Go brin bod yna unrhyw bapur (hyd yn oed yr Express) arall fyddai'n dyrchafu anghyfleustra i dwristiaid sy 'n ymweld a chanolfan dwristiaid uwchben dioddefaint trueniaid sy'n dianc o ryfeloedd (sydd i rhyw raddau neu 'i gilydd wedi eu hachosi gan lywodraeth y dywydiedig dwristiaid) a bygythiad gwirioneddol i fywoliaeth y ganolfan dwristiaid honno.
Chwaeth drwg, wir, a dim sôn wrth gwrs am y miliynau o bensiynwyr Saesneg yn Ffrainc, Portiwgal a Sbaen sy'n byw ar ben y to, yn mantesio ar wasanaeth iechyd, gwasanaethau brys a thrafnidiaeth heb eu hail heb gyfrannu'r un ddime mewn trethi incwm. Mi ddaw hynny i ben yn ddigon sydyn os pleidleisith y mwyafrif i ymadael ag Ewrop ym 2017. Mi droith yr awdurdodau'r tu min ar ôl fôt na i Ewrop a mi geith rheiny dalu a rhannu'r baich fel eu cymdogion brodorol yn union fel maent hwy yn disgwyl i fewnfudwyr i Brydain ei wneud. Mae yna Gymry yn eu plith wrth gwrs. Rhagrith llwyr. Nid yw ci yn clywed ei hogle ei hun......Buasai'r ffoaduraiaid ifainc yma a'u plant yn gryn help i dalu'r biliau mewn cyfandir sy'n prysur heneiddio heblaw am y ddyletswydd foesol i edrych ar eu holau nhw
ReplyDeletesorri ar ben y twr roeddwn i am ddeud
ReplyDelete