Byddwch yn cofio i'r blog yma redeg stori ar ymddiswyddiad Gethin Williams o Lais Gwynedd yn ddiweddar. 'Dwi'n meddwl mai'r blog yma oedd yr unig gyfrwng i adrodd ar y stori.
Beth bynnag 'dwi'n deall bod y stori wedi datblygu. Bwriad gwreiddiol Gethin oedd peidio a sefyll eto. Ymddengys ei fod bellach wedi newid ei feddwl am hynny a bydd yn sefyll yn enw Plaid Cymru yn ward Abermaw, sy'n cyfochri a'i ward bresenol yn Mrithdir / Llanfachreth.
Friday, March 30, 2012
George Galloway yn ennilll
Felly mae George Galloway wedi ennill yn Bradford West - a hynny o 10,000 o bleidleisiau a mwy.
Ychydig wythnosau yn ol mi fyddech chi wedi cael 33/1 ar ganlyniad felly. Mi wnes i feddwl rhoi £10 arni, ond penderfynu yn erbyn. Damia fo!

Thursday, March 29, 2012
Hunanfodlonrwydd swrth Gwilym Owen
Yn ol efo'r gyfres fach o erthyglau chwerw a sbeitlyd gan Gwilym Owen sy'n ymddangos pob pethefnos yn Golwg yr ydym ni heddiw mae gen i ofn.
Buddugoliaeth Leanne Wood yn yr etholiad am arweinyddiaeth y Blaid sydd wedi esgor ar chwerder Gwilym y tro hwn. Byddwch yn cofio i Gwilym fynegi ei farn yn ddi amwys mai Dafydd Elis-Thomas ddylai gael y joban am ei fod yn meddwl bod Dafydd fel yntau yn credu mai cefnogi'r Blaid Lafur ydi priod bwrpas Plaid Cymru.
Yn ystod erthygl go faith sydd yn ymdrin a'r Blaid a dim arall mae Gwilym yn datgan, awgrymu neu ensynu bod y canlyniad yn rhywbeth i'w wneud efo cyfryngis a thrydarwyr, bod Leanne yn ddi sylwedd ac yn siarad mewn ystradebau, bod Adam Price yn anghymwys i arwain Comisiwn Economaidd y Blaid, bod Adam yn aros ei gyfle i gael cymryd lle Leanne, bod y trydarwyr yn aros eu cyfle i roi cyllell yng nghefn Leanne a bod pamffled gan y Blaid ym Mangor yn dangos bod y cyfryw blaid yn dioddef o hunanfodlonrwydd swrth.
Rwan o ddarllen y golofn mae'n weddol amlwg nad oes gan Gwilym fawr o glem beth digwyddodd ar Fawrth 15. Mi fanteisiaf ar y cyfle i egluro iddo.
Ganwyd Gwilym rhwng y ddau Ryfel Byd. Yn ystod ei fywyd mae Cymru wedi pleidleisio i'r Blaid Lafur - plaid Gwilym - ym mhob etholiad - yn ddi eithriad. Roedd Cymru yn dlawd y diwrnod y ganwyd Gwilym, ac mae'n dal yn dlawd. Yn wir, mewn termau cymharol mae'n dlotach heddiw nag oedd bryd hynny. 'Dydi bron i ganrif o bleidleisio i Blaid Gwilym wedi gwneud dim - dim oll i godi statws economi Cymru mewn cymhariaeth a gweddill y DU. Mae yna reswm digon syml am hyn - mae'r Blaid Lafur, fel y pleidiau unoliaethol eraill, wedi gwrthwynebu i Gymru gael ei dwylo ar yr arfau economaidd pwysig a allai ganiatau iddi godi uwchben ei hanfanteision strwythurol a daearyddol. Mae hyn fwy neu lai mor wir yn yr oes ddatganoledig yma ag oedd erioed.
Adlewyrchiad ydi buddugoliaeth Leanne (a'r bleidlais uchel i Elin) bod trwch aelodaeth Plaid Cymru o'r farn y dylem fel Cymry gymryd meddiant ar yr arfau hynny a'u defnyddio i wella ein statws economaidd ein hunain. Mae'r Blaid Lafur, er gwaethaf pob tystiolaeth i'r gwrthwyneb, yn credu mai disgwyl i Lundain sortio pethau i ni ydi'r ffordd orau o fynd ati.
Mi fydd y canfyddiad bod rhaid i ni gymryd yr awenau ac edrych ar ol ein ffawd economaidd ein hunain yn cynyddu tros y blynyddoedd nesaf, tra bydd y canfyddiad mai gadael pethau i eraill sydd orau yn crebachu.
Mae Gwilym a Leanne yn cynrychioli dwy ffordd cwbl wahanol o edrych ar wleidyddiaeth Cymru, gyda'r naill yn cefnogi plaid sy'n credu mewn dibyniaeth, osgoi cymryd cyfrifoldeb a beio eraill am ein problemau, a'r llall yn credu mewn cymryd cyfrifoldeb tros ein tynged a herio ein hunain i wneud y gorau o'r hyn ydym. Mae Gwilym yn cynrychioli gorffennol methiannus Cymru, tra bod Leanne yn sefyll tros ddyfodol mwy gobeithiol. Arwydd bod diwylliant gwleidyddol Cymru yn newid oedd canlyniad Mawrth 15, ac arwydd bod ysgrifen ar y mur i wleidyddiaeth llwfr a dibynnol Gwilym.

Tuesday, March 27, 2012
Rhagrith gan y Blaid Lafur - eto fyth
Cymaint ydi gwrthwynebiad Llafur i ostwng y gyfradd treth i'r cyfoethog fel mai dau yn unig ohonyn nhw wnaeth drafferthu pleidleisio yn erbyn hynny - Paul Flynn a Dennis Skinner. Cafodd y llywodraeth fwyafrif o 297 - 319 i 22.
Hen stori, mae'n cyfeillion Llafur mor driw i'w hegwyddorion sosialaidd fel nad oes rhaid iddynt wneud unrhyw beth i brofi hynny. Dyma'r rheswm pam yr oedd plant yn cael eu segrigeiddio yn ol dosbarth cymdeithasol yn y Cymoedd Llafuraidd am flynyddoedd maith wedi i weddill Cymru gael gwared o'r gyfundrefn ysgolion gramadeg. 'Does yna ddim yn newydd o dan haul - ym maes arbenigol rhagrith y Blaid Lafur o leiaf.

Monday, March 26, 2012
Cefnogaeth y Toriaid yn chwalu?
Dyna sydd wedi digwydd os ydi Pol Populus sydd i'w gyhoeddi 'fory i'w gredu.
Ffigyrau'r pol cyfan ydi Llafur 43%, Toriaid 33% a'r Lib Dems 11%, ond mae'r rhan a gymerwyd wedi i'r stori Peter Cruddas dorri yn Llafur 47%, Toriaid 30% a Lib Dems 11%.
Tra bod polau yn gallu bod yn hynod anwadal rhwng etholiadau, mi fydd y newyddion yma yn poeni'r Toriaid Cymreig (yn ogystal a'r Toriaid Albanaidd a Seisnig wrth gwrs) gwta chwech wythnos cyn yr etholiadau lleol.

