Rhag ofn eich bod wedi methu Alun Cairns yn gwneud ffwl llwyr ohono fo ei hun neithiwr - gallwch weld yr hyn ddigwyddodd yma.
Mae'r hyn ddigwyddodd yn eithaf syml.
1). Mae Alun yn honni bod Plaid Cymru yn gwrthwynebu mewnfudiad i Gymru.
2). Mae'n cael ei herio gan Leanne i ddarparu tystiolaeth tros ei honiadau.
3). Ni all ddarparu tystiolaeth, felly mae'n mynd ati i wneud mwy o honiadau yn erbyn cymunedau Cymraeg eu hiaith, cenedlaetholwyr yn gyffredinol a Phleidwyr yn benodol.
4). Mae'n cael ei herio i ddarparu tystiolaeth eto.
5). Ni all feddwl am ddim felly mae'n dechrau rwdlan am yr ymgyrch losgi tai haf ddeg mlynedd ar hugain yn ol, a cheisio cysylltu'r Blaid ego'r digwyddiadau hynny - unwaith eto heb ddarparu mewath o dystiolaeth.
Rwan mae'r dyn yn Weinidog y Goron, ac mae newydd ymddangos o flaen miliynau o bobl yn rhaffu celwydd. Mae felly wedi dod a chywilydd a gwarth nid yn unig arno ei hun - ond ar ei safle fel gweinidog. Ar ben hynny mae'n rhesymol i gymunedau Cymraeg eu hiaith - fel pob cymuned arall - ddisgwyl i'r Ysgrifennydd Gwladol Tros Gymru eu cynrychioli a'u cefnogi yn hytrach na dweud celwydd amdanynt, eu pardduo ac adgyfnerthu stereoteip negyddol ohonynt. Ers talwm byddai hynny wedi bod yn fater ymddiswyddo - ond rydan ni'n lle rydan ni.
Ond mae'r stori yn un ddiddorol i'r graddau ei bod yn dweud llawer wrthym am wleidyddiaeth Cymru. Mae'r pleidiau unoliaethol, a'r Blaid Lafur yn arbennig - gyda chymorth y wasg - wedi creu meme o'r cenedlaetholwr drygionus, plwyfol, un llygeidiog sy'n casau pawb a phopeth y tu allan i'w bentref.
Does yna ddim gwirionedd o gwbl i gynnal y meme wrth gwrs, a dweud y gwir y gwrthwyneb sy'n wir - mae cenedlaetholwyr Cymreig at ei gilydd yn fwy eangfrydig a goddefgar na'r boblogaeth yn ei chyfanrwydd. Dyna pam nad oedd Cairns yn gallu darparu unrhyw dystiolaeth o gwbl i gefnogi ei honiadau. Roedd yna bobl eraill wrthi ar yr un gem ar trydar ar yr un pryd - y darlledwr Toriaidd, a Martin Eaglestone y Llafurwr. O gael ei herio wnaeth Dale ddim trafferthu ceisio cyfiawnhau ei hun a dywedodd Eaglestone rhywbeth am Cymuned. Gwnaed mor a mynydd o Cymuned pan oedd yn dal i fodoli wrth gwrs - ond o edrych yn ol roedd yr hyn roeddynt yn ei ddweud yn hynod o ddi niwed a chwrtais o gymharu a'r ddisgwrs wleidyddol ar fewnlifiad i'r DU heddiw.
A beth bynnag arall am raglen neithiwr, mae un wers cwbl glir yn codi ohoni - a Leanne draddododd y wers honno. Pan mae'r celwydd unoliaethol am y diafol cenedlaetholgar sy'n cuddio mewn cymunedau Cymraeg ac mewn mudiadau cenedlaetholgar yn cael ei wyntyllu, dylid ei herio pob tro. Felly mae dangos y gwacter di derfyn sydd y tu ol i'r cyhuddiad - yn union fel ddigwyddodd neithiwr.
Ti'n hollol iawn am y rhagfarn a'r meme, a gwnaeth Leanne job ok o'i herio, o dan yr amgylchiadau, ond ti'n twyllo dy hun os ti'n meddwl bod yr herio wedi bod yn ddigon eglur i chwalu'r cysyniad yn gyfangwbl, a newid meddyliau sy'n ein herbyn. Mae'r problemau hwn, y rhagfarn a chyfuniad o bob stereoteip, y cysyniad bod Plaid Cymru ar gyfer ymgyrchwyr iaith Cymraeg yn unig, ac yn beryg, yn gyffredin iawn, ac yn rhwystr effeithiol iawn rhag llwyddiant ehangach i'r blaid. Fel arfer, nid yw pobl cyffredin yn ei leisio, heblaw gan pobl fel UKippers, felly gan bod e'n warthus bod Cairns wedi ei wneud, fel weinidog, a gyda'i chefndir, efallai mae'n gyfle i'w herio'r chwedlau a chelwydd yn fwy effeithiol.
ReplyDelete