Roedd cywiro honiadau ffug Llafur Arfon yn un o swyddogaethau'r blog yma yn ystod y misoedd cyn Etholiad Cynulliad 2016. Mae yna ambell i honiad cwbl ffug wedi ei gwneud ers hynny - ond mae'n anodd meddwl am un mwy digywilydd neu anwybodus na hon.
Mae'r ffeithiau yn adrodd stori wahanol. Mae'r ffigyrau diweithdra cyfredol yn y DU yn gymharol isel wrth safonau hanesyddol diweddar. Yn sicr maent cryn dipyn yn is na'r 12% a gyrhaeddwyd yng nghanol yr wythdegau. Mae'n hynod, hynod anhebygol bod unrhyw ran o'r DU efo cyfraddau diweithdra uwch na'r hyn a gafwyd yn yr wyth degau a'r naw degau.
Ond i edrych yn benodol ar Arfon. Dydi hi ddim yn hawdd dweud yn union beth ydi'r ffigyrau yn Arfon ar hyn o bryd oherwydd nad ydi ffigyrau ar gyfer etholaethau unigol yn cael eu cyhoeddi yn aml iawn, ond mae'r siart isod yn dangos bod ffigyrau Gwynedd yn gymharol isel o gymharu a Chymru. Mae'n debyg bod ffigyrau Arfon yn well na rhai Meirion Dwyfor oherwydd bod mwy o weithgarwch economaidd yma. Mae'r wybodaeth isod wedi dyddio rhywfaint, ond mae cyfraddau diweithdra yng Nghymru a'r DU wedi gostwng ychydig ers eu cyhoeddi.
Felly roedd Llafur Arfon yn honni bod diweithdra yn uwch na mae wedi bod erioed yn Arfon, ond mae'n debyg y byddai'n fwy cywir i ddweud ei fod yn is nag yw wedi bod ers saith degau'r ganrif ddiwethaf.
Byddai'n braf gallu cynnal disgwrs gwleidyddol wedi ei seilio ar ffeithiau yn hytrach na ffrwyth dychymyg - ond dydan ni ddim yn y fan yna eto mae gen i ofn.
Heb sôn am enllibio Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad sydd ill dau'n gweithio'n gyson ac yn galed dros eu hetholaeth a Chymru. Celwydd digywilydd gan y Blaid Lafur, nid am y tro cyntaf.
ReplyDelete