Sunday, March 25, 2012
Plaid sefydliadol, strwythurol lwgr?
Mae hi'n anodd peidio rhyw wenu o ddeall bod y 'rali' a drefnwyd gan y Toriaid Cymreig oherwydd nad oeddynt yn gallu trefnu cynhadledd fel y pleidiau eraill, wedi ei gwthio ymhell i gefndir y newyddion gan y sgandal ynglyn a threfniadau cyllido'r Blaid Doriaidd Brydeinig.
Ond mewn gwirionedd mae'r mater yn un hynod ddifrifol. Os ydi'r hyn a ddywedwyd gan Peter cruddas wrth ohebwyr y Sunday Times yn wir - bod cyfraniad o £250,000 i goffrau'r Blaid Doriaidd yn ddigon i brynu mynediad i broses creu polisi'r llywodraeth - byddai hynny'n golygu bod y Blaid Doriaidd yn strwythurol, sefydliadol lwgr. Dyletswydd unrhyw lywodraeth ydi llunio polisiau er budd pawb - nid er budd pobl sy'n rhoi 250k iddi.
Byddai hefyd wrth gwrs yn eglurhad posibl am benderfyniadau diweddar y Toriaid i dorri trethi pobl gyfoethog, a chychwyn ar y broses o yrru cyflogau i lawr mewn rhannau tlawd o'r DU.

Yr hyn sydd gan Andrew RT Davies i'w gynnig i Gymru mewn gwirionedd
Hmm, felly mae Andrew RT Davies am i gefnogwyr Plaid Cymru ystyried polisiau ei blaid o.
Mi fyddwch chi'n cofio i'r Toriaid Cymreig orfod canslo eu cynhadledd wanwyn yn Llandudno oherwydd nad oedd yna fawr neb eisiau mynd yno i wrando ar y rwdlan di ddiwedd. Beth bynnag, mae Andrew yn cymryd mantais o'r - ahem - 'rali' - a drefnwyd yn lle'r gynhadledd i ofyn i gefnogwyr y Blaid ystyried y rhyfeddodau sydd gan ei blaid o i'w cynnig.
Tybed am ba bolisiau mae o'n meddwl? - torri cyllid S4C a chyflwyno'r sianel i'r Bib o bosibl, neu'r polisi diddorol o dalu llai i weithwyr cyhoeddus yng Nghymru nag yn Lloegr efallai, neu hwyrach mai meddwl am dorri'r grant uniongyrchol i'r Cynulliad mae o, neu am ymosod ar drefniadau pensiwn canoedd o filoedd o weithwyr y wlad.
Y gwir ydi mai polisi creiddiol y Blaid Doriaidd ar gyfer Cymru ydi un o gynnal ei dibyniaeth ar drefniant cyfansoddiadol sydd wedi methu a methu, a methu, a methu. Methiant parhaol, di ddiwedd ydi'r unig beth sydd gan blaid Andrew RT i Gymru mae gen i ofn.

