Wednesday, August 31, 2011
Gwariant ar gyffuriau cancr newydd yng Nghymru
Mae'n ddiddorol nodi bod Golwg360 yn cysylltu ymysodiad y Toriaid ar y gwariant uchel ar brescripsiwns yng Nghymru ag adroddiad gan elusen sy'n galw ei hun yn Sefydliad y Canserau Anghyffredin (RCF - Rare Cancers Foundation).
Mae'r adroddiad hwnnw yn honni bod bwlch anferth mewn mynediad i gyffuriau newydd rhwng pobl sy'n byw yng Nghymru a'r Alban o gymharu a Lloegr. Yn ol yr RCF mae cleifion yng Nghymru yn bump gwaith llai tebygol o gael mynediad i gyffuriau newydd na rhai yn Lloegr, ac mae Albanwyr yn dair gwaith llai tebygol o gael mynediad iddynt.
'Does gen i ddim problem efo sylwadau Darren Millar fel y cyfryw - mae'n gwbl briodol bod dadl wleidyddol yn mynd rhagddi ynglyn a'r ffyrdd gorau o wario'r cyllid sydd ar gael i ni. Mae Golwg360 hefyd yn dyfynnu, Dr Chris Jones, cyfarwyddwr meddygol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru pan mae hwnnw'n honni - yn gywir - bod gwariant y pen ar drin cancr yn uwch yng Nghymru nag ydyw'n Lloegr.
Yr hyn nad ydi Golwg360 yn ei ddweud fodd bynnag ydi bod y Sefydliad y Canserau Anghyffredin yn gorff sy'n cael ei ariannu i raddau helaeth gan gwmniau cynhyrchu cyffuriau neu gwmniau iechyd preifat - mae 12 o'r 13 noddwr yn syrthio i'r categoriau hynny. MacMillan ydi'r eithriad. Mae swm bach (£14,521) hefyd yn dod o goffrau Adran Iechyd Lloegr. Gellir gweld rhestr o'r cyfranwyr ar dudalen 14 o'r adroddiad.
Mae cyffuriau newydd o reidrwydd yn hynod ddrud - 'does neb yn siwr pa mor effeithiol ydynt am fod, ac o ganlyniad dydyn nhw ddim yn cael eu cynhyrchu ar raddfa fawr. Mae yna gwestiwn go iawn ynglyn a pha mor gost effeithiol ydi hi i awdurdodau iechyd wario'n drwm arnynt. Y sefyllfa yng Nghymru ydi bod gwariant ar brescripsiwns yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, bod gwariant ar gancr hefyd yn uwch, ond bod gwario ar iechyd yn gyffredinol yn is, ac mae gwariant ar gyffuriau anarferol a newydd hefyd yn is. Hynny yw, mae yna ddwy system iechyd wahanol efo blaenoriaethau gwahanol. Felly ddylai pethau fod mewn cyfundrefn ddatganoledig.
'Dydi barn elusen sydd i bob pwrpas ym mherchnogaeth cwmniau fyddai'n elwa o wireddu ei argymhellion ddim yn un y dylid rhoi gormod o sylw iddynt wrth flaenoriaethu gwariant ar iechyd yng Nghymru.

Amddifadedd yng Nghymru wedi ei fapio
Diolch i Mabon ao Gwynfor am dynnu fy sylw at wefannau sy'n defnyddio Googlemap i fapio amddifadedd yng Nghymru. Bydd darllenwyr rheolaidd y blog yn gwybod fy mod yn gwneud defnydd gweddol fynych o Fynegai Amddifadedd Cymru.
Mae'r gwefannau yn rhoi darlun clir, gweladwy a diriaethol iawn o batrymau tlodi yng Nghymru, ac os ydych yn rhoi clic ar y chwith ar eich llygoden tra'n aros tros unrhyw ward cewch fanylion llawn. Mae yna dri map - y Mynegai Amddifadedd Cyflawn, y Mynegai Tlodi Plant a Chymhariaeth yn ol Cynghorau Lleol.
'Dwi'n bwriadu rhoi'r gwefannau ar ochr dde'r blog o dan y pennawd Gwefannau o Ddiddordeb Gwleidyddol er hwylusdod i'r sawl sydd eisiau defnyddio adnoddau hynod ddefnyddiol a dadlengar

Tuesday, August 30, 2011
Ymateb y wasg Gymreig i stori'r Independent on Sunday
'Dwi'n gwybod fy mod yn mentro diflasu pawb, ond mwy am yr ymateb i sylwadau gwrth Gymreig Roger Lewis sydd ar yr arlwy heddiw mae gen i ofn.
Ymateb diweddaraf y wasg (honedig) Gymreig sydd o dan sylw heddiw, sef y ddau gampwaith newyddiadurol o stabl Trinity Mirror, y Daily Post a'r Western Mail. Mae ymateb y papurau yn dinoethi rhai o'u gwendidau nhw eu hunain yn benodol a gwendidau'r cyfryngau Cymreig yn gyffredinol. Mi wnawn ni ddechrau efo'r Post - 'does gen i ddim linc i'r stori mae gen i ofn.
Adrodd ar stori'r Independent on Sunday mae'r papur mewn gwirionedd. 'Does gan y Post ddim diddordeb o gwbl yn Ne Cymru wrth gwrs, a 'dydyn nhw ddim yn gwybod llawer am y lle chwaith. Felly mae'n ddigon naturiol nad ydynt yn dweud gair yn eu hymdriniaeth am sylwadau Lembit Opik, Chris Bryant na Peter Black.
Y peth mawr - y peth mawr, mawr, mawr - i'r Post ydi sylwadau Denbigh born Carol Vorderman. Maent hefyd yn ailadrodd rhai o sylwadau Roger Lewis ac yn cyfeirio'n frysiog at Jonathan Edwards. 'Dydyn nhw ddim yn trafferthu egluro pam bod barn seren deledu sy'n hanner Cymraes, hanner Iseldirwraig sydd wedi ei geni yn Lloegr, nad yw'n siarad Cymraeg a sydd wedi byw y tu allan i'r wlad am fwy na deg mlynedd ar hugain yn fwy arwyddocaol na barn unrhyw un arall. Ond hi, a hi'n unig sy'n cael mynegi barn ar y mater gan North Wales' Best Read Paper.
Mae ymateb y Western Mail yn waeth o lawer. O leiaf mae'r Daily Post yn dangos rhyw arwydd o fod efo agenda a meddylfryd annibynnol eu hunain - maent yn cicio cymaint o Hwntws a phosibl allan o'r stori. Y cwbl mae'r Mail druan yn lwyddo i'w wneud ydi ail bobi stori'r Independent on Sunday ac ychwanegu ambell i bwynt bychan na ymddangosodd yn y papur Seisnig.
'Rwan, dwi'n gwybod bod y Western Mail yn sobor o ddi hyder, 'dwi'n gwybod bod y papur yn dreuenus o anabl i yrru ei agenda ei hun, 'dwi'n gwybod ei fod yn gadael i'r wasg Lundeinig arwain y ffordd ar bron i bob mater. Ond byddai dyn yn meddwl y gallai hyd yn oed y cadach gwlyb o bapur hwn (sydd yn disgrifio ei hun fel papur cenedlaethol Cymru) fentro mymryn a chicio yn erbyn y tresi wrth ddelio a stori sy'n ymwneud yn benodol a Chymru, ac ymddwyn fel petai yn gwybod mymryd mwy na'r Indie ynglyn a'r mater. Ond na - maen nhw'n dilyn lein y papur Seisnig i'r llythyren.
Yn y cyfamser aeth llwyth o amaturiaid ar y blogosffer (Syniadau, Valleys Mam, HRF, Blog Banw ayb) ati i edrych ar y mater o ongl Gymreig, a rhoi gwedd Gymreig iddi - a thrwy hynny ymdrin a'r mewn modd miniocach o lawer o safbwynt newyddiadurol.
Er enghraifft, mae cyfeiriadau wedi eu gwneud ar y blogosffer at ddiffyg Cymreigrwydd rhai o'r cymeriadau a ddyfynwyd gan y Sunday Independent fel ymateb Cymreig, cafwyd gwybodaeth am hanes Chris Bryant o ymateb yn hysteraidd yn y gorffennol i ymysodiadau ar grwpiau eraill (peldroedwyr Eidalaidd a phobl hoyw), Cafwyd awgrymiadau bod y cyfryw wleidydd yn arddel safonau dwbl, neu ei fod yn ymateb i ddigwyddiadau mewn modd oportiwnistaidd ac anghyfrifol er mwyn dangos ei hun ac ennill mantais wleidyddol byr dymor (wel - rwan rydych yn cael yr olaf o'r uchod a dweud y gwir).
Ond nid dyna a geir gan y wasg 'Gymreig' - fersiwn y Sunday Independent wedi ei ail bobi sydd gan y Western Mail i'w gynnig i ni, a fersiwn y Sunday Independent wedi ei garthu o gyfeiriadau at bobl o'r De sydd gan y Daily Post.
Tybed os oes yna unrhyw wlad fodern arall efo gwasg genedlaethol mor dreuenus o daeog, di hyder a di glem?

