Ar hyn o bryd dim ond un Aelod Seneddol San Steffan sydd wedi ei hethol yn annibynnol trwy'r DU (Sylvia Hermon yn North Down - etholaeth fwyaf anarferol y DU mewn sawl ffordd) , does neb yn Aelod Senedd yr Alban yn annibynnol na hyd yn oed Aelod Cynulliad Gogledd Iwerddon - er bod y ganran o bleidleisiau sydd ei angen i ennill etholiad yn y fan honno yn isel iawn oherwydd y system pleidleisio.
Rhwng y bedair ddeddfwrfa rydym yn son am tros i 900 o aelodau etholedig, a dim ond un ohonynt sydd wedi ei hethol fel ymgeisydd annibynnol. Ag ystyried cymaint o gynghorwyr sy'n cael eu hethol yn annibynnol gall hyn ymddangos yn rhyfedd braidd - ond mae yna reswm gweddol amlwg. Gall ymgeisydd annibynnol ymgyrchu'n effeithiol mewn ward unigol, ond mae'n anodd iawn gwneud hynny mewn etholaeth sydd a degau o filoedd o bobl yn byw ynddi. Mae'r ymgeisydd angen cefnogaeth sylweddol a llwyth o bres.
Os ydi ymgeisydd yn sefyll tros blaid mae'n rhoi manteision anferth iddo'i hun.
1). Pres. Mae cynnal ymgyrch etholiadol yn ddrud iawn. Pleidiau gwleidyddol sy'n ariannu ymgyrchoedd y sawl sy'n sefyll ar eu rhan.
2). Cefnogaeth naratif cyfryngol y blaid. Mae etholiadau modern yn cael eu hymladd ar sawl lefel ond yr un gyfryngol o bosibl ydi'r bwysicaf yn yr oes sydd ohoni. Mae pob plaid yn darparu adnoddau sylweddol i drosglwyddo eu naratifau yn effeithiol ar y cyfryngau prif lif.
3). Cefnogaeth trefniadau cyfryngau cymdeithasol y pleidiau. Mae'r elfen yma yn dod yn fwyfwy pwysig mewn etholiadau, ac mae pob plaid yn gweithio i wella eu presenoldeb digidol. Dydi hi ddim yn bosibl gwneud hyn yn effeithiol heb ddarparu adnoddau sylweddol.
4). Mynediad i ddata etholiadol. Mae coledu data etholiadol yn rhan bwysig o etholiad bellach - dyma'r wybodaeth sy'n dweud wrth ymgeisydd lle dylid ei ganfasio, a lle mae'n wastraff amser canfasio. Mae gwybodaeth felly i'w chael ym manciau data cyfrifiadurol pleidiau gwleidyddol. Os nad oes gan ymgeisydd fynediad i ddata, mae'n canfasio yn y tywyllwch.
5). Peirianwaith i wneud y gwaith llawr gwlad. Does yna neb yn gallu canfasio degau o filoedd o dai ei hun, na dosbarthu degau o filoedd o daflenni ei hun, na stwffio degau o filoedd o amlenni ei hun, na chodi cannoedd o bosteri etholiadol ei hun, na sicrhau bod niferoedd sylweddol o gefnogwyr yn mynd i fotio ar y diwrnod. Dim peirianwaith = dim ymgyrch llawr gwlad.
Rwan dydi hyn oll ddim yn golygu nad ydi hi'n bosibl ennill etholiad San Steffan neu Gynulliad fel ymgeisydd annibynnol - mae'n digwydd ambell waith fel yn achos Peter a Pat Law neu Martin Bell er enghraifft. Ond yn yr achosion hynny roedd amgylchiadau arbennig - y Laws yn etifeddu peirianwaith Llafur er enghraifft, neu'r sylw cyfryngol anferth, enw drwg Neil Hamilton a chymorth y pleidiau eraill i Martin Bell.
Rwan mae'n debyg eich bod yn gwybod i lle mae hon oll yn mynd - a byddaf yn dod yn ol maes o law.
O daflu ychydig o enwau eraill i mewn i'r drafodaeth am aelodau annibynnol; David Robertson, S O Davies, George Galloway, Dick Taverne, Mago McDonald; gwelir thema yn datblygu, sef bod y mwyafrif sydd yn llwyddo i gael eu hethol fel aelodau annibynnol / pleidiau un dyn yn gyn gwleidyddion pleidiol amlwg a oedd wedi syrthio allan efo'u plaid. Wedi gwasanaethu rhannau o'i etholaeth bresennol am dros ddeugain mlynedd, mi dybiwn fod gan DET pleidlais bersonol go lew. Rwyt ti di nodi sawl gwaith ar Flog Menai nad yw etholwyr yn hoff o bleidiau rhanedig. Pe bai DET yn sefyll i lawr ac yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol mewn isetholiad, gallasai ei bleidlais bersonol a'r (ffug) canfyddiad bod y Blaid wedi ei rwygo'n ddwy arwain at ei ailethol.
ReplyDeleteAlwyn,
ReplyDeleteun da fana, methu stopio chwerthin.....