Thursday, March 22, 2012
Gareth Hughes a myth y Tori Cymraeg
'Dwi'n rhyw hoffi meddwl fy mod i'n cadw i fyny yn eithaf da efo'r hyn sy'n digwydd ar y blogosffer gwleidyddol Cymreig, ond wnes i ddim sylwi ar sylwadau Gareth Hughes ynglyn a buddugoliaeth Leanne Wood nes i mi weld Golwg heddiw.
Adlewyrchu cred Doriaidd mae Gareth bod yr etholaethau Cymraeg eu hiaith yn y bon yn Doriaidd, ond eu bod yn pleidleisio i'r Blaid oherwydd ffactorau ieithyddol. Y drwg efo'r ddamcaniaeth yma ydi nad oes yna unrhyw dystiolaeth o gwbl i'w chefnogi - dim oll, zilch.
Dau beth sydd yn gyrru'r ffordd y bydd pobl yn pleidleisio mewn gwirionedd ydi traddodiad a ffactorau cymdeithasegol / economaidd.
Mae yna bump etholaeth gyda mwyafrif yn siarad Cymraeg -Ynys Mon, Arfon, Meirion Dwyfor, Ceredigion. Dwyran Caerfyrddin. O'r rhain dim ond unsydd wedi dychwelyd aelod seneddol Toriaidd - sef Ynys Mon ddwy waith ar yn 1979 ac 1983. Ond hyn yn oed yn yr achos hwnnw ni lwyddodd Y Toriaid i gael 40% o'r bleidlais -ac roedd hi'n benllanw ar gefnogaeth y Toriaid tros Brydain. Cyn i'r Blaid ddechrau ennill seddau seneddol yn 74 byddai Ynys Mon yn dychwelyd Llafurwr, felly hefyd Caernarfon, Meirion a Chaerfyrddin. Y Rhyddfrydwyr fyddai'n ennill yn ddi eithriad yng Ngheredigion. Prin bod yna unrhyw gynghorydd Toriaidd yn cynrychioli ward lle mae yna fwyafrif sy'n siarad Cymraeg trwy'r wlad i gyd - ac mae'r sefyllfa yma'n cael ei adgynhyrchu etholiad ar ol etholiad ar ol etholiad. 'Does yna ddim traddodiad gwerth son amdano o bleidleisio i'r Blaid Doriaidd yn y Gymru Gymraeg - ond mae yna gryn dipyn o dystiolaeth o bleidleisio tactegol yn erbyn y blaid honno - er mai mater i flogiad arall ydi hwnnw.
Ac wedyn wrth gwrs mae yna'r ffactorau economaidd. Mae'r cwbl bron o'r Gymru Gymraeg yn ardal Amcan Un, ac felly wedi eu rhifo ymysg y cymunedau mwyaf difreintiedig yn y DU. 'Dydi cymunedau felly ddim yn pleidleisio i'r Dde gwleidyddol (ym Mhrydain o leiaf) - oni bai bod yna draddodiad cryf o wneud hynny yn bodoli yn lleol. Mae yna reswm da iawn am hynny wrth gwrs - anaml iawn y bydd pobl yn pleidleisio yn erbyn eu budd economaidd eu hunain. Yn wir mae tlodi cymharol yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith wedi gwaethygu ers y saith degau, yn union fel mae'r tlodi cymharol yng Nghymoedd y De wedi gwaethygu. Polisiau economaidd Toriaidd ydi un o'r prif resymau am hynny.
'Dwi wedi canfasio llawer iawn o fewn y Gymru Gymraeg tros y degawdau, ac mi fedra i ddweud gyda fy llaw ar fy nghalon mai creadur prin ydi'r Tori Cymraeg ei iaith, a'r lled Dori Cymraeg ei iaith. Efallai eu bod yn bodoli yn eu miloedd yn nychymyg rhai Toriaid ac yn wir yn nychymyg Gareth Hughes - ond mae'n uffernol o anodd dod o hyd iddynt ar lawr gwlad.
The valleys are not the hot bed of radicalism that many a left wing romantic would like to hope, think and make out. No, the typical valley voter is quite conservative, with a small ‘c’ of course. And a Stanley Baldwin type figure like Carwyn Jones suits them just fine.
Ms Wood may attract some new idealistic young recruits to the ranks of her party, her enthusiasm and relative youth should do that. And as her campaign showed, she can energise her own party.
Getting the voter to desert Labour for a more radical party of the left... others have tried and failed. Looking into the entrails of history the omens are not very promising.
The Tories are full of glee at the result. They’ve most to gain from the lurch to the left. The party has, over the last few years, being quietly turning itself into the “Welsh” Conservative party.
Prominent members of the party like Glyn Davies, David Melding, Jonathan Morgan, Guto Bebb, Paul Davies and former leader Nick Bourne have being pushing for more devolution, more sympathy for the language.
Forget their initial opposition to devolution, they have the zeal of the newly converted. These right wing welshy Tories aim to hoover up the Plaid Cymru vote.
Adlewyrchu cred Doriaidd mae Gareth bod yr etholaethau Cymraeg eu hiaith yn y bon yn Doriaidd, ond eu bod yn pleidleisio i'r Blaid oherwydd ffactorau ieithyddol. Y drwg efo'r ddamcaniaeth yma ydi nad oes yna unrhyw dystiolaeth o gwbl i'w chefnogi - dim oll, zilch.
Dau beth sydd yn gyrru'r ffordd y bydd pobl yn pleidleisio mewn gwirionedd ydi traddodiad a ffactorau cymdeithasegol / economaidd.
Mae yna bump etholaeth gyda mwyafrif yn siarad Cymraeg -Ynys Mon, Arfon, Meirion Dwyfor, Ceredigion. Dwyran Caerfyrddin. O'r rhain dim ond unsydd wedi dychwelyd aelod seneddol Toriaidd - sef Ynys Mon ddwy waith ar yn 1979 ac 1983. Ond hyn yn oed yn yr achos hwnnw ni lwyddodd Y Toriaid i gael 40% o'r bleidlais -ac roedd hi'n benllanw ar gefnogaeth y Toriaid tros Brydain. Cyn i'r Blaid ddechrau ennill seddau seneddol yn 74 byddai Ynys Mon yn dychwelyd Llafurwr, felly hefyd Caernarfon, Meirion a Chaerfyrddin. Y Rhyddfrydwyr fyddai'n ennill yn ddi eithriad yng Ngheredigion. Prin bod yna unrhyw gynghorydd Toriaidd yn cynrychioli ward lle mae yna fwyafrif sy'n siarad Cymraeg trwy'r wlad i gyd - ac mae'r sefyllfa yma'n cael ei adgynhyrchu etholiad ar ol etholiad ar ol etholiad. 'Does yna ddim traddodiad gwerth son amdano o bleidleisio i'r Blaid Doriaidd yn y Gymru Gymraeg - ond mae yna gryn dipyn o dystiolaeth o bleidleisio tactegol yn erbyn y blaid honno - er mai mater i flogiad arall ydi hwnnw.
Ac wedyn wrth gwrs mae yna'r ffactorau economaidd. Mae'r cwbl bron o'r Gymru Gymraeg yn ardal Amcan Un, ac felly wedi eu rhifo ymysg y cymunedau mwyaf difreintiedig yn y DU. 'Dydi cymunedau felly ddim yn pleidleisio i'r Dde gwleidyddol (ym Mhrydain o leiaf) - oni bai bod yna draddodiad cryf o wneud hynny yn bodoli yn lleol. Mae yna reswm da iawn am hynny wrth gwrs - anaml iawn y bydd pobl yn pleidleisio yn erbyn eu budd economaidd eu hunain. Yn wir mae tlodi cymharol yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith wedi gwaethygu ers y saith degau, yn union fel mae'r tlodi cymharol yng Nghymoedd y De wedi gwaethygu. Polisiau economaidd Toriaidd ydi un o'r prif resymau am hynny.
'Dwi wedi canfasio llawer iawn o fewn y Gymru Gymraeg tros y degawdau, ac mi fedra i ddweud gyda fy llaw ar fy nghalon mai creadur prin ydi'r Tori Cymraeg ei iaith, a'r lled Dori Cymraeg ei iaith. Efallai eu bod yn bodoli yn eu miloedd yn nychymyg rhai Toriaid ac yn wir yn nychymyg Gareth Hughes - ond mae'n uffernol o anodd dod o hyd iddynt ar lawr gwlad.
Tuesday, March 20, 2012
Cynghorydd arall yn ymuno efo Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd
Guto Rhys Tomos, Criccieth o'r Grwp Annibynnol y tro hwn. 'Dwi'n meddwl mai dyma'r ail aelod o'r grwp annibynnol i ymuno a'r Blaid ers 2008. Mae Chris Hughes o Lais Gwynedd hefyd wedi ymaelodi wrth gwrs.
Amgaeaf y datganiad i'r wasg gan y Blaid isod.

