Saturday, May 09, 2015

Ynglyn ag etholiad dydd Iau

Argraffiadau brysiog am oblygiadau etholiad dydd Iau - mympwyol braidd ydi pethau

1). Mi fydd y map etholiadol yng Nghymru yn edrych yn gwbl wahanol erbyn 2020.  Yn hytrach na 40 o seddi Cymreig, 30 fydd yna bryd hynny.  Bydd goblygiadau pellach i hyn wrth gwrs - mi fydd pethau yn fwy anodd i Lafur nag ydyw ar hyn o bryd oherwydd y bydd mwy o'u seddi seddi yn mynd na rhai unrhyw blaid arall.

2).  Mae'r system etholiadol yn ddiogel - mae hi wedi rhoi mwyafrif o seddi i'r Toriaid efo 37% o'r bleidlais - ac mae hynny'n gret o safbwynt y Toriaid.  Yn etholiad dydd Iau cafodd yr SDLP tua 100,000 o bleidleisiau a thair sedd, a chafodd UKIP tua 4,000,000 ac un sedd.  Beth bynnag ydym yn ei feddwl o UKIP dydi'r sefyllfa lle nad ydi'r system etholiadol yn gallu rhoi cynrychiolaeth i gyfran sylweddol o etholwyr ddim yn un iach.  

3). Mae'r Alban wedi symud i'r Chwith tra bod gweddill y DU wedi symud i'r Dde.  Mae hyn am wthio'r gwahanol rannau o'r DU ymhellach oddi wrth ei gilydd.  Mewn un ystyr mae'r Undeb eisoes wedi marw - ar lefel emosiynol beth bynnag.  Mae'r llinynau emosiynol oedd yn cadw'r DU at ei gilydd wedi datglymu - does yna ddim parch na hyd yn oed cynhesrwydd bellach rhwng Lloegr a'r Alban.  Mae'r ffaith bod llywodraethau'r DU a'r Alban yn arddel gwerthoedd sylfaenol wahanol yn ei gwneud yn llawer mwy tebygol y bydd y realiti emosiynol hwnnw'n cael ei adlewyrchu yn gyfansoddiadol yn y dyfodol cymharol agos.

4). Mae'r glymblaid wedi dod yn agos at ladd y Lib Dems.  Arweiniodd y glymblaid at golli cyfadran o'r bleidlais adain Chwith y Lib Dem i Lafur.  Ond llusgwyd y Toriaid i'r Chwith hefyd gan y glymblaid - a gwnaeth hyn y Toriaid yn fwy atyniadol i Lib Dems adain Dde yng ngwres etholiad cyffredinol.

5). Mi fydd etholiad Cynulliad 2016 yn wahanol etholiad, ond mae posibilrwydd go iawn y bydd yn un di Lib Dem - mi fydd UKIP yn debygol o gymryd eu seddi rhanbarthol.  Canlyniad hyn yn ei dro fydd cyfyngu ar ddewis Llafur ( a Phlaid Cymru) o bartneriaid posibl yn y Cynulliad.

6). Mae Llafur wedi eu niweidio yn ddrwg yng Nghymru a thu hwnt - maen nhw'n wanach nag y buont ers y rhan orau o ganrif.  Mae llawer o wendidau Llafur yr Alban yn wir am Llafur Cymru hefyd - mae'r is seiledd sydd wedi cynnal eu hegonomi am genedlaethau wedi erydu i raddau helaeth.  Mi fydd etholiadau Cynulliad y flwyddyn nesaf yn gyfle go iawn i geisio ysgwyd yr is seiledd hwnnw.  

7). Mi wna i rhywbeth mwy o berfformiad y Blaid mewn blogiad arall, ond ambell i ambell i sylw.  Yn gyntaf os oedd 'na gwestiwn am yr arweinyddiaeth mae wedi diflanu bellach.  Roedd perfformiadau cyfryngol  yr arweinydd yn gryf, ac yn cryfhau fel aeth yr ymgyrch rhagddi.  Mae Leanne bellach yn llawer mwy adnabyddus nag arweinyddiaeth Llafur yng Nghymru.  Roedd y brwdfrydedd a pharodrwydd i ymweld a phob rhan o Gymru yn anhygoel.  Cadarnhawyd gafael y Blaid ar ei chadarnlewoedd, cafwyd canlyniadau addawol iawn mewn rhannau pwysig o Gymru, a chafwyd rhai siomedig mewn ambell i le.  Byddwn yn dod yn ol at rhai o'r materion yma - ond mae gennym pob rheswm i edrych ymlaen i 2016 gydag optimistiaeth.

