Mae'r stori yma ar y wefan politicalbetting.com yn codi cwestiynau diddorol yng nghyd destun Cymru. Awgrym y stori ydi bod nifer o aelodau seneddol Toriaidd yn debygol o wrthwynebu cynlluniau'r llywodraeth i leihau'r nifer o etholaethau San Steffan ar y sail y byddai eu hetholaethau - ac felly eu seddi - yn debygol o ddiflannu. Rydym eisoes wedi trafod y tebygrwydd bydd y newidiadau yn gostus iawn i'r Toriaid yng Nghymru.
Er enghraifft mae'n anodd gweld y byddai'n bosibl i'r Toriaid gadw Gogledd Caerdydd os mai tair yn hytrach na phedair etholaeth fyddai yng Nghaerdydd - er y byddai symud Penarth o Dde Caerdydd i Fro Morgannwg o help i Alun Cairns. Byddai'r Toriaid yn lwcus iawn petai'r ffiniau newydd yn rhoi dwy sedd iddynt efo mwyafrif rhesymol yn y Gogledd. Y newidiadau tebygol yn y De Orllewin ydi cael dwy sedd yn Sir Gaerfyrddin - y naill wedi ei chanoli ar dref Caerfyrddin a'r llall ar Llanelli, ail uno ardal y Preseli efo Sir Geredigion a gwneud sedd arall o Dde Penfro. Eto, byddai hyn yn costio sedd i'r Toriaid.
Felly mi fydd yn ddiddorol iawn gweld agwedd ASau Toriaidd Cymru pan fydd argymhellion cyntaf y Comisiwn Ffiniau yn cael eu cyhoeddi mewn tua chwech wythnos.
Diweddariad 2/8/11 Os ydi Paul Flynn i'w gredu byddai'r newidiadau tebygol yn Ne Ddwyrain Cymru hyd yn oed yn gadael sedd saffaf y Toriaid yng Nghymru, Mynwy mewn perygl.

Dwi'n credu bydd y Ceidwadwyr yn iawn yn y gogledd (hynny yw dim gormod o frwydro).
ReplyDeleteBydd David Jones yn cael dewis cyntaf.
O fap Democratic Audit
http://www.democraticaudit.com/wales-1
Byddwn i'n disgwyl i David Jones fynd am sedd Bae Colwyn a Llandudno. Bydde Guto Bebb wedyn yn cael dewis rhwng fynd am Mon a Menai neu fynd am sedd Ruthin, Llanrwst a Ddinbych. Naill yn hawdd ond yr dau yn bosib.
Yr un fwyaf diddorol yw sir Penfro. Does dim modd yn y byd i'r Ceidwadwyr enill dau sedd yn yr ardal. Bydd yna feit enfawr rhwng Crabb a Hart.
Dydan ni ddim yn gwybod beth fydd y ffiniau wrth gwrs - ond mae'n weddol amlwg y bydd rhaid ychwanegu Bangor i Ynys Mon + rhan arall o Arfon.
ReplyDeleteMae Bangor yn wael i'r Toriaid, ac mae'r ddau gyfeiriad arall y gellid gweithio tuag atynt yn waeth - Dyffryn Ogwen neu G'narfon. Tra bod gobaith gan y Toriaid ym Mon fel mae'n sefyll rwan, byddai ychwanegu rhai o rannau trefol Arfon yn ei gwneud yn amhosibl.
Does gen i ddim syniad gyda llaw os mai David Jones 'ta Guto fyddai fwyaf tebygol o gael yr etholaeth orau o safbwynt y ceidwadwyr.
Rhaid fod David Jones mewn sefyllfa well. Mae Guto dal i fyw yng Nghaernarfon. Rhaid fod David Jones yn fwy poblogaidd yn Llandudno, Bae Colwyn ac Abergele?
ReplyDeleteMae'n debyg - mae DJ yn is weinidog ac mae ganddo gysylltiadau agos efo'r ddwy etholaeth.
ReplyDeleteOnd 'dydi pethau ddim mor syml a byddai dyn yn disgwyl pob tro.
'Dwi'n onest ddim yn ddigon cyfarwydd efo'r wleidyddiaeth fewnol i allu mynegi barn.