Sunday, October 30, 2016

Yng nghefn ciw Brexit

O edrych yn ol ar y cyfnod o gwmpas 2008 pan aeth yr hwch trwy'r siop ar nifer o fanciau'r DU, ac ymateb y llywodraeth i hynny, mae'n amlwg bod y digwyddiadau hynny yn dynodi diwedd cyfnod yn y DU.  Am bron i ddeugain mlynedd cyn hynny - ers etholiad cyffredinol 1979 a bod yn fanwl - roedd y wladwriaeth wedi symud oddi wrth y cysyniad y dylai ymyryd llawer yn hynt a helynt y sector breifat, a dechreuodd ymbellau oddi wrth y sector honno - peidio ymyryd, gadael i bethau gymryd eu cwrs, ac yn wir ehangu'r sector breifat trwy ddad wladoli nifer o asedau cyhoeddus.

Daeth hynny i ben yn dilyn cyflafan fancio 2008 pan benderfynodd y llywodraeth bod rhaid i'r trethdalwr achub y banciau, a thros y blynyddol dilynol mae'n debyg i dros i £1 triliwn gael ei roi o'r neilltu i'r pwrpas hwnnw.  Arweiniodd y penderfyniad  at drosglwyddiad anferth o adnoddau oddi wrth y trethdalwr i'r sector breifat.  Roedd y wladwriaeth yn ymyryd unwaith eto efo'r sector breifat - ac yn gwneud hynny i raddau arwyddocaol iawn.

Mae'n ymddangos bellach y bydd y bleidlais i adael yr Undeb Ewropiaidd am gwblhau'r broses yna, ac arwain at berthynas fwy clos o lawer rhwng y sector breifat a'r wladwriaeth.  Y rheswm am hynny ydi bod y llywodraeth wedi dod i benderfyniad bod lleihau / atal mewnfudo yn flaenoriaeth iddi - a chanlyniad anhepgor hynny ydi y bydd y DU yn gadael y Farchnad Sengl.  Canlyniad hynny fydd tollau ar allforion a mewnforion, a chanlyniad hynny yn ei dro fydd lleihad mewn masnach rhyngwladol, a lleihad yng ngallu busnes yn y DU i gystadlu'n rhyngwladol.  

Yn y cyd destun yna y dylid edrych ar benderfyniad Nissan wythnos diwethaf i barhau i gynhyrchu ceir yn y DU.  Mae'n amlwg na fyddai Nissan wedi cytuno i fuddsoddi biliynau heb gael sicrwydd y bydd y llywodraeth yn dod o hyd i ffordd i'w digolledu am yr effaith y bydd tollau rhyngwladol yn ei gael ar eu busnes, ac mae'n ymddangos i'r un sicrwydd gael ei roi i'r diwydiant ceir yn ei gyfanrwydd.  O safbwynt y llywodraeth mae hyn yn benderfyniad cwbl resymegol.  Mae'r diwydiant ceir yn y DU yn cynhyrchu 1.5 miliwn car y flwyddyn, mae'n cyflogi 900,000 o bobl ac mae iddo drosiant blynyddol o tua £70bn.  Ond mae i'r sefyllfa oblygiadau negyddol i Gymru.

Mae'n amlwg y bydd ymadawiad y DU a'r UE yn fler - ac mae'n amlwg y bydd y llywodraeth yn blaenori yr hyn maent eisiau ei amddiffyn ac yn anwybyddu'r hyn nad ydynt am ei amddiffyn.  Gallwn fentro y bydd sicrwydd yn cael ei roi i ddiwydiannau allweddol eraill y bydd y llywodraeth yn dod o hyd i ffyrdd o sicrhau na fydd eu gallu i gystadlu yn erydu yn sgil y newidiadau.  Bydd y sector gwasanaethau ariannol ar flaen y ciw yma.  Bydd yna gost ariannol i amddiffyn diwydiannau dethol - a bydd y gost yn un uchel.  Bydd y wladwriaeth yn dewis yn ofalus pa sectorau sydd werth eu hamddiffyn, a pha rai nad ydynt werth eu hamddffyn.  

Ac mi fydd yna eithriadau sydd ddim yn rhai ariannol hefyd - mae llawer o ffermydd mawr yn Ne Lloegr yn ddibynnol iawn ar lafur tramor tymhorol.  Mae'n debyg bod sicrwydd ynglyn a hynny eisoes wedi ei ddarparu.  Bydd cartrefi gofal, y Gwasanaeth Iechyd ac ati yn chwilio am sicrwydd tebyg.

A bydd eithriadau o fath arall hefyd.  Mae'n debyg y bydd Gogledd Iwerddon yn cael ei thrin yn wahanol i weddill y DU, mae'r syniad o ffin caled rhyngwladol nad ydi hi'n bosibl ei selio yn Iwerddon yn codi pob math o broblemau anodd iawn i fynd i'r afael a nhw.  Bydd Gibraltar yn eithriad arall - byddai'n anodd iawn i economi'r ynys bellenig honno o Brydeindod oroesi os byddai'n cael ei gwahanu gan ffin galed oddi wrth y gweithlu sy'n ei chynnal.  Ac mae'n ddigon posibl y bydd yr Alban yn cael ei thrin yn wahanol hefyd - yn arbennig os y bydd yn edrych fel petai'r wlad am dorri ei chwys ei hun a gadael y DU.

Y sawl sydd yn gryf, y sawl sy'n fawr neu'r sawl fydd mewn lle i fargeinio fydd yn cael ffafriaeth - bydd y sawl sy'n wan, y sawl sy'n fach a'r sawl sydd ddim mewn lle i fargeinio  yn cael eu gadael i wywo ar y gangen.  

Lle fydd hynny yn gadael Cymru?  Faint o'n diwydiannau ni sy'n cael eu hystyried yn allweddol i economi'r DU?  Go brin bod angen crafu pen gormod cyn cael ateb i honna.  Yn wleidyddol rydym yn hynod ddof ac ufudd o gymharu a Gogledd Iwerddon a'r Alban - o safbwynt llywodraeth y DU bydd yn hawdd ein cymryd yn ganiataol, bydd yn hawdd ein hanwybyddu.  Byddwn o safbwynt economaidd a gwleidyddol yn flaenoriaeth isel iawn - byddwn ar gefn y ciw -  fel arfer.


Thursday, October 27, 2016

Ydi Gwilym Owen yn deall beth ydi Trydar?

Dwi ond yn gofyn y cwestiwn yn sgil ei erthygl fwy bisar nag arfer yn Golwg heddiw.  Wna i ddim eich blino efo'r rhan fwyaf o'r erthygl ag eithrio i nodi ei bod yn ymdrech eithaf hysteraidd i amddiffyn ymddygiad diweddar Dafydd Elis-Thomas, ymosod ar y sawl oedd yn ei feirniadu a dethol yn ofalus yr ychydig sylwadau canmoliaethus y daeth o hyd iddynt.  

Ond yr hyn sy'n rhyfedd ydi ei sylwadau am ddefnyddwyr Trydar - neu'r twitterati chwadl yntau:

Ac yn dilyn y cyhoeddiad fe gafwyd ymateb gwarthus o'r cyfeiriadau hunangyfiawn arferol.  Wrth gwrs roedd y twitterati dienw yn rhaffu brawddegau personol ac enllibus amdano.  Mae rhywun yn disgwyl hynny bellach gan y criw hunan dybus sy'n barod i fwrw sen ar unrhyw un nad yw'n canu o'r un llyfr emynau a nhw.  Ac felly does dim angen rhoi gormod o sylw i'r cawodydd beirniadol a ddaw fel arfer yn ystod oriau'r nos.

Mae'n anodd gwybod yn iawn lle i ddechrau.  Mae'n wir bod cyfathrebu ar trydar yn tueddu i fod braidd yn fwy anghwrtais na chyfathrebu mewn bywyd pob dydd - ond mae'n rhaid i mi ddweud nad oes yna ddim byd arbennig o amhriodol byth yn ymddangos ar fy llinell amser i.  Serch hynny mae'r canfyddiad ymddangosiadol yn y darn bod pawb sy'n defnyddio Trydar o'r un farn yn union yn amlwg yn gwbl gyfeiliornus.  Mi gewch chi pob barn y gallwch feddwl amdani ar Trydar - mae natur y farn rydych yn dod ar ei thraws yn dibynnu ar pwy rydych wedi dewis ei ddilyn.  Os ydych y  cael pobl sy'n rhannu'r un farn yn union pob amser, y rheswm am hynny ydi eich bod wedi bod yn hynod ddethol wrth ddewis pwy i ddilyn. Os ydi pawb ar eich llinell amser yn poeri sen a sarhad byth a hefyd, y rheswm am hynny ydi eich bod chi yn dewis dilyn pobl felly.   Dydi hyn ddim y tro cyntaf o bell ffordd i Gwilym gyfeirio at Trydar fel petai'n mynegi meddylfryd cwch gwenyn.