Mae Plaid Cymru yng Ngwynedd wedi croesawu aelod newydd arall i’w plith sef y Cynghorydd Guto Rhys Tomos, yr aelod sy’n cynrychioli Criccieth.
Etholwyd y Cynghorydd Tomos fel Cynghorydd Annibynnol yn yr etholiad diwethaf ond bydd nawr yn ymuno â Phlaid Cymru. Bydd yn sefyll fel ymgeisydd Plaid ar gyfer Criccieth yn etholiadau lleol Cyngor Gwynedd ar Fai’r 3ydd.
Ef yw’r ail gynghorydd y mis yma i ddatgan ei gefnogaeth i Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd ac mae’n credu y bydd bod yn rhan o dîm Plaid yn ei alluogi i wasanaethu ei gymuned yn fwy effeithiol.
“Dwi wedi bod yn meddwl am ymuno ers peth amser oherwydd dwi’n credu bod gan Blaid Cymru'r profiad a’r gallu i arwain a llywodraethu yn gyfrifol yn y cyfnod heriol hwn,” meddai’r Cyng. Tomos.
“Mae angen dwylo profiadol wrth y llyw ond hefyd mae angen plaid sydd yn mynnu bod yn uchelgeisiol dros y sir a’i phobl, er gwaetha’r wasgfa. Plaid Cymru ydi’r blaid sydd â’r weledigaeth i greu dyfodol cadarn yng Ngwynedd a dwi’n edrych ymlaen at gydweithio er lles pobl Gwynedd.”
Dywedodd Arweinydd Plaid Cynghorydd Dyfed Edwards ei fod “wrth ei fodd” bod Cyng. Tomos wedi ymuno gyda Plaid.
"Yn naturiol dwi wrth fy modd bod Guto wedi ymuno gyda Plaid Cymru. Dwi’n gwybod ei fod wedi ystyried yn ddwys cyn troi i fod yn aelod o Blaid Cymru a dwi’n parchu'r ffordd y mae wedi gwneud y penderfyniad hwn. Bydd yn sicr o wneud cyfraniad rhagorol i grŵp Plaid ar Gyngor Gwynedd a bydd yn cydweithio fel rhan o Dîm Gwynedd. Mae Tîm Gwynedd Plaid Cymru yn uchelgeisiol ac yn flaengar, a’n prif flaenoriaeth yw cynrychioli ein trigolion hyd eithaf ein gallu o fewn y sir arbennig hon."
- diwedd –
Sunday, March 18, 2012
Buddugoliaeth Leanne a rygbi
'Dwi'n gwybod bod y teitl yn un rhyfedd, ond mae'n fy nharo bod cysylltiad rhwng rygbi a buddigoliaeth Leanne.
Mae unrhyw un sy'n gwybod unrhyw beth am batrwm aelodaeth y Blaid am ddeall na fyddai'n bosibl i Leanne fod wedi cael pleidlais mor fawr heb ennyn cryn gefnogaeth o'r Gogledd Orllewin. Y canfyddiad y byddai'r Gogledd Orllewin yn pleidleisio i'r ddau ymgeisydd arall oedd sail y gred weddol gyffredinol ymysg sylwebyddion proffesiynol y byddai'r canlyniad yn un agos.
Rwan mae yna hanes yn y Blaid o bleidleisio daearyddol (fel petai), ac mae yna hanes o arweinwyr o'r Gogledd Orllewin yn cael eu hethol. A dweud y gwir 'dwi'n eithaf siwr na fyddai rhywun fel Leanne wedi cael ei hethol chwarter canrif yn ol. Bryd hynny roedd y De bron a bod yn wlad arall i drigolion cymunedau oedd yn diffinio eu hunaniaeth cenedlaethol yn nhermau'r iaith a siaradant o ddiwrnod i ddiwrnod. Yr hyn sydd wedi newid ydi bod y De Ddwyrain a'r Gogledd Orllewin wedi dod yn llawer nes at ei gilydd yn ystod y degawdau diwethaf.
Ceir sawl rheswm am hyn, datganoli, patrymau mewnfudo o'r Gogledd i'r De Ddwyrain - mae gan llawer iawn ohonom gysylltiadau teuluol efo'r De Ddwyrain bellach, S4C, gwell trafnidiaeth, ac wrth gwrs chwaraeon.
Roeddwn i yn ddeunaw oed yn ymweld a Chaerdydd am y tro cyntaf, er fy mod wedi ymweld a Dulyn a Llundain cyn hynny. 'Dwi'n eithaf siwr bod hynny'n wir am y rhan fwyaf o ddigon o fy nghyfoedion. Tyfodd diddordeb mewn rygbi yn y Gogledd yn sgil twf cenedlaetholdeb. Roedd rygbi yn y saith degau a'r wyth degau yn llenwi bwlch i'r graddau nad oedd gennym llawer o sefydliadau cenedlaethol y gallwn ymfalchio ynddynt. Ac fel y tyfodd diddordeb mewn rygbi dechreuodd mwy a mwy o bobl deithio i Gaerdydd am y gemau cenedlaethol. A barnu oddi wrth canol Caerdydd ddoe, mae'n rhaid gen i bod miloedd lawer o bobl o'r Gogledd Orllewin wedi gwneud y daith hir i lawr yr A470 ddoe ac echdoe.
Ar un olwg mae Cymru'n wlad llai heddiw nag y bu erioed. Rydym i gyd yn nes at ein gilydd, a rydym yn fwy cyfarwydd a'n gilydd. Y cyd destun newydd hwn a'i gwnaeth yn bosibl i ddysgwraig o Dde Ddwyrain y wlad hel llawer o bleidleisiau ym mhegwn arall y wlad.

Saturday, March 17, 2012
'Amrywio' cyflogau sector cyhoeddus yn y DU
'Does gen i ddim amser i fynd ar ol y stori hon rwan - ond os bydd y llywodraeth yn mynd ymlaen efo'r cynlluniau hyn, dyma fydd y mater gwleidyddol pwysicaf yng Nghymru tros y blynyddoedd nesaf. 'Dwi'n siwr y bydd y blog yma yn dod yn ol at y mater dro ar ol tro ar ol tro.
O safbwynt etholiadol, bydd y ffordd y bydd y pleidiau Cymreig yn ymateb iddi yn waelodol i batrymau etholiadol y blynyddoedd nesaf. Mae yna botensial i bleidlais y Lib Dems a'r Toriaid mewn ardaloedd lle ceir cyflogaeth sector cyhoeddus uchel, chwalu. Mae Caerdydd yn esiampl arbennig o dda o hynny. Mae hyn yn cynnig cyfle hanesyddol i'r .
O safbwynt economaidd, os nad ydi dogma wleidyddol y glymblaid (bod y sector cyhoeddus yn llyffethair ar y sector cyhoeddus mewn ardaloedd tlawd) yn gywir - ac mae pob tebygrwydd nad ydyw'n gywir, gallai Cymru fod mewn dirwasgiad economaidd am flynyddoedd maith.

Thursday, March 15, 2012
Llongyfarchiadau _ _ _
_ _ _ i Leanne.
A diolch i Dafydd ac Elin am y ffordd aethant ati i gynnal eu hymgyrchoedd.
Leanne 2879 (48%)
Elin 1884 (31%)
Dafydd 1278 (21%)

Wednesday, March 14, 2012
A'r arweinydd newydd fydd _ _ _
_ _ _, wel 'dwi ddim yn gwybod wrth gwrs. Serch hynny mi geisiaf fod ychydig yn ddewrach nag oedd Vaughan Roderick ar Wales Today heddiw (neu efallai y dyliwn ddweud mai bod yn llai doeth na Vaughan ydw i mewn gwirionedd).
Dweud oedd Vaughan bod Elin wedi cychwyn ar y blaen, bod Leanne wedi cymryd yr awenau pan ymunodd a'r ras , bod Dafydd El wedi dangos arwyddion o gryfder yn ddiweddar, a'i bod bellach yn amhosibl darogan y canlyniad.
Yn y cyfamser mae 'pol' ar lein Golwg360 yn awgrymu rhywbeth hollol wahanol - bod Leanne am ennill o filltir. Rwan mae'r 'pol' yn ymarferiad digon difyr a di niwed yn yr ystyr ei fod wedi ei ryddhau pan mae'n rhy hwyr iddo effeithio ar y canlyniad, ond 'dydi o ddim o ddefnydd mawr i ddarogan y canlyniad. Dau o reolau euraidd polio ydi mai y grwp sy'n pleidleisio y dylid ei bolio, a bod y sawl sy'n cael eu polio yn gynrychioladol o'r grwp yn ei gyfanrwydd. 'Dydi ymarferiad Golwg360 ddim yn cyfateb a'r naill reol na'r llall, felly mae gen i ofn nad pol mohono yn ystyr arferol y term hwnnw.
Ond 'dydi'r ffaith nad ydi pol yn un gwyddonol ddim yn golygu o anghenrhaid ei fod yn anghywir - ac yn fy marn bach i mae trefn yr ymgeiswyr yn y pol yn debygol o gael ei wireddu wedi'r cyfri cyntaf 'fory. Ond 'dwi ddim yn meddwl y bydd Leanne cymaint ar y blaen na mae Golwg360 yn awgrymu. Mae Golwg360 yn awgrymu y caiff Leanne 61%, Elin 25% a Dafydd El 14%. Byddwn yn hoffi i hynny fod yn wir - mae'n well cael canlyniad cwbl glir - ond byddwn yn disgwyl i bleidleisiau DET ac Elin fod yn uwch ac un Leanne i fod yn is. Byddwn hefyd yn disgwyl i ail bleidleisiau DET dorri i Elin ar ratio o leiaf 6:4 - efallai 2:1. Golyga hyn bod Leanne (dyweder) angen tua 45% ar y cyfri cyntaf os ydi Elin yn cael 35% - a chymryd bod DET yn cael 20% (a dylai gael cymaint a hynny). Neu i roi pethau yn symlach, mae Leanne angen bod 10% yn glir o Elin ar y cyfri cyntaf er mwyn bod yn siwr o ennill. 'Dwi'n rhyw feddwl y bydd yn llwyddo i wneud hynny.
'Dwi'n prysuro i ddweud fy mod yn seilio fy marn yn llwyr ar bobl 'dwi wedi siarad efo nhw. Mae'r rhan fwyaf o'r rheiny yn aelodau yn yr ardal 'dwi'n byw ynddi - ond 'dwi wedi siarad efo pobl o rannau eraill o Gymru hefyd. 'Dydi'r dull yma ddim yn un gwyddonol wrth gwrs - ond mae mymryn yn fwy gwyddonol na phol Golwg360 yn yr ystyr mai aelodau'r Blaid yn unig 'dwi yn eu cyfri.
Beth bynnag, dyna fy mewath i. Mi gewch chi hwyl yn chwerthin ar fy mhen 'fory os ydw i ymhell ohoni.

