Wednesday, August 31, 2011

Amddifadedd yng Nghymru wedi ei fapio

Diolch i Mabon ao Gwynfor am dynnu fy sylw at wefannau sy'n defnyddio Googlemap i fapio amddifadedd yng Nghymru.  Bydd darllenwyr rheolaidd y blog yn gwybod fy mod yn gwneud defnydd gweddol fynych o Fynegai Amddifadedd Cymru.

Mae'r gwefannau yn rhoi darlun clir, gweladwy a diriaethol iawn o batrymau tlodi yng Nghymru, ac os ydych yn rhoi clic ar y chwith ar eich llygoden tra'n aros tros unrhyw ward cewch fanylion llawn.  Mae yna dri map - y Mynegai Amddifadedd Cyflawn, y Mynegai Tlodi Plant a Chymhariaeth yn ol Cynghorau Lleol.

'Dwi'n bwriadu rhoi'r gwefannau ar ochr dde'r blog o dan y pennawd Gwefannau o Ddiddordeb Gwleidyddol er hwylusdod i'r sawl sydd eisiau defnyddio adnoddau hynod ddefnyddiol a dadlengar

5 comments:

  1. Anonymous8:30 pm

    Beth am fapio ardaloedd mwyaf llewyrchus Cymru? Nage fe'r rheiny y dylem fod yn eu efelychu?

    ReplyDelete
  2. Wel mae'r rhai lle nad oes amddifadedd ar y mapiau.

    ReplyDelete
  3. Anonymous8:13 am

    Wnes i ddim edrych ar y map wedi son am amddifadedd. Mae'r holl negatifrwydd a bron anobaith yn fy niflasu i....a wedi'r cwbwl, mae pobl yr ardaloedd hynna yn fwy sicr na pheidio i bleidleision i Lafur dro ar ol tro. Beth ddywedodd Einstein?

    ReplyDelete
  4. Anonymous3:38 am

    Ηi! I just wіsh tо giѵe you a huge thumbs up for the great info you've got right here on this post. I will be returning to your site for more soon.
    Here is my weblog :: http://spotskill.com/

    ReplyDelete
  5. Anonymous1:12 am

    Ηi would yоu mind letting me κnow whiсh webhost
    you're utilizing? I've loаded your blog in 3 completely
    differеnt web broωsers аnd І must saу this blog loaԁs
    a lot quісkег then most.
    Can уou ѕuggeѕt a gοod hоsting proѵider аt а fair рriсe?
    Thanks, I appreciate it!

    Loоk into my homеpagе :: helpful hints

    ReplyDelete