O ran fy llinell amser i ymddangosodd amrywiaeth o sylwadau ynglyn ag ymadawiad Dafydd Elis-Thomas, rhai yn feirniadol a rhai yn lled gefnogol - yn arbennig felly gan wleidyddion o bleidiau unoliaethol.  Roedd rhywfaint o'r sylwadau beirniadol yn bersonol ond doedd yna ddim byd enllibus nag arbennig o faleisus.  Lleiafrif cymharol fach o'r sawl dwi'n eu dilyn sy'n ddi enw - er bod yna ambell un.  Mae unrhyw un sydd wedi dilyn ei linell amser Trydar mewn gwlad sydd mewn parth amser gwahanol i Gymru yn gwybod ei bod yn ddistaw iawn, iawn pan mae ynghanol nos yng Nghymru.

Hyd y gwn i 'does gan Gwilym ddim cyfri trydar ei hun (oni bai bod ganddo gyfri di enw),  ond byddai'n ddiddorol gwybod llinell amser pwy yn union mae'n ei dilyn.  Un pwy bynnag ydi hi mae'n gwbl wahanol i fy un i - a byddwn yn tybio ei bod yn gwbl wahanol i un pawb arall yng Nghymru hefyd.






Tuesday, October 25, 2016

Mwy o ddiolch i Gymru gan San Steffan

Mae'r gwahaniaeth rhwng adroddiad BBC Scotland ag un BBC Cymru ar y datganiad y bydd Maes Awyr Heathrow yn cael trydydd glanfa yn ddadlennol.  

Yn naturiol ddigon mae  adroddiadau'r ddau wasanaeth cenedlaethol yn canolbwyntio ar oblygiadau'r datblygiad anferth yma i'r wlad maent yn eu gwasanaethu.  Bydd y datblygiad yn cosio £17.6bn, ac os ydi'r propoganda i'w gredu bydd £61bn o fudd i 'r economi ehangach tros gyfnod o drugain mlynedd.  





Mae'r adroddiad gan BBC Scotland yn cyfeirio at fanteision penodol i 'r Alban - buddsoddiad yn yr Alban o £200m ac 16,000 o swyddi.  Mae BBC Cymru yn son am obaith - neu bosibilrwydd - y bydd cysylltiad yn cael ei sefydlu rhwng Caerdydd a Heathrow rhyw ddiwrnod.

Mae'r gwahaniaeth yn adrodd cyfrolau - mae'r Alban wedi cael rhywbeth pendant, mae Cymru wedi cael ar ddeall nad ydi cyswllt newydd 'allan o'r cwestiwn'.  Mewn geiriau eraill, mae un gwlad wedi cael rhywbeth pendant tra nad ydi'r llall yn cael ddim byd.

Y wlad sydd efo'r trefniadau cyllido ffafriol a sydd a'i Senedd wedi derbyn pwerau arwyddocaol a phell gyrhaeddol sydd wedi dod allan o hon orau - eto fyth.  Ac mae yna reswm wrth gwrs, rheswm rydym yn dychwelyd ato fyth a hefyd ar y blog yma - mae llywodraeth y DU yn ofn yr Alban oherwydd patrymau pleidleisio'r Alban.  Y neges mae patrymau pleidleisio Cymru yn ei roi i lywodraeth San Steffan ydi nad oes angen poeni amdanom, a gellir ein anghofio yn ddi gost.  Mae'r ffordd rydym yn pleidleisio yng Nghymru yn wirioneddol hunan niweidiol.

Sunday, October 23, 2016

Pam na ddylai'r Blaid glymbleidio efo Llafur

Mae cryn sylw cyfryngol wedi ei roi i'r syniad o glymblaid rhwng Plaid Cymru a Llafur tros y dyddiau diwethaf - er y dylai araith Leanne fod wedi rhoi taw ar hynny am y tro.

Yn arwynebol mae yna resymeg yn cynnal y syniad.  Gyda chanlyniad y refferendwm, y senoffobia sydd wedi codi yn sgil hynny a symudiad disymwth y Toriaid tua'r Dde anoddefgar, senoffobaidd, mae yna ddadl tros ddod a'r elfennau blaenagar, goddefgar gwrth senoffobaidd yng Nghymru at ei gilydd.  

Beth bynnag fy ngwahaniaethau efo Llafur Cymru byddwn yn rhoi fy hun ar yr un ochr na nhw yn y cyd destun yma - er gwaetha'r ffrwd anoddefgar, gwrth Gymreig a gwrth Gymraeg sydd wedi ei nodweddu'r blaid  hyd yn gymharol ddiweddar. 

Fodd bynnag, byddai hynny'n gamgymeriad - a dyma pam:


1). Oherwydd mai'r patrwm arferol yn y DU (ag eithrio Gogledd Iwerddon lle mae'r patrymau etholiadol yn cael eu gyrru gan rymoedd hollol wahanol) ydi bod clymbleidiau yn ddi os yn arwain at gosb etholiadol i'r blaid leiafrifol yn y glymblaid yn yr etholiad yn dilyn y llywodraeth glymblaid.  Mae hefyd fel rheol - er nad pob tro - yn arwain at gryfhau sefyllfa'r blaid fwyafrifol.  Gellir dadlau ynglyn a pham bod hyn yn digwydd (pwnc i flogiad arall o bosibl), ond 'does yna fawr ddim amheuaeth ei fod yn digwydd.  Dydi'r patrwm hwn ddim wedi ei gyfyngu i'r DU - o bell ffordd.  'Dydi'r Blaid ddim eisiau cryfhau sefyllfa Llafur na gwanio ei sefyllfa ei hun.

2). Oherwydd bod y Blaid Lafur mewn cyflwr ansefydlog - os nad ffrwydrol - ar hyn o bryd.  'Does yna ddim dal beth sydd am ddigwydd nesaf efo'r Blaid Lafur.  'Dydi hi ddim yn syniad gwych i unrhyw blaid, nag yn wir berson,  gysylltu ei hun yn agos efo rhywbeth a allai'n hawdd ffrwydro.  'Dydi bod yn collateral damage - chwedl ein cyfeillion Americanaidd - ddim yn rhywbeth y dylai 'r Blaid roi ei hun mewn sefyllfa i ymgyraedd tuag ato.  Mae'r Blaid Lafur ar hyn o bryd yn rhy berygl i'w fodio rhyw lawer.  

3). Dydi safle bargeinio'r Blaid ddim yn gryf.  Yn sgil ymadawiad yr Arglwydd Ellis-Thomas o gorlan y Blaid a hanner ymadawiad Nathan Gill o UKIP, mae gan Lafur nifer o opsiynau.  'Dydyn nhw ddim yn ddibynol ar y Blaid, ac felly nhw fyddai'n dominyddu unrhyw drafodaethau, a nhw hefyd fyddai 'n tra arglwyddiaethu tros unrhyw ddeillianau polisi.

4). Yn fwy arwyddocaol na'r un o'r uchod ydi cyfeiriad tymor canolig i hir y Blaid.   Dylai prif  amcan strategol y Blaid fod wedi ei gyfeirio'n bennaf at ddifa tra arglwyddiaeth etholiadol y Blaid Lafur yng Nghymru.  Mae Llafur wedi dominyddu Cymru yn etholiadol ers bron i ganrif.  'Dydi canlyniadau hynny heb fod yn dda i Gymru - mae'n dlotach na bron i unrhyw ardal arall yng Ngorllewin Ewrop.  

Y llywodraeth orau i Gymru ei chael erioed oedd llywodraeth Cymru'n Un.  Roedd yr hyn oedd yn ddiddorol ac arloesol amdani yn ddeilliant i fewnbwn Plaid Cymru - a roedd Cymru ar ei hennill yn y byr dymor.  Ond yn y tymor canolig roedd ar ei cholled oherwydd i'r glymblaid gryfhau Llafur yn etholiadol a gwanio'r Blaid.  Canlyniad tymor canolig hyn oedd llywodraeth mwyafrifol Llafur o 2011 i 2016 - un a lithrodd yn ol i ddarparu'r arlwy di hid, di ddychymyg arferol.  Y peth gorau allai ddigwydd i Gymru ydi i Lafur gael ei hun yn yr un lle a Llafur yr Alban - hynny ydi yn drydydd plaid gyda dylanwad ymylol ar fywyd y wlad. 

