Mae'n debyg na fydd neb sy'n darllen blogmenai yn rheolaidd yn synnu rhyw lawer fy mod yn tynnu sylw at bapur diweddar Adam Price a Ben Levinger. Mae'r papur yn sefydlu perthynas rhwng perfformiad economaidd cadarnhaol a gwladwriaethau cymharol fach - mewn cyd destun Ewropiaidd o leiaf. Hynny yw mae'r gwaith sy'n sail i'r papur yn canfod bod gwledydd llai yn fwy tueddol o lwyddo yn economaidd na rhai mawr - ac yn bwysicach yn cynnig eglurhad am hynny - bod gwledydd llai yn gorfod canlyn polisiau o fasnach agored, eu bod yn fewnol gydlynus, eu bod yn hyblyg a bod cyfansoddiad economaidd Ewrop yn fwy addas ar gyfer gwledydd llai nag ydyw ar gyfer rhai mawr.
Rwan mae yna ffynnon go ddofn o wybodaeth i dynnu arno yn y papur - a 'dwi'n siwr y byddwn yn ceisio gwneud hynny maes o law. Cyn gwneud hynny fodd bynnag, hoffwn nodi pwysigrwydd y gwaith mewn cyd destun gwleidyddol cyfoes. 'Does yna neb (hyd y gwn i) wedi sefydlu'r berthynas rhwng maint gwladwriaethol a llwyddiant economaidd a gosod hynny yn ei dro yng nghyd destun gwleidyddiaeth gyfoes Gymreig o'r blaen.
Er bod y papur ei hun yn nodi nad mater economaidd yn unig ydi'r cwestiwn ynglyn a threfniant cyfansoddiadol Cymru, byddwn yn dadlau bod ennill y ddadl economaidd ar lefel ddeallusol yn symud yr unig wir dramgwydd i ennill y ddadl ehangach ynglyn ag annibyniaeth Cymru. Os ydym yn derbyn bod Cymru'n wlad (ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn derbyn hynny bellach), ac os ydi'r ddadl y byddai'n llwyddo'n economaidd petai yn rheoli ei hun (fel y rhan fwyaf o wledydd eraill), hefyd yn cael ei hennill - yna mae'r dadleuon sy'n weddill tros gynnal yr undeb yn edrych yn hynod wachul yn fwyaf sydyn.

Papur da iawn gan Adam, er ei fod mewn rhai agweddau yn unochrog. Wrth gwrs, does dim bai yn hyn o beth.
ReplyDeleteEr pwysigrwydd y papur ynddo ei hun ar materion a drafodir ynddo, teimlaf mai cais gan Adam ydyw i atgoffa ni gyd fod o dal yno.
Fy hun, fedrai ddim gweld pwy all fod yn well i gymeryd awennau y blaid. Mater o sut ddylai Adam fod yn arweinydd yn hytrach na os ydio yn fy marn i.
Arweinydd heb sedd? Sa hynnu yn well gen i nag unrhyw un arall sydd wedi dangos diddordeb. Heblaw am Dafydd Wigley, does neb arall or un safon ag Adam.