Monday, August 29, 2011
Ymddiheuriadau _ _ _
_ _ _ i'r sawl yn eich plith sydd sydd yn gyfrifol am rhai o'r 3,000+ o negeseuon sydd wedi eu gadael yma.
'Dwi wedi llwyddo i guddio llawer ohonynt trwy chwarae o gwmpas efo pethau. 'Dwi'n gobeithio y bydd y cwbl yn ol yn eu lle mewn diwrnod neu ddau.

Sunday, August 28, 2011
Ymdriniaeth y Sunday Independent o'r stori Roger Lewis
Mae ymdriniaeth yr Independent on Sunday o sylwadau gwrth Gymreig Roger Lewis yn ddigon dadlennol ac mae'n codi sawl 'sgwarnog digon diddorol. Rydym eisoes wedi edrych yn frysiog ar y stori yma wrth gwrs.
Adrodd y stori sydd eisoes yn gyfarwydd i ni yng Nghymru mae'r Indie yn y bon, ac ychwanegu eu lein eu hunain bod Jonathan Edwards wedi gwneud iddo'i hun edrych yn wirion braidd oherwydd bod y rhan fwyaf o Gymry o'r farn ei fod yn gwneud mor a mynydd o fater bach. Maent yn 'profi' eu pwynt trwy gyfeirio at neu ddyfynnu nifer ol bobl sydd o bosibl yn ymddangos fel esiamplau perffaith o Gymreictod twymgalon os ydych yn edrych ar y Byd o Canary Wharf - Chris Bryant, Carol Vorderman, Lembit Opik, Stephen Fry a Gyles Brandreth.
'Rwan pan mae rhywun yn eistedd yn ol ac yn meddwl am y peth mae'n rhyfeddol fel mae'r arfer o ddweud pethau cas am grwpiau o bobl wedi mynd yn llawer, llawer llai cyffredin nag y bu. Roedd yn gyffredin ddeg mlynedd ar hugain yn ol i ddod ar draws sylwadau sarhaus am drigolion gwledydd eraill ac am elfennau oddi mewn i gymdeithas ym Mhrydain ar y cyfryngau prif lif, ac mewn bywyd pob dydd. 'Dydi hynny ddim yn gyffredin erbyn heddiw - er bod modd meddwl am eithriadau mewn rhai cyd destunnau - mae sylwadau dilornus am ferched yn gyffredin iawn ymysg perfformwyr rap, mae ambell i gomediwr megis Frankie Boyle yn hoff o wneud hwyl ar ben yr anabl, mi fydd comidiwyr du yn gwneud hwyl am benpobl ddu eraill weithiau. Ond mae sylwadau cyhoeddus o'r fath yn rhyfeddol o brin erbyn heddiw - hyd yn oed mewn bywyd pob dydd.
Fel rheol mae sylwadau dilornus sydd wedi eu cyfeirio tuag at grwpiau mawr o bobl yn ennyn ymateb lled hysteraidd. Er enghraifft roedd rhywun o'r enw Stephen Fry yn ddigon parod i daflu'r cyhuddiad o homoffobia tuag at David Cameron pan ymddangosodd rhywun o Wlad Pwyl sydd ag agweddau tuag at bobl hoyw na fyddai'n plesio mewn parti caws a gwin yn Hampstead, yng nghynhadledd y Toriaid; ac aeth boi o'r enw Chris Bryant yntau i ben y caets wedi i George Osborne ei alw'n Pantomime Dame gan egluro ddigon snifflyd bod homoffobia yn Nhy'r Cyffredin yn gwbl anerbyniol. Mae'r ddau (trwy gyd ddigwyddiad llwyr wrth gwrs) yn hoyw - a 'does yna ddim perthynas o gwbl rhwng eu canfyddiad o ddifrifoldeb homoffobia a'r ffaith eu bod nhw eu hunain yn digwydd perthyn i'r grwp a ddilornir gan homoffobiaid - nid bod y gymuned hoyw wedi ei dilorni yn y naill achos arbennig yma na'r llall mewn gwirionedd.
Mae'n hawdd gweld pam bod agweddau wedi newid. Cyn y chwe degau roedd Prydain yng nghanol ymerodraeth enfawr oedd yn rheoli bywydau pob math o bobl ar hyd a lled y Byd. O'r chwe degau ymlaen diflanodd yr ymerodraeth a dechreuodd trigolion y cyn ymerodraeth symud i Brydain mewn niferoedd sylweddol iawn. 'Dydi dilorni pobl rydych yn eu rheoli pan maent yn byw ymhell ddim yn broblem o safbwynt cydlyniad cymdeithasol, ond pan maent yn byw i fyny'r lon mae'r stori'n wahanol.
Yn y Brydain newydd a dyfodd o chwe degau'r ganrif ddiwethaf ymlaen roedd yr agweddau hiliol amrwd oedd yn nodweddu llawer o bobl Prydain yn y gorffennol yn wirioneddol beryglys. O ganlyniad cafwyd newid mewn agweddau sefydliadol a symudwyd tuag at syniadaeth sy'n pwysleisio cydraddoldeb a pharch - ac yn raddol daeth y rhan fwyaf (er nad pawb wrth gwrs) i goleddu'r gwerthoedd yna. Roedd hyn oll yn cyd fynd a newidiadau eraill mewn cymdeithas - newidiadau mewn rol merched ac erydiad rhai o'r strwythurau hierarchaidd oedd wedi bodoli ar rhyw ffurf neu'i gilydd ers canrifoedd. Roedd papurau newydd rhyddfrydig megis yr Independent yn gydadrannau pwysig o'r newid oherwydd iddynt gynorthwyo i greu'r fframwaith deallusol lle gallai ddigwydd.
Roedd grwpiau cynhenid wedi dioddef yn enbyd yn y gorffennol oherwydd rhagfarnau hefyd - pobl hoyw er enghraifft. Roedd y sefyllfa newydd o gymorth sylweddol i'r grwpiau hyn - os ydi goddefgarwch tuag at ddiwylliannau a grwpiau ethnig eraill yn ddymunol, felly mae'n dilyn bod goddefgarwch tuag at bobl sydd a rhywioldeb gwahanol hefyd yn ddymunol. Mae'r cynnydd sylweddol yn hawliau'r anabl wedi datblygu yn y cyd destun ehangach yma hefyd.
Mae'n ddiddorol felly bod rhai grwpiau yn gallu cael eu dilioni o hyd, a bod pobl megis Chris Bryant, Stephen Fry a Lempit Opik - pobl sy'n uchel eu cloch pan mae grwpiau eraill yn cael eu dilorni - yn fodlon lled amddiffyn y dilorni hwnnw.
Fel y dywedais, ychydig o ddilorni cyhoeddus sydd ar ol. 'Dwi ddim yn siwr pam ein bod yn fodlon derbyn geiriau i ganeuon poblogaidd sy'n argymell trais tuag at ferched mewn deunydd megis gangsta rap. Mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf bod y ffaith bod y sawl sy'n perfformio'r stwff yn amlwg yn arddel gwerthoedd diwylliannol sy'n dod o ochr arall yr Iwerydd yn rhywbeth i'w wneud efo'r ateb. Mae yna elfen bach o chwerthin ar ben y rapiwr a'i agweddau cyntefig.
'Dydi jocs Gwyddelig ddim yn boblogaidd bellach - mi laddwyd y stereoteip o Wyddel dwl yn rhannol gan y Teigr Celtaidd, ond yn bwysicach gan ddeg mlynedd ar hugain o naratif gan y wladwriaeth Brydeinig oedd yn mynnu eu bod yn ymladd yn erbyn gelyn hynod soffistigedig ar ffurf y Mudiad Gweriniaethol yn yr Iwerddon.
A daw hyn a ni at y Cymry. Pam ei bod yn dderbyniol i wneud sylwadau gwrth Gymreig, ond nad yw'n dderbyniol i wneud rhai gwrth Iddewig? Efallai bod rhan o'r ateb yn deillio o'r ffaith nad oes yna rhyw lefel mawr o atgasedd tuag at Gymry yn Lloegr yn gyffredinol, ac nad oes yna deimlad ein bod wedi dioddef llawer yn sgil ein arwahanrwydd. Mae pobl o ganlyniad yn edrych ar Gymry yn wahanol i Arabiaid, Iddewon neu bobl o Bacistan. Oherwydd nad oes yna rhyw deimlad bod yna berygl ynghlwm a thynnu ar y Cymry, mae'n hawdd cymryd yr agwedd bod gwneud mor a mynydd am ychydig o sylwadau cas am y Gymraeg a'i siaradwyr yn wirion. Mae'r un peth yn wir am Ffrancwyr - grwp arall mae'n dderbyniol i'w dilorni. Mae'r ffaith ein bod yn debyg i Saeson mewn aml i ffordd yn gwneud y gwahaniaeth rhyngom ni a grwpiau eraill yn y cyswllt hwn.
Y drwg efo cymryd yr agwedd yma ydi hyn - pan rydym yn dechrau dadlau ei bod yn iawn i ddilorni rhai grwpiau - ond bod dilorni grwpiau eraill yn ymylu ar fod yn drosedd yn erbyn y ddynoliaeth - rydym yn dechrau ymosod ar resymeg mewnol, ac felly seiliau deallusol y ty cardiau o syniadaethau goddefgar sydd wedi ei adeiladu arnynt.
Mae'r seiliau deallusol hynny o dan gryn straen ar hyn o bryd beth bynnag. Pan mae'r rhyddfrydig a'r goddefgar - pobl fel Bryant ac Opik, a phapurau fel yr Indie - yn dechrau naddu i mewn iddynt hefyd, mae rhywun yn dechrau ofni am ddyfodol y gyfundrefn syniadaethol sydd mor annwyl iddynt.