 Hyd yn oed os ydi hi'n bosibl gwella Cymru yn y byr dymor trwy glymbleidio efo Llafur, ni ddylid gwneud hynny - Llafur gryfach ydi'r peth diwethaf mae Cymru ei hangen.  Os ydi hanes y ganrif ddiwethaf yn dangos unrhyw beth i ni, mae'n dangos hynny.

Friday, October 21, 2016

Y Blaid yn ennill is etholiad arall _ _

_ _ ym Mlaengwrach, Castell Nedd, Port Talbot y tro hwn.  'Dwi 'n deall bod y Blaid wedi ennill dwy etholiad cyngor plwyf yn yr un ardal hefyd.  Da iawn bawb.  


Thursday, October 20, 2016

Ynglyn ag ail gynnal etholiadau

Dwi'n cytuno efo'r rhan fwyaf o'r hyn sydd gan Dylan Iorwerth i 'w ddweud ynglyn a'r helynt Dafydd Ellis Thomas yn rhifyn heddiw o Golwg.

Mae'n gywir i nodi bod angen trefn lle gall etholiad gael ei hail gynnal pan mae ymgeisydd yn newid ei blaid yn fuan ar ol argyhoeddi'r etholwyr ei fod yn sefyll tros blaid arall.  Mae hefyd yn wir bod nifer o gynghorwyr wedi troi at Blaid Cymru yn y gorffennol cymharol agos, ac nad oes is etholiadau wedi bod yn sgil hynny.  Byddwn yn ychwanegu fodd bynnag bod achos Dafydd Ellis-Thomas yn anarferol oherwydd bod eglurhad Dafydd yn awgrymu'n gryf ei fod yn bwriadu gadael y Blaid cyn yr etholiad ac yn wir pan ddaeth i gytundeb efo'r Blaid yn lleol yn ei etholaeth.  Mae hefyd yn ymddangos o'r datganiadau hynny bod rheswm hynod hunanol ac anymunol tros yr ymadawiad hefyd - nad oedd y Blaid yn fodlon 'edrych ar ei ol'.  



Efallai mai'r ffordd orau o fynd ati i atal gwleidyddion rhag defnyddio adnoddau pleidiau i gael eu hethol ac yna gadael y pleidiau cyn gynted a phosibl, ydi trwy sefydlu mecanwaith ail alw os ydi - dyweder- 10% o'r etholwyr yn gofyn am is etholiad.

Ond mae yna gymhlethdod bach.  Yn achos Dafydd Ellis-Thomas ni fyddai problem gyda chynnal is etholiad, ond beth fyddai'n digwydd yn achos aelod rhestr fel Nathan Gill?  Pedwerydd oedd UKIP yn y bleidlais rhestr yn y Gogledd, ac yn ol pob tebyg pedwerydd fyddai eu safle petai'r etholiad yn cael ei hail gynnal.  Mae'n anodd gweld sut y gellid gweithredu'r egwyddorion D'Hont a rhoi'r sedd i'r blaid sy'n dod yn bedwerydd yn yr is etholiad.  Ac ar ben hynny mae yna'r gost enfawr o gynnal etholiad ar draws naw etholaeth i lenwi un sedd.  

Rheswm pellach i fabwysiadu system STV o bosibl.  

Ers talwm _ _ _

_ _ _ roedd y Daily Mail yn ymgyrchu i ddod a phlant o fewnfudwyr i'r DU - ond mewn amgylchiadau ychydig yn wahanol i'r rhai sy'n bodoli ar hyn o bryd.


Wednesday, October 19, 2016

Cofiwch am y Gynhadledd - a chais bach

Bydd Cynhadledd Flynyddol y Blaid yn cael ei chynnal ddydd Gwener a ddydd Sadwrn, Hydref 21 a 22.  Galwch heibio os cewch y cyfle - mae'n digwydd ar drothwy cyfnod tyngedfenol yn hanes Cymru.


Os ydych yn dod draw, ac os ydych yn aelod byddwn yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn etholiad mewnol y Blaid i ddewis Cyfarwyddwr Ymgyrchu ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid.  Dim ond fi sydd wedi ymgeisio am y rol, ond yn unol a threfn arferol y Blaid mae'n rhaid cynnal etholiad beth bynnag - felly byddwn yn gwerthfawrogi eich croes os gwelch yn dda.

Dwi eisoes yn cynrychioli Gogledd Cymru ar y Pwyllgor Gwaith, ond gan bod gen i fwy o amser ar fy nwylo y dyddiau hyn 'dwi'n credu y gallaf fod o fwy o werth i'r Blaid yn cyflawni rol ychydig yn fwy gweithredol.  Mae'r ffaith fy mod hefyd wedi eistedd ar bwyllgorau ymgyrch llwyddiannus Arfon tros y ddegawd diwethaf hefyd yn rhoi cryn wybodaeth a phrofiad o drefnu ymgyrchoedd i mi.

Diolch.



Monday, October 17, 2016

Un pwt olaf (gobeithio) am Ymadawiad DET

Dwi am wrthsefyll y demtasiwn i ddiflasu pawb efo mwy am ymadawiad disymwth DET a'r Blaid, felly oni bai bod datblygiad arwyddocaol arall yn y stori mi adawaf i bethau fynd.  Serch hynny dwi am godi un peth bach cyn hynny - y clip radio yma, sydd i'w gael ar Golwg360.

Dwi'n meddwl bod y clip yn ei gwneud yn hollol glir i Dafydd ystyried y syniad o adael y Blaid ac eistedd fel aelod annibynnol gyntaf yn ystod haf 2015 - yr union bryd daeth i gytundeb efo'r Blaid yn ganolog a'i etholaeth y byddai'n osgoi gwneud datganiadau cynhenus am y Blaid - ac o ganlyniad i hynny dderbyn eu cefnogaeth i sefyll yn etholiad 2016.

Dydi o ddim yn egluro wrth gwrs pam na ymladdodd etholiad 2016 fel ymgeisydd annibynnol, a disgwyl nes bod yr etholiad allan o'r ffordd cyn mynd ati i wireddu ei fwriad.

Sunday, October 16, 2016

Cip ar y 'rhesymau' tros ymadawiad Dafydd Ellis-Thomas

Mae'n rhaid i chi faddau i mi os nad ydw i 'fyny i sbid' a defnyddio idiom Seisnig hyll braidd, ond dwi wedi bod mewn digwyddiad teuluol yn Llaneirwg am y rhan fwyaf o'r dydd a heb weld - na chlywed - yr Arglwydd Ellis-Thomas yn ceisio egluro ei hun ar y cyfryngau y bore 'ma.  

Beth bynnag mi geisiaf edrych ar y 'rhesymau' hynny - fel dwi'n eu deall.


1). Oherwydd nad ydi Plaid Cymru eisiau cefnogi Llafur mewn llywodraeth.  Mae Dafydd wedi mynegi'r farn ecsentrig braidd mai priod rol yr wrthblaid ddylai fod i gefnogi'r llywodraeth er talwm.  'Does dim fel y cyfryw o'i le mewn coleddu'r gred yma, ond yn amlwg mae trefn lywodraethol lle mae gwrthbleidiau yn ceisio cefnogi 'r llywodraeth yn hytrach na chraffu ar ei waith a'i ddal i gyfri' yn hynod anarferol os nad unigryw.   Dydi safbwynt y Blaid ar y mater yma ddim wedi newid o gwbl ers y Cynulliad diwethaf - roedd pethau'n union yr un peth pan benderfynodd sefyll am sedd Meirion Dwyfor yn enw'r Blaid a chan ddefnyddio adnoddau ariannol, dynol a threfniadol y Blaid.

2). Oherwydd bod y Blaid yn ei atal rhag dweud ei ddweud.  'Dydi'r Blaid ddim yn ei atal rhag dweud ei ddweud - mae Pleidwyr yn cael paldaruo'n ddi ddiwedd yn fy mhrofiad i.  Ond mae'n gosod disgwyliadau sylfaenol arno - yn benodol peidio tanseilio negeseuon sylfaenol y Blaid ar adegau allweddol megis dechrau cynadleddau a dechrau ymgyrchoedd etholiadol a pheidio cefnogi ymgeiswyr nad ydynt yn Bleidwyr yn hytrach na Phleidwyr.  Mae'r lefel yma o hunan ddisgyblaeth sylfaenol yn ddisgwyledig gan wleidyddion proffesiynol ym mhob plaid - ond hyd yn oed petai'n  wir roedd pethau'n union yr un peth pan benderfynodd sefyll am sedd Meirion Dwyfor yn enw'r Blaid a chan ddefnyddio adnoddau ariannol, dynol a threfniadol y Blaid.

