myfyrwyr, yn un o'r ddau bentref lle'r oedd ysgol wedi cau (cawsant gweir yn y llall), mewn ardaloedd lle'r oedd yna ffraeo wedi bod ynglyn a chynllunio.  Ond mi gododd pleidlais y Blaid mwy o lawer, a chododd ym mwyafrif llethol y bocsus pleidleisio.  Cododd i'r fath raddau nes i'r Blaid gael mwy o bleidleisiau na Llafur mewn nifer o wardiau ardal Bangor am y tro cyntaf erioed mewn etholiad cyffredinol.

Yn ychwanegol at hynny roedd natur negyddol ymgyrch Llafur - ynghyd a'u hymdrechion cwbl fwriadol i gamarwain ac yn wir dweud celwydd noeth ar y stepan drws yn ennill rhai pleidleisiau iddynt - ond roedd hefyd cynddeiriogi pobl - ac yn eu gwneud yn fwy tebygol o fynd allan i bleidleisio yn erbyn Llafur.

O'm rhan fy hun, roeddwn yn gwybod yn fy nghalon bod pleidlais y Blaid am gynyddu'n sylweddol am tua 8.30 ddydd Iau.  Roeddwn yn gyfrifol am gael cefnogwyr y Blaid allan i bleidleisio yn rhan o ardal Twthill yng ngogledd Caernarfon.  Mae cefnogaeth y Blaid yn yr ardal arbennig yma o Gaernarfon gyda'r uchaf yng Nghymru.  Roeddwn wedi gofyn hanner awr ynghynt faint oedd wedi pleidleisio - roedd yn 65%.  58% oedd wedi pleidleisio trwy gydol y dydd yn 2010.  Roedd y rhestr cefnogwyr yn yr ardal o fy mlaen, ac roedd enw pawb oedd wedi pleidleisio wedi eu croesi allan - mae hynny'n gannoedd o bobl.  Doedd gen i ddim byd mwy i'w wneud - roeddwn wedi ffonio neu guro drws pawb nad oedd wedi pleidleisio - doedd hynny erioed wedi digwydd i mi o'r blaen.  Roedd yr etholiad trosodd am 8.30.  Roedd yn amlwg bod cefnogwyr naturiol y Blaid wedi mynd allan i bleidleisio mewn niferoedd sylweddol iawn.

Saturday, May 09, 2015

Ynglyn ag etholiad dydd Iau

Argraffiadau brysiog am oblygiadau etholiad dydd Iau - mympwyol braidd ydi pethau

1). Mi fydd y map etholiadol yng Nghymru yn edrych yn gwbl wahanol erbyn 2020.  Yn hytrach na 40 o seddi Cymreig, 30 fydd yna bryd hynny.  Bydd goblygiadau pellach i hyn wrth gwrs - mi fydd pethau yn fwy anodd i Lafur nag ydyw ar hyn o bryd oherwydd y bydd mwy o'u seddi seddi yn mynd na rhai unrhyw blaid arall.

2).  Mae'r system etholiadol yn ddiogel - mae hi wedi rhoi mwyafrif o seddi i'r Toriaid efo 37% o'r bleidlais - ac mae hynny'n gret o safbwynt y Toriaid.  Yn etholiad dydd Iau cafodd yr SDLP tua 100,000 o bleidleisiau a thair sedd, a chafodd UKIP tua 4,000,000 ac un sedd.  Beth bynnag ydym yn ei feddwl o UKIP dydi'r sefyllfa lle nad ydi'r system etholiadol yn gallu rhoi cynrychiolaeth i gyfran sylweddol o etholwyr ddim yn un iach.  

3). Mae'r Alban wedi symud i'r Chwith tra bod gweddill y DU wedi symud i'r Dde.  Mae hyn am wthio'r gwahanol rannau o'r DU ymhellach oddi wrth ei gilydd.  Mewn un ystyr mae'r Undeb eisoes wedi marw - ar lefel emosiynol beth bynnag.  Mae'r llinynau emosiynol oedd yn cadw'r DU at ei gilydd wedi datglymu - does yna ddim parch na hyd yn oed cynhesrwydd bellach rhwng Lloegr a'r Alban.  Mae'r ffaith bod llywodraethau'r DU a'r Alban yn arddel gwerthoedd sylfaenol wahanol yn ei gwneud yn llawer mwy tebygol y bydd y realiti emosiynol hwnnw'n cael ei adlewyrchu yn gyfansoddiadol yn y dyfodol cymharol agos.

4). Mae'r glymblaid wedi dod yn agos at ladd y Lib Dems.  Arweiniodd y glymblaid at golli cyfadran o'r bleidlais adain Chwith y Lib Dem i Lafur.  Ond llusgwyd y Toriaid i'r Chwith hefyd gan y glymblaid - a gwnaeth hyn y Toriaid yn fwy atyniadol i Lib Dems adain Dde yng ngwres etholiad cyffredinol.

