'Doedd y newyddion ynddo ei hun ddim yn sioc - ond roedd yr amseriad. Pan ddaeth Dafydd Elis-Thomas i gytundeb efo'i blaid yn etholaethol yn ystod haf 2015 i beidio a gwneud datganiadau cyhoeddus oedd yn feirniadol o'r Blaid yn ganolog sicrhaodd ei fod yn cael ei ail ethol ym mis Mai eleni. Y gwendid yn y cytundeb hwnnw oedd y ffaith na fyddai Dafydd yn gorfod cadw ei ochr ef ohono wedi'r etholiad, gan na fyddai angen cefnogaeth ei blaid leol wedyn. Serch hynny byddai rhywun wedi meddwl y byddai wedi disgwyl mwy na phum mis cyn ei heglu hi, ond dyna ni.
1). Y ffaith ei fod yn teimlo'r angen i dynnu sylw ato ei hun trwy feirniadu'r Blaid ar adegau allweddol - cychwyn cynhadledd, dechrau ymgyrchoedd etholiadol ac ati.
2). Ei agwedd tuag at gweddill grwp y Blaid. Byddai dweud nad oedd Dafydd yn chwaraewr tim yn ffordd gwrtais iawn, iawn o roi pethau.
3). Ei gyfraddau presenoldeb yn y Cynulliad. A bod yn hynod gwrtais unwaith eto, nid oedd ei gyfraddau presenoldeb yn y Cynulliad efo'r gorau.
Yn bersonol mae'r ffug ddeallusrwydd, yr arfer o ddweud rhywbeth sy'n swnio'n glyfar ond sydd mewn gwirionedd yn wag a di ystyr, yr arfer o gyflwyno dadleuon neu sylwadau dryslyd a chroes i'w gilydd yn gymaint o broblem pob tamad. Nid mater syml nad ydw i'n bersonol yn hoffi rwdlan aneglur a ffuantus ydi hyn - er bod hynny'n wir - ond mae mwydro anghyson yn groes i pob rheol o gyflwyno naratif gwleidyddol effeithiol. Dylai naratif gwleidyddol fod yn glir, yn gryno, yn gyson ac yn gwbl ddealladwy.
Gallai'r anghysondeb fod yn ogleisiol weithiau. Er enghraifft cyn etholiadau Comisiynydd yr Heddlu yn y Gogledd eleni roedd Dafydd yn ceisio cael pobl i roi un o'u dwy bleidlais i brif wrthwynebydd y Blaid yn yr etholiad - y Llafurwr David Taylor - oherwydd y byddai hynny (mewn modd nad oedd yn ei egluro) yn stopio UKIP yn stond. Doedd hi ddim llawer cyn hynny pan roedd yn feirniadol o naratif y Blaid ar gyfer etholiad San Steffan o ymosod ar UKIP a'i gwerthoedd a gosod ei hun yn wrthbwynt iddi a'i gwerthoedd angymreig.
Rwan os ydi Dafydd wedi dod i gytundeb efo Carwyn Jones neu beidio - ac mae yna gryn dipyn o ddyfalu ei fod - gallwn fod yn weddol sicr y bydd yn gefnogol i lywodraeth Carwyn Jones doed a ddel. Felly bydd Aelod Cynulliad Meirion Dwyfor yn sicrhau beth fydd mewn gwirionedd yn Lywodraeth mwyafrifol Llafur, er i 88% o etholwyr yr etholaeth honno wrthod Llafur ym mis Mai. Bydd hefyd yn sicrhau y gall y Blaid Lafur rwygo'r cytundeb y daethant iddo efo'r blaid enillodd o filltiroedd ym Meirion Dwyfor i sicrhau cefnogaeth ar adegau allweddol.
Dwi eisoes wedi cydymdeimlo efo'r Blaid yn lleol, ond hoffwn ddweud pwt am y Blaid yn genedlaethol ac yn y Cynulliad hefyd. Maent wedi dangos llawer mwy o amynedd efo Dafydd am flynyddoedd nag oedd ganddo hawl i'w ddisgwyl. Mae'r hyn mae Dafydd wedi ei wneud yn ei fychanu fo fel gwleidydd ac unigolyn.