3). Oherwydd nad ydi'r Blaid wedi newid fel pleidiau eraill ers cyflwyno datganoli.  Fel mae'n digwydd dydi hyn ddim yn wir - mae'r Blaid wedi newid ei chyfansoddiad yn llwyr ers hynny, ond hyd yn oed petai'n wir unwaith eto roedd pethau'n union yr un peth pan benderfynodd sefyll am sedd Meirion Dwyfor yn enw'r Blaid a chan ddefnyddio adnoddau ariannol, dynol a threfniadol y Blaid.

4). Oherwydd i Leanne sefyll yn erbyn Carwyn Jones i fod yn Brif Weinidog Cymru.   Wel yn amlwg wnaeth hyn ddim digwydd cyn yr etholiad, ond 'doedd hi ddim yn hollol anragweladwy y gallai arweinydd yr ail blaid fwyaf roi ei henw gerbron mewn pleidlais i ddewis Prif Weinidog mewn sefyllfa lle mae'r blaid fwyaf yn un leiafrifol.

5). Bod ei ymgeisyddiaeth yn un 'annibynnol' beth bynnag.  Mae'n cyfiawnhau peidio ag ymddiswyddo a chaniatau i etholwyr Meirion Dwyfor benderfynnu os ydynt ei eisiau fel Aelod Cynulliad annibynnol yn hytrach nag un Plaid Cymru mewn amrywiol ffyrdd sydd braidd yn ddryslyd - bod rhaglen yn ei ohebiaeth etholiadol a bod yr etholwyr mewn rhyw ffordd neu'i gilydd yn 'deall' bod ei ymgeisyddiaeth ar wahan ac yn wahanol i ymgyrch y Blaid.  Am wn i mai ffordd o awgrymu bod ei ymgeisyddiaeth mewn rhyw ffordd yn un lled annibynnol a bod yr etholwyr mewn rhyw ffordd yn deall hynny ydi'r eglurhad.

Rwan i hyn fod yn gredadwy byddai dyn yn disgwyl y byddai  rhyw fath o ymdrech wedi ei gwneud i egluro i'r etholwyr bod yr ymgeisyddiaeth yn un annibynnol neu led annibynnol.  Er enghraifft gellid ceisio ymbellhau oddi wrth naratif y Blaid yn genedlaethol, ac efallai ymdrechu i dynnu elfennau o'r tu allan i beirianwaith y Blaid i mewn i'r ymgyrch.  Byddai rhywun yn disgwyl i'w ohebiaeth hepgor logo ac ymddangosiad corfforaethol deunydd y Blaid - felly hefyd ei bosteri etholiadol.  Byddai rhywun hefyd yn disgwyl y byddai yna elfen o ariannu 'annibynnol' i'r ymgyrch  yn hytrach na defnydd o adnoddau ariannol y Blaid. Byddai rhywun yn disgwyl canfasio pobl nad ydynt yn ymddangos ar restrau canfasio'r Blaid.   Ydi hyn i gyd wedi digwydd?  Wrth gwrs nad ydi o.  

A thra rydym yn son am ariannu mewn etholiad Cynulliad, dydi etholaeth ddiogel fel Meirion Dwyfor ddim yn derbyn unrhyw gyfraniad gan y Blaid yn ganolog - mae'n rhaid i'r ymgyrch gael ei hariannu'n lleol.  Mewn geiriau eraill cafodd yr etholiad ei hariannu gan aelodau cyffredin yn mynd ati i godi pres yn y ffyrdd llawr gwlad arferol - raffl, boreuau coffi ac ati.  Pobl gyffredin sy'n codi'r pres yma - pobl sy'n caru eu gwlad, pobl sy'n gweld y Blaid fel y ffordd orau o symud y wlad yn ei blaen, pobl nad oes ganddynt fynediad i gyflog Cynulliad, pensiwn San Steffan na threuliau Ty'r Arglwydd. Pobl gyffredin, di rodres, onest. Pobl sydd yn gofyn iddyn nhw eu hunain "Beth allaf ei wneud i helpu'r Blaid" yn hytrach na "Tybed sut y gall y Blaid edrych ar fy ol i?"  

Beth bynnag oedd yn mynd trwy feddwl Dafydd pan dderbyniodd yr enwebiad i sefyll yn enw'r Blaid, a beth bynnag aeth drwy ei feddwl pan benderfynodd wedi iddo gael ei ethol mai Aelod Cynulliad annibynnol oedd am fod, bydd yr amheuaeth yn aros am byth ei fod wedi gwneud defnydd sinicaidd o'r Blaid, ei hapel cenedlaethol, ei adnoddau ariannol a dynol a'i strwythurau trefniadol i gael ei ethol oherwydd ei fod yn gwybod na fyddai ganddo fawr o obaith fel ymgeisydd annibynnol.  Gall y canfyddiad hwnnw fod yn gam neu 'n gymwys, ond bydd yr amheuaeth yno tra bydd Dafydd - ac ymhell ar ol hynny.



Pam nad oes yna Aelodau Cynulliad annibynnol

Wel, mae yna Aelodau Cynulliad Annibynnol - Nathan Gill a Dafydd Ellis Thomas - ond chafodd nhw ddim eu hethol fel ymgeiswyr annibynnol, cael eu hethol fel ymgeiswyr pleidiol wnaethon nhw a throi cefn wedyn.  

Ar hyn o bryd dim ond un Aelod Seneddol  San Steffan sydd wedi ei hethol yn annibynnol trwy'r DU (Sylvia Hermon yn North Down - etholaeth fwyaf anarferol y DU mewn sawl ffordd) , does neb yn Aelod Senedd yr Alban yn annibynnol na hyd yn oed Aelod Cynulliad Gogledd Iwerddon - er bod y ganran o bleidleisiau sydd ei angen i ennill etholiad yn y fan honno yn isel iawn oherwydd y system pleidleisio.  

Rhwng y bedair ddeddfwrfa rydym yn son am tros i 900 o aelodau etholedig, a dim ond un ohonynt sydd wedi ei hethol fel ymgeisydd annibynnol.  Ag ystyried cymaint o gynghorwyr sy'n cael eu hethol yn annibynnol gall hyn ymddangos yn rhyfedd braidd - ond mae yna reswm gweddol amlwg.  Gall ymgeisydd annibynnol ymgyrchu'n effeithiol mewn ward unigol, ond mae'n anodd iawn gwneud hynny mewn etholaeth sydd a degau o filoedd o bobl yn byw ynddi.  Mae'r ymgeisydd angen cefnogaeth sylweddol a llwyth o bres.

Os ydi ymgeisydd yn sefyll tros blaid mae'n rhoi manteision anferth iddo'i hun.  

1). Pres.  Mae cynnal ymgyrch etholiadol yn ddrud iawn.  Pleidiau gwleidyddol sy'n ariannu ymgyrchoedd y sawl sy'n sefyll ar eu rhan.
2). Cefnogaeth naratif cyfryngol y blaid.  Mae etholiadau modern yn cael eu hymladd ar sawl lefel ond yr un gyfryngol o bosibl ydi'r bwysicaf yn yr oes sydd ohoni.  Mae pob plaid yn darparu adnoddau sylweddol i drosglwyddo eu naratifau yn effeithiol ar y cyfryngau prif lif.
3). Cefnogaeth trefniadau cyfryngau cymdeithasol y pleidiau.  Mae'r elfen yma yn dod yn fwyfwy pwysig mewn etholiadau, ac mae pob plaid yn gweithio i wella eu presenoldeb digidol.  Dydi hi ddim yn bosibl gwneud hyn yn effeithiol heb ddarparu adnoddau sylweddol.
4). Mynediad i ddata etholiadol.  Mae coledu data etholiadol yn rhan bwysig o etholiad bellach - dyma'r wybodaeth sy'n dweud wrth ymgeisydd lle dylid ei ganfasio, a lle mae'n wastraff amser canfasio.  Mae gwybodaeth felly i'w chael ym manciau data cyfrifiadurol pleidiau gwleidyddol.  Os nad oes gan ymgeisydd fynediad i ddata, mae'n canfasio yn y tywyllwch.
5). Peirianwaith i wneud y gwaith llawr gwlad.  Does yna neb yn gallu canfasio degau o filoedd o dai ei hun, na dosbarthu degau o filoedd o daflenni ei hun, na stwffio degau o filoedd o amlenni ei hun, na chodi cannoedd o bosteri etholiadol ei hun, na sicrhau bod niferoedd sylweddol o gefnogwyr yn mynd i fotio ar y diwrnod.  Dim peirianwaith = dim ymgyrch llawr gwlad.

