Mi fydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai wedi darllen am antics rhyfedd Llafur Arfon yn ystod yr ymgyrch etholiad ddiweddar. 'Dydi colli'r etholiad heb eu gwneud nhw yn fwy rhesymegol mae gen i ofn. Y stynt diweddaraf ydi trefnu bws i fynd i Lundain i brotestio yn erbyn llymder a thoriadau mewn gwariant cyhoeddus. Pleidleisiodd y Blaid Lafur seneddol o blaid toriadau a llymder yn gynharach eleni. Maent felly yn mynd i brotestio yn erbyn polisi eu plaid eu hunain.
Ymddengys bod hyn yn duedd Llafuraidd y tu hwnt i Arfon. Mi gofiwch Leighton Andrews yn gwrthdystio fel Aelod Cynulliad yn erbyn cau ysgolion - deilliant uniongyrchol ei bolisiau fo'i hun fel Gweinidog Addysg.
Annwyl Cai Larsen,
ReplyDeleteGofynnaf yn garedig i chi dynnu'r llun hwn oddi ar eich blog os gwelwch yn dda. Fi yw'r person yng nghanol y llun. Sylwaf mai hwn yw'r eil dro i chi ei ddefnyddio ar eich blog. Nid oes caniatad wedi ei warantu ar fy rhan ar gyfer ei ddefnyddio yn y modd yma. Ni roddais ganiatad i berchennog/crëwr y llun ei rannu gydag eraill ar gyfer unrhyw bwrpas. Ni roddwyd caniatad ychwaith i llun ohonaf gael ei ddefnyddio/roi yn gyhoeddus ar y we.
Buaswn ym gwerthfawrogi os y gallwch 'blyrio' fy wyneb neu ei dynnu. Diolch am eich sylw.
Dydi tynnu'r ddelwedd ddim yn broblem, ac os ydych am i mi wneud hynny mi wnaf - er nad oes gennym hawl fel y cyfryw i ddelweddau ohonom ein hunain wrth gwrs - fel y byddai'r diweddar Lady Di wedi cadarnhau petai'n dal efo ni.
ReplyDeleteDiolch Cai
ReplyDelete