Saturday, August 27, 2011

Un arall o honiadau Gwilym Owen yn cwympo

Roedd yn ddiddorol darllen erthygl Llion Iwan yn Golwg yr wythnos yma ynglyn a chyflwr newyddiaduriaeth yng Nghymru.  Gwrth ddweud un o'r nifer o ddatganiadau ysgubol a wnaed gan Gwilym Owen wrth ymddeol oedd Llion mewn gwirionedd - sef bod safonau newyddiadurol yn y Gymru gyfoes yn ddi ddim.  Mae'r darn yn drylwyr, ac mae'n dod i gasgliadau cwbl groes i rai Gwilym - ond mae'r casgliadau hynny wedi eu seilio ar gryn dipyn o dystiolaeth.

Mi es innau ati yn gynharach yn yr haf i godi amheuon ynglyn ag un o ddatganiadau mawr eraill Gwilym - sef bod y Gymraeg 'yn mynd yn iaith dosbarth canol'.  Roedd fy nghasgliadau innau yn gwbl groes i rai Gwilym Owen, a 'dwi'n gobeithio eu bod hwythau wedi eu seilio ar dystiolaeth gweddol gadarn.


Rwan 'dwi'n gwybod nad cynhyrchu blogiad nag erthygl oedd Gwilym gyda'i ddatganiad wrth ymddeol, ac nad oes lle mewn amgylchiadau felly i gyflwyno tystiolaeth.  Ond mae'n dal yn eironi rhyfeddol i'r dyn gyflawni un o bechodau marwol newyddiadyra - cyflwyno rhagdybiaethau (neu ragfarnau efallai) fel petaent yn ffeithiau - a gwneud hynny wrth gau pen y mwdwl ar yrfa newyddiadurol hynod ddisglair. 

No comments:

Post a Comment