Rwan dydi hyn oll ddim yn golygu nad ydi hi'n bosibl ennill etholiad San Steffan neu Gynulliad fel ymgeisydd annibynnol - mae'n digwydd ambell waith fel yn achos Peter a Pat Law neu Martin Bell er enghraifft.  Ond yn yr achosion hynny roedd amgylchiadau arbennig - y Laws yn etifeddu peirianwaith Llafur er enghraifft, neu'r sylw cyfryngol anferth, enw drwg Neil Hamilton a chymorth y pleidiau eraill i Martin Bell. 

Rwan mae'n debyg eich bod yn gwybod i lle mae hon oll yn mynd - a byddaf yn dod yn ol maes o law. 

Saturday, October 15, 2016

Pwt arall am Dafydd Elis-Thomas

'Doedd y newyddion ynddo ei hun ddim yn sioc - ond roedd yr amseriad.  Pan ddaeth Dafydd Elis-Thomas i gytundeb efo'i blaid yn etholaethol yn ystod haf 2015 i beidio a gwneud datganiadau cyhoeddus oedd yn feirniadol o'r Blaid yn ganolog sicrhaodd ei fod yn cael ei ail ethol ym mis Mai eleni.  Y gwendid yn y cytundeb hwnnw oedd y ffaith na fyddai Dafydd yn gorfod cadw ei ochr ef ohono wedi'r etholiad, gan na fyddai angen cefnogaeth ei blaid leol wedyn.  Serch hynny byddai rhywun wedi meddwl y byddai wedi disgwyl mwy na phum mis cyn ei heglu hi, ond dyna ni.



 Yn y bon roedd yna dair problem efo Dafydd o safbwynt y Blaid:

1). Y ffaith ei fod yn teimlo'r angen i dynnu sylw ato ei hun trwy feirniadu'r Blaid ar adegau allweddol - cychwyn cynhadledd, dechrau ymgyrchoedd etholiadol ac ati.
2). Ei agwedd tuag at gweddill grwp y Blaid.  Byddai dweud nad oedd Dafydd yn chwaraewr tim yn ffordd gwrtais iawn, iawn o roi pethau.
3). Ei gyfraddau presenoldeb yn y Cynulliad.  A bod yn hynod gwrtais unwaith eto, nid oedd ei gyfraddau presenoldeb yn y Cynulliad efo'r gorau.

Yn bersonol mae'r ffug ddeallusrwydd, yr arfer o ddweud rhywbeth sy'n swnio'n glyfar ond sydd mewn gwirionedd yn wag a di ystyr, yr arfer o gyflwyno dadleuon neu sylwadau dryslyd a chroes i'w gilydd yn gymaint o broblem pob tamad.  Nid mater syml nad ydw i'n bersonol  yn hoffi rwdlan aneglur a ffuantus ydi hyn - er bod hynny'n wir - ond mae mwydro anghyson yn groes i pob rheol o gyflwyno naratif gwleidyddol effeithiol.  Dylai naratif gwleidyddol fod yn glir, yn gryno, yn gyson ac yn gwbl ddealladwy.  

Gallai'r anghysondeb fod yn ogleisiol weithiau.  Er enghraifft cyn etholiadau Comisiynydd yr Heddlu yn y Gogledd eleni roedd Dafydd yn ceisio cael pobl i roi un o'u dwy bleidlais i brif wrthwynebydd y Blaid yn yr etholiad - y Llafurwr David Taylor - oherwydd y byddai hynny (mewn modd nad oedd yn ei egluro) yn stopio UKIP yn stond.  Doedd hi ddim llawer cyn hynny pan roedd yn feirniadol o naratif y Blaid ar gyfer etholiad San Steffan o ymosod ar UKIP a'i gwerthoedd a gosod ei hun yn wrthbwynt iddi a'i gwerthoedd angymreig. 

Rwan os ydi Dafydd wedi dod i gytundeb efo Carwyn Jones neu beidio - ac mae yna gryn dipyn o ddyfalu ei fod - gallwn fod yn weddol sicr y bydd yn gefnogol i lywodraeth Carwyn Jones doed a ddel.  Felly bydd Aelod Cynulliad Meirion Dwyfor yn sicrhau beth fydd mewn gwirionedd yn Lywodraeth mwyafrifol Llafur, er i 88% o etholwyr yr etholaeth honno wrthod Llafur ym mis Mai.  Bydd hefyd yn sicrhau y gall y Blaid Lafur rwygo'r cytundeb y daethant iddo efo'r blaid enillodd o filltiroedd ym Meirion Dwyfor i sicrhau cefnogaeth ar adegau allweddol.  

Dwi eisoes wedi cydymdeimlo efo'r Blaid yn lleol, ond hoffwn ddweud pwt am y  Blaid yn genedlaethol ac yn y Cynulliad hefyd.  Maent wedi dangos llawer mwy o amynedd efo Dafydd am flynyddoedd nag oedd ganddo hawl i'w ddisgwyl.  Mae'r hyn mae Dafydd wedi ei wneud yn ei fychanu fo fel gwleidydd ac unigolyn.  

Friday, October 14, 2016

Ymadawiad Dafydd Elis-Thomas a'r Blaid

Mae'n debyg y byddaf yn dod yn ol at hon tros y dyddiau nesaf - ond cyn hynny pwt bach ynglyn a Phlaid Cymru Meirion Dwyfor.  

Mae'r Blaid yn yr etholaeth (ac yn etholaethau blaenorol Meirionnydd a Meirionnydd Nant Conwy) wedi bod yn hynod o gefnogol i Dafydd am ddegawdau.  Gweithiodd nifer fawr o Bleidwyr i'w ethol yn ol yn y saith degau pan roedd ethol unrhyw Bleidiwr yn unman yn joban a hanner, mae'r Blaid yn lleol wedi sefyll yn ei gornel yn ystod y dyddiau da - ac maent wedi bod yn gefn iddo trwy pob dim - hyd yn oed pan aeth ati i wenwyno ei berthynas efo'r Blaid yn ehangach.

Maent wedi bod yn ffyddlon, yn gefnogol ac yn driw trwy'r llwyddiannau a phan nad oedd pethau cystal.  Maen nhw wedi bod yn ffrindiau da - rhy dda efallai - iddo.  Roeddynt yn haeddu gwell o lawer na'r hyn gawsant heno.  

Pob cydymdeimlad bois, daw eto haul ar fryn.

Briff Brexit

Os ydych eisiau archebu briff achlysurol trwy ebost gan Blaid Cymru ynglyn a phroses a goblygiadau gadael yr Undeb Ewropiaidd cliciwch yma.


Llongyfarchiadau i UKIP _ _ _

_ _ _ am wneud mor dda o'r Cynulliad Cenedlaethol.



O Private Eye.

Wednesday, October 12, 2016

Tudalen flaen y diwrnod

Bendithion Brexit yn parhau i bentyrru.


Tuesday, October 11, 2016

Effeithiau Brexit ar economi 'r DU

Pan roeddwn yn ysgrifennu am Brexit yn y misoedd cyn y refferendwm roeddwn yn mynegi'r farn mai fy mhrif broblem efo'r syniad oedd y byddai natur y wladwriaeth yn newid yn hytrach na'r niwed economaidd.  Roeddwn yn dadlau y byddai'r economi yn addasu i'r realiti newydd.

Erbyn hyn dwi'n credu fy mod yn gywir ynglyn a'r newidiadau i natur y wladwriaeth, ond yn anghywir ynglyn a dyfodol yr economi.  Roedd yna awyrgylch senoffobaidd yng Nghynhadledd y Toriaid - ac mae hynny'n awgrymu bod natur y blaid honno wedi newid er gwaeth.  Nhw fydd yn rhedeg y sioe (Brydeinig) am gyfnod hir yn ol pob tebyg.

