Monday, May 11, 2015

Beth mae etholiadau'r San Steffan yn ei ddweud wrthym am etholiadau'r Cynulliad 2016?

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi nad yw etholiad San Steffan o angenrhaid yn dylanwadu ar etholiad Cynulliad / Senedd datganoledig.  Ni pherfformiodd y Blaid yn arbennig o dda yn 1997 ond cafwyd canlyniad gwych yn 1999.  Cafodd yr SNP ganlyniad siomedig yn etholiad cyffredinol 2010, ond cafwyd canlyniad penigamp yn etholiadau Holyrood yn 2011.  Serch hynny yr etholiad diwethaf ydi'r un pwysicaf o safbwynt edrych ymlaen i'r dyfodol - ac mae'n rhwym o effeithio ar yr etholiad dilynol.

UKIP:  Mae cryn ddisgwyl wedi bod y bydd UKIP yn cael seddi rhanbarthol yn 2016 - ac mi fyddai perfformiad dydd Iau yn rhoi o leiaf pum sedd iddynt.  Serch hynny mae'r flwyddyn nesaf - a thu hwnt am fod yn anos iddynt.  Gan mai un aelod seneddol sydd ganddynt, byddant yn cael cryn dipyn yn llai o sylw cyfryngol na gafwyd tros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf.  Bydd diwedd y Glymblaid hefyd yn cymhlethu pethau - bydd yn caniatau i'r Toriaid symud i'r Dde, yn ogystal a chaniatau i'r Dib Lems ddechrau cyflwyno eu hunain fel plaid brotest unwaith eto.  Dylent gael ychydig o seddi rhanbarthol, ond byddant yn cael yn gyfforddus is na 10% o'r bleidlais.  Mae rhai o gydrannau eu cefnogaeth yn llai tebygol o fotio mewn etholiad Cynulliad na mewn un San Steffan.

Lib Dems:  Dydi'r gair Uffernol ddim yn ansoddiair digon cryf rhywsut i ddisgrifio pa mor wael oedd eu perfformiad ddydd Iau.  Roedd yn waeth na hynny.  Roedd eu canran o'r bleidlais ond hanner eu perfformiad siomedig yn etholiadau Cynulliad 2011.  Mae'r Lib Dems yn ddi eithriad yn gwneud yn salach mewn etholiadau Cynulliad nag yn yr etholiadau San Steffan blaenorol.  Oni bai eu bod yn gallu troi pethau yn sydyn, fydd yna ddim seddi rhanbarthol iddynt.  Serch hynny fyddwn i ddim yn betio gormod yn erbyn Kirsty Williams i ddal ei gafael ar Frycheiniog a Maesyfed.

Llafur:  Mewn trwbwl - mae'r etholiad yma wedi niweidio delwedd y blaid. Mae'r hen, hen batrwm yng ngwleidyddiaeth Cymru lle y gwelir Llafur yn adeiladu cefnogaeth yn gyflym pan mae'r Toriaid mewn grym yn San Steffan wedi ei dorri - maent yn wanach rwan nag oeddynt yn 2010.  Byddant yn amddiffyn record o fethiant tros 17 mlynedd, mae yna rannau o Gymru lle maent o dan fygythiad o gyfeiriad  y Toriaid, a rhannau eraill lle mae'r Blaid yn fygythiad.  Mae'n anodd llunio naratif i ymladd bygythiadau o'r Dde a'r Chwith ar yr un pryd.  Ar ben hynny mae llawer o'r amodau sydd wedi arwain at drychineb y Blaid Lafur Albanaidd yn wir yng Nghymru hefyd.

Y Toriaid:  Bydd y gwynt yn eu hwyliau, ond maent yn tan berfformio mewn etholiadau Cynulliad.  Byddant hefyd mewn llywodraeth yn San Steffan, a bydd y llywodraeth hwnnw yn cymryd eu penderfyniadau amhoblogaidd yn gynnar.  Gallant yn hawdd gymryd ambell i sedd ychwanegol (byddant yn edrych ar Frycheiniog a Maesyfed, Gwyr, Gogledd Caerdydd a Dyffryn Clwyd) - ond ni fyddai'n syndod chwaith petaent yn aros yn eu hunfan.

Plaid Cymru:  Y Blaid gafodd y canlyniadau mwyaf amrywiol, gyda rhai canlyniadau arbennig o dda (yng Nghanol De Cymru ac Arfon yn bennaf) a rhai siomedig.  Serch hynny y Blaid sydd a'r mwyaf o botensial i symud ymlaen yn sylweddol.  Mae ei harweinydd bellach yn fwy adnabyddus na'r un gwleidydd Cymreig arall, mae mewn gwell lle na neb arall i fanteisio ar wendid Llafur, mae etholiadau Cynulliad yn tanio ei chefnogwyr a'i hactifyddion - rhywbeth sydd ddim yn wir am y pleidiau eraill.  Mae gan y Blaid hefyd hanes o wneud cynnydd sylweddol mewn etholiad Cynulliad - yn ol yn 1999.  Does yna ddim byd yn sicr eto - ond mae yna bosibiliadau i'r Blaid nad ydynt ar gael i'r un blaid arall.

1 comment:

  1. Anonymous7:32 pm

    Beth mae etholiadau'r 'San Steffan' yn ei ddweud....

    ReplyDelete