Yn eironig, cefais lythyr drwy'r post bore 'ma yn hysbysebu cynhadledd y blaid, a thaflen ynghyd gyda llun o'r Arglwydd yn cymeradwyo " Undeb" .
ReplyDeleteMae un peth yn sicr Cai, yr unig fobl sydd wedi ennill unrhywbeth o hyn, ac yn mwynhau yw y bobl hynny oedd yn gwneud eu gorau I gael Dafydd allan o'r Blaid. Mae Dafydd ar ei golled, Mae'r Blaid yn lleol ac yn Genedlaethol ar ei cholled. Mae amryw o bobl angen cymeryd cyfrifoldeb am yr hyn sydd wedi digwydd, ac mae'n drist iawn nad ydynt yn sylweddoli hynny. Wedi dweud hyn I gyd credaf y dylsai Dafydd sefyll I lawr er mwyn cael is-etholiad, ond rhaid peidio bod yn rhagrithiol gyda hyn. Ni ydym wedi gofyn am is-etholiadau pan mae pobl yn croesi'r bont I ymuno a ni.
ReplyDeleteMae angen I bawb gymeryd ei gwynt nawr, peidio rhuthro, peidio creu mwy o ddrwg deimlad a gadael i'r Pwyllgor Etholaeth ystyried y mater yn llawn cyn belled a mae'r Etholaeth yn y cwestiwn
“…….yr arfer o ddweud rhywbeth sy'n swnio'n glyfar ond sydd mewn gwirionedd yn wag a di ystyr.”
ReplyDeleteDwi’n cofio gofyn i DET mewn cyfarfod “hustings” flynyddoedd yn ôl os oedd yn gweld y ffaith ei fod, yn gam neu’n gymwys, yn cael ei weld fel aelod o’r sefydliad Prydeinig, yn anfantais iddo yn y ras i gael ei enwebu fel ymgeisydd y Blaid ym Meirion-Dwyfor. Dwi’n cofio’i ateb yn iawn - dywedodd ei fod yn chwarae’r rôl honno er mwyn diberfeddu’r gyfundrefn Brydeinig o’r tu mewn.
Rhaid cyfaddef na weles i fawr o berfeddion ar lawr y Senedd yng Nghaerdydd!!
Gwynfor - mi fedra i dy sicrhau di nad oes neb o fewn y Blaid yn mwynhau hyn - mae'r bobl oedd fwyaf gwrthwynebus iddo'n hollol gandryll.
ReplyDeleteYr unig bobl sy'n mwynhau hyn ydi'r pleidiau unoliaethol. Mae'r Blaid wedi gwario ffortiwn a gwastraffu amser ac ynni actifyddion yn bancrolio cynllun pensiwn Aelod Cynulliad annibynnol cyfoethog sy 'n mynd i gefnogi'r llywodraeth pob cyfle a gaiff.
Mae'r Arglwydd wedi gwneud tro sal arall a'r mudiad cenedlaethol. Mynd yn Arglwydd oedd y cyntaf. Mae'r SNP wedi sefyll yn gadarn ar hyd y blynyddoedd yn erbyn cydnabod y ty anetholedig ac annemocrataidd hwn, ac mae'n gymaint mwy o gywilydd ar y mudiad cenedlaethol yng Nghymru oherwydd hynny. Sut yn union ydan ni wedi elwa yn sgil aelodaeth DET o'r Ty anachronistaidd hwn a Dafydd Wigley hefyd wedyn o ran hynnny?? All rywun esbonio hynny imi??