Serch hynny, pan roeddwn yn darogan y byddai'r economi yn iawn yn yr hir dymor roeddwn yn cymryd y byddai'r llywodraeth yn dod o hyd i rhyw ffordd o aros yn y Farchnad Sengl.  Mae'n edrych erbyn hyn   bod na pan mae'n dod i ddewis rhwng symud rhydd i weithwyr ac aros yn y Farchnad Sengl bod y Toriaid am ddewis y cyntaf.  Yn yr ystyr yma adain senoffobaidd y blaid sydd bellach yn rhedeg y sioe.  Os ydi'r DU yn gadael y Farchnad Sengl ac yn talu tollau i allforio i'w prif farchnadoedd bydd yn dlotach, os mai tollau'r World Trade Organisation fydd yn cael eu talu byddwn yn dlotach eto.

Rydan ni'n son am rymoedd economaidd gwaelodol yn y fan hyn.  Mae cyfoeth yn cael ei greu gan fasnach.  Lle'r ydan ni'n cynyddu masnach mae mwy o gyfoeth yn cael ei greu.  Lle'r ydan ni'n lleihau lefelau masnach mae cyfoeth yn cael ei leihau.  Mae tollau ar allforion a mewnforion yn siwr o leihau masnach a felly cyfoeth.  Mae pethau mor syml a hynny yn y bon.

Mae'r sawl sydd am adael ar hyn o bryd yn dadlau bod yr holl dramorwyr yna maent mor hoff ohonynt am fod yn ofnadwy o ffeind efo'r DU.  Dydi cytundebau masnach rhwng gwledydd neu flociau masnach ddim yn gweithio felly.  Hyd yn oed yn absenoldeb y drwg deimlad mae Brexit wedi ei achosi yn Ewrop, a hyd yn oed yn absenoldeb yr angen i gosbi'r DU am adael Ewrop mae pob ochr yn ceisio creu yr amodau gorau i 'w masnachwyr ei hun, ac maent am geisio osgoi rhoi mantais i fasnachwyr bloc neu wlad arall.  

Gan bod Ewrop fel bloc yn fawr a'r DU fel gwlad yn ganolig o ran maint, bydd y bloc mawr yn dominyddu'r trafodaethau.  Os na ellir cael cytundeb rydan ni 'n mynd i gael telerau WTO.  Gan bod cyfran mawr o allforion y DU yn mynd i Ewrop ond cyfran bychan o allforion yr UE yn mynd i'r DU byddai hyn yn broblem anferth i 'r DU ond yn un fach i'r UE.  Bydd y cardiau i gyd gan negydwyr yr UE.

Y sylweddoliad yma yn y marchnadoedd arian sy'n gyrru'r cwymp yng ngwerth y bunt - a'r cwymp yng ngwerth y bunt sy'n gyrru'r cynnydd ymddangosiadol yng ngwerth y marchnadoedd stoc.  

Gadewch i ni edrych lle'r ydan ni.

Os edrychwch ar gyfraddau'r llynedd roedd y bunt werth tua $1.50, mae'n dechrau cwympo fel mae'r tren Brexit yn  gadael yr orsaf ddechrau'r flwyddyn, mae yna gwymp sylweddol pan mae'r DU yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropiaidd, ac mae'r cwymp yn parhau fel mae'r sylweddoliad bod y DU ar y ffordd allan o'r Farchnad Sengl yn gwawrio ar y marchnadoedd pres.



Mae gwahaniaeth sylweddol yn y DU rhwng faint mae'r wlad yn allforio a faint mae'n mewnforio.  Os nad yw'n cau'r bwlch yna bydd y bunt yn parhau i golli tir.  Os bydd tollau ar fewnforion bydd gwneud hyn yn llawer mwy anodd nag ydyw ar hyn o bryd.  Yr unig ffordd o leihau'r bwlch fydd trwy fewnforio - llai.  Mae hynny am arwain at lai o weithgaredd economaidd a llai o wariant oddi mewn i'r economi.  Bydd hynny'n arwain at yr economi'n crebachu.  Fyddan ni ddim yn union lle'r oedd Iwerddon yn y 50au, ond fyddan ni ddim yn rhy bell.

Mae'n anhebygol y bydd Dinas Llundain yn cael cynnig eu gwasanaethau ar y telerau presenol, ac mae'n bosibl y bydd y pasbort yn cael ei golli 'n llwyr - felly bydd hwnnw'n crebachu hefyd.  Y sector gwasanaethau ariannol ydi injan economi'r DU.  Bydd hwnnw hefyd yn arafu.  

Bydd hyn oll yn cael ei adlewyrchu ar y marchnadoedd pres.  Mae'r bunt yn sefyll rwan ar $1.23.  Petai'n $1.30 byddai maint yr economi (fel GDP) yn $2.47 triliwn, pan oedd y bunt werth $1.50 roedd werth tua $2.85 triliwn, os bydd y bunt yn syrthio i $1 bydd gwerth yr economi yn $1.9 triliwn - neu $1.78 triliwn os ydym yn tynnu economi'r Alban o'r sym - ac mae'n fwy na phosibl y bydd rhaid gwbeud hynny.  Byddai hyn yn arwain at economi gwerth tua hanner un yr Almaen, traean o un Japan a thua'r un faint ag un India, Brasil neu'r Eidal.  Mae hyn yn gryn gwymp.






Saturday, October 08, 2016

Pwt arall am Alun Cairns

Mi fydd y rhai ohonoch sydd a chof hir yn cofio nad yn erbyn Cymry Cymraeg yn unig mae Alun Cairns wedi arddangos rhagfarnau yn y gorffennol - mae ganddo rhywbeth neu'i gilydd yn erbyn Eidalwyr hefyd.


'Dydi o ddim yn glir os ydi ei ragfarnau wedi eu cyfyngu i'r ddau grwp yma, 'ta os ydi ei feddwl yn uwd o ragfarnau yn erbyn pob math o bobl.  Mae'n siwr y dylem fod yn garedig a chymryd mai 'r ddau grwp yma yn unig sydd yn wrthrychau i'w ragfarnau.  

Er bod Cairns yn cyhuddo Cymry Cymraeg a Phleidwyr o fod yn rhagfarnllyd, mae'n ddiddorol bod ymchwil yn dangos mai o pob plaid ar dir mawr Prydain bod na cefnogwyr y Blaid oedd y mwyaf tebygol o bleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropiaidd.


Rwan mae'n bwysig nad ydym yn paentio'r holl bleidleiswyr Gadael efo'r un brwsh.  Mae pobl wedi pleidleisio i adael am pob math o resymau - rhai ohonynt yn ddilys, ac eraill yn llai dilys.  Mae cydadran gweddol fawr wedi gwneud hynny oherwydd nad ydynt yn hoffi mewnfudiad o Ewrop i'r DU, ac mae nifer go lew o'r rheiny - er nad y cyfan o bell ffordd - efo tueddiadau hiliol neu senoffobaidd.  

Neu i roi pethau mewn ffordd arall, 'dydi pawb bleidleisiodd i Adael ddim yn senoffob na hilgi - o bell ffordd, ond gallwn fod yn eithaf siwr bod bron i pob senoffob a hilgi wedi pleidleisio i Adael.  Beth bynnag  mae Alun Cairns yn ei ddweud mae yna lawer llai o gefnogwyr Gadael ymhlith cefnogwyr y Blaid na sydd ymhlith dilynwyr ei blaid o, ac mae'n dilyn o hynny bod yna fwy o lawer o bobl sy'n coleddu rhagfarnau ymhlith y Blaid Geidwadol - yn union fel Cairns ei hun.






  

Friday, October 07, 2016

Y wers i'w dysgu o rwdlan Alun Cairns

Rhag ofn eich bod wedi methu Alun Cairns yn gwneud ffwl llwyr ohono fo ei hun neithiwr - gallwch weld yr hyn ddigwyddodd yma.

Mae'r hyn ddigwyddodd yn eithaf syml.  

1). Mae Alun yn honni bod Plaid Cymru yn gwrthwynebu mewnfudiad i Gymru.
2). Mae'n cael ei herio gan Leanne i ddarparu tystiolaeth tros ei honiadau.
3). Ni all ddarparu tystiolaeth, felly mae'n mynd ati i wneud mwy o honiadau yn erbyn cymunedau Cymraeg eu hiaith, cenedlaetholwyr yn gyffredinol a Phleidwyr yn benodol.
4). Mae'n cael ei herio i ddarparu tystiolaeth eto.
5). Ni all feddwl am ddim felly mae'n dechrau rwdlan am yr ymgyrch losgi tai haf ddeg mlynedd ar hugain yn ol, a cheisio cysylltu'r Blaid ego'r digwyddiadau hynny - unwaith eto heb ddarparu mewath o dystiolaeth.