Tuesday, March 13, 2012
Dyfodol y Gymraeg a gor besimistiaeth
'Dwi'n meddwl fy mod eisoes wedi nodi'r eironi mai'r sawl sydd fwyaf parod i ddatgan bod y Gymraeg ar farw ydi rhai o'r rheiny sydd yn ei charu, a phobl sy'n wrthwynebys iawn iddi. Mae'r grwp cyntaf yn credu bod canu cloch cnul yr iaith yn ffordd o ysgogi ymyraeth sylweddol i'w hachub, tra bod yr ail grwp yn credu'r gwrthwyneb - bod canfyddiad bod yr iaith ar farw yn ei gwneud yn ddi bwrpas i roi statws swyddogol a chyfreithiol iddi.
Roeddwn yn meddwl am hynny wrth ddarllen sylwadau gan ddarllenwr anhysbys oedd wedi cymryd yn erbyn rhai o'r sylwadau roeddwn wedi eu tynnu o adroddiad diweddar ar gyflwr yr iaith. Roedd y cyfranwr wedi rhyw gymryd bod y ffaith i mi ddewis rhai ystadegau cymharol gadarnhaol yn awgrymu fy mod o'r farn bod popeth yn dda ar yr iaith. Mae hwn yn ymateb cyffredin i unrhyw sylwadau cadarnhaol am ddyfodol yr iaith - ac mae'n ymateb amhriodol.
Y peth cyntaf i'w ddweud ydi ei bod yn hynod anodd dod i gasgliadau pendant ynglyn a dyfodol yr iaith - mae yna rymoedd yn milwrio o'i phlaid, ac mae yna rai sy'n gweithio yn ei herbyn, ac mae'r ffordd maent yn rhyngberthnasu yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru.
Ar yr ochr gadarnhaol mae statws yr iaith yn llawer uwch nag oedd hanner canrif yn ol, mae mwy o alw a darpariaeth o ran addysg Gymraeg, ceir ewyllys da cyffredinol tuag ati, mae iddi statws cyfreithiol, mae'n bwysicach o lawer ym myd gwaith erbyn hyn, mae'r ganran o siaradwyr yn cynyddu'n gyflym yn rhai o ardaloedd Seisnig traddodiadol y wlad, mae'r ganran o blant sy'n siarad Cymraeg yn uwch nag ydi canran yr henoed ac mae'r nifer abserliwt o siaradwyr yn uwch nag y bu ers degawdau.
Ar yr ochr arall mae yna lai o bobl yn siarad y Gymraeg fel iaith gyntaf nag a fu, mae rhannau o'r Gymru Gymraeg o dan gryn bwysau - weithiau oherwydd mewnlifiad, weithiau oherwydd trosglwyddiad ieithyddol gwael ac weithiau oherwydd cyfuniad o'r ddau - ac mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn gwneud ond ychydig o ddefnydd ohoni. Tra bod yr iaith yn fwy gweledol nag a fu, mae'n llai clywadwy.
Yr hyn sy'n bwysig os ydi dyfodol y Gymraeg yn bwysig i ni ydi bod yn onest am ei sefyllfa. Mae gwneud iddi edrych yn wanach nag ydyw mewn gwirionedd yn niweidiol i'w statws ac i ganfyddiad pobl ei bod werth i'w dysgu. Mae bod yn or optimistaidd hefyd yn niweidiol oherwydd bod hynny yn lleihau'r pwysau i hybu'r iaith mewn ffordd addas.
Mae deall a hydnabod y ffactorau cadarnhaol o safbwynt yr iaith yr un mor bwysig ag ydi adnabod y bygythiadau iddi.

Monday, March 12, 2012
Y ras frenhinol - pencampwriaeth Cymru - y sgor hyd yn hyn
Diolch i'r Western Mail am gymryd y drafferth i ddarganfod pa rannau o'r wlad sy'n mynd ati o ddifri i ddathlu jiwbili diamwnt Elizabeth Windsor.
Er ei bod yn ddyddiau cynnar, ymddengys bod trigolion Abertawe yn arwain y ffordd gyda cheisiadau am 11 parti stryd, tra bod trigolion Conwy yn gwneud ei orau i gadw i fyny efo pethau, gydag 8 cais. Ar y pegwn arall 'dydi Ceredigion, Casnewydd, Gwynedd a Chaerfyrddin heb gyflwyno cymaint ag un cais hyd yn hyn.
Yn y cyfamser ymddengys bod Tafarn y Victoria yn Nhreganna eisiau ailadrodd y jambori di chwaeth a baratowyd ganddi i ddathlu priodas William Windsor y llynedd.
Mi fydd hi'n ddiddorol gweld pwy - yn ardal awdurdod lleol, ac yn dafarn o ran hynny - fydd yn ennill y ras i ddangos y mwyaf o frwdfrydedd wrth ddathlu ein hymlyniad at sefydliad cyntefig, gwrth ddemocrataidd a theocrataidd sy'n ymgorfforiad cyfoes o hen draddodiad o anghyfartaledd ac elitiaeth.

Ymddiswyddiad Gethin Williams - cywiriad
Yn y blogiad ar ymddiswyddiad Gethin Williams o Lais Gwynedd mae'n ymddangos i mi gael un rhan o'r stori yn anghywir.
Mae'n wir i Gethin ymddiswyddo o Lais Gwynedd, ond a barnu o wefan Cyngor Gwynedd, mae bellach yn aelod unigol ac nid yn aelod o'r Grwp Annibynnol.
Ymddiheuriadau am y camddaealltwriaeth.

Sunday, March 11, 2012
Cameron yn dilyn yn olion traed Blair
Felly mae'n ymddangos bod Cameron wedi llwyddo i argyhoeddi ei hun bod Iran eisiau cynnal ymysodiad niwclear ar y DU. A rhoi o'r neilltu am eiliad y ffaith y gallai Cameron ei hun gynnal ymysodiad niwclear ar Irac, neu unrhyw wlad arall yn y Byd o fewn yr awr, mae yna rhywbeth anymunol o gyfarwydd am y ddadl yma.
Celwydd gan Blair y gallai Irac ymosod ar y DU mewn tri chwarter awr oedd un o'r rhesymau pam aethom i'r rhyfel trychinebus hwnnw, a chelwydd bisar gan lywodraethau Prydeinig o pob math bod ymyraeth yn Afghanistan yn atal gweithredoedd terfysgol ar strydoedd y DU sy'n cael ei ddefnyddio i gyfiawnhau'r antur trychinebus hwnnw.
Mae'n debyg y gallwn edrych ymlaen at yr un math o orffwylltra yn Iran maes o law ag a gafwyd yn Afghanistan ac Irac.

