Gan bod y rhan fwyaf o Gymry yn cael eu newyddion i gyd o Loegr, byddai penderfyniad o'r fath yn gwneud yr etholiad yn un llawer mwy Prydeinig nag yn y gorffennol. Byddai naratif y refferendwm yn boddi naratifau etholiad y Cynulliad. I'r graddau hynny byddai penderfyniad o'r fath yn niweidiol i Blaid Cymru. Ond nid Plaid Cymru yn unig fyddai'n dioddef.
Mae rhagolygon etholiad Cynulliad y flwyddyn nesaf yn ddrwg iawn i'r Lib Dems ac yn ddrwg i Lafur. Tan berfformiodd Llafur yng Nghymru ar Fai 7, ac mae Llafur yn ei chael yn anodd i berfformio i'w potensial mewn etholiadau Cynulliad. Bydd pethau'n anos fyth y flwyddyn nesaf - bydd y blaid wedi treulio cyfnod yn syllu ar ei bogel, bydd yn ol pob tebyg yn dechrau ar daith i'r Dde. Ar ben hynny bydd moral yn isel - a dydi Llafur ddim yn chael yn hawdd i gael ei gweithwyr ar y strydoedd mewn etholiad Cynulliad ar yr amser gorau. Roedd y gyfradd pleidleisio mewn ardaloedd Llafur yn is na gweddill Cymru yn yr etholiad cyffredinol - mae'n dra phosibl y bydd y patrwm yna'n gryfach y flwyddyn nesaf. Ond byddaii'r gyfradd pleidleisio ymysg Llafurwyr yn uwch petai yna refferendwm ar yr un diwrnod - gyda chyfran nid ansylweddol ohonynt yn dod allan i bleidleisio yn erbyn aros yn yr Undeb Ewropiaidd. Byddai hyn yn niweidio'r Toriaid yn ogystal na Phlaid Cymru - mae cefnogwyr y ddwy blaid yn well am ddod allan i bleidleisio na rhai Llafur mewn etholiadau ag eithrio etholiad San Steffan.
Ond byddai yna fwy o niwed na hynny i'r Toriaid hefyd. Y Blaid Doriaidd ydi'r unig un sydd wedi hollti mewn gwirionedd ynglyn ag Ewrop, a bydd yn edrych yn blaid ranedig tros gyfnod y refferendwm, tra bod pob plaid arall yn edrych yn gymharol unedig. Dydi wynebu etholiad tra'n ymddangos yn rhanedig byth yn syniad da - mae pris etholiadol i'w dalu am hynny. Dyna fyddai'n digwydd i'r Toriaid petai'r refferendwm a'r etholiad ar yr un diwrnod, a dyna pam y byddai'r blaid honno'n dioddef cymaint a'r un yng Nghymru petai'n dewis cynnal y ddau ar yr un diwrnod.
Mae hyn wedi croesi fy meddwl innau Cai - refferendwm ac etholiad Ewrop yr un dydd.
ReplyDeleteYn fy marn i bydd hyn yn niweidiol i'r Blaid gan fydd mwy fyth o bobl ukip am droi allan i bleidleisio NA ond hefyd o blaid ukip ei hun.
Rhaid i ni siarad ag un llais ynglyn ag Ewrop. Mewn sawl hystings siaradais i o blaid Ewrop gan danlinelli manteision sylweddol i Gymru o fod yn aelod. Cofiwch ymosodais i ar y biwrocratiaeth a'r wastraff arian sydd yn digwydd yn yr UE.
Mae'r Blaid Doriaid wedi ei rhannu - yn bendant. Ond, mae aelodau Plaid Cymru/Llafur ayyb sydd yn erbyn Ewrop hefyd. Rhai yn gryf yn erbyn!
Yr unig beth y gall Plaid wneud yn yr amgylchiadau hyn ydy siarad am bwysigrwydd Ewrop i Gymru.
Mi roedd y'r etholiad Cynulliad dwetha yr un diwrnod a'r referendum AV. Dechra meddwl bod pob ethoiad ar amser gwael i PC..!
ReplyDelete" bydd yn ol pob tebyg yn dechrau ar daith i'r Dde."
ReplyDeleteMae'n amlwg eich bod chi fel nifer eraill ym Mhlaid Cymru yn meddwl fod hyn yn beth niweidiol i blaid i'w wneud. Pryd wneith y geiniog gwympo dywedwch?