Saturday, August 27, 2011
Un arall o honiadau Gwilym Owen yn cwympo
Roedd yn ddiddorol darllen erthygl Llion Iwan yn Golwg yr wythnos yma ynglyn a chyflwr newyddiaduriaeth yng Nghymru. Gwrth ddweud un o'r nifer o ddatganiadau ysgubol a wnaed gan Gwilym Owen wrth ymddeol oedd Llion mewn gwirionedd - sef bod safonau newyddiadurol yn y Gymru gyfoes yn ddi ddim. Mae'r darn yn drylwyr, ac mae'n dod i gasgliadau cwbl groes i rai Gwilym - ond mae'r casgliadau hynny wedi eu seilio ar gryn dipyn o dystiolaeth.
Mi es innau ati yn gynharach yn yr haf i godi amheuon ynglyn ag un o ddatganiadau mawr eraill Gwilym - sef bod y Gymraeg 'yn mynd yn iaith dosbarth canol'. Roedd fy nghasgliadau innau yn gwbl groes i rai Gwilym Owen, a 'dwi'n gobeithio eu bod hwythau wedi eu seilio ar dystiolaeth gweddol gadarn.
Rwan 'dwi'n gwybod nad cynhyrchu blogiad nag erthygl oedd Gwilym gyda'i ddatganiad wrth ymddeol, ac nad oes lle mewn amgylchiadau felly i gyflwyno tystiolaeth. Ond mae'n dal yn eironi rhyfeddol i'r dyn gyflawni un o bechodau marwol newyddiadyra - cyflwyno rhagdybiaethau (neu ragfarnau efallai) fel petaent yn ffeithiau - a gwneud hynny wrth gau pen y mwdwl ar yrfa newyddiadurol hynod ddisglair.

Thursday, August 25, 2011
Gair bach o gyngor i Leighton Andrews
Byddwn wedi tybio ei bod yn weddol amlwg nad ydi cyhuddiadau arweinydd Cyngor Penfro, John Davies bod y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yn 'targedu' cynghorau annibynnol yn gwneud llawer iawn o synnwyr. Mae'n wir bod cynghorau Mon a Phenfro o dan y morthwyl i wahanol raddau ar hyn o bryd, ond mae hefyd yn wir eu bod yn gyfrifol am eu problemau eu hunain. Mae Ynys Mon yn baragon gwyrdroedig o gam lywodraethu idiotaidd, tra bod Sir Benfro yn rhoi'r argraff nad ydynt yn rhoi digon o bwyslais ar ddiwigio problemau sefydliadol yn eu trefniadau amddiffyn plant. Dylai hyn fod yn brif flaenoriaeth i unrhyw gyngor.
Yn ychwanegol 'dydi'r naill gyngor na'r llall ddim hyd yn oed yn ymddangos ar radar etholiadol Llafur - bydd eu holl sylw nhw wedi ei droi at ail adeiladu eu ceiri lleol yn ninasoedd mawr Cymru a'r Cymoedd ym mis Mai.
Mi fyddwn, fodd bynnag yn dweud un peth - ac yn dweud hynny yn garedig fel rhywun sydd a mwy o lawer amser i Leighton Andrews na sydd ganddo i weddill gweinidigion y llywodraeth yng Nghaerdydd. Mae Leighton yn greadur gwleidyddol iawn. 'Dwi'n gwybod bod hynny'n rhywbeth rhyfedd i'w ddweud am wleidydd, ond mae'n hoffi cael y maen i'r wal yng nganol goleuadau'r cyfryngau. Mae'n hoffi mynegi ei bersona gwleidyddol ynghanol y goleuni hwnnw - persona arw (yn ystyr abrasive y gair hwnnw), penderfynol sy'n gwybod yr hyn mae ei eisiau a sydd am fynnu cael yn union hynny
'Does gen i ddim oll yn erbyn hynny - byddai Cymru'n well lle o lawer petai mwy o'i gwleidyddion yn ymdebygu i'r hyn mae Leighton yn ymgyraedd ato. Ond mae'n wrth gynhyrchiol i fynnu actio'r rol yma'n gyhoeddus. Petai'r dyn yn dweud ei ddweud ac yn gwneud ei wneud y tu hwnt i sylw'r cyfryngau, byddai'n fwy tebyg o gael ei ffordd. A bydd hanes yn ei feirniadu yn ol yr hyn mae wedi ei lwyddo i'w wneud, ac nid ar pa mor dda mae wedi cynnal act gyhoeddus.
Os ydyw am wneud gwahaniaeth go iawn - a 'dwi'n siwr mai dyna mae am ei wneud - dylai roi'r gorau i'r actio a'r ystumio cyhoeddus a rhoi blaen ei droed yn ddirgel ond yn galed a phoenus yn lleoedd hynny sy'n cyfri - y lleoedd diog, hunan fodlon, hunan gyfiawn hynny ym mywyd cyhoeddus Cymru sydd o fewn cyrraedd ei gyfrifoldeb gweinidogol. Mae yna ddigon ohonyn nhw - wir Dduw!

Wednesday, August 24, 2011
Darren Millar eisiau bod yn farnwr, erlynydd, ynad heddwch ac AS yn ogystal ag AC
Mae'n ddiddorol nodi bod Aelod Cynulliad Toriaidd Gorllewin Clwyd, Darren Millar yn hynod awyddus i fynegi'r gred y dylai llys ynadon Caernarfon fod wedi bod yn fwy llawdrwm o lawer ar David Glyn Jones yn dilyn ei ymgais byrhoedlog ond boncyrs i greu terfysg ym Mangor.
Rwan mae pob barnwr, neu ynad heddwch yn dilyn canllawiau clir iawn pan maent yn dedfrydu. Roedd David Jones wedi ei gyhuddo o dorri'r Ddeddf Cyfathrebu. Gallwch weld y canllawiau dedfrydu y byddai'r ynadon wedi eu dilyn yng nghyd destun y ddeddf honno yma. (ewch i t 42). Os ewch ati i wneud yr un ymarferiad ag y gwnaeth yr ynadon, byddwch yn cael dedfryd yn yr amrediad 12 i 18 wythnos, gyda dadl go lew am roi'r lleiafswm. Nid dyna wnaethon nhw - aethant am yr uchafswm - fel y byddai llawer ohonom wedi ei wneud yn y sefyllfa arbennig yma.
Rwan, 'dwi ddim eisiau dweud yr amlwg, ond mae'r gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru yn un gweddol syml - mae'r Cynulliad yn deddfu ar faterion Cymreig, mae San Steffan yn deddfu ar faterion Prydeinig, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cyhuddo (neu yn peidio a chyhuddo) yng ngoleuni ei ddealltwriaeth o'r gyfraith, ac mae'r llysoedd yn dyfarnu euogrwydd ac yn dedfrydu.
Gan nad ydi pwerau cyfiawnder wedi eu datganoli, cymharol fach ydi rol Darren yn hyn oll. Ond eto mae'n 'siomedig' yn y ddedfryd ac yn credu y dylid bod wedi 'gwneud esiampl' o David Jones. Mewn geiriau eraill mae'n credu y dylai Ynadon Caernarfon fod wedi anwybyddu'r canllawiau dedfrydu - rhywbeth fyddai'n tanseilio tegwch y gyfundrefn dedfrydu.
Os ydi Darren yn teimlo'n wirioneddol gryf am y mater, y peth gorau y gall ei wneud ydi lobio'r gweinidog cyfiawnder yn San Steffan i newid y Ddeddf Cyfathrebu - er pe byddai cynlluniau diweddar hwnnw i haneru'r ddedfryd os ydi troseddwr yn pledio yn euog wedi eu gwireddu, byddai David Jones a'i draed yn rhydd ymhell cyn 'Dolig.