Friday, March 09, 2012
Ymddiswyddiad Gethin Williams o Lais Gwynedd
'Dwi'n deall bod Y Cynghorydd Gethin Williams, Bontddu bellach wedi ymddiswyddo o Lais Gwynedd. Bydd yn diweddu ei dymor fel cynghorydd yn aelod o'r grwp annibynnol, ac nid yw'n bwriadu sefyll yn etholiad Mis Mai.
Os ydi fy syms i yn gywir, etholwyd deuddeg o gynghorwyr Llais Gwynedd ym mis Mai 2008, ac etholwyd tri arall mewn is etholiadau yn dilyn hynny. Golyga hyn bod pymtheg o gynghorwyr wedi eu hethol yn enw'r grwp ers 2008. Mae pump, neu un o bob tri ohonynt bellach wedi ymddiswyddo. Mae hyn yn record rhyfeddol o ran colli aelodau. Go brin bod unrhyw grwp ar unrhyw gyngor yng Nghymru wedi llwyddo i golli traean o'u haelodau mewn cyfnod mor fyr mewn blynyddoedd diweddar.

Thursday, March 08, 2012
Darlun Ystadegol o'r Iaith Gymraeg
Newydd fod yn darllen trwy Ddarlun Ystadegol o Sefyllfa'r Gymraeg gan Hywel M Jones - cyhoeddiad olaf Bwrdd yr Iaith yn ol pob tebyg. Mae'n werth ei ddarllen i'r graddau mai dyma'r unig gyhoeddiad hyd y gwn i sy'n dod a'r data sydd ar gael i gyd at ei gilydd. Dyma rhai o'r ffeithiau sydd wedi tynnu fy sylw i.
- Roedd yna fwy o siaradwyr Cymraeg wedi eu cofnodi yng nghyfrifiad 2001 nag mewn unrhyw gyfrifiad arall ers un 1961.
- Torfaen welodd y cynnydd mwyaf yn y ganran sy'n siarad Cymraeg rhwng 1991 a 2001, a Cheredigion welodd y gostyngiad mwyaf (er bod rhesymau 'technegol' tros rhywfaint o'r cwymp yng Ngheredigion).
- Plant rhwng 10 oed ac 14 oedd y grwp mwyaf tebygol o siarad Cymraeg yn 2001.
- Roedd 1,144 o bobl 20 oed a throsodd o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn siarad Cymraeg yn 2001.
- Yn Nwyfor a Gorllewin Arfon mae'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn rhugl yn yr iaith.
- Gwynedd ydi'r unig sir sydd a mwyafrif ei chartrefi gyda phawb sy'n byw ynddynt yn siarad Cymraeg. Casnewydd a Blaenau gwent sydd efo'r ffigyrau isaf.
- Ym Mhen Llyn ac ardal Caernarfon mae trosglwyddiad iaith o un genhedlaeth i'r nesaf ar ei fwyaf effeithiol.
- Cynyddodd y ganran o blant mewn dosbarthiadau cynradd Cymraeg o 16% i 21.4% rhwng 1991 a 2010.
- Mae mwy o ferched yn dweud eu bod yn siarad Cymraeg na dynion.
- Amaethyddiaeth ydi'r diwydiant mwyaf Cymraeg o ran iaith.
Wednesday, March 07, 2012
Mwy o newyddion drwg i Lais Gwynedd?
Dyna'r son beth bynnag.
Os gwir y gair, mae un arall o gynghorwyr Llais Gwynedd ar fin gadael y gorlan.

Monday, March 05, 2012
S4C yn dangos ei flaenoriaethau
Felly mae awdurdodau S4C wedi dod i'r casgliad nad ydi Ras yr Wyddfa i gael ei ddarlledu eleni. Mae' n debyg mai'r rheswm am hyn ydi bod ein sianel genedlaethol o dan yr argraff bod darparu rhaglen nofio o'r Gemau Olympaidd yn Llundain yn bwysicach na darlledu ras o Lanberis. Ymhellach daeth y sianel i'r casgliad hwn er gwaetha'r ffaith i bwyllgor y ras newid dyddiad y digwyddiad er mwyn gwneud pethau yn haws i S4C.
Rydym eisoes wedi nodi bod tua £400m o'r £9.3bn mae'r gemau yn gostio yn dod o Gymru. Rydym hefyd wedi nodi mai £417,415 (0.1%) o'r contractau a gafodd busnesau Prydeinig ddaeth i Gymru. Ymhellach rydym wedi son nad oes fwy neu lai ddim o'r chwaraeon a'r gemau am gael eu cynnal yn y wlad hon, a bod yna wariant gorffwyll ar gemau (megis pel law) nad oes fwy neu lai neb yn y DU yn eu chwarae - £3m i adeiladu sgwadiau,a £44m i godi stadiwm 7,000 sedd yn achos pel law. Rydym hefyd wedi son am yr £80m fydd yn cael ei wario ar y seremoni agoriadol, a'r swm rhyfeddol o arian bydd yn rhaid dod o hyd iddo ar gyfer y trefniadau diogelwch. 'Dydi'r ffaith nad ydym hyd yn oed yn cael cyflwyno tim yn y gystadleuaeth heb fynd yn ddi sylw chwaith.
Yr hyn nad oedd yn eglur hyd yn ddiweddar ydi bod S4C yn ystyried bod darparu rhaglenni ar y jambori tramor, gwastraffus yma yn bwysicach nag ydi darparu rhaglenni ar chwaraeon Cymreig sy'n cael eu trefnu yng Nghymru, eu cynnal yng Nghymru, sy'n dennu llawer o gystadleuwyr o Gymru a sydd yn hynod boblogaidd yng Nghymru. A hynny er gwaetha'r ffaith y bydd fflyd o sianeli Saesneg yn darlledu'r digwyddiadau Olympaidd ar union yr un pryd ag y bydd S4C gwneud hynny.
Felly gallwn gymryd y bydd hyd yn oed sefydliadau Cymreig fel S4C yn dilyn esiampl llywodraeth Prydain ac yn rhoi blaenoriaethau'r Gemau Olympaidd o flaen rhai Cymry a Chymru. Da iawn bois.