5). Mi fydd etholiad Cynulliad 2016 yn wahanol etholiad, ond mae posibilrwydd go iawn y bydd yn un di Lib Dem - mi fydd UKIP yn debygol o gymryd eu seddi rhanbarthol.  Canlyniad hyn yn ei dro fydd cyfyngu ar ddewis Llafur ( a Phlaid Cymru) o bartneriaid posibl yn y Cynulliad.

6). Mae Llafur wedi eu niweidio yn ddrwg yng Nghymru a thu hwnt - maen nhw'n wanach nag y buont ers y rhan orau o ganrif.  Mae llawer o wendidau Llafur yr Alban yn wir am Llafur Cymru hefyd - mae'r is seiledd sydd wedi cynnal eu hegonomi am genedlaethau wedi erydu i raddau helaeth.  Mi fydd etholiadau Cynulliad y flwyddyn nesaf yn gyfle go iawn i geisio ysgwyd yr is seiledd hwnnw.  

7). Mi wna i rhywbeth mwy o berfformiad y Blaid mewn blogiad arall, ond ambell i ambell i sylw.  Yn gyntaf os oedd 'na gwestiwn am yr arweinyddiaeth mae wedi diflanu bellach.  Roedd perfformiadau cyfryngol  yr arweinydd yn gryf, ac yn cryfhau fel aeth yr ymgyrch rhagddi.  Mae Leanne bellach yn llawer mwy adnabyddus nag arweinyddiaeth Llafur yng Nghymru.  Roedd y brwdfrydedd a pharodrwydd i ymweld a phob rhan o Gymru yn anhygoel.  Cadarnhawyd gafael y Blaid ar ei chadarnlewoedd, cafwyd canlyniadau addawol iawn mewn rhannau pwysig o Gymru, a chafwyd rhai siomedig mewn ambell i le.  Byddwn yn dod yn ol at rhai o'r materion yma - ond mae gennym pob rheswm i edrych ymlaen i 2016 gydag optimistiaeth.

8). Mi fydd yna refferendwm ar ddyfodol y DU yn Ewrop - ac mae yna pob math o oblygiadau etholiadol posibl i hynny - mwy am hyn eto.

Dyna fo am y tro.  Byddwn yn dod yn ol at yr etholiad tros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

O, a bu bron i mi ag anghofio - mae'r 'broblem Seisnig' am arwain at ddatganoli pwerau pellach i Gymru, gwaharddiad ar aelodau seneddol Cymreig rhag pleidleisio ar faterion Seisnig a gorfodaeth ar y Cynulliad i gymryd mwy o gyfrifoldeb am godi ei chyllid ei hun.


Friday, May 08, 2015

Sibrydion 4

Llafur yn debygol o gadw Mon

Sibrydion 3

Llafur yn ennill yn Llanelli

Thursday, May 07, 2015

Sibrydion 2

Sibrydion yn unig ond Plaid Cymru i ddal Arfon yn weddol hawdd

Pethau'n mynd yn fler ym Mangor.

Dydi hi ddim yn bosibl blocio pobl yn y cigfyd, ond mae yna'r opsiwn o'u rhegi nhw.


Tuesday, May 05, 2015

Delwedd y diwrnod

Criw Plaid Cymru yng Nghaernarfon heno

Beth petai'r Toriaid wedi ymgyrchu tros AV?

Dull o bleidleisio lle mae'r etholwyr yn mynegi dewis mewn trefn - 1, 2, 3 ac ati ydi AV.  Ar ol y rownd cyntaf mae'r ymgeisydd olaf yn cael  ei ddiystyru ac mae ei ail bleidleisiau yn cael eu dosbarthu rhwng yr ymgeiswyr sydd ar ol - cyn i'r broses fynd rhagddi eto - nes bod yr ymgeisydd sydd ar y brig yn cyrraedd 50%.  Cafwyd refferendwm ar y pwnc yn gynnar yn ystod bywyd y senedd diwethaf, ac fe'i gwrthodwyd.  Y Toriaid a'r Toriaid yn unig oedd yn daer yn erbyn.

 Petai AV wedi ei basio mi fyddai'r rhagolygon ar gyfer yr etholiad yma yn wahanol iawn i'r hyn ydynt ar hyn o bryd.  Mewn seddi lle mai'r Toriaid ac UKIP fyddai'n gyntaf ac ail, byddai pleidleisiau Llafur a'r Lib Dems yn mynd yn bennaf i'r Toriaid - a sicrhau eu bod yn cael eu hethol.  Lle byddai'r Toriaid a Llafur yn y ddau le cyntaf, byddai'r rhan fwyaf o bleidleisiau UKIP yn mynd i'r Toriaid - a byddai cyfran dda ohonynt yn cael eu hethol.  

Yn yr amgylchiadau sydd ohonynt y Toriaid fyddai wedi elwa o AV.  Cofiwch hynny pan fydd yna udo a wylofain o gyfeiriad y wasg Doriaidd a'r Blaid Doriaidd pan fyddant yn cael eu hunain efo mwy o bleidleisiau na Llafur ond allan o Stryd Downing ar ol dydd Iau.

O na, ddim eto

Am y stori lawn - os oes gennych y stumog - gweler yma.