Monday, August 22, 2011
Cameron yn gofyn am gyfeiriadau gan ddyn dall
'Dwi ddim yn un sydd a rhyw ddiddordeb mawr fel rheol mewn materion sy'n ymwneud a chyfraith a threfn, ond fedra i ddim gwrthsefyll y demtasiwn i gael un golwg bach arall ar syniad rhyfeddol David Cameron i fynd i America o pob man i chwilio am atebion i'r problemau tor cyfraith sydd wedi ymddangos ar strydoedd dinasoedd mawr Lloegr yn ddiweddar. Mae America yn ymylu ar fod yn unigryw i'r graddau eu bod efo record hir o gosbi'n llymach ac yn llymach tra'n methu mynd i'r afael a thor cyfraith. Cymerer y cyfraddau o'r boblogaeth sydd mewn carchar er enghraifft.
O pob 100,000 o bobl mae 738 mewn carchar yn Unol Daleithau'r America. Felly ar unrhyw amser mae 1% o oedolion y wlad mewn carchar - a bron i 2% o oedolion gwrywaidd. Roedd cost yr holl gloi yn $75 biliwn yn 2008. Y cyfartaledd rhyng cenedlaethol ydi 166 o pob can mil.. Gwledydd eraill gyda chyfraddau uchel ydi'r Ffederasiwn Rwsiaidd (607) a Chiwba (487). 145 ydi'r gyfradd yng Nghymru a Lloegr uwch nag Iwerddon (78) ac India (31) ond is na Brasil (191) a'r Ariannin (148). Gellir gweld y rhestr cyflawn yma a gellir cael dadansoddiad o gost effeithlonder y gyfundrefn garcharu yn America yma.
Mae America hefyd yn dienyddio mwy o garcharorion na bron i neb arall, China, Iran, Gogledd Korea a Yemen ydi'r unig wledydd sy'n lladd mwy o'u carcharorion.
Byddai rhywun yn disgwyl y byddai'r parodrwydd yma i roi drwg weithredwyr yn y carchar (neu eu lladd) yn cael effaith arwyddocaol ar gyfraddau tor cyfraith y wlad - ond 'does yna ddim llawer o dystiolaeth o hynny. Er enghraifft yn 1960 roedd yna 226,344 o Americanwyr mewn carchar, ac erbyn 2008 roedd y ffigwr yn 1,518,559. By cynnydd hefyd yn y cyfraddau tor cyfraith tros y cyfnod - tua treblu wnaeth hwnnw.
Mae cymharu'r cyfraddau tor cyfraith hefyd yn ddigon dadlennol. O edrych ar dor cyfraith difrifol iawn - llofruddiaeth er enghraifft, Mecsico sy'n 'arwain' y Byd gyda 10.9 llofruddiaeth am pob 100,000 o bobl gydag America yn ail gyda chyfradd o 5.9 am pob 100,000 o bobl. Twrci ydi'r unig wlad arall sy'n dod yn agos at y cyfraddau hyn. Mae'n debyg mai'r rheswm am y gyfradd uchel yn Mecsico ydi ei lleoliad daearyddol anffodus - mae'r wlad wedi ei lleoli rhwng marchnadoedd cyffuriau anferth yr UDA a chynhyrchwyr cyffuriau yn Ne America. Mae America yn bumed yn y Byd o ran trais (rape), yn seithfed o ran lladrad (mae Cymru a Lloegr yn chweched), ac mae ymhell 'ar y blaen' o ran ymosodiadau corfforol difrifol (281.6 am pob 100,000 o bobl).
Rwan - ag ystyried hyn oll byddai dyn yn meddwl y byddai David Cameron eisiau edrych i gyfeiriad gwlad sydd a chyfraddau tor cyfraith isel - Japan, Nepal neu hyd yn oed India o bosibl. Neu os nad ydi o am fynd rhy bell beth am wledydd cymharol debyg i'r DU sydd a chyfraddau tor cyfraith isel - Sbaen neu Denmarc er enghraifft? Ond na - mae'n edrych i gyfeiriad y wlad lleiaf effeithiol a'r lleiaf rhesymegol yn y Byd o ran ei hymateb i dor cyfraith.
Mae'n anodd gwybod os i chwerthin 'ta chrio weithiau.

Sunday, August 21, 2011
Sefyll yn y bwlch yn erbyn hiliaeth a senoffobia mewn llenyddiaeth
Roedd yn ddifyr darllen llythyr Rod Richards yn Golwg lle mae'n cwyno i ddarn 'hiliol' o Cyn Oeri'r Gwaed, Islwyn Ffowc Elis gael ei adrodd mewn rhyw gystadleuaeth neu'i gilydd yn yr Eisteddfod eleni. Mae'n flynyddoedd ers i mi ddarllen y llyfr a fedra i ddim cofio unrhyw gyffyrddiadau hiliol, ond os ydi Rod yn dweud bod y darn yn hiliol, dwi'n siwr ei fod.
'Dydi Rod erioed wedi fy nharo fel rhyw Al Sharpton o berson sy'n chwilio am dystiolaeth o hiliaeth ym mhob twll a chornel er mwyn creu helynt ynglyn a'r dywydiedig hiliaeth. Ond dyna fo, mae'n dda deall bod Rod bellach yn gwneud defnydd cynhyrchiol o'i amser yn plismona hiliaeth a senoffobia mewn llenyddiaeth. 'Dwi'n siwr bod Rod yr un mor awyddus i blismona hiliaeth a senoffobia mewn llenyddiaeth Saesneg hefyd - er bod hynny'n debygol o fod yn dasg hynod feichus a maith. Beth bynnag, fel arwydd o barch ac ewyllys da 'dwi'n fwy na pharod i'w roi ar ben ffordd ynglyn a lle i ddechrau chwilio.
Merchant of Venice (Shakespeare) - Iddewon
The Jew of Malta (Marlow) - Iddewon
God Save the Queen (Anhysb) - Albanwyr a thramorwyr yn gyffredinol.
My Neighbours (Caradoc Evans) Cymry.
Adventures of the Wishing Chair (Enid Blyton) - pobl China.
The Adventures of Huckleberry Finn (Mark Twain) - pobl croenddu.
The Battle of Maldon (Anhysb) - Llychlynwyr.
The Horse and his Boy (CS Lewis) - Arabiaid / Indiaid.
The Lord of the Rings (Tolkien) - pobl dywyll eu croen.
Oliver Twist (Charles Dickens) - Iddewon - er bod Dickens yn casau bron i bawb nad oeddynt yn Saeson.
Black Mischief (Evelyn Waugh) - trigolion Ethiopia.