Sunday, March 04, 2012
Mae'n bwrw pleidiau cenedlaetholgar
Mae'n ddiddorol bod yr eithafwyr hynny sy'n cuddio ar eithafion cenedlaetholdeb Cymreig, unwaith eto wedi rhoi eu galluoedd ymenyddol at ei gilydd ac wedi dod i'r casgliad mai dyma'r union amser i ffurfio nid un, nid dau ond tri phlaid newydd sydd o blaid annibyniaeth.
Mi fyddai rhywun wedi meddwl nad cyfnod pan ei bod bron yn sicr y bydd annibyniaeth yn symud i galon agenda Plaid Cymru fyddai'r amser gorau i ddechrau ffurfio pleidiau cenedlaetholgar rif y gwlith.
Ond na - ym Myd bach rhyfedd cenedlaetholwyr y cyrion dyma'r union eiliad i fynd ati. Nid bod rheswm i Bleidiwr boeni am y datblygiad. Bydd pleidiau cenedlaetholgar amgen yn ymddangos o bryd i'w gilydd, ac maent yn ddi eithriad yn methu. Mae yna reswm gweddol syml am hyn - nid oherwydd bod eu haelodau yn tueddu i fod braidd yn wirion a di niwed, nag oherwydd bod yr hyn maent yn ei gynnig yn amhoblogaidd. Y prif reswm ydi'r ffaith ddi gyfnewid eu bod yn apelio at y diog a'r di gic.
Doedd yna ddim golwg o'r cyfeillion yma yn ystod yr ymgyrch refferendwm flwyddyn yn ol, a does yna ddim golwg ohonyn nhw pan mae yna unrhyw ymdrech go iawn i symud Cymru yn ei blaen yn mynd rhagddi. Mae sicrhau cefnogaeth wleidyddol yn golygu mynd ati i dorchi llewys, ymgyrchu, canfasio, rhannu taflenni, trefnu. Prif weithgaredd arferol cenedaetholwyr y cyrion ydi sefyll ar y cyrion hynny yn beirniadu'r bobl sydd yn mynd ati i dorchi llewys a gwneud y gwaith caled.
Dydi hynny ddim yn eu paratoi, nag yn dod yn agos at eu paratoi, am y drafferth o fynd allan i'r strydoedd ac ennill cefnogaeth trostynt eu hunain.
Tri tan siafins bach yn llosgi efo'i gilydd.

