Roedd llywodraeth cyntaf McDonald yn 1924 yn un anarferol - nid Llafur oedd y blaid fwyaf - roedd gan y Toriaid fwy o seddi na nhw. Llywodraeth leiafrifol oedd ei ail lywodraeth hefyd yn 1929, er bod y Blaid Lafur efo mwy o aelodau seneddol y tro hwnnw. Roedd ganddo fwyafrif llethol y trydydd tro - ond arwain clymblaid 'cenedlaethol' oedd yn hytrach na llywodraeth Lafur.
Cafodd Clem Atlee fwyafrif llethol yn 1945 yn sgil poblogrwydd eu polisi i sefydlu gwladwriaeth les. Collodd Llafur y rhan fwyaf o'u mwyafrif yn yr etholiad canlynol yn 1950 gan eu gafael efo mwyafrif o 5 ac roedd y Toriaid yn ol mewn grym erbyn 1951.
O bedair sedd yn unig enilliodd Harold Wilson ei etholiad cyntaf yn 1964 er iddo gael mwyafrif llethol yn 1966. Collodd etholiad 1970, cyn mynd ati i ffurfio llywodraeth lleiafrifol yn Chwefror 1974 - lle cafodd fwy o seddi ond llai o bleidleisiau na'r Ceidwadwyr. Ffurfiodd lywodraeth fwyafrifol yn ddiweddarach y flwyddyn honno wedi ail etholiad. Roedd ganddo fwyafrif o dri.
Roedd hi'n 23 blynedd cyn i Lafur ennill etholiad arall o dan arweinyddiaeth y gwir anrhydeddus Tony Blair. Enilliodd efo mwyafrif llethol yn 1997 a 2001 a chyda mwyafrif llai o lawer yn 2005 - y tro diwethaf i Lafur ennill etholiad cyffredinol tan 2020 - ar y gorau.
Mae'n amlwg bod y Blaid Lafur yn ei chael yn hynod o anodd i gael prif weinidog wedi ei ethol - ac yn arbennig felly efo mwyafrif cyfforddus. 1945, 1966, 1997 a 2001 ydi'r unig adegau pan mae hynny wedi digwydd mewn gwirionedd. Mae'n bwysicach iddyn nhw wneud y dewis 'cywir' neu a bod yn fwy manwl y dewis mwyaf etholadwy wrth ddewis eu harweinydd nesaf. Yn anffodus o safbwynt y Blaid Lafur dydyn nhw ddim yn gwneud y dewis gorau yn aml iawn - fel mewn cymaint o feysydd eraill mae ystyriaethau mewnol y blaid yn bwysicach nag ymarferoldeb ac effeithlionrwydd.
Rwyt ti wedi anghofio am Gordon Broon. Hawdd gwneud :)
ReplyDeleteNa, wnes i ddim anghofio amdana fo na Callahagan. Nid trwy etholiad cyffredinol y cawsant eu gwneud yn brif weinidogion ond trwy brosesau mewnol y Blaid Lafur.
ReplyDeleteDwi wedi addasu rhyw gymaint i osgoi camddealltwriaeth.
ReplyDelete