Friday, August 19, 2011
Thursday, August 18, 2011
Roedd yna derfysgoedd yn Lloegr cyn y 60au _ _ _
Mae'n ddifyr i'r blogiad hwn, sy'n dadlau na ddylid mynd at ein rhagfarnau i chwilio am eglurhad am a datrysiad i derfysgoedd yr haf wedi ennyn ar ymatebion sy'n gwneud yn union hynny - rhai sy'n beio'r chwe degau a'r 'ffaith' i'r hen Chwith gas 'na greu y ddegawd erchyll honno.
Y drwg efo'r thesis yma ydi ei bod yn dangos anwybodaeth o hanes Lloegr - gwlad sydd wedi gweld llawer o derfysgoedd tros y canrifoedd. Mae yna hanes o derfysgoedd gwrth Babyddol (Gordon Riots 1880 er enghraifft), a gwrth Iddewig (Maenceinion 1947 er enghraifft) wrth gwrs. Roedd yna derfysgoedd gwrth Iddewig yn Nhredegar yn 1911 gyda llaw. Ond mae yna lawer o derfysgoedd eraill wedi digwydd - rhai ohonynt gyda rhesymau digon lliwgar trostynt.
Er enghraifft ym mis Mawrth 1668 cafwyd terfysgoedd yn Llundain pan aeth efallai 40,000 o ddynion ifanc ati i ddifa puteindai yn nwyrain y ddinas. Roedd protestiadau o'r math yma yn weddol gyffredin bryd hynny - ac roedd traddodiad o gynnal protestiadau treisgar yn erbyn bodolaeth puteindai ar Ddydd Mawrth Crempog. Roedd hon, fodd bynnag yn llawer mwy na'r un arall, ac arestwyd pymtheg o'r 'arweinwyr'. Cafodd pedwar o'r dywydiedig arweinwyr eu cyweirio, eu crogi a'u chwarteru - dedfryd sy'n gwneud i lysoedd cyfoes Cheshire ymddangos yn eithaf rhesymol. Adwaenir y terfysgoedd yma fel y Bawdy House Riots.
Arweiniodd rhai o'r terfysgoedd at gryn dywallt gwaed. Lladdwyd 11 hefyd mewn terfysgoedd ym Mryste a gychwynodd yn sgil codi tollau i groesi Pont Bryste yn 1793, a lladdwyd 15 - 20 ym Maenceinion yn 1819 pan ymysododd yr awdurdodau ar dyrfa oedd wedi ymgynull er mwyn protestio o blaid hawliau democrataidd.
Cafwyd terfysgoedd sylweddol ar hyd a lled De Lloegr yn haf 1830 gan weithwyr amaethyddol. Protestio yn erbyn cyflwyno peiriannau amaethyddol ar ffermydd oedd y miloedd lawer a gymrodd ran yn y Swing Riots.
Cymhelliad yr un mor liwgar oedd tros brotestiadau yn Llundain yn 1809 - codiad yng nghost mynd i'r theatr yn Covent Garden. Er na wnaed niwed mawr, parhaodd y problemau am rai misoedd - nes i'r prisiau gael eu gostwng.
Daeth problemau sylweddol (eto fyth yn Llundain) o gyfeiriad anhebygol doctoriaid yn 1907 oherwydd nad oeddynt yn hoffi cerflyn o gi brown oedd wedi ei godi gan ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid. Bu problemau am flynyddoedd, ond mi aeth pethau'n wirioneddol ddrwg ar Sgwar Traffalgar rhwng y doctoriaid ar y naill law a suffragettes, heddlu ac undebwyr llafur ar y llall ychydig cyn 'Dolig y flwyddyn honno.
Llongwyr o anghydffurfwyr a'u teuluoedd oedd yn gyfrifol am derfysgoedd Newlyn, Cernyw yn 1896. Y ffaith bod llongwyr nad oeddynt yn anghydffurfwyr yn dad lwytho eu pysgod ar ddyddiau Sul oedd asgwrn y gynnen y tro hwn. Taflwyd tua 100,000 macrell yn ol i'r mor yn dilyn helyntion aeth ymlaen am tua tri diwrnod.
Lladdwyd 11 yn ystod terfysg yn Bosenden Wood, Kent yn 1838. Ymateb yr awdurdodau i ddyn gyda phroblemau iechyd meddwl o'r enw William Courtenay a'i ddilynwyr oedd o dan yr argraff ei fod yn broffwyd neu'n fab i Dduw oedd yn gyfrifol am hon.
Mae yna lawer mwy wrth gwrs - ond 'dwi'n cymryd nad oes neb mewn difri yn rhoi'r bai ar y Chwith a'r chwe degau am draddodiad o anhrefn sifil .yn Lloegr sy'n mynd yn ol ganrifoedd.

Cystadleuaeth blogiau Total Politics
Cofiwch am y gystadleuaeth yma. Mae gennych hyd hanner nos 'fory i bleidleisio. Gellir pleidleisio yma.
Wednesday, August 17, 2011
Terfysgoedd Lloegr a rhagfarnau gwleidyddion
Un o nodweddion y terfysgoedd diweddar yn rhai o ddinasoedd Lloegr ydi'r effaith mae'r holl beth wedi ei gael ar wleidyddion - mae'r creaduriaid ar goll yn llwyr ac yn ceisio egluro'r holl beth yn nhermau eu rhagfarnau eu hunain.
Er enghraifft, yn ystod y diwrnod neu ddau wedi i'r terfysgoedd gychwyn roedd rhai o wleidyddion Llafur - Hattie Harman a Ken Livingstone er enghraifft yn ceisio egluro pethau yn nhermau toriadau mewn gwariant cyhoeddus. 'Rwan mae yna doriadau wedi digwydd wrth gwrs - ond un blwyddyn yn unig a welodd wariant cyhoeddus uwch nag un 2011 yn holl hanes y DU, sef 2010. 'Doedd yna ddim anhrefn ar strydoedd Llundain yn y flwyddyn 2000 - pan roedd gwariant cyhoeddus tua hanner yr hyn ydyw eleni.
Mae'r Dde hefyd wedi troi at eu rhagfarnau arferol - gofyn i foi o America beth i'w wneud am gangiau (er bod dinasoedd mawr America yn llawn dop o gangiau), gorfodi pawb ifanc i wneud gwasanaeth cenedlaethol (er bod tua 20,000 o gyn filwyr yn y system droseddol ar hyn o bryd ac 8,500 yn y carchar), taflu cymaint o bobl a phosibl i'r carchar (er bod 70% o garcharorion yn ol o dan glo o fewn 2 flynedd i gael eu rhyddhau).
Mae'r rhesymau am yr hyn ddigwyddodd yn gynharach y mis hwn yn gymhleth ac yn amlochrog. 'Does yna ddim eglurhad syml pam bod nifer arwyddocaol o bobl ifanc o dan yr argraff nad oes fawr ddim o'i le mewn malu ffenestri siopau a helpu eu hunain i gynnwys y siopau hynny . Mae'r ffaith bod cymaint o'n gwleidyddion yn troi at eu rhagdybiaethau a'u rhagfarnau eu hunain am ddatrysiad yn awgrymu nad ydynt am ddod o hyd i atebion call i broblem a allai'n hawdd ail godi mewn gwahanol ffurfiau tros y blynyddoedd nesaf.