Rwan mae'r dyn yn Weinidog y Goron, ac mae newydd ymddangos o flaen miliynau o bobl yn rhaffu celwydd.  Mae felly wedi dod a chywilydd a gwarth nid yn unig arno ei hun - ond ar ei safle fel gweinidog.  Ar ben hynny mae'n rhesymol i gymunedau Cymraeg eu hiaith - fel pob cymuned arall - ddisgwyl i'r Ysgrifennydd Gwladol Tros Gymru eu cynrychioli a'u cefnogi yn hytrach na dweud celwydd amdanynt, eu pardduo ac adgyfnerthu stereoteip negyddol ohonynt.  Ers talwm byddai hynny wedi bod yn fater ymddiswyddo - ond rydan ni'n lle rydan ni.

Ond mae'r stori yn un ddiddorol i'r graddau ei bod yn dweud llawer wrthym am wleidyddiaeth Cymru.  Mae'r pleidiau unoliaethol, a'r Blaid Lafur yn arbennig - gyda chymorth y wasg - wedi creu meme o'r cenedlaetholwr drygionus, plwyfol, un llygeidiog sy'n casau pawb a phopeth y tu allan i'w bentref.  

Does yna ddim gwirionedd o gwbl i gynnal y meme wrth gwrs, a dweud y gwir y gwrthwyneb sy'n wir - mae cenedlaetholwyr Cymreig at ei gilydd yn fwy eangfrydig a goddefgar na'r boblogaeth yn ei chyfanrwydd. Dyna pam nad oedd Cairns yn gallu darparu unrhyw dystiolaeth o gwbl i gefnogi ei honiadau.  Roedd yna bobl eraill wrthi ar yr un gem ar trydar ar yr un pryd - y darlledwr Toriaidd, a Martin Eaglestone y Llafurwr.  O gael ei herio wnaeth Dale ddim trafferthu ceisio cyfiawnhau ei hun a dywedodd Eaglestone rhywbeth am Cymuned.  Gwnaed mor a mynydd o Cymuned pan oedd yn dal i fodoli wrth gwrs - ond o edrych yn ol roedd yr hyn roeddynt yn ei ddweud yn hynod o ddi niwed a chwrtais o gymharu a'r ddisgwrs wleidyddol ar fewnlifiad i'r DU heddiw.

A beth bynnag arall am raglen neithiwr, mae un wers cwbl glir yn codi ohoni - a Leanne draddododd y wers honno.  Pan mae'r celwydd unoliaethol am y diafol cenedlaetholgar sy'n cuddio mewn cymunedau Cymraeg ac mewn mudiadau cenedlaetholgar yn cael ei wyntyllu, dylid ei herio pob tro.  Felly mae dangos y gwacter di derfyn sydd y tu ol i'r cyhuddiad - yn union fel ddigwyddodd neithiwr.

Gwir ffigyrau diweithdra

Yn dilyn blogiad ddoe ynglyn a chelwydd Llafur Arfon ynglyn a chyfraddau 'record' diweithdra Arfon, wele tabl bach i ddangos y gwir sefyllfa.  

Does dim angen llawer o eglurhad - ond byddwn serch hynny yn nodi bod diweithdra yn yr etholaeth yn is nag yw wedi bod ers bron i ddeg mlynedd - a bod y ffigyrau ar eu huchaf mewn etholaethau Llafur - nid bod hynny'n gyfrifoldeb uniongyrchol yr aelodau seneddol wrth gwrs.  


Thursday, October 06, 2016

Gwirio 'ffeithiau' Llafur Arfon

Roedd cywiro honiadau ffug Llafur Arfon yn un o swyddogaethau'r blog yma yn ystod y misoedd cyn Etholiad Cynulliad 2016.  Mae yna ambell i honiad cwbl ffug wedi ei gwneud ers hynny - ond mae'n anodd meddwl am un mwy digywilydd neu anwybodus na hon.

Honiad sydd gennym y tro hwn bod diweithdra yn Arfon yn uwch nag y bu erioed.



Mae'r ffeithiau yn adrodd stori wahanol.  Mae'r ffigyrau diweithdra cyfredol yn y DU yn gymharol isel wrth safonau hanesyddol diweddar.  Yn sicr maent cryn dipyn yn is na'r 12% a gyrhaeddwyd yng nghanol yr wythdegau.  Mae'n hynod, hynod anhebygol bod unrhyw ran o'r DU efo cyfraddau diweithdra uwch na'r hyn a gafwyd yn yr wyth degau a'r naw degau.


Ond i edrych yn benodol ar Arfon.  Dydi hi ddim yn hawdd dweud yn union beth ydi'r ffigyrau yn Arfon ar hyn o bryd oherwydd nad ydi ffigyrau ar gyfer etholaethau unigol yn cael eu cyhoeddi yn aml iawn, ond mae'r siart isod yn dangos bod ffigyrau Gwynedd yn gymharol isel o gymharu a Chymru.  Mae'n debyg bod ffigyrau Arfon yn well na rhai Meirion Dwyfor oherwydd bod mwy o weithgarwch economaidd yma.  Mae'r wybodaeth isod wedi dyddio rhywfaint, ond mae cyfraddau diweithdra yng Nghymru a'r DU wedi gostwng ychydig ers eu cyhoeddi.




Ac mae'r gyfradd yn is nag oedd y llynedd.  Cyhoeddwyd y ffigyrau hyn ym mis Mehefin eleni.



Felly roedd Llafur Arfon yn honni bod diweithdra yn uwch na mae wedi bod erioed yn Arfon, ond mae'n debyg y byddai'n fwy cywir i ddweud ei fod yn is nag yw wedi bod ers saith degau'r ganrif ddiwethaf.

Byddai'n braf gallu cynnal disgwrs gwleidyddol wedi ei seilio ar ffeithiau yn hytrach na ffrwyth dychymyg - ond dydan ni ddim yn y fan yna eto mae gen i ofn.


Wednesday, October 05, 2016

Rhwng y slabiau concrid

Os ydych chi byth yn mynd i Ferlin, ceisiwch ymweld a'r gofeb i'r Iddewon a laddwyd yn ystod achyn yr Ail Ryfel Byd.  Mae wedi ei lleoli wrth y Reichstad. Mae'r gofeb yn un dadleuol - mae yna lawer o bobl nad ydynt yn ei hoffi - ond mae hi hefyd yn hynod drawiadol. Cafodd ei chynllunio gan Peter Eisenman a Burro Hapbold. Mae'n ymestyn tros 19,000 m2 (4.7-acer) ac mae wedi ei gwneud o 2,711 slab concrid sydd wedi eu gosod ar gae sydd ar allt. Maent yn edrych braidd fel cerrig bedd enfawr. Maent yn amrywio o 0.2m to 4.7 m o ran uchter. Cawsant eu trefnu mewn rhesi - 54 yn mynd o'r gogledd i'r de, ac 87 yn mynd o'r dwyrain i'r gorllewin.




Gallwch gerdded rhwng a slabiau i grombil y gofeb, ac mae'n brofiad digon anghyfforddus - ar ymylon y strwythur rydych yn gweld yn iawn lle'r ydych a'r hyn sydd o'ch cwmpas, mae pethau'n dod yn llai eglur fel rydych yn mynd yn eich blaen, ac erbyn  cyrraedd y canol rhywsut rydych ar goll, 
ac mae'r cerrig o'ch cwmpas yn edrych yn fygythiol, yn fawr ac yn anhrefnus.  Am wn i mai trosiad am pa mor hawdd y llithrodd cymdeithas yn yr Almaen yn y blynyddoedd cyn yr Ail Ryfel Byd yn araf bach - yn ddi sylw bron - o un digon goddefgar a threfnus i un cwbl anoddefgar oedd yn gallu caniatau i leiafrifoedd gael eu llofruddio wrth y miliwn.

Am rhyw reswm y gofeb yna ddaeth i fy meddwl wrth weld tudalennau blaen rhai o'r papurau newydd y bore 'ma.




Tuesday, October 04, 2016

Dechrau'r diwedd i 'r Ddeddf Hawliau Dynol yn y DU

Bu cryn ddathlu yn y wasg Asgell Dde yn sgil y datganiad bod y DU am symud i gyfeiriad  Belarus a Kazakhstan i ddod yn un o'r triawd o wledydd yn y DU sy'n gwrthod cydnabod y Ddeddf Hawliau Dynol.  Mae llywodraeth May am ddiddymu'r Ddeddf Hawliau Dynol lle mae'n effeithio ar filwyr mewn brwydr - ac yn ddi amau gallwn ddisgwyl gweld y Ddeddf yn cael ei gwanio ymhellach maes o law.