ReplyDeleteMae DET wastad yn son cymaint y mae o wedi hyrwyddo democratiaeth Gymreig dros y blynyddoedd. Wel boed iddo barchu'r ddemocratiaeth honno trwy fod yn ddigon o ddyn i sefyll i lawr ac ail-gyflwyno ei hun i etholwyr meirion-dwyfor yn ei liwiau newydd fel aelod annibynnol. Cwta 5 mis yn ol, fe berswadiodd dros 9,000 o genedlaetholwyr i'w ail-ethol yn enw Plaid Cymru. Mae'r rhain wedi cael eu twyllo'n rhacs. Byddai'n gwbl gywilyddus pe bai o'n ceisio cario yn ei flaen fel tae hynny erioed wedi digwydd. Mae'r 9,000 yna yn haeddu gwell na hyn.
Os na cheir is-etholiad bydd hynny hefyd yn cadarnhau'r canfyddiad cynyddol hwn yng Nghymru bod y Cynulliad a'r gwleidyddion ynddo mewn byd bach eu hunain- ymhell iawn o brofiadau ac amgylchiadau pobl Cymru yn eu cymunedau.
Cai, os wyt Ti yn wirioneddol meddwl nad oes neb o'r Blaid yn mwynhau hyn, buasai yn Beth da I ddarllen rhai o'r sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol. 'Rwyt hefyd wedi anwybyddu fy sylwadau ynglyn a phobl eraill gymeryd cyfrifoldeb am yr hyn sydd wedi digwydd
ReplyDeleteWel ia 'te, dyna ydi'r un peth cyson trwy holl anturiaethau DET. Bai pawb arall ydi o pob tro, a 'does yna byth reidrwydd arno fo i ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb. Byth dim bai ar yr ymerawdwr bach - byth, byth, byth.
ReplyDeleteFel rhywun, (sy'n byw ym Mon)ac a weithiodd yn galed a brwdfrydig dros yr Arglwydd yn etholiad Ewrop ers talwm, a hefyd wedi cefnogi ei ymgyrch i arwain y Blaid yn yr 1980au, teimlaf efallai fy mod i - i ryw raddau, yn gyfrifol am yr hyn a ddigwyddodd nos Wener.
ReplyDeleteOherwydd - yn 2012, fel nifer fawr ohonom, fe gefnogais Leanne yn ymgyrch yr arweinyddiaeth y flwyddyn honno. Roeddwn i yn un o'r 2,879 a gefnogodd Leanne.
Ond - os cofiwch, daeth yr Arlwydd yn drydydd sal ym Mawrth 2012. 1,278 yn unig a gefnogodd DET, sef 21% o'r aelodau. Y noson honno mae'n debyg y sylweddolodd yr Arglwydd fod ei ddyddiau, fel un o hoelion wyth y blaid, ar ben.
Dwi ddim yn meddwl mai Leanne oedd problem DET. Credaf mai'r 79% ohonom ni a feiddiodd bleidleisio dros Leanne ac Elin, ddaru arwain yr Arglwydd i wneud yr hyn a wnaeth nos Wener diwethaf.
Ond - ydwi'n dyfaru ? Nac ydw. Ac fe symudwn ymlaen.
Mae'r Blaid yn fwy, yn llawer mwy nag un person.
Un beth sy'n drawiadol hyd yma - y tawelwch byddarol o gyfeiriad un person.
ReplyDeleteUn peth sydd yn anodd anghofio am DET, er gwaethaf ei wendidau o ran bod yn rhan o dim - wyt ti'n cofio ei ran yn symud y gwys i gynnal un o is-etholiadau Gogledd Iwerddon adeg marwolaethau y streiciau newyn, Cai ? Dyna weithred unigolyn dewr. Hefyd, ar yr un trywydd, adeg y Malfinas, yr oedd y 'Wolfe Tones' yn chwarae yn Queensferry. Gwnaeth anerchiad ar y llwyfan cyn iddynt ganu, gan fod eu can 'Admiral William Brown ' (?) yn dra dadleuol.
Yr oedd cenedlaetholwyr yn edmygu ei safiad annibynol bryd hynny.
Erbyn canol yr 80au, serch hynny, aeth pethau fel CND a'i fryd, a dyna pryd y dechreuodd pobl feddwl nad oedd yn perthyn i ddim un carfan o genedlaetholwyr, bron.