Friday, August 12, 2011
Arweinyddiaeth Plaid Cymru
Er mai un ymgeisydd sydd wedi taflu un o'i gapiau i mewn i'r talwrn hyd yn hyn, ymddengys bod yr ornest i sicrhau arweinyddiaeth Plaid Cymru eisoes yn mynd rhagddi Felly waeth i mi roi fy mewath i mewn ar y cychwyn.
Yr hyn sydd bwysicaf i'w ystyried cyn dewis arweinydd i unrhyw blaid ydi i ba raddau mae'r sawl a ddewisir yn cynnig datrusiad i broblemau cyfredol y blaid honno. Rwan 'dwi ddim yn gwybod beth fydd canlyniad adolygiad mewnol y Blaid, ond i mi mae'r problemau sylfaenol yn deillio o fethiant i arenwi a sefydlu lleoliad gwleidyddol clir a gwahanol yn y tirwedd ol ddatganoli y cawn ein hunain ynddo. Arweiniodd hyn at broblemau eilradd - diffyg naratif etholiadol clir a diffyg hyder ymddangosiadol gan ein llefarwyr cyhoeddus yn ein polisiau gwaelodol. Mae hyn yn ei dro wedi arwain at etholiadau diweddar lle mae'r llefarwyr cyhoeddus hynny wedi cynhyrchu naratifau anghyson, ac ar brydiau gwrthwynebus i'w gilydd.
Yr hyn mae'r Blaid ei angen yn fwy na dim arall ydi arweinydd a all fynd i'r afael a'r problemau hynny. Golyga hynny greu diwylliant o ddisgyblaeth a threfn yn fwy na dim arall - disgyblaeth a threfn wrth ail leoli'r Blaid yn wleidyddol a disgyblaeth a threfn wrth sicrhau bod y Blaid yn gorfforiaethol yn dod i ddeall ei lleoliad a gweithredu yn unol a'r lleoliad hwnnw. Mae llefarwyr cyhoeddus y Blaid hefyd angen ymarfer mwy o hunan ddisgyblaeth a sicrhau bod yr hyn maent yn ei ddweud yn gyhoeddus yn cydymffurfio a'n naratifau sylfaenol. Fel yr awgrymais uchod, un o nodweddion yr ychydig etholiadau diwethaf ydi bod gormod o bobl yn ymddangos ar y cyfryngau ac yn dilyn eu trywydd eu hunain - mae hyn yn ddealladwy pan nad ydi'r naratif canolog yn glir, ond mae'n bwysig nad ydi hen arferion yn parhau yn y gyfundrefn newydd. Mae'n bosibl hefyd y bydd angen ail strwythuro trefniadol er mwyn hyrwyddo'r newidiadau ehangach.
Felly - yn fy marn bach i - yr hyn rydym ei angen ydi arweinydd sy'n deall problemau'r Blaid, sy'n deall mai ei brif gyfrifoldeb ydi mynd i'r afael a'r rheiny, sy'n deall ei fod yn rhan o dim a sydd yn ennyn parch gan wleidyddion proffesiynol y Blaid, ei hactifyddion, ei haelodau a'i chefnogwyr.
Mae yna adegau pan mae plaid wleidyddol angen arweinydd ag iddo broffeil cyhoeddus uchel. Nid adeg felly ydi hi i'r Blaid ar hyn o bryd. Nid dyma'r amser am yr unigolyddol, y diddorol, y lliwgar na'r ecsotig. Mae'n adeg am rhywun sydd a'r gallu a'r anian i osod cyfeiriad cyson, disgybledig a rhesymegol i'r Blaid tra'n sylweddoli ei fod yn un cydadran mewn endid sy'n fwy ac yn bwysicach na fo ei hun.

Roger Lewis a'r 'monkey language'
Wna i ddim cymryd rhan yn y ffrae sy'n siwr o godi ynglyn a sylwadau gwrth Gymreig Roger Lewis yn y Daily Mail heddiw.
Mae Cymru a'r Gymraeg yn ddefnyddiol i'r sawl sydd a thueddiadau hiliol gael gwared o'u rhwystredigaethau o bryd i'w gilydd. Byddai ymysodiadau cyhoeddus ar Fwslemiaid, pobl o gefndir Affro Caribiaidd, Iddewon neu hyd yn oed Wyddelod ag oblygiadau digon anymunol i'r sawl sy'n ddigon gwirion i wneud yr ymosodiadau. Prin y gallai Roger alw Arabaidd yn monkey language, felly mae'n defnyddio'r term am iaith arall. Felly mae hi mae gen i ofn, a wna i ddim cwyno.
Yr hyn sydd o syndod i mi fodd bynnag ynglyn a phobl fel Roger ydi eu hanwybodaeth am eu hiaith eu hunain. Mae'n ymddangos bod y ffaith i'r Gymraeg gael benthyg enwau Saesneg yn rhyw fath o feirniadaeth ysgytwol ar holl hygrededd yr iaith yng ngolwg Roger. Ond mae llawer, llawer llai o eiriau benthyg yn y Gymraeg na sydd yn y Saesneg.
Yn ol astudiaeth gan Thomas Finkenstaedt and Dieter Wolff (1973) mae 28.3% o eiriau Saesneg yn dod o'r Ffrangeg, 28.2% o'r Lladin, 25% o amrywiaeth o ieithoedd Germanaidd (gan gynnwys Hen Saesneg), 5% o'r Groegaidd, 4% o gefndir ansicr, 3% o enwau priod a 1% o ieithoedd eraill.
Fedra i ddim yn fy myw ddeall pam y byddai rhywun eisiau defnyddio tudalen adolygiadau y Mail i wneud sioe o'i anwybodaeth ei hun.

Thursday, August 11, 2011
Bendithion y Gemau Olympaidd - rhan 1.
Mae'n fy mhoeni bod rhai o ddarllenwyr blogmenai o dan yr argraff bod yr awdur yn dioddef o rawnwin surion yn sgil y ffaith i Gymru gael y fraint o gyfrannu £400,000,000+ tuag at Gemau Olympaidd Llundain a chael didli sgwot yn ol ar ffurf contractau.
Er mwyn rhoi'r cyhuddiad hwnnw o'r neilltu unwaith ac am byth 'dwi am gynhyrchu blogiadau achlysurol fydd yn dangos y defnydd clodwiw sy'n cael ei wneud o'r £400m.
Cyflwynaf i'ch sylw Pel Law neu Handball.

'Does yna neb bron yn y DU erioed wedi chwarae'r gem, er bod tim dynion Prydeinig wedi bodoli ers 1969. Mae'r cyfryw dim wedi llwyddo i guro Oman, Ynysoedd y Ffaro (collwyd y saith gem arall yn erbyn yr Ynysoedd), Jordan, Iwerddon, Bwlgaria a Gwlad Belg a sicrhau gem gyfartal gyda Lwcsembwrg. Gemau cyfeillgar oedd y cwbl ag eithrio'r un yn erbyn Bwlgaria. Mae'r tim merched yn waeth o lawer. Ond mae'r ddau dim yn cael cystadlu oherwydd bod y Gemau yn y DU - oni bai am hynny ni fyddai ganddyn nhw obaith mul o fynd ar gyfyl y jambori elitaidd.
Beth bynnag, mae'n ymddangos ei bod yn hynod bwysig bod y DU yn gallu cystadlu efo.gwledydd sydd wedi bod yn chwarae'r gem yn gyson ac yn llwyddiannus ers dechrau'r ganrif ddiwethaf - felly dyna fynd ati i wario £3m er mwyn adeiladu sgwadiau, ynghyd a £44m ar stadiwm 7,000 sedd er mwyn i bobl gael gwylio'r gamp - y rhan fwyaf o ddigon ohonynt am y tro cyntaf a'r tro olaf.
Wednesday, August 10, 2011
Pam ei bod yn anhebygol y bydd bwledi plastig yn cael eu defnyddio yn ninasoedd Lloegr
Bu cryn son yn sgil digwyddiadau diweddar am ddefnyddio'r technegau rheoli tyrfa a defnyddir yng Ngogledd Iwerddon yn ninasoedd mawr Lloegr. Golyga hyn dri pheth yn y bon - plismona hynod ymysodol, y defnydd o ganon dwr a'r defnydd o fwledi plastig. 'Dwi ddim yn amau y bydd y ddwy dechneg gyntaf yn cael eu defnyddio os bydd yr helyntion yn parhau, ond byddwn yn synnu'n fawr petai bwledi plastig yn cael eu cyflwyno oni bai bod pethau'n mynd yn llawer iawn gwaeth.. Mae'r rheswm am hynny yn eithaf syml - mae bwledi o'r fath yn lladd ac yn anafu pan maent yn cael eu defnyddio mewn trefi - rhestraf isod y sawl a laddwyd yng Ngogledd Iwerddon gan fwledi plastig.
Stephen McConomy 11, Sean Downes 23, Stephen Geddis 10, Carol Ann Kelly 12, Brian Stewart 13, Julie Livingstone 14, Peter Doherty 33, Michael Donnelly 21, Paul Whitters 15, Tobias Molloy 18, Peter McGuinness 41, Frank Rowntree 11, Seamus Duffy 15, Thomas Friel. 21, Henry Duffy 45, Keith White 20, Nora McCabe 30.

