Mae'r Blaid yn yr etholaeth (ac yn etholaethau blaenorol Meirionnydd a Meirionnydd Nant Conwy) wedi bod yn hynod o gefnogol i Dafydd am ddegawdau. Gweithiodd nifer fawr o Bleidwyr i'w ethol yn ol yn y saith degau pan roedd ethol unrhyw Bleidiwr yn unman yn joban a hanner, mae'r Blaid yn lleol wedi sefyll yn ei gornel yn ystod y dyddiau da - ac maent wedi bod yn gefn iddo trwy pob dim - hyd yn oed pan aeth ati i wenwyno ei berthynas efo'r Blaid yn ehangach.
Maent wedi bod yn ffyddlon, yn gefnogol ac yn driw trwy'r llwyddiannau a phan nad oedd pethau cystal. Maen nhw wedi bod yn ffrindiau da - rhy dda efallai - iddo. Roeddynt yn haeddu gwell o lawer na'r hyn gawsant heno.
Pob cydymdeimlad bois, daw eto haul ar fryn.
erstalwm iawn haeddu gwelll
ReplyDeleteerstalwm iawn haeddu gwelll
ReplyDeleteClywch, clywch Cai. Geiriau synhwyrol fel yr arfer.
ReplyDelete