Friday, March 02, 2012
Cychwyn ymgyrch Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd
Datganiad i'r wasg - Plaid Cymru, Gwynedd
Plaid Cymru - y blaid sydd â’r profiad i arwain a llywodraethu’n gyfrifol yng Ngwynedd
(Lansio Maniffesto 2012 ‘Gweithredu er gwaetha’r wasgfa’).
Plaid Cymru yw’r blaid yng Ngwynedd sydd â’r profiad a’r gallu i arwain a llywodraethu yn gyfrifol yn y cyfnod heriol hwn. Dyna brif neges Cynghorwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd wrth lansio eu maniffesto ar gyfer Etholiadau Lleol Cyngor Gwynedd ar y 3ydd o Fai eleni.
Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru yng Ngwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Mae angen dwylo profiadol wrth y llyw ond mae hefyd angen plaid sy’n mynnu bod yn uchelgeisiol dros y sir a’i phobl, er gwaetha’r wasgfa sy’n ein hwynebu ac a fydd yn parhau i’n hwynebu i’r dyfodol. Plaid Cymru yw’r blaid sydd â’r weledigaeth i greu dyfodol cadarn yng Ngwynedd. Gan gydio’n dynn yng ngwerthoedd y gorffennol... gwerthoedd sy’n gwneud Gwynedd yn lle unigryw yng Nghymru o ran iaith, diwylliant a thirwedd, rydym yn benderfynol o adeiladu dyfodol llewyrchus i bobl y sir.
Mae gweledigaeth Plaid Cymru yng Ngwynedd yn pwysleisio’r cryfder a ddaw o fod yn rhan allweddol o dîm. O fewn Tîm Gwynedd mae cynghorwyr cymuned a thref, Aelodau Cynulliad, Aelodau San Steffan, Aelodau Tŷ’r Arglwyddi ac Aelod Senedd Ewrop yn cydweithio. Llwyddodd Tîm Gwynedd i ddenu £300miliwn i’r sir pan oedd y Blaid yn rhannu grym mewn llywodraeth.
Yn ôl y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Nod Plaid Cymru yn yr Etholiad fydd ennill y mwyafrif o seddau ar Gyngor Gwynedd. Un o’n blaenoriaethau fydd sicrhau bod datblygu’r economi yn flaenllaw yn ein gwaith, er gwaetha’r hinsawdd economaidd. Mae amryw o ffyrdd i ni weithio ar hyn, ond un ohonynt yw edrych ar greu cyfleon gwaith i gwmnïau lleol trwy adolygu contractau gwaith mawr o fewn y sector cyhoeddus. Mae cytundebau cyhoeddus sy’n werth £4 biliwn yn cael eu gosod yng Nghymru bob blwyddyn: cytundebau megis darparu bwyd i’n hysgolion, argraffu a chodi adeiladau. Gan mai dim ond tua hanner y gwaith sy’n dod i gwmnïau o Gymru, dim ond hanner y budd sy’n dod i’r gweithwyr, y perchnogion a’r cymunedau lleol. Ein nod fydd codi’r canran hwn yng Ngwynedd er mwyn dod â budd economaidd i’n cymunedau o fewn y sir.”
“Ym maes plant a phobl ifanc ein nod yw gwella cyrhaeddiad pob plentyn waeth beth fo’i gefndir a’i amgylchiadau. Dylai ein sustem addysg roi’r cyfle i greu unigolion crwn gyda syniad cryf o berthyn. Ein nod yw sicrhau cwricwlwm addas ar gyfer anghenion sgiliau gweithlu’r sir gydag anogaeth i fentro. Mae’r Blaid yn awyddus i barhau i ddatblygu addysg wledig hyfyw i’r dyfodol gan weithio at roi cyfle teg i bob plentyn ar draws Gwynedd.”
Gan fod Cyngor Gwynedd yn wynebu bwlch ariannol o £38 miliwn, cynghorwyr Plaid Cymru sydd wedi arwain yn ddoeth wrth fynd i’r afael â’r broblem ddwys yn fuan. Mae’r Blaid yn anghytuno’n chwyrn â’r toriadau ond yn gorfod ceisio canfod ffordd ymlaen er lles pobl y sir, a hynny o fewn cyllidebau sy’n crebachu. Dan arweiniad doeth Plaid Cymru, mae strategaeth fanwl ar y gweill i ddelio â’r toriadau llym sy’n dod o San Steffan. Mae’r Blaid wedi rhoi’r pwyslais ar weithio’n fwy effeithlon yn hytrach na thorri gwasanaethau.
Cafodd y Cyngor ei frolio am ei arweinyddiaeth gadarn mewn adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru yn 2011: "Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn Adroddiad Gwella Blynyddol cadarnhaol gan yr Archwilydd Cyffredinol. Mae gwaith cynllunio'r Cyngor ar gyfer 2011-12 wedi gwella'n sylweddol ac wedi'i seilio ar reolaeth effeithiol o arian a threfniadau corfforaethol sy'n gadarn ar lawer cyfrif."
Yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Cadeirydd Plaid Cymru yng Ngwynedd: “Wrth arwain drwy gyni, mae’r Blaid hefyd yn uchelgeisiol dros ddyfodol y Sir. Rydym yn gweithio’n galed i ddenu buddsoddiad o Ewrop gan Lywodraeth Cymru. Dim ond un cyngor arall yng Nghymru sy’n denu mwy o arian o Ewrop na Gwynedd. Wrth gwrs, yn y tymor hir y nod yw y bydd
Gwynedd yn fwy ffyniannus ac na fydd angen yr un lefel o gymorth. Mae polisïau blaengar y Blaid yn rhoi hyn ar waith.”
Un enghraifft o fuddsoddiad, yn sgîl cydweithio llwyddiannus yng Ngwynedd, yw datblygiad £1.8miliwn, Canolfan Fenter Congl Meinciau ym mhentref Botwnnog, Pen Llŷn. Agorwyd y ganolfan ym mis Tachwedd y llynedd ar safle hen orsaf betrol segur a hen ffermdy Congl Meinciau. Mae’r ganolfan yn darparu caffi a chyfleusterau ar gyfer busnesau bach gan gynnwys ystafell hyfforddi. Mae’r datblygiad hefyd yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy ar gyfer pobl leol a chwblhawyd y rhan yma o’r prosiect ym mis Mawrth 2011 ar gost o £1.45miliwn. Rhoddwyd blaenoriaeth i bobl leol symud i’r tai, pobl gyda chysylltiad â chymunedau Botwnnog, Aberdaron a Thudweiliog. Dangosodd asesiad o’r ardrawiad ieithyddol fod y cynllun tai wedi cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg fel iaith gymunedol. Datblygwyd y prosiect gan Gymdeithas Tai Eryri mewn cydweithrediad â Chyngor Gwynedd, Cymunedau’n Gyntaf Pen Llŷn a Llywodraeth Cymru.
Fel rhan o’r gwaith datblygu gan Gymdeithas Tai Eryri, sicrhawyd swyddi i bobl leol, wrth i’r cytundeb adeiladu fynd i gwmni lleol, Derwen Llŷn Cyf. Mae’r ganolfan yn gwneud defnydd helaeth o dechnolegau ynni adnewyddol ac wedi cyrraedd safon arbennig o fewn y maes amgylcheddol ym Mhrydain.
Yn ôl Y Cynghorydd Glyn Roberts sy’n cynrychioli trigolion Botwnnog ar Gyngor Gwynedd: “Mae effaith buddsoddiad o’r fath mewn ardal mor wledig yma ym Mhen Llŷn yn anhygoel. Mae’r Ganolfan Fenter yn adnodd gwych cymunedol, economaidd a thwristaidd i’r ardal. Mae’r Bwyty ar y safle yn denu pobl o bell ac agos, ac mae’n lleoliad bywiog a phrysur. Mae hi’n wych o beth ein bod wedi llwyddo i ddenu buddsoddiad i adeiladu 12 tŷ fforddiadwy ym Motwnnog hefyd er mwyn diogelu dyfodol teuluoedd ifanc yma ym Mhen Llŷn. Mae’n braf o beth gweld ein bod fel Cynghorwyr yn gallu cydweithio ag eraill i ddod â chynlluniau gwerth chweil i’n hardaloedd ledled Gwynedd.”
Thursday, March 01, 2012
Pol piniwn Gwyl Dewi y Bib
Gan fod y blog yma wedi dadlau yn gyson tros annibyniaeth, ac wedi dadlau hefyd y dylai cefnogaeth di amwys i'r cysyniad fod yn un o brif nodweddion arweinydd newydd y Blaid, mae'n debyg y dyliwn ymateb i bol y Bib heddiw. Un o ganfyddiadau'r pol oedd mai 7% yn unig sydd o blaid annibyniaeth ar hyn o bryd, tra y byddai 12% yn gefnogol petai'r Alban yn torri ei chwyd ei hun. Mae'r pol hefyd yn dangos bod mwyafrif clir eisiau mwy o hunan lywodraeth i Gymru oddi mewn i'r DU.
Y peth cyntaf i'w ddweud ydi fy mod yn derbyn bod y ffigyrau yn weddol gywir yng nghyd destun holiadur sy'n gosod amrywiaeth o opsiynau. Mae'n weddol glir mai lleiafrif cymharol fach sydd o blaid annibyniaeth ar hyn o bryd.
Ond mi fyddwn hefyd yn ychwanegu bod rheswm clir am y ffigyrau isel hynny - 'dydi'r ddadl tros annibyniaeth ddim yn cael ei chynnig ar lefel wleidyddol yng Nghymru. Mae'n wir bod annibyniaeth yn amcan hir dymor i Blaid Cymru, ond 'dydi hynny ddim yn gyfystyr ag adeiladu achos tros annibyniaeth i Gymru. Yn wir byddwn yn dadlau bod cael annibyniaeth fel amcan, ond ymatal rhag dadlau trosto, yn niweidiol i'r Blaid ac i'r ddelfryd o annibyniaeth fel ei gilydd.
'Dydi'r rhan fwyaf o bobl ddim yn meddwl mewn ffordd ideolegol - 'dydyn nhw ddim yn tueddu i gefnogi syniadaethau er eu mwyn eu hunain. Dyna pam nad ydi pobl yn tueddu i fod yn frwdfrydig tuag at gysyniadau sydd a'u henwau yn gorffen efo aeth - cyfalafiaeth neu sosialaeth er enghraifft.
Ond mae pobl yn ymateb i ddadleuon mwy diriaethol. A dyna'r tir priodol i ddadleuon o blaid annibyniaeth - tir diriaethol. Os ydi annibyniaeth yn cael ei hyrwyddo fel erfyn i fynd i'r afael a phroblemau sy'n effeithio ar ein bywydau diwrnod i ddiwrnod, mae'n haws o lawer cael y maen i'r wal. Felly os ydi annibyniaeth yn cael ei bortreadu fel ffordd o ddelio a phroblemau megis diweithdra, cyflogau isel, diffyg buddsoddiad, rhyfeloedd di ddiwedd ac ati, bydd y gefnogaeth iddo yn tyfu.
Ac mae'n sicr yn bosibl adeiladu dadleuon felly - trethi corfforaethol anghystadleuol o uchel sy'n atal buddsoddiad gan gwmniau tramor yma, mae perthynas efo'r Undeb Ewropiaidd sy'n niweidiol i ddiwydiannau cynhyrchu yn ddrwg i Gymru ond yn well i Loegr, polisiau tramor gorffwyll o fusneslyd ac ymysodol sy'n arwain at ymosodiadau terfysgol a marwolaethau cyson milwyr ifanc. Neu i roi pethau mewn ffordd arall, dylid dadlau y byddai cael yr hawl i reoli ein bywyd cenedlaethol yn rhoi'r gallu i ni fynd i'r afael efo'n problemau cenedlaethol - a thrwy hynny efo'n problemau unigol.
'Dwi erbyn hyn yn gwbl hyderus mai un o'r ddwy ddynes yn y ras fydd arweinydd nesaf y Blaid - ac mae'r ddwy wedi bod yn gyson a di amwys gefnogol i annibyniaeth. Bydd y Blaid felly yn debygol o fagu proffeil sy'n fwy amlwg gefnogol i annibyniaeth. Mae hynny'n dda - ond mae'n hanfodol bod y gefnogaeth honno yn cael ei mynegi yn nhermau datrysiadau ymarferol i broblemau materol, diriaethol. Os digwydd hynny bydd y ganran sy'n cefnogi annibyniaeth yn cynyddu. Os bydd annibyniaeth yn cael ei fynegi fel delfryd nad oes iddi bwrpas ymarferol - fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, bydd yn faen melin o gwmpas gwddf yr arweinyddiaeth newydd.