Marwolaeth Sean Downes, Andersonstown Belfast 1984
Dydi hanesion am farwolaethau plant a delweddau fel yr uchod yn y papurau newydd ddim yn debygol o fod yn dderbyniol ar dir mawr Prydain heddiw. Dydan ni ddim yn son am ragrith fel y cyfryw - ond roedd amgylchiadau yn wahanol yn Belfast y 70au a'r 80au i strydoedd Tottenham a Maenceinion heddiw. Roedd y marwolaethau bwledi plastig yn digwydd yng nghyd destun llawer iawn o farwolaethau eraill, roedd canfyddiad bod y sawl oedd yn defnyddio'r bwledi yn wynebu perygl uniongyrchol, ac roedd y sawl a laddwyd yn dod o gymunedau oedd yn cael eu diafoli'n ddyddiol gan y cyfryngau Prydeinig.
Yn ychwanegol at hynny, beth bynnag y rhethreg ar y pryd bod Gogledd Iwerddon 'fel unrhyw ran arall o Brydain', y gwir ydi bod yr endid hwnnw wedi cael ei drin yn wahanol i weddill Prydain ers iddo gael ei ffurfio - a phe na bai wedi ei drin yn wahanol ni fyddai wedi bod yn bosibl ei gadw'n rhan o'r Undeb.
Dyfed Edwards a'r NCP
Fel rhywun sy'n barod i gerdded milltir cyn talu am barcio mi fedra i gydymdeimlo efo Dyfed Edwards, arweinydd Cyngor Gwynedd, yn sgil ei drafferthion efo cwmni parcio NCP. Nid yn unig bod NCP eisiau ei ddirwyo am barcio mewn lle oedd wedi ei arbed ar gyfer tacsis yng ngorsaf rheilffordd Bangor, ond maent hefyd eisiau mynd trwy'r broses yn uniaith Saesneg - er eu bod yn cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng Pwyleg neu Fandarin - ac er bod pob cydadran arall o'r gwasanaeth trenau ym Mangor yn gweithredu'n ddwyieithog.
Pam bod NCP mor wrth Gymreig tybed? 'Dwi ddim yn gwybod, ond os ydych eisiau ateb i'r cwestiwn beth am gysylltu efo NCP yn uniongyrchol ar eu safle cymorth a gofyn - bymtheg neu ugain o weithiau y diwrnod o bosibl. Dydi ymholiad ond yn cymryd ychydig eiliadau.

Tuesday, August 09, 2011
Cystadleuaeth Total Politics
Mae blogmenai wedi gwneud yn lled dda yn y gystadleuaeth yma yn ystod y ddwy flynedd diwethaf - gan lwyddo i ddod yn gyntaf yn y categori blogiau Cymreig a sicrhau safle yn y rhestr Brydeinig llynedd.
Mae rhan o'r llwyddiant yma i'w briodoli i ddull canfasio unigryw y blog - peidio gofyn am bleidlais, ond annog pobl i bleidleisio i flogiau Cymraeg a Chymreig. Gan bod hynny wedi gweithio'n iawn y llynedd a'r flwyddyn cynt, wna i ddim newid pethau eleni.
Felly dyma eich cyfle i fotio i flogiau Cymraeg a Chymreig yma!
Y Tafod yn ifanc
A Chymdeithas yr Iaith bellach yn ddi amwys ganol oed - bydd yn hanner cant y flwyddyn nesaf - roeddwn yn rhyw feddwl y byddai'n syniad postio delweddau o rai o dudalennau blaen Tafod y Ddraig o'r amser pan roedd y Gymdeithas yn mhlentyndod ei degawd cyntaf.
Mae gan fy nhad gasgliad gweddol gyflawn o Dafodau cynnar - felly diolch i'r Hen Go am roi benthyg peth o'i gasgliad i mi.

Monday, August 08, 2011
Pwy ydi cynulleidfa S4C?
Mae yna drafodaeth fach digon diddorol draw ar flog Syniadau. Honiad gan Huw Jones bod S4C yn wynebu her arbennig oherwydd bod y nifer o Gymry Cymraeg yn syrthio o tua 3,000 pob blwyddyn. ydi cefndir y blogiad. Roeddwn yn rhyw gytuno efo MH (y boi sy'n cadw'r blog) bod y canfyddiad bod cwymp o gymaint a hynny yn ymddangos yn rhyfedd - yn arbennig ag ystyried bod cyfrifiad 2001 yn awgrymu cynnydd sylweddol yn y niferoedd sy'n siarad yr iaith - 508,000 neu 18.7% oedd ffigyrau 1991, tra mai 582,000 neu 20.8% oedd yn siarad Cymraeg erbyn 2001. Mae hyn yn gynnydd o 7,400 y flwyddyn ar gyfartaledd.
Rwan mae MH yn anghytuno efo honiad Huw Jones ac yn cynhyrchu ei ffigyrau ei hun - rhai sy'n awgrymu mai'r gwir sefyllfa ydi bod tua 10,000 o gynnydd blynyddol yn y nifer o siaradwyr Cymraeg. Wnai i ddim mynd i fanylu ynglyn a'r fethodoleg a arweiniodd at y ffigyrau mae Huw yn eu dyfynu, na'r un a arweiniodd at ffigyrau MH - mae'r blogiad ar Syniadau yn gwneud hynny yn llawer cliriach nag y gallwn i. Yr hyn sydd yn fwy diddorol ydi'r rheswm am y gwahaniaeth - mae'r naill ddehongliad yn diffinio Cymry Cymraeg fel pobl y gellir eu disgrifio fel rhai rhugl eu Cymraeg, tra bod y llall yn edrych ar bethau o safbwynt rhifau absoliwt - hynny yw y rhugl a'r rhai nad ydynt mor rhugl.
O safbwynt y dasg heriol mae Huw Jones yn eu hwynebu ar hyn o bryd - cynyddu nifer gwylwyr S4C - mae'r ddadl yn un bwysig. Os ydi S4C yn diffinio'r Cymry Gymraeg yn nhermau siaradwyr naturiol a rhugl - pobl fel fi - yna mae problem ag iddi oblygiadau pell gyrhaeddol. Mae'r proffeil demograffig a chymdeithasegol y Cymry Cymraeg wedi newid yn sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf. Rydym bellach - fel grwp - yn fwy trefol, yn ieuengach ac yn llai rhugl ein Cymraeg nag oeddym ychydig ddegawdau yn ol. Mae'n bwysig bod S4C yn cydnabod y newid yma, ac yn cynllunio ei dyfodol - a'i pholisi rhaglennu - yng ngoleuni'r sefyllfa sydd ohoni.
Mae S4C mewn sefyllfa ryfedd - mae dwy gynulleidfa ar gael iddi - yr un draddodiadol sy'n edwino, ac un gyfoes - sef yr un draddodiadol + yr un newydd - sy'n cynyddu'n weddol gyflym o ran niferoedd. Mae'n bwysig i ddyfodol y Sianel, ac yn wir i ddyfodol y Gymraeg bod y sawl sy'n gyfrifol am bolisi rhaglennu S4C yn ymwybodol o natur y gynulleidfa sydd ar gael iddynt.

Sunday, August 07, 2011
Nodiadau brysiog o'r 'Steddfod
Roeddwn yn rhyw nodi y llynedd nad ydw i'n fawr o eisteddfodwr, ond serch hynny mi wnes i fwynhau hon ar sawl cyfri - roedd y tywydd yn helpu wrth gwrs, 'dwi'n digwydd bod yn hoff iawn o'r gornel fach yma o Gymru, mae'r bariau a'r adloniant ar y maes yn gwneud llawer i greu awyrgylch hamddenol ac roedd eisteddfodwyr a thrigolion Wrecsam yn cyd dynnu'n dda yn y tafarnau gyda'r nos - yn fy mhrofiad i o leiaf.
Dau beth cymharol blwyfol (i rhywun o ochrau Caernarfon) 'dwi eisiau aros efo nhw fodd bynnag - llwyddiant Rhys Iorwerth yng nghystadleuaeth y gadair, a chyfnod bach yn gwenu tra'n dod ar draws ymadroddion cyfarwydd yn un o'r stondinau llyfrau, wrth fynd trwy gyfres o gardiau cyfarch - Cardia Cofi. Mae'r cardiau yn gwneud defnydd o ymadroddion lliwgar rhai o drigolion Caernarfon (Penblwydd hapus y bastad huch ydi un o'r ychydig rai y gellir ei ailadrodd ar flog teuluol). Mae'r ymadroddion yn rhai go iawn yn yr ystyr bod pobl yn eu defnyddio o ddiwrnod i ddiwrnod - nid esiampl arall o bobl o'r tu allan i'r dref yn ceisio dynwared pobl o G'narfon yn siarad a geir yma.
Ac erbyn meddwl mae yna berthynas rhwng y cardiau ac awdl Rhys. 'Dydi'r ymadroddion a ddefnyddir yn y cardiau ddim wrth fodd pawb wrth gwrs - yn wir roedd gan hyd yn oed y wraig oedd yn ceisio eu gwerthu i mi gryn gywilydd ohonynt. Ond maent yn dysteb i fywiogrwydd a hiwmor cymunedau dosbarth gweithiol Caernarfon - cymunedau sydd ymysg y mwyaf Cymreig yng Nghymru. Maent hefyd yn tystio i ddeinameg ieithyddol - deinameg sy'n dangos bod yr iaith yn fyw ac yn iach yn y rhan yma o Gymru o leiaf.
'Dydw i ddim am gyffelybu awdl Rhys efo ymadroddion lled aflednais Cardiau'r Cofi wrth gwrs - ond mae yna gymhariaeth sydd werth ei gwneud serch hynny. Mae awdl Rhys yn un gyfoes iawn o ran ei chynnwys, ond hefyd o ran ei harddull, gydag agweddau ar ieithwedd lafar y Gogledd Orllewin yn ei nodweddu - hen grefft yn cael ei hymarfer trwy ddefnyddio deunydd crai cyfoes - o ran thema ac iaith.
Mae hynny yn ei dro yn arwydd o iechyd ieithyddol. Pan mae iaith yn colli'r gallu i ail gylchu ac adnewyddu ei hun, mae hynny'n awgrymu ei bod yn ffosileiddio - ac nid pethau byw ydi ffosilau. Mae'r digwyddiad bach efo'r cardiau a saernio syfrdanol grefftus Rhys o iaith anffurfiol, idiomatig oddi mewn i strwythurau ffurfiol a chaeth yn tystio bod y Gymraeg ymhell o fod yn barod i gymryd ei lle ymysg yr ieithoedd hynny sydd a'u bywydau wedi eu byw.

