Thursday, August 04, 2011

Y Comisiwn Ffiniau yn cael trafferth yng Nghymru?

Ydynt yn ol politicalbetting.com.

Ymddengys bod cyhoeddi'r argymhellion ar gyfer Cymru wedi ei ohirio hyd fis Ionawr. Roeddynt i fod i weld golau dydd fis nesaf. Mae hyn yn awgrymu bod y Comisiwn yn cael trafferth i leihau nifer seddi Cymru o 40 i 30 - neu eu bod eisiau amser i adeiladu byncar i guddio ynddo yn ystod y storm sy'n sicr o ddilyn cyhoeddi'r argymhellion. 

2 comments:

  1. Mae dau o'r Comisiynwyr (a oedd hefyd yn aelodau o'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol) wedi ymddiswyddo.

    Mewn datganiad ddoe, dywedodd y Comisiwn Ffinau Seneddol mai dyma'r rheswm dros gohirio cyhoeddi'r cynigion cychwynnol tan Ionawr 2012.

    Mi fydd yr amserlen yn hynod o dynn, felly, os ydy'r llywodraeth glymbleidiol hoffus yn dymuno brwydro etholiad Mai 2014 ar sail ffiniau'r 30 sedd newydd.

    ReplyDelete
  2. Anonymous6:57 pm

    Cofiwch fod dal ychydig oriau i bleidleisio dros Annibynniaeth i Gymru yn yr arolwg ar wefan y Guardian

    ReplyDelete