8). Mi fydd yna refferendwm ar ddyfodol y DU yn Ewrop - ac mae yna pob math o oblygiadau etholiadol posibl i hynny - mwy am hyn eto.

Dyna fo am y tro.  Byddwn yn dod yn ol at yr etholiad tros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

O, a bu bron i mi ag anghofio - mae'r 'broblem Seisnig' am arwain at ddatganoli pwerau pellach i Gymru, gwaharddiad ar aelodau seneddol Cymreig rhag pleidleisio ar faterion Seisnig a gorfodaeth ar y Cynulliad i gymryd mwy o gyfrifoldeb am godi ei chyllid ei hun.


8 comments:

  1. Craig6:41 pm

    Fel chdi dwin optimistic am y 5 mlynadd nesa. Casau beth mae Tories yn mynd i neud efo eu mandate ond maen anodd gweld sut dydyr canlyniad ddoe ddim yn mynd i helpu Plaid a Chymru yn y tymor eitha hir. Rhyfadd iawn ddo bod yr unig lle mae English Nationalist Party (UKIP) yn mynd i fod yn llwyddianus fydd Cymru. Deud llawer amdanon ni, ein agwedd, ein hanes ac ein demograffics.

    ReplyDelete
  2. Fel chdi dwin optimistic am y 5 mlynadd nesa. Casau beth mae Tories yn mynd i neud efo eu mandate ond maen anodd gweld sut dydyr canlyniad ddoe ddim yn mynd i helpu Plaid a Chymru yn y tymor eitha hir. Rhyfadd iawn ddo bod yr unig lle mae English Nationalist Party (UKIP) yn mynd i fod yn llwyddianus fydd Cymru. Deud llawer amdanon ni, ein agwedd, ein hanes ac ein demograffics.

    ReplyDelete
  3. Rhyfedd iawn sut y bu i bleidlais y Blaid ostwng yn nau o'i phrif dargedau: Llanelli ac, i raddau llawer llai, Ceredigion. Er safon yr ymgeiswyr ac egni'u hymhyrchoedd, ac er i'r bleidlais gynyddu ychydig ym mron pob man arall.

    ReplyDelete
  4. Anonymous11:47 pm

    Dylan, mae hynny'n rhyfedd iawn dydi? Un cyswllt rhwng y ddwy etholaeth yw bod y ddau ymgeisydd yn hoyw.

    ReplyDelete
  5. Siomedig iawn gyda chanlyniad Llanelli. Gwnaethon ni BOPETH a mwy i ennill ond fe gollon ni 7% o'r bleidlais (mae'n anodd iawn derbyn hynny, ac fel yr ymgeisydd rwyf yn teimlo'n hollol gyfrifol am hynny).

    Hoffwn dalu teyrnged i'r tim - som am waith anhygoel!

    O ran y busnes rhywioldeb - dw i ddim yn siwr os oedd hynny'n ffactor o gwbl.

    Ni farwodd Llanelli neu Gymru ar y noson - mae Cymru'n fyw ac mae'r Mudiad Genedlaethol yn fyw. Rwyf yn awchu am gyfle arall yn 2020 - ble yw'r cwestiwn?

    YMLAEN FFRINDIAU! YMLAEN!

    ReplyDelete
  6. Hmm. Dw i ddim yn meddwl bod hynny'n berthnasol. Gobeithio na, beth bynnag. Mae'r ddau'n foel hefyd, ond does dim rheswm o gwbl neidio i'r casgliad bod yna gysylltiad yn hynny o beth chwaith.

    ReplyDelete
  7. I ateb sylweb 'anonymous'

    Wnes i ganfasio tua 100 diwrnod, tua 80 o dai pob sesiwn yn etholaeth Llanelli, neb wedi sõn an rhywioldeb yr ymgeisydd. Yn amlwg nid yw hyn yn golygu nad oes neb wedi cymryd sylw tuag at hyn. Nid oedd hyn yn amlwg o gwbwl yn ystod yr ymgyrch. Dwi ddim yn gŵbod pam dylai hyn wneud wahaniaeth beth bynnag.


    ReplyDelete
  8. Faint o bobl sydd hyd yn oed yn ymwybodol o rywioldeb aelodau seneddol/ymgeiswyr? Oni bai eu bod nhw'n destun straeon papur newydd e.g. Chris Bryant.

    ReplyDelete