Thursday, August 04, 2011
Y Comisiwn Ffiniau yn cael trafferth yng Nghymru?
Ydynt yn ol politicalbetting.com.
Ymddengys bod cyhoeddi'r argymhellion ar gyfer Cymru wedi ei ohirio hyd fis Ionawr. Roeddynt i fod i weld golau dydd fis nesaf. Mae hyn yn awgrymu bod y Comisiwn yn cael trafferth i leihau nifer seddi Cymru o 40 i 30 - neu eu bod eisiau amser i adeiladu byncar i guddio ynddo yn ystod y storm sy'n sicr o ddilyn cyhoeddi'r argymhellion.

Wednesday, August 03, 2011
Fotiwch i Hen Rech!
'Dwi'n siwr bod yna gannoedd o ddarllenwyr blogmenai yn byw yn ward Bryn Rhys yng nghymuned Llansanffraid, Glan Conwy. Mae'n bleser cael annog y cwbl ohonynt i godi oddi ar eu pen olau a mynd i bleidleisio i Alwyn ap Huw Humphreys (aka Hen Rech Flin) mewn is etholiad cyngor cymuned fory.
Mi fydd yn hysbys i ddarllenwyr rheolaidd nad ydi'r Hen Rech a minnau'n gweld lygad yn llygad yn rhy aml. Bydd y dywydiedig ddarllenwyr hefyd yn gwybod nad ydi blogmenai yn annog i bobl bleidleisio i ymgeiswyr annibynnol yn aml iawn chwaith, am yr un rheswm nad yw'n annog pobl i brynu cath mewn sach. Mae'n well pleidleisio a phrynu pan rydym yn weddol glir ynglyn a beth ydi'r hyn rydym yn ei brynu neu'n pleidleisio trosto.
Ni all neb, fodd bynnag gyhuddo HRF o fod yn gath wleidyddol mewn sach - mi'r ydych yn cael yr hyn rydych yn ei weld - gan gynnwys y plorod a'r blewiach. Felly dyna chi - fotiwch i'r Hen Rech a thros Gymru rydd. Os nad ydi hynny'n ddigon o reswm i chi, beth am fotio trosto er mwyn rhoi rhywbeth i'r hogyn ei wneud er mwyn ei gadw allan o drwbwl?

Pwysigrwydd y 'Flotilla Effect' i wleidyddiaeth Cymru
Mae'n debyg na fydd neb sy'n darllen blogmenai yn rheolaidd yn synnu rhyw lawer fy mod yn tynnu sylw at bapur diweddar Adam Price a Ben Levinger. Mae'r papur yn sefydlu perthynas rhwng perfformiad economaidd cadarnhaol a gwladwriaethau cymharol fach - mewn cyd destun Ewropiaidd o leiaf. Hynny yw mae'r gwaith sy'n sail i'r papur yn canfod bod gwledydd llai yn fwy tueddol o lwyddo yn economaidd na rhai mawr - ac yn bwysicach yn cynnig eglurhad am hynny - bod gwledydd llai yn gorfod canlyn polisiau o fasnach agored, eu bod yn fewnol gydlynus, eu bod yn hyblyg a bod cyfansoddiad economaidd Ewrop yn fwy addas ar gyfer gwledydd llai nag ydyw ar gyfer rhai mawr.
Rwan mae yna ffynnon go ddofn o wybodaeth i dynnu arno yn y papur - a 'dwi'n siwr y byddwn yn ceisio gwneud hynny maes o law. Cyn gwneud hynny fodd bynnag, hoffwn nodi pwysigrwydd y gwaith mewn cyd destun gwleidyddol cyfoes. 'Does yna neb (hyd y gwn i) wedi sefydlu'r berthynas rhwng maint gwladwriaethol a llwyddiant economaidd a gosod hynny yn ei dro yng nghyd destun gwleidyddiaeth gyfoes Gymreig o'r blaen.
Er bod y papur ei hun yn nodi nad mater economaidd yn unig ydi'r cwestiwn ynglyn a threfniant cyfansoddiadol Cymru, byddwn yn dadlau bod ennill y ddadl economaidd ar lefel ddeallusol yn symud yr unig wir dramgwydd i ennill y ddadl ehangach ynglyn ag annibyniaeth Cymru. Os ydym yn derbyn bod Cymru'n wlad (ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn derbyn hynny bellach), ac os ydi'r ddadl y byddai'n llwyddo'n economaidd petai yn rheoli ei hun (fel y rhan fwyaf o wledydd eraill), hefyd yn cael ei hennill - yna mae'r dadleuon sy'n weddill tros gynnal yr undeb yn edrych yn hynod wachul yn fwyaf sydyn.

Monday, August 01, 2011
Yr adolygiad ffiniau ac aelodau seneddol Toriaidd Cymru
Mae'r stori yma ar y wefan politicalbetting.com yn codi cwestiynau diddorol yng nghyd destun Cymru. Awgrym y stori ydi bod nifer o aelodau seneddol Toriaidd yn debygol o wrthwynebu cynlluniau'r llywodraeth i leihau'r nifer o etholaethau San Steffan ar y sail y byddai eu hetholaethau - ac felly eu seddi - yn debygol o ddiflannu. Rydym eisoes wedi trafod y tebygrwydd bydd y newidiadau yn gostus iawn i'r Toriaid yng Nghymru.
Er enghraifft mae'n anodd gweld y byddai'n bosibl i'r Toriaid gadw Gogledd Caerdydd os mai tair yn hytrach na phedair etholaeth fyddai yng Nghaerdydd - er y byddai symud Penarth o Dde Caerdydd i Fro Morgannwg o help i Alun Cairns. Byddai'r Toriaid yn lwcus iawn petai'r ffiniau newydd yn rhoi dwy sedd iddynt efo mwyafrif rhesymol yn y Gogledd. Y newidiadau tebygol yn y De Orllewin ydi cael dwy sedd yn Sir Gaerfyrddin - y naill wedi ei chanoli ar dref Caerfyrddin a'r llall ar Llanelli, ail uno ardal y Preseli efo Sir Geredigion a gwneud sedd arall o Dde Penfro. Eto, byddai hyn yn costio sedd i'r Toriaid.
Felly mi fydd yn ddiddorol iawn gweld agwedd ASau Toriaidd Cymru pan fydd argymhellion cyntaf y Comisiwn Ffiniau yn cael eu cyhoeddi mewn tua chwech wythnos.
Diweddariad 2/8/11 Os ydi Paul Flynn i'w gredu byddai'r newidiadau tebygol yn Ne Ddwyrain Cymru hyd yn oed yn gadael sedd saffaf y Toriaid yng Nghymru, Mynwy mewn perygl.

Is etholiadau Cyngor Gwynedd
Deallaf mai ar ddydd Iau, Medi 29 y bydd yr is etholiadau diweddaraf ,mewn cyfres hir o is etholiadau yng Ngwynedd, yn cael eu cynnal. Bydd y ddau etholiad yn cael eu cynnal yn wardiau cyfagos Penrhyndeudraeth a Diffwys a Maenofferen yng ngogledd Meirion. Maent wedi eu galw yn dilyn ymddiswyddiadau diweddar Dewi Lewis (Plaid Cymru) a Richard Jones (Llais Gwynedd).