Mae rhai o'r papurau hynny wedi cynnal ymgyrchoedd i ryddhau rhai o'r ychydig filwyr sydd wedi eu carcharu yn sgil cyflawni troseddau rhyfel.  Y dadleuon a wneir fel rheol ydi bod y Fyddin Brydeinig yn anarferol o foesol a chyfrifol yn y ffordd maent yn cynnal eu mynych ymgyrchoedd milwrol, bod gweithdrefnau'r Fyddin Brydeinig i ddelio a chamymddygiad yn hynod effeithiol a bod yr honiadau a wneir gan bobl yn erbyn y Fyddin Brydeinig o dan amodau'r Ddeddf yn rhai annilys.  



Yn anffodus o edrych ar hanes cymharol ddiweddar y Fyddin Brydeinig dydi'r ffeithiau ddim yn cefnogi'r honiadau.  Mae defnydd chwarter awr o Google wedi dod o hyd i'r _ _ ahem _ _ camgymeriadau canlynol gan y Fyddin Brydeinig yn ystod y ganrif yma a'r un diwethaf.  

Sefydlu'r Concentration Camps gwreiddiol yn ystod Rhyfel y Boer.  Arweiniodd hyn at farwolaeth tua 27,000 o ferched a phlant gwyn.  Mae'n debyg i nifer tebyg o bobl ddu farw hefyd - ond wnaeth neb drafferthu cyfri.

Arteithio cannoedd o bobl yn Ail Ryfel Irac.

Cyflafan Amritsar yn 1919.  Lladdwyd rhwng 400 a 1,000 o brotestwyr heddychlon mewn tua 10 munud pan daniodd y fyddin Brydeinig i ganol y dorf.  Cafodd y swyddog - Reginald Dyer- oedd yn gyfrifol am roi'r gorchymyn ei symud o'i swydd (ond ddim o'r fyddin) - ond gwnaed casgliad sylweddol iddo o £26,000 (tua £350,000 ym mhres heddiw) gan y cyhoedd rai o'r papurau newydd - gan gynnwys rhai sy'n clochdar am ddiflaniad y Ddeddf Hawliau Dynol heddiw.  Arwydd o ddiolch oedd y rhodd. Eglurodd Reginald Dyer iddo orchymyn y gyflafan oherwydd yr effaith moesol y byddai'n ei gael yn yr ardal. 



Arteithio degau o filoedd o garcharorion yn nyddiau olaf yr Ymerodraeth.  Kenya, Aden a Cyprus ydi'r esiamplau mwyaf enwog o artaith yn cael ei ddefnyddio yn gyson a systematig ar garcharorion - ond roedd llawer o enghreifftiau eraill hefyd.

Llofruddio milwyr Almaenig oedd wedi goroesi wedi i'w llongau gael eu suddo.

Defnyddio arfau cemegol a difa pentrefi (a phob dim oedd yn byw ynddynt) wrth ddelio a gwrthryfel yn Irac yn 1920.

Ac wedyn wrth gwrs mae yna Iwerddon - yng nghyd destun y rhyfel diweddaraf a'r Rhyfer Black & Tan.  Roedd y digwyddiadau hyn yn ymwneud yn bennaf a lladd heb gyfiawnhad, arteithio a difa eiddo. 

Mae gan llywodraeth Prydain, y gyfundrefn filwrol a'r gyfundrefn gyfreithiol record sal iawn yn hanesyddol o fynd i'r afael a thor cyfraith a dirmyg tuag at hawliau dynol mewn sefyllfa o ryfel.  Mae'r hyn mae May wedi ei wneud yn debygol o sicrhau y bydd yr un patrymau yn ail adrodd eu hunain yn rhyfeloedd y dyfodol - a gallwn fod yn gwbl sicr y bydd yna rhai.




Sunday, October 02, 2016

Breuddwyd gwrach Andrew RT

Yn naturiol ddigon fydda i byth yn darllen y Sunday Times, ond dwi'n deall bod Andrew RT Davies - yn fuan ar ol perfformiad hynod siomedig ei blaid yn etholiadau'r Cynulliad - yn gweld dyfodol disglair iawn i'r Toriaid 'Cymreig'.  Mae'n debyg ei fod yn 'rhesymu' y bydd mewn sefyllfa i fod yn Brif Weinidog Cymru yn 2021 oherwydd bod Plaid Cymru o blaid annibyniaeth i Gymru a bod Corbyn yn uffernol o adain Chwith a gadael y 'tir canol' iddo fo a'i griw llawen.  Beth am edrych ar yr hyn sy'n sefyll rhwng Andrew a'i uchelgais?  (Hynny yw ag eithrio rhesymu arwynebol arweinydd y blaid).

1). Andrew RT Davies.  Mae'r polau yn dangos bod Andrew yn gyson lawer llai poblogaidd nag arweinwyr y pleidiau eraill.  Dydan ni ddim yn gwybod sut bydd yn cymharu a Neil Hamilton eto - rwan bod UKIP wedi defnyddio eu dull unigryw o ddewis a newid eu harweinyddion Cymreig - ond bydd y gystadleuaeth rhyng Andrew a Neil i fod yn arweinydd pleidiol lleiaf poblogaidd Cymru yn un ddiddorol.

2). Grwp Andrew RT Davies.  Oherwydd eu harfer o adael i'r un hen griw fynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen yn gwneud yr un hen beth 'does yna ddim troelli o ran Aelodau Cynulliad Toriaidd - ag eithrio pan mae'r rhai sydd a mymryn o gic yn perthyn iddynt yn llwyddo i wireddu uchelgais pob gwleidydd o Dori a chael ei ethol / hethol i San Steffan.  Un o sgil effeithiau hyn ydi nad oes yna neb i gymryd lle Andrew RT - felly 'fedar y Toriaid ddim cael gwared ohono fo.

3). Nenfwd naturiol y Toriaid yng Nghymru.  Tua thraean ydi'r bleidlais uchaf i'r Toriaid ei gael yn y cyfnod ar ol y Rhyfel yng Nghymru - ac roedd hynny mwy na deg mlynedd ar hugain yn ol, mewn amgylchiadau arbennig iawn ac mewn Etholiad Cyffredinol.  Mae'r Toriaid pob amser yn tan berfformio mewn Etholiadau Cynulliad o gymharu a rhai Cyffredinol.  Ond hyd yn oed petaent yn cyflawni gwyrth ac yn cynyddu eu pleidlais tua 15% (rhywbeth sydd byth yn digwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru na Lloegr) byddai'n dal yn anigonol.  Gall Llafur ennill mwyafrif efo traean o'r bleidlais, ond mae dosbarthiad cryfder etholiadol y Toriaid yn ei gwneud yn anhebygol y gallant hwy wneud yr un peth efo'r un bleidlais.

4). UKIP.  Mae gwleidyddiaeth wedi mynd braidd yn gymhleth - ac o ganlyniad dydi hi ddim yn gwbl glir bellach beth ydi'r 'tir canol' nag yn wir os oes tir felly yn bodoli.  Ond mae bodolaeth UKIP yn cyfyngu ar sgop y Toriaid i addasu eu lleoliad gwleidyddol yn y DU ac yng Nghymru. Mae adain senoffobaidd y Blaid Doriaidd yn weddol agos at UKIP.

5). Brexit.  Bydd y Toriaid wedi gorfod negydu ymadawiad y DU a'r Undeb Ewropeaidd a byddant yn gwneud hynny o dan gryn anfantais - bydd y broses yn un anghyfartal iawn - mae'r DU yn gydadran cymharol fach o farchnad yr UE, tra bod yr UE yn rhan anferth o farchnad y DU.  Mae'n eithaf sicr y bydd gwaed ar y carped - mynediad y Ddinas yn Llundain i'r system ariannol yn yr UE wedi ei gyfyngu, tollau ar allforion, cyfyngiadau ar deithio i'r UE er enghraifft.  

Bydd problem arall hefyd - mae'n debyg y bydd llai o ddinasyddion y DU eisiau byw a gweithio yn y DU (hyd yn oed os byddant yn cael gwneud hynny) a bydd rhaid chwilio yn rhywle arall am bobl i gyflenwi gofynion y farchnad waith - neu weld yr economi yn crebachu.  Os mai o'r llefydd amlwg y bydd y bobl hynny 'n dod, bydd adain senoffobaidd y Blaid Doriaidd yn cael eu hunain mewn stad o sterics parhaol. 

 'Dydi'r teulu Toriaidd ddim yn debyg o fod yn un arbennig o ddedwydd yn 2021 mae gen i ofn.